- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Diwygir Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(1) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)hepgorer y diffiniad o “datganiad o addasrwydd plant”; a
(ii)yn y man priodol, mewnosoder—
“mae i “tystysgrif cofnod troseddol fanwl” yr ystyr a roddir i “enhanced criminal record certificate” yn adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997, sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno;”; a
(b)yn is-baragraff (c) o baragraff (3), yn lle “heb fod yn”, rhodder “heb ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2) neu os nad yw'n”.
(3) Ym mharagraff (2) o reoliad 9A a pharagraff (2) o reoliad 20A, hepgorer “, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath”.
(4) Yn rheoliad 15A—
(a)yn is-baragraff (a)(ii) o baragraff (1), hepgorer “ynghyd â datganiad o addasrwydd plant”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “llai” rhodder “mwy”; ac
(c)ym mharagraff (6) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(ba)gwiriad i ganfod a yw person wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006;”.
(5) Yn rheoliadau 18A a 26A, hepgorer “, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath”.
(6) Yn rheoliad 24A—
(a)yn is-baragraff (a)(ii) o baragraff (1), hepgorer “ynghyd â datganiad o addasrwydd plant”; a
(b)ym mharagraff (2), yn lle “llai” rhodder “mwy”.
O.S. 2006/873 (Cy.81), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/944 (Cy.80).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: