- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Diwygir Rheoliadau Personau sy'n Darparu Addysg mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (Amodau) 2007(1) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)hepgorer y diffiniad o “datganiad addasrwydd plant”, a
(ii)yn y diffiniad o “tystysgrif cofnod troseddol fanwl”, ar ôl “1997”, mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2)(2) o'r Ddeddf honno”, a
(iii)yn lle paragraff (4) rhodder—
“(4) Er mwyn gwneud gwiriad manwl o'r cofnodion troseddol, rhaid i berson wneud cais am, a chael, tystysgrif cofnod troseddol fanwl.”.
(3) Ym mharagraff (ch) o reoliad 5, ar ôl “gwirio a”, mewnosoder “yw wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(3) neu'n”.
(4) Yn rheoliad 13, hepgorer “bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno a”.
(5) Yn is-baragraff (ii) o baragraff (b) o reoliad 17, hepgorer “bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno a”.
(6) Ym mharagraff (ch) o reoliad 18, ar ôl “gwiriad i gadarnhau a”, mewnosoder “yw wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu'n”.
(7) Yn Atodlen 1—
(a)ym mharagraff 3 o Ran 1, yn lle “a yw'r person yn”, rhodder “a yw'r person wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu'n”, a
(b)ym mharagraff 2 o Ran 2—
(i)yn is-baragraff (b), yn lle “a yw'r person yn”, rhodder “a yw'r person wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu'n”, a
(ii)yn is-baragraff (dd)(ii), yn lle “wedi'i gwneud a bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno” rhodder “wedi ei wneud”.
Mewnosodwyd adran 113BA gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47), adran 63(1), Atodlen 9, Rhan 2, paragraff 14(1) a (4) ac fe'i diwygiwyd gan adran 170(2) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40) a Deddf Addysg a Sgiliau 2008, adran 169, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 12(a) a (b).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: