Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 3RHEOLAETHAU SWYDDOGOL AR FWYD ANIFEILIAID A BWYD O DRYDYDD GWLEDYDD NAD YDYNT YN DOD O ANIFEILIAID

Dehongli'r Rhan hon o'r Rheoliadau hyn

22.  Yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw'r awdurdod bwyd anifeiliaid neu'r awdurdod bwyd;

  • ystyr “awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru” (“outside Wales enforcement authority”) yw'r corff sy'n gyfrifol am orfodi'r ddeddfwriaeth sydd mewn grym mewn perthynas â chynhyrchion a fewnforiwyd mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ac eithrio Cymru;

  • nid yw “bwyd anifeiliaid” (“feed”) yn cynnwys ychwanegion o fath a grybwyllir yn Erthygl 6(1)(e) o Reoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor neu baragraff 4(d) o Atodiad I iddo ar ychwanegion i'w defnyddio mewn maeth i anifeiliaid(1) neu unrhyw rag-gymysgedd sydd wedi'i ffurfio'n unig o gyfuniad o'r ychwanegion hynny;

  • ystyr “y Comisiynwyr” (“the Commissioners”) yw Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;

  • ystyr “cynnyrch” (“product”) yw bwyd anifeiliaid neu fwyd y mae ei fewnforio wedi'i reoleiddio gan Erthygl 15 o Reoliad 882/2004 (rheolaethau swyddogol ar fwyd anifeiliaid a bwyd nad ydynt yn dod o anifeiliaid ac nad ydynt wedi'u cynnwys o fewn cwmpas Cyfarwyddeb 97/78/EC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu trefnu archwiliadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i'r Gymuned o drydydd gwledydd(2)) ac mae'n cynnwys y cynhyrchion a'r bwydydd cyfansawdd hynny nad yw'n ofynnol eu harchwilio'n filfeddygol yn unol â darpariaethau Penderfyniad y Comisiwn 2007/275/EC ynghylch rhestrau o anifeiliaid a chynhyrchion sydd i'w harchwilio wrth safleoedd arolygu ar y ffin o dan Gyfarwyddebau'r Cyngor 91/496/EEC a 97/78/EC(3);

  • ystyr “darpariaeth fewnforio benodedig” (“specified import provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad 669/2009 a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 6 ac y disgrifir ei gynnwys yng Ngholofn 2 o'r Atodlen honno;

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod gorfodi, yw unrhyw berson (boed yn swyddog i'r awdurdod neu beidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Darpariaethau Mewnforio; ac

  • ystyr “y tiriogaethau perthnasol” (“the relevant territories”) yw'r tiriogaethau y cyfeirir atynt yn Atodiad I i Reoliad 882/2004.

Cyfrifoldebau gorfodi bwyd anifeiliaid a statws awdurdod cymwys

23.—(1Cyfrifoldeb pob awdurdod bwyd anifeiliaid yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal neu ei ddosbarth, yn ôl fel y digwydd, mewn perthynas â bwyd anifeiliaid.

(2Mae'r awdurdod bwyd anifeiliaid wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad 669/2009 heblaw Erthygl 19 i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol.

(3Mae dynodi awdurdod bwyd anifeiliaid yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (2) yn ddynodiad sy'n ymestyn i'w ardal neu i'w ddosbarth yn unig, yn ôl fel y digwydd.

(4Mae'r Asiantaeth yn cael ei dynodi'n awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 19 o Reoliad 669/2009 i'r graddau y mae'n gymwys i gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol.

Cyfrifoldebau gorfodi bwyd a statws awdurdod cymwys

24.—(1Cyfrifoldeb pob awdurdod bwyd yw gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio yn ei ardal o ran bwyd.

(2Mae'r awdurdod bwyd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad 669/2009 heblaw Erthygl 19 i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol.

(3Mae dynodi awdurdod bwyd yn awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (2) yn ddynodiad sy'n ymestyn i'w ardal yn unig.

(4Mae'r Asiantaeth yn cael ei dynodi'n awdurdod cymwys ar ddibenion Erthygl 19 o Reoliad 669/2009 i'r graddau y mae'n gymwys i gyfraith bwyd berthnasol.

Swyddogaethau'r Comisiynwyr

25.  Bydd y Comisiynwyr yn cyflawni'r swyddogaethau a roddir i wasanaethau tollau o dan Erthygl 24 o Reoliad 882/2004 ac Erthygl 10 o Reoliad 669/2009 o ran bwyd anifeiliaid a bwyd.

Cyfnewid gwybodaeth

26.—(1Caiff y Comisiynwyr, yr Asiantaeth ac unrhyw awdurdod gorfodi gyfnewid gwybodaeth at ddibenion y Darpariaethau Mewnforio, a chânt ddatgelu gwybodaeth i'r cyrff a ddiffinnir fel awdurdodau gorfodi yn y darpariaethau sy'n cyfateb i Ran 3 o'r Rheoliadau hyn yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon at ddibenion y Darpariaethau Mewnforio neu'r darpariaethau sy'n cyfateb i'r Darpariaethau Mewnforio yn yr awdurdodaethau hynny.

(2Mae paragraff (1) heb ragfarn i unrhyw bŵer arall sydd gan y Comisiynwyr, yr Asiantaeth neu unrhyw awdurdod gorfodi i ddatgelu gwybodaeth.

(3Ni chaiff neb, gan gynnwys gwas i'r Goron, ddatgelu unrhyw wybodaeth a gafwyd oddi wrth y Comisiynwyr o dan baragraff (1)—

(a)os yw'r wybodaeth yn ymwneud â pherson y mae ei fanylion adnabod—

(i)wedi'u pennu yn y datgeliad; neu

(ii)yn gallu cael eu casglu o'r datgeliad;

(b)os gwneir y datgeliad at ddiben heblaw'r dibenion a bennwyd ym mharagraff (1); ac

(c)os nad yw'r Comisiynwyr wedi rhoi eu cydsyniad ymlaen llaw i'r datgeliad.

Gohirio gweithredu a gorfodi

27.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (6), pan fo—

(a)cynnyrch o drydedd wlad wedi dod i mewn i Gymru;

(b)archwiliad gan yr awdurdod tollau o'r cynnyrch hwnnw wedi'i gwblhau neu wedi'i ohirio hyd nes iddo gyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig;

(c)swyddog awdurdodedig i'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle daeth y cynnyrch i mewn wedi dyroddi ar sail resymol awdurdodiad sy'n cadarnhau—

(i)y dylid gohirio archwilio'r cynnyrch at ddibenion y Darpariaethau Mewnforio hyd nes y bydd y cynnyrch yn cyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yng Nghymru, neu

(ii)y dylai'r archwiliad hwnnw ddigwydd pan fydd y cynnyrch yn cyrraedd ei gyrchfan yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig o dan ddeddfwriaeth sydd mewn grym yno ynghylch cynhyrchion a fewnforir; ac

(ch)person sy'n mewnforio'r cynnyrch yn rhoi i'r swyddog awdurdodedig hwnnw ymrwymiad ysgrifenedig o ran y materion a bennir ym mharagraff (2),

daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle mae'r gyrchfan, os yw yng Nghymru, yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd yno.

(2Rhaid i'r ymgymeriad—

(a)datgan cyrchfan y cynnyrch; a

(b)cadarnhau—

(i)bod y cynhwysydd sy'n cynnwys y cynnyrch wedi'i selio ac na fydd yn cael ei agor nes iddo gyrraedd y gyrchfan,

(ii)bod agor y cynhwysydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod gorfodi ar gyfer y man lle mae'r gyrchfan, os yw yng Nghymru neu'r awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru os nad yw'r gyrchfan yng Nghymru, a

(iii)y bydd y cynhwysydd ar gael yn y gyrchfan honno i'w archwilio o dan y Darpariaethau Mewnforio neu, yn ôl fel y digwydd, deddfwriaeth ynghylch cynhyrchion a fewnforir sydd mewn grym yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig.

(3Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn dyroddi awdurdodiad yn unol â pharagraff (1)(c), rhaid iddo—

(a)(os yw cyrchfan y cynnyrch yng Nghymru) hysbysu'r awdurdod gorfodi ar gyfer y man hwnnw neu (os yw cyrchfan y cynnyrch mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig) hysbysu'r awdurdod gorfodi y tu allan i Gymru—

(i)nad yw'r cynnyrch (a ddisgrifir yn y fath fodd ag i ganiatáu iddo gael ei adnabod) wedi'i archwilio o dan y Darpariaethau Mewnforio, a

(ii)os yw archwiliad gan yr awdurdod tollau wedi'i ohirio, o'r ffaith honno; a

(b)anfon at yr awdurdod perthnasol gopi o unrhyw ymrwymiad a roddwyd yn unol â pharagraff (1)(ch).

(4Pan fo cynnyrch wedi'i anfon at gyrchfan yng Nghymru o ran arall o Ynysoedd Prydain a bod archwiliad o'r cynnyrch hwnnw wedi'i ohirio o dan ddeddfwriaeth ynghylch cynhyrchion a fewnforir sydd mewn grym yno, daw'r awdurdod gorfodi ar gyfer y gyrchfan yn gyfrifol am orfodi a gweithredu'r Darpariaethau Mewnforio ar gyfer y cynnyrch hwnnw pan fydd yn cyrraedd Cymru.

(5Ni chaiff neb dorri ymrwymiad a roddir o dan baragraff 1(ch).

(6Bydd y darpariaethau ar ohirio gweithredu a gorfodi a nodir yn y rheoliad hwn yn ddarostyngedig i unrhyw reolaethau swyddogol sy'n digwydd yn unol ag Erthygl 15(5) o Reoliad 882/2004.

Gwahardd cyflwyno bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol

28.—(1Gwaherddir y canlynol—

(a)cyflwyno i Gymru o drydedd wlad fwyd anifeiliaid penodedig sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd anifeiliaid;

(b)cyflwyno i Gymru o rywle arall yn y tiriogaethau perthnasol fwyd anifeiliaid penodedig sy'n tarddu o drydedd wlad ac sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd anifeiliaid;

(c)cyflwyno i Gymru o drydedd wlad fwyd penodedig sy'n methu â chydymffurfio—

(i)â gofynion diogelwch bwyd; neu

(ii)â gofynion Erthyglau 3 i 6 o Reoliad 852/2004; ac

(ch)cyflwyno i Gymru o rywle arall yn y tiriogaethau perthnasol fwyd penodedig sy'n tarddu o drydedd wlad ac sy'n methu â chydymffurfio—

(i)â gofynion diogelwch bwyd; neu

(ii)â gofynion Erthyglau 3 i 6 o Reoliad 852/2004.

(2Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “bwyd anifeiliaid penodedig” yw bwyd anifeiliaid sy'n gynnyrch; a

(b)ystyr “bwyd penodedig” yw bwyd sy'n gynnyrch.

Gwirio cynhyrchion

29.—(1Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gyflwyno unrhyw gynnyrch i Gymru ganiatáu i swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi gyflawni gwiriadau mewn perthynas â'r cynnyrch yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 882/2004.

(2Pan fo swyddog awdurdodedig yn cyflawni gwiriadau mewn perthynas â chynnyrch yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 882/2004, rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r cynnyrch ddarparu'r cyfleusterau a'r cymorth y mae ar y swyddog awdurdodedig angen rhesymol amdanynt er mwyn eu cyflawni.

(3Pan fo swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn cyflawni gwiriad adnabod neu wiriad ffisegol ar gynnyrch yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 882/2004, bydd gan y swyddog hawl i'w gwneud yn ofynnol bod y gwiriad yn digwydd mewn man penodedig.

Atal dynodiad pwyntiau mynediad

30.—(1Pan fo'r Asiantaeth wedi'i bodloni—

(a)bod parhau i weithredu pwynt mynediad dynodedig yn creu risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; neu

(b)bod yr isafswm gofynion ar gyfer pwyntiau mynediad dynodedig a osodir yn Erthygl o Reoliad 669/2009 wedi'u torri mewn modd difrifolawrth bwynt mynediad dynodedig,

caiff atal dynodiad y pwynt mynediad naill ai'n llawn neu'n rhannol drwy gyflwyno i weithredydd y pwynt mynediad hysbysiad ysgrifenedig i'r perwyl hwnnw.

(2Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff (1), mae dynodiad y pwynt mynediad yn peidio i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad hwnnw nes iddo gael ei ddynodi eto yn unol ag Erthygl 17(1) o Reoliad 882/2004.

Cadw, distrywio, trin yn arbennig, ailanfon a mesurau a chostau priodol eraill

31.—(1Mae gan awdurdod gorfodi bŵer i wneud unrhyw beth y caiff awdurdod cymwys ei wneud o dan Erthyglau 18 i 21 a 24(3) o Reoliad 882/2004 os bydd yr amodau sydd wedi'u nodi yn yr Erthyglau hynny wedi'u bodloni.

(2 yr awdurdod gorfodi yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 22 o Reoliad 882/2004.

Hysbysiadau yn unol ag Erthyglau 18 a 19 o Reoliad 882/2004 (mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd o drydydd gwledydd)

32.—(1Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu gosod llwyth o fwyd anifeiliaid neu fwyd yng nghadw yn swyddogol o dan Erthygl 18 neu 19(1) o Reoliad 882/2004, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu weithredydd y busnes bwyd, yn ôl fel y digwydd, sy'n gyfrifol am y bwyd anifeiliaid neu'r bwyd.

(2Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd unrhyw rai o'r mesurau y cyfeirir atynt yn Erthygl 19(1)(a) a (b) o Reoliad 882/2004 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu weithredydd y busnes bwyd, yn ôl fel y digwydd, sy'n gyfrifol am y bwyd anifeiliaid neu'r bwyd, ar ôl iddo wrando ar weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid hwnnw neu weithredydd y busnes bwyd hwnnw fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 19.

(3Os bydd swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi yn bwriadu cymryd unrhyw rai o'r camau y cyfeirir atynt yn Erthygl 19(2) o Reoliad 882/2004 mewn perthynas â bwyd anifeiliaid neu fwyd, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i weithredydd y busnes bwyd anifeiliaid neu weithredydd y busnes bwyd, yn ôl fel y digwydd, sy'n gyfrifol am y bwyd anifeiliaid neu'r bwyd.

Yr hawl i apelio o ran hysbysiadau a gyflwynir o dan reoliad 32

33.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi i gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 32 apelio i lys ynadon.

(2Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980 yn gymwys i'r achosion.

(3Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.

(4Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad swyddog awdurdodedig yr awdurdod gorfodi yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi ei effaith i ddyfarniad y llys.

Apelau i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 33

34.  Caiff person a dramgwyddir oherwydd bod llys ynadon wedi gwrthod apêl iddo o dan reoliad 33(1) apelio i Lys y Goron.

Risg ddifrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd

35.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru neu'r Asiantaeth yn cael ar ddeall, neu pan fo ganddynt sail resymol dros amau, fod unrhyw fwyd neu fwyd anifeiliaid wedi'i gyflwyno neu y gall gael ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad a'i fod yn debyg o fod yn risg ddifrifol i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, bydd gan y naill neu'r llall ohonynt bŵer i ddyroddi datganiad ysgrifenedig yn atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno i Gymru o'r drydedd wlad gyfan honno neu unrhyw ran ohoni, neu yn gosod amodau ar ei gyflwyno i Gymru.

(2Rhaid i ddatganiad o'r fath gael ei gyhoeddi yn y modd y gwêl y person a'i dyroddodd yn dda a rhaid pennu'r cynnyrch a'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni sydd o dan sylw.

(3Rhaid i ddatganiad sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch o drydedd wlad neu ran ohoni bennu'r amodau hynny.

(4Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal unrhyw gynnyrch rhag cael ei gyflwyno, ni chaiff neb gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.

(5Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar gyflwyno unrhyw gynnyrch, ni chaiff neb gyflwyno'r cynnyrch hwnnw i Gymru os yw'n tarddu o'r drydedd wlad neu'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad oni bai bod y cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.

(6Caiff datganiad gael ei addasu, ei atal neu ei ddirymu gan ddatganiad ysgrifenedig pellach a gyhoeddir, cyhyd ag y bo'n ymarferol, yn yr un modd ac i'r un graddau â'r datganiad gwreiddiol.

Costau a ffioedd

36.—(1Rhaid i'r costau a dynnir gan yr awdurdod gorfodi y mae'r gweithredydd busnes bwyd anifeiliaid neu'r gweithredydd busnes bwyd neu ei gynrychiolydd yn atebol iddo o dan Erthygl 22 o Reoliad 882/2004 gael eu talu gan y gweithredydd busnes bwyd anifeiliaid neu'r gweithredydd busnes bwyd neu ei gynrychiolydd wrth gael archiad ysgrifenedig i wneud hynny oddi wrth yr awdurdod gorfodi.

(2Rhaid i'r ffioedd y mae'n ofynnol i awdurdod cymwys eu casglu o dan Erthygl 14 o Reoliad 669/2009 gael eu talu gan y gweithredydd busnes bwyd anifeiliaid neu'r gweithredydd busnes bwyd yn ddarostyngedig i'r lefel uwch o reolaethau swyddogol y darperir ar eu cyfer yn y Rheoliad hwnnw, neu gan ei gynrychiolydd o gael archiad ysgrifenedig i wneud hynny oddi wrth yr awdurdod cymwys.

Caffael samplau mewn perthynas â bwyd gan swyddogion awdurdodedig

37.  Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, at ddibenion gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio gan yr awdurdod hwnnw—

(a)prynu sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd;

(b)cymryd sampl o unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd—

(i)y mae'n ymddangos i'r swyddog ei fod wedi'i fwriadu i'w roi ar y farchnad neu ei fod wedi'i roi ar y farchnad, i'w fwyta gan bobl, neu

(ii)y mae'r swyddog yn dod o hyd iddo ar unrhyw fangre neu mewn unrhyw fangre y mae'r swyddog wedi'i awdurdodi i fynd i mewn iddi gan reoliad 39 neu odano;

(c)cymryd sampl o unrhyw ffynhonnell fwyd, neu sampl o unrhyw ddeunydd sydd mewn cysylltiad â'r ffynhonnell fwyd, y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar unrhyw fangre o'r fath neu mewn unrhyw fangre o'r fath; ac

(ch)cymryd sampl o unrhyw eitem neu sylwedd y mae'r swyddog yn dod o hyd iddi neu iddo ar neu mewn unrhyw fangre o'r fath ac y mae gan y swyddog reswm dros gredu y gallai fod angen amdani neu amdano fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio.

Dadansoddi etc. samplau

38.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl o dan reoliad 37—

(a)ei chyflwyno i gael ei dadansoddi gan ddadansoddydd cyhoeddus, os yw'r swyddog o'r farn y dylai'r sampl gael ei dadansoddi;

(b)ei chyflwyno i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd, os yw'r swyddog o'r farn y dylai'r sampl gael ei harchwilio.

(2Caiff person, heblaw swyddog o'r fath, ac sydd wedi prynu unrhyw fwyd, neu unrhyw sylwedd y gellir ei ddefnyddio i baratoi bwyd, gyflwyno sampl ohono—

(a)i gael ei dadansoddi gan y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal lle cafodd y bwyd neu'r sylwedd ei brynu; neu

(b)i gael ei harchwilio gan archwilydd bwyd.

(3Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno sampl i'w dadansoddi o dan y rheoliad hwn, os yw swydd y dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw yn wag, rhaid i'r sampl gael ei chyflwyno i'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer rhyw ardal arall.

(4Mewn unrhyw achos lle bwriedir cyflwyno neu lle cyflwynir sampl i'w dadansoddi neu i'w harchwilio o dan y rheoliad hwn, os yw'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd yn penderfynu nad yw'n gallu cyflawni'r dadansoddiad neu'r archwiliad am unrhyw reswm, rhaid iddo gyflwyno neu, yn ôl fel y digwydd, anfon y sampl at unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd arall y bydd yn penderfynu arno.

(5Rhaid i ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd ddadansoddi neu archwilio cyn gynted ag y bo'n ymarferol unrhyw sampl a gyflwynwyd iddo neu a anfonwyd ato o dan y rheoliad hwn, ond ac eithrio—

(a)os ef yw'r dadansoddydd cyhoeddus ar gyfer yr ardal o dan sylw; a

(b)os yw'r samplawedi'i chyflwyno iddo ar gyfer dadansoddiad gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd,

caiff fynnu ymlaen llaw fod unrhyw ffi resymol y bydd yn gofyn amdani yn cael ei thalu.

(6Rhaid i unrhyw ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd sydd wedi dadansoddi neu wedi archwilio sampl roi i'r person y cafodd ei chyflwyno ganddo dystysgrif sy'n nodi canlyniad y dadansoddiad neu'r archwiliad.

(7Rhaid i unrhyw dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) gael ei llofnodi ganddo, ond caniateir i'r dadansoddiad neu'r archwiliad gael ei wneud gan unrhyw berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd.

(8Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y Darpariaethau Mewnforio, bydd y ffaith bod un o'r partïon yn dangos—

(a)dogfen sy'n honni ei bod yn dystysgrif a roddwyd gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6); neu

(b)dogfen a ddarparwyd i'r parti hwnnw gan y parti arall fel un a oedd yn gopi o'r dystysgrif honno,

yn dystiolaeth ddigonol o'r ffeithiau a nodir ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o dan is-baragraff (a), bod y parti arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r dadansoddydd bwyd neu'r archwilydd bwyd gael ei alw i fod yn dyst.

(9Dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at ddadansoddydd cyhoeddus ar gyfer ardal benodedig, pan fo dau neu ragor o ddadansoddwyr cyhoeddus wedi'u penodi ar gyfer yr ardal honno, fel cyfeiriad at y naill neu'r llall ohonynt neu at unrhyw un ohonynt.

(10Mae'r Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(4) yn gymwys i sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd o dan reoliad 37 fel petai'n sampl a gaffaelwyd gan swyddog awdurdodedig o dan adran 29 o'r Ddeddf.

(11Rhaid i'r dystysgrif a roddir gan ddadansoddydd bwyd neu archwilydd bwyd o dan baragraff (6) fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990.

Pwerau i fynd i mewn ar gyfer swyddogion awdurdodedig awdurdod gorfodi bwyd

39.—(1Bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol—

(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre o fewn ardal yr awdurdod er mwyn darganfod a oes unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio o ran bwyd yn cael neu wedi cael ei thorri ar y fangre;

(b)i fynd i mewn i unrhyw fangre, boed o fewn ardal yr awdurdod neu y tu allan iddi, er mwyn darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth am unrhyw doriad o'r fath yn yr ardal honno; ac

(c)i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn i'r awdurdod gyflawni ei swyddogaethau o dan y Darpariaethau Mewnforio,

ond ni chaniateir mynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio'n unig fel tŷ annedd preifat oni bai bod hysbysiad am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'u rhoi i'r meddiannydd 2 awr ymlaen llaw.

(2Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd ar unrhyw fangre at unrhyw ddiben a grybwyllwyd ym mharagraff (1) a naill ai—

(a)bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu y deellir y gall gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu

(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn i'r fangre, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd ei angen.

(3Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.

(4Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, fynd ag unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae'r swyddog wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.

(5Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw) sy'n ymwneud â busnes bwyd, a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig—

(a)caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd perthynol a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi iddo unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol amdano.

(6Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan baragraff (5)—

(a)cymryd i'w feddiant a chadw unrhyw gofnodion y mae ganddo reswm dros gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Darpariaethau Mewnforio; a

(b)pan fo'r cofnodion wedi'u storio ar unrhyw ffurf electronig, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf a fyddai'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.

(7Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson arall unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai bod y datgeliad wedi'i wneud wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd.

(8Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi neb, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, i fynd i mewn i unrhyw fangre—

(a)lle cedwir anifail neu aderyn y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo wedi effeithio arno; a

(b)sydd wedi'i leoli mewn man y datganwyd ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath o dan y Ddeddf honno.

Rhwystro etc. swyddogion (mewnforion)

40.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith; neu

(b)yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Darpariaethau Mewnforio ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Darpariaethau Mewnforio,

yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)—

(a)yn rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu

(b)yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

(3Ni chaniateir dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu ei argyhuddo.

Tramgwyddau a chosbau

41.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn mynd yn groes i unrhyw rai o'r darpariaethau penodedig neu yn methu â chydymffurfio â hwy;

(b)yn mynd yn groes i baragraff (3) o reoliad 26, paragraff (5) o reoliad 27 neu baragraff (4) neu (5) o reoliad 35 neu yn methu â chydymffurfio â hwy;

(c)yn mynd yn groes i unrhyw rai o'r gwaharddiadau ym mharagraff (1) o reoliad 28;

(ch)i'r graddau na fydd mynd yn groes i reoliad 29 neu fethu â chydymffurfio ag ef yn dramgwydd o dan reoliad 40, yn mynd yn groes i reoliad 29 neu'n methu â chydymffurfio ag ef; neu

(d)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir iddo o dan y Darpariaethau Mewnforio,

yn euog o dramgwydd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'r ddau.

(3Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 0 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau (mewnforion)

42.  Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn sy'n dramgwydd y gellir ei gosbi o dan reoliad 1(2), ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—

(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu

(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,

p'un bynnag yw'r cynharaf.

(1)

OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.29, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/68/EC o ran y weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu: Addasu'r weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(2)

OJ Rhif L24, 30.1.98, t.9, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/104/EC yn addasu Cyfarwyddebau penodol ym maes amaethyddiaeth (deddfwriaeth filfeddygol a ffyto-iechydol), oherwydd ymaelodi Bwlgaria a Romania (OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.352).

(3)

OJ Rhif L116, 4.5.2007, t.9.

(4)

O.S. 1990/2463, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources