Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliadau 4, 68, 85 a 109

ATODLEN 1Myfyrwyr Cymwys

RHAN 1

Dehongli

1.—(1At ddibenion yr Atodlen hon—

  • ystyr “aelod o deulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) yw—

    (a)

    o ran gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol o'r AEE, person hunangyflogedig ffin yr AEE neu berson hunangyflogedig o'r AEE—

    (i)

    ei briod neu ei bartner sifil;

    (ii)

    ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu

    (iii)

    perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

    (b)

    o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunangyflogedig ffin y Swistir neu berson hunangyflogedig Swisaidd—

    (i)

    ei briod neu ei bartner sifil; neu

    (ii)

    ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;

    (c)

    o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38—

    (i)

    ei briod neu ei bartner sifil; neu

    (ii)

    ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd—

    (aa)

    o dan 21 oed; neu

    (bb)

    yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;

    (ch)

    o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38—

    (i)

    ei briod neu ei bartner sifil; neu

    (ii)

    ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd—

    (aa)

    o dan 21 oed; neu

    (bb)

    yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;

    (iii)

    perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

    (d)

    o ran gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—

    (i)

    ei briod neu ei bartner sifil; neu

    (ii)

    ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd—

    (aa)

    o dan 21 oed; neu

    (bb)

    yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;

  • ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r ardal a ffurfir gan y Gwladwriaethau AEE;

  • ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o'r rhan arall, ar Symud Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(1) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

  • ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

  • ystyr “gweithiwr mudol o'r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr, ac eithrio gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE—

    (a)

    sy'n weithiwr yng Nghymru; a

    (b)

    sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “gwladolyn o'r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth yn yr AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig;

  • ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;

  • ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

  • ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

    (a)

    yn berson cyflogedig yng Nghymru; a

    (b)

    yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—

    (a)

    o ran gwladolyn o'r AEE, person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu

    (b)

    o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

  • ystyr “person hunangyflogedig o'r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sydd—

    (a)

    yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

    (b)

    yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person hunangyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

    (a)

    yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

    (b)

    yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth EEA ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth EEA honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(2).

(2At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â gofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i'w ddehongli yn unol â hynny.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o'r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd ag—

(a)y cwrs presennol; neu

(b)a diystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, cwrs yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn syth cyn ymgymryd â'r cwrs presennol,

i'w ystyried yn berson sy'n preswylio'n arferol yn y lle y mae wedi symud ohono.

(4At ddibenion yr Atodlen hon, mae person i gael ei drin fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd y Swistir a Thwrci pe bai wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

(a)y person hwnnw;

(b)ei briod neu ei bartner sifil;

(c)ei riant; neu

(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn ef neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn ôl y digwydd, y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir.

(5At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd y Swistir a Thwrci yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu'r llu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r cyfryw luoedd; a

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth EEA neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir fel aelodau o'r cyfryw luoedd.

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o'r cyfryw luoedd.

(6At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—

(a)nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall, neu o'r ddwy, o'r ardaloedd hyn,

i'w hystyried fel pe bai wastad wedi bod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

RHAN 2Categorïau

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

2.—(1Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig heblaw am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b)yn preswylio fel arfer yng Nghymru;

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn.

(2Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).

3.  Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos lle'r oedd y preswylio y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Ffoaduriaid ac aelodau o'u teuluoedd

4.—(1Person—

(a)sy'n ffoadur;

(b)sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers iddo gael ei gydnabod yn ffoadur; ac

(c)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy'n briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur;

(b)oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(c)sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly ers iddo gael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

(ch)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy'n blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;

(b)ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches, oedd yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;

(c)oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(ch)sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly ers iddo gael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

(d)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o'u teuluoedd

5.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(b)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(c)sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy'n briod neu'n bartner sifil i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw ei gais am loches;

(c)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy'n blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy'n blentyn i briod neu i bartner sifil person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches;

(ch)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o'u teuluoedd

6.—(1Person—

(a)sydd—

(i)yn weithiwr mudol o'r EEA neu yn berson hunangyflogedig o'r EEA;

(ii)yn berson cyflogedig Swisaidd neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd;

(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);

(iv)yn weithiwr ffin yr EEA neu yn berson hunangyflogedig ffin yr EEA;

(v)yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu'n berson hunangyflogedig ffin y Swistir; neu

(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

7.  Person sydd—

(a)yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar ryddid gweithwyr i symud(3), fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE (4).

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall

8.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn gadael y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio;

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf mewn gwirionedd yn dechrau;

(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr EEA neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson sydd â hawl i breswylio'n barhaol sydd yn y ddau achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir y mae'n wladolyn iddi neu y mae'r person y mae'n aelod o deulu gwladolyn iddi mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.

Gwladolion o'r GE

9.—(1Person—

(a)sydd naill ai—

(i)yn wladolyn o'r GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu

(ii)yn aelod o deulu person o'r fath;

(b)sydd—

(i)yn mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru; neu

(ii)yn ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn.

(2Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

(3Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu gwladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o'r GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.

10.—(1Person—

(a)sy'n wladolyn o'r GE ac eithrio gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o'r GE heblaw gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.

Plant gwladolion Swisaidd

11.  Person—

(a)sy'n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Plant gweithwyr Twrcaidd

12.  Person—

(a)sydd yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(b)sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Rheoliadau 5, 70 ac 86

ATODLEN 2CYRSIAU DYNODEDIG

1.  Cwrs gradd gyntaf.

2.  Cwrs ar gyfer y Ddiploma Addysg Uwch.

3.  Cwrs ar gyfer Diploma Genedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol—

(a)Cyngor Addysg Busnes a Thechnegwyr; neu

(b)Awdurdod Cymwysterau'r Alban.

4.  Cwrs ar gyfer tystysgrif Addysg Uwch.

5.  Cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.

6.  Cwrs o hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymuned.

7.  Cwrs i baratoi at arholiad proffesiynol o safon sy'n uwch na'r canlynol—

(a)yr arholiad safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu'r arholiad lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban; neu

(b)yr arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Genedlaethol y naill neu'r llall o'r cyrff a grybwyllwyd ym mharagraff 3,

nad yw'n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.

8.  Cwrs—

(a)sy'n darparu addysg (boed i baratoi at arholiad neu beidio) y mae ei safon yn uwch na safon cyrsiau sy'n darparu addysg i baratoi at unrhyw un o'r arholiadau a grybwyllwyd ym mharagraff 7(a) neu (b) ond heb fod yn uwch na chwrs gradd gyntaf; a

(b)nad oes angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.

Rheoliadau 11, 78, 102 a 114

ATODLEN 3GWYBODAETH

1.  Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu bod arnynt ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.

2.  Rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi gwybod ar unwaith i Weinidogion Cymru a rhoi'r manylion iddynt os bydd unrhyw rai o'r canlynol yn digwydd—

(a)ei fod yn tynnu'n ôl o'i gwrs, yn cefnu arno neu'n cael ei ddiarddel oddi arno;

(b)ei fod yn trosglwyddo i unrhyw gwrs arall yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol;

(c)ei fod yn rhoi'r gorau i ymgymryd â'i gwrs ac nad yw'n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw'n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;

(ch)ei fod yn absennol o'i gwrs am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;

(d)bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs neu ei gwblhau yn newid;

(dd)bod ei gyfeiriad neu ei rif ffôn gartref neu yn ystod y tymor yn newid.

3.  Rhaid i'r wybodaeth a roddir i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn fod yn y ffurf y gofynnir amdani gan Weinidogion Cymru ac, os ydynt yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy'n ei rhoi, caniateir i lofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru fodloni'r gofyniad hwnnw.

Rheoliad 58

ATODLEN 4BENTHYCIADAU AT FFIOEDD COLEG

Y benthyciadau at ffioedd coleg sydd ar gael

1.  Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs cymhwysol yn unol â'r Atodlen hon.

2.  Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg os yw'n bodloni'r amodau canlynol—

(a)ei fod yn fyfyriwr cymwys na chafodd ei wahardd rhag bod â hawl gan baragraff 3;

(b)bod ganddo radd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig;

(c)ei fod yn cymryd cwrs cymhwysol–

(i)sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac y bydd y myfyriwr yn parhau i'w fynychu ar ôl 31 Awst 2010; neu

(ii)sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi 2010;

(ch)ei fod yn aelod o goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu'n aelod o goleg ym Mhrifysgol Caergrawnt;

(d)ei fod o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cymhwysol; ac

(dd)nad oes dim o'r amgylchiadau yn rheoliad 4(3) yn gymwys iddo.

3.  Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n dod o fewn paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg o dan y Rheoliadau hyn os yw'n preswylio fel arfer yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Myfyrwyr anabl

4.  Ymdrinnir â myfyriwr anabl sy'n ymgymryd â chwrs cymhwysol yn y Deyrnas Unedig ond heb fod yn bresennol arno oherwydd ei fod yn anabl i fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd fel pe bai'n bresennol ar y cwrs cymhwysol at y diben o gymhwyso ar gyfer benthyciad at ffioedd coleg.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

5.  Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff 6 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)gall myfyriwr gael yr hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg yn unol â'r Atodlen hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid oes benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

6.  Y digwyddiadau yw—

(a)bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(c)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

(ch)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(dd)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

7.  Mae benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd safonol ar y cwrs cymhwysol ac mewn perthynas ag un flwyddyn academaidd ar y cwrs cymhwysol nad yw'n flwyddyn academaidd safonol.

8.  Os caniateir i fyfyriwr cymhwysol astudio cynnwys un flwyddyn academaidd safonol o'r cwrs cymhwysol dros ddwy flwyddyn academaidd neu fwy, er mwyn penderfynu a oes gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg ar gyfer y blynyddoedd hynny, ymdrinnir â'r gyntaf o'r cyfryw flynyddoedd o astudio fel blwyddyn academaidd safonol ac ymdrinnir â'r blynyddoedd canlynol o'r fath fel blynyddoedd academaidd nad ydynt yn flynyddoedd academaidd safonol.

9.  Yn yr Atodlen hon ystyr “blwyddyn academaidd safonol” (“standard academic year”) yw blwyddyn academaidd o'r cwrs cymhwysol y byddai person nad yw'n ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs ac a fyddai'n dechrau ar y cwrs ar yr un pwynt â'r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â hi.

10.  I gael benthyciad at ffioedd coleg rhaid i fyfyriwr cymwys ymrwymo i gontract â Gweinidogion Cymru.

Swm y benthyciad at ffioedd coleg

11.—(1Rhaid i swm y benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs cymhwysol beidio â bod yn fwy na swm sy'n hafal i'r ffioedd coleg sy'n daladwy gan y myfyriwr i'w goleg neu i'w neuadd breifat barhaol mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

(2Os yw'r myfyriwr cymhwysol wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm sydd ar gael.

Trosglwyddo

12.  Er gwaethaf rheoliad 8, os bydd myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo o un cwrs cymhwysol i gwrs cymhwysol arall—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymhwysol i'r cwrs arall ar gais y myfyriwr oni bai bod y cyfnod cymhwystra wedi dod i ben;

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (c) os yw'r myfyriwr yn trosglwyddo cyn diwedd y flwyddyn academaidd ar ôl gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg, telir y swm y gwnaed cais amdano i'r coleg neu'r neuadd breifat barhaol berthnasol mewn perthynas â'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo ar yr amod bod yr amodau ym mharagraff 13 wedi'u bodloni ac nad yw'n gallu sicrhau hawl i gael benthyciad arall at ffioedd coleg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno;

(c)os yw'r myfyriwr yn trosglwyddo ar ôl i'r benthyciad at ffioedd coleg gael ei dalu a chyn diwedd y flwyddyn academaidd, ni chaiff wneud cais am fenthyciad arall at ffioedd coleg mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs cymhwysol y mae'n trosglwyddo iddo.

Talu

13.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r benthyciad at ffioedd coleg y mae gan fyfyriwr cymhwysol hawl i'w gael i'r coleg neu'r neuadd breifat barhaol y mae'r myfyriwr yn atebol i wneud y taliad iddo neu iddi.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r benthyciad at ffioedd coleg mewn cyfandaliad unigol.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r benthyciad at ffioedd coleg—

(a)cyn eu bod wedi cael cais dilys am daliad oddi wrth y coleg neu'r neuadd breifat barhaol; a

(b)cyn bod cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.

(4Mae'n ofynnol i goleg neu neuadd breifat barhaol anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru ar unrhyw ffurf y caiff Weinidogion Cymru ofyn amdani a rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd nes eu bod wedi cael cadarnhad o bresenoldeb gan y coleg neu'r neuadd breifat berthnasol oni bai eu bod yn penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai'n briodol gwneud taliad heb gael cadarnhad o bresenoldeb. Yn y paragraff hwn mae i “cadarnhad o bresenoldeb” yr un ystyr ag yn rheoliad 67.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â chwrs cymhwysol—

(a)os bydd y myfyriwr cymhwysol cyn i'r cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd ddod i ben yn rhoi'r gorau i fynychu'r cwrs neu yn achos myfyriwr y bernir ei fod yn bresennol o dan baragraff 4, yn rhoi'r gorau i ymgymryd â'r cwrs; a

(b)os bydd y coleg neu'r neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau mynychu neu, yn ôl y digwydd, yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd coleg yn daladwy ar ei chyfer neu o gwbl.

Amodau hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd coleg

14.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn amod hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd coleg bod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys roi iddynt rif ei yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.

(2Os yw Gweinidogion Cymru wedi gosod amod o dan is-baragraff (1), rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad o'r benthyciad i'r myfyriwr cymwys cyn eu bod wedi'u bodloni bod y myfyriwr wedi cydymffurfio â'r amod hwnnw.

(3Er gwaethaf is-baragraff (2), caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad o fenthyciad i fyfyriwr cymwys os ydynt wedi'u bodloni oherwydd amgylchiadau eithriadol y byddai'n briodol gwneud taliad o'r fath heb fod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio â'r amod a osodwyd o dan is-baragraff (1).

Gofynion gwybodaeth

15.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr cymwys am wybodaeth y maent o'r farn bod ei hangen i adennill benthyciad.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad drwy ddull penodol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr cymwys am gael gweld ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae'n wladolyn ohoni neu ei dystysgrif geni.

(4Os bydd Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth o dan y rheoliad hwn, cânt ddal yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad nes i'r person ddarparu'r hyn y gofynnwyd amdano neu roi esboniad boddhaol am beidio â chydymffurfio â'r cais.

(5Os bydd Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb ynghylch y dull o dalu o dan y paragraff hwn, cânt ddal yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd coleg nes i'r person ddarparu yr hyn y gofynnwyd amdano.

Gordaliadau

16.  Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad benthyciad at ffioedd coleg oddi wrth y coleg neu'r neuadd breifat barhaol.

Rheoliad 59

ATODLEN 5ASESIAD ARIANNOL

Diffiniadau

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

(a)ystyr “myfyriwr presennol” (“existing student”) yw myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys newydd;

(b)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;

(c)mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd”, (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;

(ch)mae i “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;

(d)ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;

(dd)ystyr “myfyriwr cymwys newydd” (“new eligible student”) yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004;

(e)ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”) yn unol â hynny;

(f)ystyr “myfyriwr sy'n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr cymwys sy'n rhiant i fyfyriwr cymwys;

(ff)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil iddo os yw myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(g)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â rhiant myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol ac eithrio rhiant arall i'r myfyriwr cymwys—

(i)priod rhiant myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil rhiant myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod â'r rhiant;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant;

(ng)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

(h)ystyr “blwyddyn ariannol gynharach” (“prior financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol flaenorol;

(i)ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn perthynas â hi;

(j)ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 4 (yn achos myfyriwr cymwys), paragraff 5 (yn achos rhiant myfyriwr cymwys), paragraff 6 (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff 7 (yn achos partner rhiant myfyriwr cymwys newydd) ac incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2), sef incwm sy'n weddill ar ôl didynnu treth incwm; ac

(l)ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), o ran paragraff 4, mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae cais wedi'i wneud ar ei chyfer o dan reoliad 9 ac, o ran paragraff 5, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 5) â'r flwyddyn ariannol gynharach, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell wedi'i gyfrifiannu at ddibenion—

(i)y Deddfau Treth Incwm;

(ii)deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy'n gymwys i incwm y person; neu

(iii)os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth odani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5),

ac eithrio bod incwm, y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) ac a dalwyd i barti arall, yn cael ei ddiystyru.

(2Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973(5) sy'n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o'r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(6) sy'n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o'r Atodlen honno.

Myfyriwr cymwys annibynnol

2.—(1Myfyriwr cymwys yw myfyriwr cymwys annibynnol ym mhob achos—

(a)lle mae'n 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;

(b)lle mae'n briod neu lle mae mewn partneriaeth sifil cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol, pa un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;

(c)lle nad oes ganddo riant yn fyw;

(ch)lle mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni na ellir dod o hyd i'r naill neu'r llall o'i rieni neu nad yw'n rhesymol ymarferol cysylltu â'r naill na'r llall ohonynt;

(d)lle nad yw wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol neu lle y gall, ym marn Gweinidogion Cymru, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi;

(dd)pan yw wedi bod dan ofal awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Plant 1989(7) a hynny drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis yn gorffen ar neu ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod nad yw wedi bod mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol o dan ofal neu reolaeth ei rieni;

(e)lle mae ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni naill ai—

(i)y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu

(ii)na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 8 neu 9;

(f)lle mae paragraff 5(9) yn gymwys a lle mae'r rhiant y barnodd Gweinidogion Cymru mai'r rhiant hwnnw oedd y mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);

(ff)lle dechreuodd ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2009 ac yntau'n aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio yn un o dai'r urdd honno;

(g)lle mae yn gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu

(ng)lle mae wedi'i gynnal ei hun o'i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn mae i'w drin fel pe bai'n ei gynnal ei hun o'i enillion yn ystod unrhyw gyfnod—

(i)pan oedd yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi'r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau'r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol (“awdurdod perthnasol”);

(ii)pan oedd yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn perthynas â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;

(iii)pan oedd ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglŷn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau'r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn y budd-dal hwnnw;

(iv)pan oedd ganddo Efrydiaeth y Wladwriaeth(8) neu ddyfarniad tebyg; neu

(v)pan oedd yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.

(2Mae myfyriwr cymwys sy'n gymwys i fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol o dan baragraff 2(1)(g) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yn cadw'r statws hwnnw tra pery'r cyfnod cymhwystra.

Incwm yr aelwyd

3.—(1Mae swm cyfraniad myfyriwr cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

(2Incwm yr aelwyd yw'r canlynol—

(a)yn achos myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol rhieni'r myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i baragraff 5(9)) ac—

(i)yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar ei gwrs dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner (ac eithrio partner o fewn ystyr paragraff 1(g)(iv)) rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(9)); neu

(ii)yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(9));

(b)yn achos myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu

(c)yn achos myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys.

(3Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae'r swm o £1,130 yn cael ei ddidynnu—

(a)am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys; neu

(b)am bob plentyn ac eithrio'r myfyriwr cymwys sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar riant y myfyriwr cymwys neu bartner rhiant y myfyriwr cymwys y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth.

(4Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy'n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (b) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae gan ei blentyn ef neu y mae gan blentyn ei bartner ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau.

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys

4.—(1Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o'i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi'i ddidynnu eisoes wrth bennu'r incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol–

(a)unrhyw dâl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw'r tâl hwnnw'n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;

(b)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(9) neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(10), neu os yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.

(2Os paragraff 9 yw'r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr cymwys yn dod odano ac os yw ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i'r ffynonellau neu'r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, nid yw ei incwm yn cael ei anwybyddu yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei anwybyddu i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.

(3Os yw'r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw—

(a)os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn;

(b)fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(11) ar gyfer y mis y ceir yr incwm ynddo.

Cyfrifo incwm gweddilliol y rhiant

5.—(1Er mwyn pennu incwm trethadwy rhiant myfyriwr cymwys, rhaid i ddidyniadau y disgwylir eu gwneud neu esemptiadau a ganiateir–

(a)ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw'r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol tebyg;

(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly yn unol â hwy; neu

(c)o dan is-baragraff (2)

beidio â chael eu gwneud neu eu caniatáu.

(2Er mwyn pennu incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys, didynnir o'r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy'n dod o dan unrhyw rai o'r is-baragraffau canlynol–

(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy'n ymwneud â phensiwn (nad yw'n bremiwm sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988, neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw'r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a) o'r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na'r didyniadau a fyddai'n cael eu gwneud pe bai'r cyfan o incwm rhiant y myfyriwr cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm;

(c)yn achos myfyriwr sy'n rhiant neu riant myfyriwr cymwys y mae ganddo ddyfarniad statudol, £1,130.

(3Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”), yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm gweddilliol yn y flwyddyn ariannol gynharach, rhaid i Weinidogion Cymru, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm gweddilliol y rhiant am y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Mewn blwyddyn academaidd yn union ar ôl un y mae Gweinidogion Cymru wedi canfod ynddi incwm gweddilliol y rhiant am y flwyddyn ariannol gyfredol o dan is-baragraff (3), rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

(5Os yw rhiant y myfyriwr cymwys yn bodloni Gweinidogion Cymru fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes neu broffesiwn y mae'n ei gynnal, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol gynharach yn golygu'r cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol gynharach y mae cyfrifon yn cael eu cadw mewn perthynas ag ef sy'n ymwneud â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.

(6Os yw rhiant myfyriwr cymwys yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n ffurfio rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth teth incwm Aelod-wladwriaeth arall dim ond am y rheswm—

(a)nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw ei incwm yn cael ei gyfrifiannu fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, os nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

(b)nad yw'r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw incwm y rhiant yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw'n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu

(c)bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae'r incwm ohonynt yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae ei incwm trethadwy at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.

(7Os yw incwm rhiant y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, mae'n cael ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm rhiant y myfyriwr cymwys at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi'i bennu yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn digwydd ynddo, fel y'i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8Os yw un o rieni'r myfyriwr cymwys yn marw naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi'i gymryd i ystyriaeth er mwyn pennu incwm yr aelwyd neu y byddai wedi'i gymryd i ystyriaeth felly, mae incwm yr aelwyd—

(a)os yw'r rhiant yn marw cyn y flwyddyn berthnasol, yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi; neu

(b)os yw'r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn berthnasol, yn gyfanswm y canlynol—

(i)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a

(ii)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir dryw gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi, sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol sy'n weddill ar ôl i'r rhiant arall farw.

(9Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm pa un bynnag o'r rhieni y mae Gweinidogion Cymru yn credu mai ef yw'r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau.

(10Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni'n gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at gyfanswm y canlynol—

(a)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir yn unol ag is-baragraff (9), sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan fydd y rhieni ar wahân; a

(b)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir fel arall mewn perthynas â gweddill y flwyddyn berthnasol.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys

6.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (3) a (4) o'r paragraff hwn, mae incwm partner myfyriwr cymwys yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 5 (a chan eithrio is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 5), gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner yn gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, mae incwm y partner yn cael ei bennu drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi'i rannu â hanner cant a dau ac wedi'u luosi â'r nifer o wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner heb wahanu.

(4Os oes gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner rhiant

7.  Mae incwm partner rhiant myfyriwr cymwys newydd y mae ei incwm yn rhan o incwm yr aelwyd yn rhinwedd paragraff 3(2)(a) yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 6, gan ddehongli cyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner rhiant y myfyriwr cymwys newydd, a chan ddehongli cyfeiriadau at y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at riant y myfyriwr cymwys newydd.

Cyfrifo cyfraniad — myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn

8.—(1Mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, neu sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol ac iddo bartner fel a ganlyn—

(a)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn £23,680 neu fwy, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob swm cyflawn o £9.27 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £23,680; a

(b)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £23,680, dim.

(2Mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol heb bartner fel a ganlyn—

(a)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn £11,025 neu fwy, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob swm cyflawn o £9.27 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £11,025; a

(b)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £11,025, dim.

(3Rhaid i swm y cyfraniad sy'n daladwy o dan is-baragraff (1) neu (2) beidio â bod yn fwy na £7,992 mewn unrhyw achos.

(4Caniateir addasu'r cyfraniad yn unol â pharagraff 10.

(5Pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £7,992.

(6Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys (ac eithrio myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd) mewn perthynas â'r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried, o dan baragraffau 5 a 7; neu

(b)os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a'i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.

Cyfrifo cyfraniad — myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd

9.—(1Pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd a phan nad yw'n fyfyriwr carfan 2010, y cyfraniad sy'n daladwy yw—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd dros £39,793, £1 am bob swm cyflawn o £9.27 o incwm yr aelwyd sydd uwchlaw £39,793; a

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £39,793 neu lai, dim.

(2Pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac yn fyfyriwr carfan 2010, y cyfraniad sy'n daladwy yw—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd dros £50,778, £1 am bob swm cyflawn o £5 o incwm yr aelwyd sydd uwchlaw £50,778; a

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £50,778 neu lai, dim.

(3Rhaid i'r cyfaniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £6,208.

(4Caniateir addasu'r cyfraniad yn unol â pharagraff 10.

(5Pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £6,208.

(6Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys (ac eithrio myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn) mewn perthynas â'r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried, o dan baragraffau 5 a 7; neu

(b)os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a'i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.

Cyfraniadau hollt

10.  Pan fo'r un incwm aelwyd yn cael ei ddefnyddio i asesu swm y dyfarniad statudol y mae gan ddau neu fwy o bersonau hawl i'w gael, rhennir y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys â nifer y personau hynny.

Rheoliad 97

ATODLEN 6ASESIAD ARIANNOL — GRANTIAU RHAN-AMSER AR GYFER DIBYNYDDION

Diffiniadau

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

(a)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person, y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon, yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;

(b)mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;

(c)ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;

(ch)“ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”) yn unol â hynny;

(d)ystyr “myfyriwr sy'n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n rhiant i fyfyriwr cymwys;

(dd)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol a'i fod yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol a'i fod yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(e)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

(f)ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn perthynas â hi;

(ff)ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 3 (yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys) neu baragraff 4 (yn achos partner myfyriwr rhan-amser cymwys) a'r incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) a hwnnw'n incwm a gafwyd ar ôl didynnu treth incwm; ac

(g)ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), o ran paragraff 3, mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae cais wedi'i wneud ar ei chyfer o dan reoliad 100 ac, o ran paragraff 4, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 4) â'r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell fel petai wedi'i gyfrifiannu at ddibenion—

(i)y Deddfau Treth Incwm;

(ii)deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy'n gymwys i incwm y person; neu

(iii)os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),

ac eithrio bod incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) ac a dalwyd i barti arall yn cael ei ddiystyru.

(2Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 sy'n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o'r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 sy'n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o'r Atodlen honno.

Incwm yr aelwyd

2.—(1Mae swm cyfraniad myfyriwr rhan-amser cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

(2Incwm yr aelwyd—

(a)yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys a chanddo bartner, yw incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr hwnnw (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu

(b)yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys ond nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr hwnnw.

(3Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae'r swm o £1,130 yn cael ei ddidynnu am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr hwnnw.

(4Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy'n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (a) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy'n rhiant ac y mae gan ei blentyn ef neu blentyn ei bartner sy'n fyfyriwr cymwys ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau.

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys

3.—(1Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr rhan-amser cymwys, didynnir o'i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi'i ddidynnu eisoes wrth bennu'r incwm trethadwy) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall sy'n daladwy o dan bolisi a dalwyd gan y myfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(12) neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(13), neu pan fo incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad drosto yn cael ei roi petai'r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm.

(2Os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod odano a c os yw ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i'r ffynonellau neu'r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, nid yw ei incwm yn cael ei ddiystyru yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei ddiystyru i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.

(3Pan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw—

(a)os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn;

(b)fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd ar gyfer y mis y daeth i law, sef cyfradd a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(14).

Cyfrifo incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys

4.—(1Er mwyn pennu incwm trethadwy partner myfyriwr rhan-amser cymwys, rhaid i unrhyw ddidyniadau sydd i'w gwneud neu unrhyw esemptiadau a ganiateir—

(a)ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw'r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol cyffelyb;

(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly odano neu odani; neu

(c)o dan is-baragraff (2)

beidio â chael eu gwneud na'u caniatáu.

(2Er mwyn pennu incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys, didynnir o'r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy'n dod o dan unrhyw rai o'r is-baragraffau canlynol —

(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy'n ymwneud â phensiwn (nad yw'n bremiwm sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988, neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw'r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm;

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a) o'r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na'r didyniadau a fyddai'n cael eu gwneud pe bai'r cyfan o incwm partner y myfyriwr rhan-amser cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm.

(3Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm gweddilliol y partner yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm gweddilliol yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, er mwyn galluogi'r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm gweddilliol y partner am y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm gweddilliol y rhiant mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad, yn debyg o beidio â bod, ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod, yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm gweddilliol yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, er mwyn galluogi'r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm yr aelwyd am flwyddyn academaidd o'i gwrs y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi drwy gymryd cyfartaledd incwm gweddilliol y partner am bob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n digwydd ynddynt fel ei incwm gweddilliol.

(5Os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys yn bodloni Gweinidogion Cymru fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes neu broffesiwn y mae'n ei gynnal, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol flaenorol yn golygu'r cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol ac y mae cyfrifon yn cael eu cadw mewn perthynas ag ef ynglŷn â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.

(6Os yw partner myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael unrhyw incwm nad yw'n ffurfio rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall a'r unig reswm am hynny yw—

(a)nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw ei incwm yn cael ei gyfrifiannu fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

(b)nad yw'r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw incwm y partner yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw'n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu

(c)bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae'r incwm ohonynt yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae ei incwm trethadwy at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.

(7Os yw incwm partner y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael ei gyfrifiannu fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, mae'n cael ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm partner y myfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi'i bennu yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn digwydd ynddo, fel y'i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.

(9Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys a'i bartner wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, mae incwm y partner yn cael ei bennu drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi'i rannu â hanner cant a dau ac wedi'i luosi â'r nifer o wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys a'i bartner heb wahanu.

(10Os oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.

Cyfrifo'r cyfraniad

5.—(1Mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys fel a ganlyn—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd dros £39,793, £1 am bob swm cyflawn o £9.27 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £39,793; a

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £39,793 neu lai, dim.

(2Rhaid i'r cyfraniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £6,208.

(3Caniateir i'r cyfraniad gael ei addasu'n unol â pharagraff 6.

(4Pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £6,208.

(5Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys os incwm gweddilliol myfyriwr rhan-amser cymwys a'i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.

Cyfraniadau hollt

6.  Os yw'r un incwm aelwyd yn cael ei ddefnyddio i asesu swm dyfarniad statudol y mae gan ddau neu fwy o bersonau hawl i'w gael, rhennir y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr rhan-amser cymwys â nifer y personau hynny.

(1)

Gorch. 4904.

(2)

1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).

(3)

OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2. (OJ/SE 1968 (II) t.475).

(4)

ystyr “Cytundeb yr EEA” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 — Gorch. 2073, fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, Gorch. 2183.

(5)

1973 p.18; diwygiwyd adran 23 o Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1982 (p.53), adran 16. Mewnosodwyd adran 25B gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p.26), adran 116(1) ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p.30), Atodlen 4. Mewnosodwyd adran 25E gan Ddeddf Pensiynau 2004 (p.35), adran 319(1), Atodlen 12, paragraff 3.

(6)

2004 p.33; addaswyd paragraff 25 o Atodlen 5 gan O.S. 2006/1934.

(7)

1989 p.41. Diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35), adran 2, Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.41), Atodlen 5, paragraff 19, Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38), adran 116(2), Deddf Plant 2004 (p.31), adran 52 a Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008, adran 39 ac Atodlen 3.

(8)

Darperir cyllid gan y Cynghorau Ymchwil o ran astudio ôl-radd amser-llawn.

(9)

1988 p. 1; diwygiwyd adran 273 gan Ddeddf Cyllid 1988 (p. 39), Atodlen 3, paragraff 10 a Deddf Treth Incwm (Masnachu ac Incwm Arall) 2005 (p. 5), Atodlen 1, Deddf Cyllid 2004 (p.12), adran 281 ac Atodlen 35 a Deddf Treth Incwm 2007, Atodlen 1.

(10)

2004 p.12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007, adrannau 68, 69 a 114 ac Atodlenni 18, 19 a 27.

(11)

“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X).

(12)

1988 p. 1; diwygiwyd adran 273 gan Ddeddf Cyllid 1988 (p. 39), Atodlen 3, paragraff 10, Deddf Cyllid 2004 (p.12), adran 281, Atodlen 35, Deddf Treth Incwm (Masnachu ac Incwm Arall) 2005 (p.5), Atodlen 1, a Deddf Treth Incwm 2007, Atodlen 1 .

(13)

2004 p.12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007, adrannau 68, 69 a 114 ac Atodlenni 18, 19 a 27.

(14)

“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources