- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gwnaed
21 Ebrill 2010
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 44(3) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2010.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni ddywedir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac Atodlenni iddi.
2. 26 Ebrill 2010 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau canlynol ddod i rym o ran Cymru–
(a)adran 8(1) (darparu llety a chynnal a chadw i blant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol) i'r graddau y mae'n mewnosod yn Neddf 1989(2)—
(i)adran 22C(11), a
(ii)adran 22F;
(b)adran 8(2) ac Atodlen 1 i'r graddau y maent yn ymwneud â pharagraff 4 o'r Atodlen honno;
(c)adran 10(1) (swyddogion adolygu annibynnol) i'r graddau y mae'n mewnosod yn Neddf 1989, yn unig at ddibenion galluogi gwneud rheoliadau—
(i)adran 25A(4), a
(ii)adran 25B(1)(b) a (d) a (2)(a);
(ch)adran 15 (dyletswydd awdurdod lleol i sicrhau ymweliadau â phlant sy'n derbyn gofal ac eraill) i'r graddau y mae'n mewnosod yn Neddf 1989—
(i)yn unig at ddibenion galluogi gwneud rheoliadau, adran 23ZA(3)(a), a
(ii)adran 23ZA(4);
(d)adran 16(1) (ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol) i'r graddau y mae'n mewnosod yn Neddf 1989—
(i)yn unig at ddibenion galluogi gwneud rheoliadau, adran 23ZB(1)(a), a
(ii)adran 23ZB(9);
(dd)adran 20(3) (aelod o staff dynodedig ar gyfer disgyblion sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol mewn ysgol);
(e)adran 21(2) (hawl i daliad mewn perthynas ag addysg bellach) i'r graddau y mae'n mewnosod is-adran (5B) yn adran 23C o Ddeddf 1989(3);
(f)adran 22(3) a (5) (cymorth i ganlyn addysg neu hyfforddiant) i'r graddau y maent yn mewnosod adran 23E(1B) ac (1C) yn Neddf 1989;
(ff)adran 23(1) (estyn yr hawl i gael cynghorydd personol ac i gael cymorth mewn cysylltiad ag addysg neu hyfforddiant);
(g)adran 25(4) (seibiant oddi wrth ofalu am blant anabl) i'r graddau y mae'n mewnosod, yn unig at ddibenion galluogi gwneud rheoliadau, is-baragraff (2) ym mharagraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf 1989;
(ng)adran 27 (hysbysiad yn cyfyngu ar lety mewn sefydliadau penodol);
(h)adran 28 (apelau etc. ynghylch hysbysiadau o dan adran 22B o Ddeddf 2000(4));
(i)adran 29 (rhoi hysbysiad o faterion sy'n ymwneud â phersonau sy'n rhedeg neu'n rheoli cartrefi plant etc.) i'r graddau y mae'n mewnosod, yn unig at ddibenion galluogi gwneud rheoliadau, adran 30A(3) a (4) yn Neddf 2000;
(j)adran 33 (ymchwil etc. i faterion sy'n gysylltiedig â swyddogaethau statudol penodol).
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
21 Ebrill 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r pedwerydd Gorchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (“y Ddeddf”), sy'n dod â darpariaethau penodedig o'r Ddeddf i rym o ran Cymru.
Daw erthygl 2 o'r Gorchymyn â'r canlynol i rym ar 26 Ebrill 2010:
mae erthygl 2(a) a (b) yn dod â darpariaethau i rym sy'n diwygio pwerau gwneud rheoliadau'r awdurdod cenedlaethol priodol (Gweinidogion Cymru o ran Cymru) yn Neddf Plant 1989 (“Deddf 1989”) ynghylch lletya a chynnal a chadw plant sy'n derbyn gofal;
mae erthygl 2(c) i (d) yn dod â darpariaethau i rym sy'n galluogi'r awdurdod cenedlaethol priodol i wneud rheoliadau mewn perthynas â phenodiad a swyddogaethau swyddogion adolygu annibynnol (is-baragraff (c)), ymweliadau gan gynrychiolwyr yr awdurdod lleol â phlant sy'n derbyn gofal (is-baragraff (ch)) ac ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol (is-baragraff (d));
mae erthygl 2(dd) yn dod ag adran 20(3) o'r Ddeddf i rym, sy'n darparu i'r awdurdod cenedlaethol priodol wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ddynodi aelod o staff â chyfrifoldeb dros hybu cyflawniadau addysgol disgyblion sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol mewn ysgol;
mae erthygl 2(e) yn dod â darpariaethau i rym sy'n galluogi'r awdurdod cenedlaethol priodol i wneud rheoliadau ynghylch hawliau i daliad o dan adran 23C(5B) o Ddeddf 1989;
mae erthygl 2(f) yn dod â darpariaethau i rym sy'n galluogi'r awdurdod cenedlaethol priodol i wneud rheoliadau ynghylch yr asesiadau sy'n ofynnol at ddibenion cynnig cymorth pellach i bobl sy'n gadael gofal o dan adrannau 23B(3) neu 23CA o Ddeddf 1989;
mae erthygl 2(ff) yn dod ag adran 23(1) o'r Ddeddf i rym, sy'n diwygio'r pŵer gwneud rheoliadau yn adran 28D(1) o Ddeddf 1989 fel y bydd rheoliadau o dan yr adran honno yn gallu ei gwneud yn ofynnol penodi cynghorydd personol i bobl ifanc benodol sydd o dan 25 oed;
Mae erthygl 2(g) yn dod â darpariaethau i rym sy'n galluogi'r awdurdod cenedlaethol priodol i wneud rheoliadau mewn perthynas â dyletswyddau'r awdurdod lleol sy'n ymwneud â seibiannau i ofalwyr plant anabl;
mae erthygl 2(ng) i (i) yn dod ag adrannau 27 i 29 o'r Ddeddf i rym. Mae'r adrannau hyn yn diwygio Deddf Safonau Gofal 2000 i roi pwerau a dyletswyddau ychwanegol i'r awdurdod cofrestru ynghylch safonau mewn sefyllfaoedd o ofal cymdeithasol i blant;
mae erthygl 2(j) yn dod ag adran 33 o'r Ddeddf i rym, sy'n gwneud darpariaeth ynghylch ymchwil a datganiadau gwybodaeth o dan Ddeddf 1989.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Daethpwyd â'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (“y Ddeddf”) i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 8 (yn rhannol) ac Atodlen 2 | 31 Mawrth 2010 | 2010/749 (Cy.77) (C.51) |
Adran 30 | 6 Ebrill 2009 | 2009/728 (Cy.64) (C.47) |
Adran 34 | 31 Mawrth 2010 | 2010/749 (Cy.77) (C.51) |
Adran 35 | 6 Ebrill 2009 | 2009/728 (Cy.64) (C.47) |
Adran 36 | 1 Medi 2009 | 2009/1921 (Cy.175) (C.91) |
Adran 37 | 1 Medi 2009 | 2009/1921 (Cy.175) (C.91) |
Adran 38 | 1 Medi 2009 | 2009/1921 (Cy.175) (C.91) |
Adran 42 ac Atodlen 4 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2009 | 2009/728 (Cy.64) (C.47) |
Adran 42 ac Atodlen 4 (yn rhannol) | 1 Medi 2009 | 2009/1921 (Cy.175) (C.91) |
Adran 42 ac Atodlen 4 (yn rhannol) | 31 Mawrth 2010 | 2010/749 (Cy.77) (C.51) |
Daethpwyd â'r darpariaethau a ganlyn i rym o ran Cymru a Lloegr drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 18 (yn rhannol) | 1 Ionawr 2010 | 2009/3354 (C.154) |
Adran 31 | 1 Ebrill 2009 | 2009/3354 (C.154) |
Adran 32 | 1 Ebrill 2009 | 2009/268 (C.11) |
Daethpwyd ag amrywiol ddarpariaethau o'r Ddeddf i rym o ran Lloegr gan yr Offerynnau Statudol a ganlyn:
Gweler hefyd adran 44(1) a (2) o'r Ddeddf am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 13 Tachwedd 2008 (dyddiad Cydsyniad Brenhinol).
2008 p.23 (“y Ddeddf ”).
Diffinnir “the 1989 Act” yn adran 41 o'r Ddeddf i olygu Deddf Plant 1989 (p.41).
Mewnosodwyd adran 23C o Ddeddf Plant 1989 gan adran 2 o Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35).
Diffinnir “the 2000 Act” yn adran 41 o'r Ddeddf i olygu Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: