- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2009.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “aelod cyswllt” (“associate member”) yw person sy'n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(3);
ystyr “aelod nad yw'n swyddog” (“non-officer member”) yw aelod o'r cyd-bwyllgor sy'n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(1)(c);
ystyr “aelodau presennol o Fwrdd Iechyd Lleol nad ydynt yn swyddogion” (“existing non-officer members of a Local Health Board”) yw'r aelodau o Fwrdd Iechyd Lleol nad ydynt yn swyddogion ac sydd wedi eu penodi yn unol â Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009(1);
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir yn unol ag adran 11(2) o'r Ddeddf(2);
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol” (“host Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf;
ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw Awdurdod Iechyd Arbennig, Awdurdod Iechyd Strategol, Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol;
ystyr “y cyd-bwyllgor” (“the joint committee”) yw Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a sefydlwyd yn unol â Chyfarwyddiadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009 a wnaed ar 1 Hydref 2009;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “prif weithredwyr” (“chief executives”) yw prif weithredwr pob Bwrdd Iechyd Lleol; ac
ystyr “swyddog-aelod” (“officer member”) yw aelod o'r cyd-bwyllgor sy'n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(2).
3.—(1) Mae aelodau o'r cydbwyllgor yn cynnwys y prif weithredwyr ynghyd â'r canlynol—
(a)cadeirydd;
(b)is-gadeirydd a benodir gan y cyd-bwyllgor o blith aelodau Bwrdd Iechyd Lleol nad ydynt yn swyddogion;
(c)dau aelod nad ydynt yn swyddogion ac a benodir gan y cyd-bwyllgor o blith aelodau presennol Bwrdd Iechyd Lleol nad ydynt yn swyddogion; ac
(ch)swyddog-aelodau a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol.
(2) Mae'r swyddog-aelodau'n cynnwys—
(a)cyfarwyddwr gwasanaethau arbenigol a thrydyddol;
(b)cyfarwyddwr meddygol gwasanaethau arbenigol a thrydyddol;
(c)cyfarwyddwr cyllid gwasanaethau arbenigol a thrydyddol; ac
(ch)nyrs-gyfarwyddwr gwasanaethau arbenigol a thrydyddol.
(3) Yn ychwanegol, bydd tri aelod cyswllt, sef Prif Weithredwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
4.—(1) Penodir y cadeirydd gan Weinidogion Cymru.
(2) Penodir yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion gan y cyd-bwyllgor.
(3) Penodir y swyddog-aelodau gan y cyd-bwyllgor.
(4) Rhaid i'r penodiadau a wneir yn unol â pharagraff (1) fod yn unol â'r darpariaethau yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
(5) Pan fo'r cyd-bwyllgor yn penodi'r is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion yn unol â pharagraff (2) a'r swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (3), rhaid i'r penodiadau fod yn ddarostyngedig i reolau sefydlog sy'n ymwneud â'r cyd-bwyllgor.
(6) Pan fo cadeirydd yn cael ei benodi'n unol â pharagraff (1), rhaid rhoi sylw i'r angen i hyrwyddo amrywiaeth yn y rhychwant o bersonau y caniateir eu penodi.
5.—(1) Cyn y caniateir i unrhyw berson gael ei benodi'n gadeirydd y cyd-bwyllgor, rhaid iddo fodloni'r gofynion o ran cymhwystra yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a pharhau i gyflawni'r gofynion tra bo'n dal y swydd honno.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), cyn y caniateir i unrhyw berson gael ei benodi'n swyddog-aelod o'r cyd-bwyllgor, rhaid iddo fodloni'r gofynion o ran cymhwystra yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a pharhau i gyflawni'r gofynion tra bo'n dal y swydd honno.
(3) Yn ychwanegol at fodloni'r gofynion o ran cymhwystra yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, rhaid i swyddog-aelod sy'n gyfarwyddwr meddygol gwasanaethau arbenigol a thrydyddol neu sy'n nyrs-gyfarwyddwr gwasanaethau arbenigol a thrydyddol y cyd-bwyllgor fodloni hefyd y gofynion perthnasol o ran cymhwystra yn Rhan 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(4) Caiff unrhyw berson a benodir yn unol â rheoliad 4(2) i fod yn is-gadeirydd neu'n aelod nad yw'n swyddog neu sy'n aelod cyswllt o'r cyd-bwyllgor neu'n brif weithredwr y cyd-bwyllgor ddim ond dal swydd ar y cyd-bwyllgor cyhyd â'i fod yn parhau i ddal y swydd honno fel y bo'n briodol fel aelod presennol o Fwrdd Iechyd Lleol nad yw'n swyddog neu fel Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol.
6.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn gadeirydd y cyd-bwyllgor.
(2) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, bydd cadeirydd yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ei benodiad.
(3) Caniateir i gadeirydd gael ei benodi am gyfnod nad yw'n hwy na phedair blynedd.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir i gadeirydd, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi'n unol â rheoliad 4(1).
(5) Ni chaiff person ddal swydd fel cadeirydd i'r cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy nag wyth mlynedd.
7.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn is-gadeirydd y cyd-bwyllgor neu'n aelod o'r cyd-bwyllgor nad yw'n swyddog.
(2) Caniateir i is-gadeirydd ac aelod nad yw'n swyddog gael ei benodi am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 5(4) a pharagraff (4), caniateir i is-gadeirydd neu aelod nad yw'n swyddog, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi'n unol â rheoliad 4(2).
(4) Ni chaiff person ddal swydd fel is-gadeirydd y cyd-bwyllgor neu fel aelod o'r cyd-bwyllgor nad yw'n swyddog am gyfnod cyfan o fwy na phedair blynedd.
8.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru symud cadeirydd o'i swydd ar unwaith os byddant yn penderfynu—
(a)nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; neu
(b)nad yw'n ffafriol i reoli da ar y cyd-bwyllgor,
i'r cadeirydd hwnnw barhau i ddal y swydd honno.
(2) Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod cadeirydd a benodwyd wedi dod yn anghymwys o dan Ran 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o'i swydd.
(3) Rhaid i gadeirydd a benodwyd hysbysu'r cyd-bwyllgor ar unwaith os daw'n anghymwys o dan Ran 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(4) Os yw cadeirydd a benodwyd wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw un o gyfarfodydd y cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu fwy, caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o'i swydd oni chânt eu bodloni —
(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a
(b)y bydd y cadeirydd yn gallu bod yn bresennol yn unrhyw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod y bydd Gweinidogion Cymru yn credu sy'n rhesymol.
(5) Caiff cadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw bryd o'i swydd drwy roi hysbysiad mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru a phob Bwrdd Iechyd Lleol ond bydd ei ymddiswyddiad yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.
9.—(1) Cyn penderfynu a ddylid symud cadeirydd o swydd o dan reoliad 8, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro ddeiliadaeth swydd y cadeirydd hwnnw am unrhyw gyfnod y maent yn credu ei fod yn rhesymol.
(2) Pan fo cadeirydd wedi ei atal dros dro yn unol â pharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r cadeirydd hwnnw a phob Bwrdd Iechyd Lleol ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.
(3) Ni chaiff cadeirydd y mae ei ddeiliadaeth swydd wedi ei atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau cadeirydd.
10.—(1) Caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr symud swyddog-aelod o'i swydd ar unwaith—
(a)os ydynt o'r farn nad yw er budd y cyd-bwyllgor i berson sy'n swyddog-aelod barhau i ddal y swydd honno fel aelod; neu
(b)os ydynt, ar ôl cael eu hysbysu gan swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (2), o'r farn nad yw er budd y cyd-bwyllgor i berson sy'n swyddog-aelod barhau i ddal ei swydd.
(2) Os yw'r holl swyddog-aelodau (ac eithrio swyddog-aelod sy'n destun hysbysiad o dan y paragraff hwn) o'r farn na ddylai person sy'n swyddog-aelod barhau i ddal swydd fel aelod, cânt hysbysu'r cyd-bwyllgor.
(3) Pan fo'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr yn symud person o swydd yn unol â pharagraff (1) neu, ar ôl iddynt gael eu hysbysu gan y swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (2), yn penderfynu na ddylai person barhau i ddal swydd, rhaid iddynt hysbysu pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros eu penderfyniad.
(4) Pan fo person wedi ei benodi i fod yn swyddog-aelod, os daw i sylw'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, unrhyw un o'r aelodau nad ydynt yn swyddogion neu'r prif weithredwyr fod y person hwnnw—
(a)wedi dod yn anghymwys i'w benodi o dan Ran 1, a phan fo'n gymwys, o dan Ran 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn; neu
(b)adeg ei benodi, yn anghymwys i gael ei benodi o dan Ran 1, a phan fo'n gymwys, o dan Ran 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn,
rhaid iddo hysbysu'r cyd-bwyllgor ar unwaith a rhaid i'r cadeirydd hysbysu'r swyddog-aelod hwnnw, pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen o'r anghymhwystra hwnnw.
(5) Rhaid i swyddog-aelod hysbysu'r cyd-bwyllgor ar unwaith os daw'r aelod hwnnw'n anghymwys o dan Ran 1, a phan fo'n gymwys, o dan Ran 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(6) Pan fo hysbysiad wedi ei roi yn unol â pharagraff (4), rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr symud y person hwnnw o'i swydd a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel swyddog-aelod.
(7) Os yw'n ymddangos i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr fod swyddog-aelod wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 17 o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009 (anabledd aelodau oherwydd buddiant ariannol), caniateir iddynt symud y person hwnnw o'i swydd a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel swyddog-aelod.
(8) Pan fo swyddog-aelod wedi ei symud o'i swydd yn unol â pharagraffau (6) a (7), rhaid i'r cadeirydd hysbysu pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru o hynny ar unwaith.
(9) Os bydd person sy'n swyddog-aelod wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw un o gyfarfodydd y cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu fwy, caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr symud y person hwnnw o'i swydd oni chânt eu bodloni—
(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a
(b)y bydd y person yn gallu bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod y bydd y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr yn credu sy'n rhesymol.
11.—(1) Cyn penderfynu a ddylid symud person o'i swydd yn unol â rheoliad 10, caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr, os byddant yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, atal dros dro ddeiliadaeth swydd swyddog-aelod am unrhyw gyfnod y maent yn credu ei fod yn rhesymol.
(2) Pan fo swyddog-aelod wedi ei atal dros dro yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr hysbysu'r aelod hwnnw, pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.
(3) Ni chaiff swyddog-aelod y mae ei ddeiliadaeth swydd wedi ei hatal dros dro gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod o'r cyd-bwyllgor.
12.—(1) Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol gytuno ar y rheolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio cyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor.
(2) Rhaid i gyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor gael eu cynnal yn unol â'r rheolau sefydlog sy'n ymwneud â'r cyd-bwyllgor.
(3) Ni chaiff aelodau cyswllt bleidleisio yn unrhyw un o gyfarfodydd neu drafodion y cyd-bwyllgor.
13. Pan fo cadeirydd yr is-bwyllgor—
(a)wedi marw;
(b)wedi peidio â dal ei swydd; neu
(c)yn analluog i gyflawni dyletswyddau'r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw achos arall,
caiff yr is-gadeirydd weithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes y bydd y cadeirydd presennol yn ailafael yn ei ddyletswyddau fel cadeirydd, yn ôl y digwydd.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
25 Tachwedd 2009
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: