Search Legislation

Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1148 (Cy.103)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010

Gwnaed

31 Mawrth 2010

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 162(5A) a 181(2) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(1).

Mae drafft o'r Gorchymyn hwn wedi'i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wedi'i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo(2).

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Cymru) 2010 a daw i rym ar y pymthegfed diwrnod ar hugain ar ôl y diwrnod y cafodd ei wneud.

Diwygio Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

2.  Yn adran 24(1) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(3) yn y diffiniad o “awdurdod lleol” yn lle “awdurdod addysg lleol” rhodder “awdurdod lleol”.

Diwygio Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009

3.—(1Diwygir Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009(4) fel a ganlyn.

(2Yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man y gwelir y geiriau hynny rhodder “awdurdod lleol” ac yn lle “local education authority” ym mhob man y gwelir y geiriau hynny (gan gynnwys yn y darpariaethau newydd a fewnosodir yn Neddf Dysgu a Medrau 2000) rhodder “local authority”.

(3Yn adran 44 yn y man priodol rhodder—

  • mae i “awdurdod lleol yng Nghymru” yr ystyr a roddir i “local authority in Wales” yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;.

Diwygio Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009

4.—(1Diwygir Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009(5) fel a ganlyn.

(2Yn adrannau 7 a 8 yn lle “local education authority” ym mhob man y gwelir y geiriau hynny rhodder “local authority”.

(3Yn adran 11 yn lle'r diffiniad o “awdurdod lleol” rhodder y canlynol—

  • ystyr “awdurdod lleol” yw awdurdod lleol yng Nghymru o fewn ystyr “local authority in Wales” yn adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;.

Diwygio Mesur Addysg (Cymru) 2009

5.—(1Diwygir Mesur Addysg (Cymru) 2009(6) fel a ganlyn.

(2Yn lle “awdurdod addysg lleol” ym mhob man y gwelir y geiriau hynny rhodder “awdurdod lleol” ac yn lle “local education authority” ym mhob man y gwelir y geiriau hynny (gan gynnwys yn y darpariaethau newydd a fewnosodir yn Neddf Addysg 1996 ac yn Neddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995) rhodder “local authority”.

(3Yn adran 10 ar ôl is-adran (5) o'r adran 28IB newydd o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 ychwaneger y canlynol—

(6) In this section, sections 28IC, 28ID and 28IE “local authority” has the meaning given by section 579(1) of the Education Act 1996..

(4Yn adran 19(1) yn lle “awdurdodau addysg lleol” rhodder “awdurdodau lleol”.

Diwygio Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010

6.—(1Diwygir Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(7) fel a ganlyn.

(2Hepgorer y geiriau “(awdurdodau gwasanaethau plant)” ym mhennawd adran 4.

(3Yn adran 4 yn lle “children’s services authority” ym mhob man lle y gwelir y geiriau hynny rhodder “local authority”.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

31 Mawrth 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn disodli cyfeiriadau at awdurdodau addysg lleol ac awdurdodau gwasanaethau plant â chyfeiriadau at awdurdodau lleol mewn darpariaethau ym Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009, Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009, Mesur Addysg (Cymru) 2009 a Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Mae integreiddio adrannau gwasanaethau cymdeithasol plant ac adrannau addysg mewn awdurdodau lleol yn cael ei adlewyrchu gan y newid hwn yn nefnydd y term awdurdod lleol (yn hytrach na chael y ddau derm, awdurdod addysg lleol ac awdurdod gwasanaethau plant i gyfeirio at yr un corff). Mae diwygiadau cyfatebol yn cael eu gwneud i ddarpariaethau mewn Deddfau sy'n gymwys i Gymru a Lloegr ill dwy yng Ngorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010, sy'n cael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

(1)

2006 p.40. Mewnosodwyd adran 162(5A) a diwygiwyd adran 181(2) gan adran 23 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2), a diwygiwyd adran 162(5A) gan baragraff 11 o'r Atodlen i Fesur Addysg (Cymru) 2009 (mccc 5) a chan baragraff 20 o Atodlen 1 i Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1).

(2)

Yn unol ag adran 182A(1) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources