Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH YR UE

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(1);

  • ystyr “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathï au sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (2);

  • ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

  • ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd(3) fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;

  • ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(4) fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2076/2005, Rheoliad 1020/2008 a Rheoliad 1162/2009;

  • ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau gwirio bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid(5) fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 669/2009 a Rheoliad 1162/2009;

  • ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi cig ac wyau penodol i'r Ffindir a Sweden(6);

  • ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd(7);

  • ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(8);

  • ystyr “Rheoliad 1020/2008” (“Regulation 1020/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1020/2008 sy'n diwygio Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid a Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 o ran marciau adnabod, llaeth crai a chynhyrchion llaeth, wyau a chynhyrchion wyau a chynhyrchion pysgodfeydd penodol(9);

  • ystyr “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009 yn gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran lefel uwch y rheoliadau swyddogol ar fewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid ac yn diwygio Penderfyniad 2006/504/EC(10); ac

  • ystyr “Rheoliad 1162/2009” (“Regulation 1162/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1162/2009 sy'n gosod camau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor(11).

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

  • ystyr “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) yw—

    (a)

    Rhan IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(12) i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwydydd anifeiliaid;

    (b)

    Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999(13);

    (c)

    Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004(14);

    (ch)

    Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 i'r graddau y maent yn gymwys o ran bwyd anifeiliaid;

    (d)

    Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005(15); a

    (dd)

    Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006(16).

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 3DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD BERTHNASOL

  • ystyr “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yw—

    (a)

    cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwyd, ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â'r canlynol—

    (i)

    rheoli gweddillion meddyginiaethau milfeddygol a sylweddau eraill o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997(17),

    (ii)

    rheoli gweddillion plaleiddiaid o dan Reoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Uchaf Gweddillion) (Cymru a Lloegr) 2008(18),

    (iii)

    cymhwyso rheolau y caniateir cydnabod arbenigedd traddodiadol a warentir odanynt ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd penodol a osodir yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 509/2006 ar gynhyrchion amaethyddol a bwydydd fel arbenigeddau traddodiadol a warentir(19),

    (iv)

    cymhwyso rheolau ar gyfer gwarchod dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol cynhyrchion amaethyddol a bwydydd penodol a osodir yn Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 510/2006 ar warchod dynodiadau daearyddol a dynodiadau tarddiad cynhyrchion amaethyddol a bwydydd(20),

    (v)

    rheoli cynhyrchion organig o dan Reoliadau Cynhyrchion Organig 2009(21),

    (vi)

    rheoli labelu cig eidion o dan Reoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001(22),

    (vii)

    rheoli mewnforio a masnachu o ran cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid—

    (aa)

    o dan Reoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(23),ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 3 o'r Rheoliadau hynny gan yr Asiantaeth,

    (bb)

    o dan Reoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007(24),ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 5 o'r Rheoliadau hynny gan yr Asiantaeth;

    (viii)

    y materion a reolir o dan Atodlen 2 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008(25) i'r graddau y mae'r Atodlen honno yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir er mwyn i bobl eu bwyta, ynghyd â'r materion a gwmpesir gan bwynt 2 o Ran I a phwynt 2 o Ran II o Bennod A o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 fel y'i darllenir gyda Phenderfyniad y Comisiwn 2009/719/EC sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau penodol i adolygu eu rhaglenni monitro BSE Blynyddol(26) i'r graddau y mae'r pwyntiau hynny'n gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir er mwyn i bobl eu bwyta; a

    (ix)

    rheoleiddio gwirodydd o dan Reoliadau Gwirodydd 2008(27);

    (b)

    cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran deunyddiau ac eitemau mewn cysylltiad â bwyd; ac

    (c)

    cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mhwynt 1 o Ran AI o Atodlen I i Reoliad 852/2004 o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 4AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

Colofn 1Colofn 2
Awdurdod cymwysY darpariaethau yn Rheoliad 882/2004
Yr AsiantaethErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 19(1), (2) a (3), 24, 27, 28, 31(1) a (2)(f), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52(1) a 54
Yr awdurdod bwyd anifeiliaidErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 27, 28, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54

Rheoliad 3(3)

ATODLEN 5AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD BERTHNASOL

Awdurdod cymwysY darpariaethau yn Rheoliad 882/2004
Yr AsiantaethErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 14, 19(1), (2) a (3), 24, 27, 28, 31, 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52(1) a 54
Yr awdurdod bwydErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 27, 28, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54

Rheoliadau 22 a 1(1)(a)

ATODLEN 6DARPARIAETHAU MEWNFORIO PENODEDIG

Colofn 1Colofn 2
Y ddarpariaeth yn Rheoliad 669/2009Y cynnwys
Erthygl 6 fel y'i darllenir gydag Erthygl 7Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid a bwyd neu eu cynrychiolwyr roi hysbysiad digonol ymlaen llaw o amcangyfrif o'r dyddiad a'r amser y bydd y llwyth yn ffisegol yn cyrraedd y pwynt mynediad dynodedig ac o natur y llwyth yn y modd a nodir yn yr Erthygl honno (dogfen fynediad gyffredin i gael ei llenwi a'i throsglwyddo o leiaf un diwrnod gwaith ymlaen llaw) ac yn Erthygl 7 (dogfen fynediad gyffredin i gael ei llunio yn iaith swyddogol yr Aelod-wladwriaeth er y caiff yr Aelod-wladwriaet h gydsynio i lunio dogfennau mynediad cyffredin mewn un o ieithoedd swyddogol eraill y Gymuned).
Erthygl 8(2) ail baragraffGofyniad bod yn rhaid i gopi gwreiddiol y ddogfen fynediad gyffredin gyd-fynd â'r llwyth wrth iddo gael ei gludo ymlaen hyd oni fydd yn cyrraedd ei gyrchfan fel a ddangosir yn y ddogfen.
Erthygl 11

Gofyniad, mewn achosion lle y mae nodweddion arbennig y llwyth yn haeddu hynny, fod rhaid i weithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid a bwyd neu eu cynrychiolwyr drefnu bod y canlynol ar gael i'r awdurdod cymwys:

(a)

digon o adnoddau dynola logistaiddi ddadlwytho'r llwyth, er mwyn rhoi'r rheolaethau swyddogol ar waith; a

(b)

yr offer priodol ar gyfer samplu i ddadansoddi o ran cludiant arbennig a/neu ffurfiau pecynnu penodol,i'r graddau na ellir cyflawni'r cyfryw samplu'n gynrychioliadol gydag offer samplu safonol.

Paragraff cyntaf Erthygl 12Gofyniad bod rhaid peidio â rhannu llwythi nes bod y lefel uwch o reolaethau swyddogol wedi'i chwblhau a bod y ddogfen fynediad gyffredin wedi'i llenwi gan yr awdurdod cymwys.
Ail baragraff Erthygl 12Gofyniad os caiff y llwyth ei rannu wedyn fod rhaid i gopi wedi'i ddilysu o'r ddogfen fynediad gyffredin gyd-fynd â phob rhan o'r llwyth nes iddi gael ei rhyddhau i gylchredeg yn rhydd.

Rheoliad 51

ATODLEN 7ATODLEN A RODDIR YN LLE ATODLEN 1 I REOLIADAU BWYD ANIFEILIAID (HYLENDID A GORFODI) (CYMRU) 2005

Rheoliad 2

ATODLEN 1CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BENODEDIG

  • Rhan IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970,i'r graddau y mae'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid

  • Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005

  • Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006

  • Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 i'r graddau y maent yn ymwneud â bwyd anifeiliaid

  • Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd,i'r graddau y mae'n ymwneud â bwyd anifeiliaid

  • Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion i'w defnyddio mewn cysylltiad â maeth i anifeiliaid

  • Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirio i'r graddau y mae'n ymwneud â bwyd anifeiliaid

  • Rheoliad (EC) Rhif 183/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid

  • Rheoliad (EC) 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, o ran y lefel uwch o reolaethau swyddogol ar fewnforio bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol nad yw'n dod o anifeiliaid, ac sy'n diwygio Penderfyniad 2006/504/EC,i'r graddau y mae'n ymwneud â bwyd anifeiliaid..

(1)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).

(2)

OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 220/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathï au sbyngffurf trosglwyddadwy penodol, o ran gweithredu pwerau a roddwyd i'r Comisiwn (OJ Rhif L87, 31.3.2009, t.155).

(3)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3) y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 219/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu: Addasu'r weithdrefn reoleiddio ynghyd â chraffu — Rhan Dau (OJ Rhif L87, 31.3.2009, t.109).

(4)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22), y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 219/2009.

(5)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1) y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.29). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1029/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor i ddiweddaru cyfeiriad at Safonau Ewropeaidd penodol (OJ Rhif L278, 21.10.2008, t.6).

(6)

OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17.

(7)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1, fel y'i darllenir gyda'r Corigenda yn OJ Rhif L278, 10.10.2006, t.32 ac OJ Rhif L283, 14.10.2006, t.62. Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 2073/2005 gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1441/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd (OJ Rhif L322, 7.12.2007, t.12).

(8)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1022/2008 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran terfynau cyfanswm y nitrogen sylfaenol anweddol (TVB-N) (OJ Rhif L277, 18.10.2008, t.18).

(9)

OJ Rhif L277, 18.10.2008, t.8.

(10)

OJ Rhif L194, 25.7.2009, t.11.

(11)

OJ Rhif L314, 1.12.2009, t.10.

(19)

OJ Rhif L93, 31.3.2006, t.1.

(20)

OJ Rhif L93, 31.3.2006, t.12 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 17/2008 sy'n diwygio Atodiadau I a II i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 510/2006 ar warchod dynodiadau daearyddol a dynodiadau tarddiad cynhyrchion amaethyddol a bwydydd (OJ Rhif L125, 9.5.2008, t.27).

(26)

OJ Rhif L256, 29.9.2009, t.35.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources