Search Legislation

Gorchymyn Deddf Plismona a Throsedd 2009 (Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1395 (Cy.124)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

TRWYDDEDAU A THRWYDDEDU, CYMRU

Gorchymyn Deddf Plismona a Throsedd 2009 (Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2010

Gwnaed

4 Mai 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 27(11) a pharagraffau 3 a 5 o Atodlen 3 i Ddeddf Plismona a Throsedd 2009(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plismona a Throsedd 2009 (Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2010 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

  • mae i “adloniant perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant entertainment” ym mharagraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf 1982,

  • ystyr “yr ail ddiwrnod penodedig” (“the second appointed day”) o ran ardal awdurdod lleol, yw'r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod sef y diwrnod penodedig cyntaf o ran yr ardal honno,

  • mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” gan adran 2(5) o Ddeddf 1982,

  • ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf Plismona a Throsedd 2009,

  • ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Trwyddedu 2003(2),

  • ystyr “Deddf 1982” (“the 1982 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982(3),

  • ystyr “y diwrnod penodedig cyntaf” (“the first appointed day”) o ran ardal awdurdod lleol, yw'r diwrnod y mae Atodlen 3 i Ddeddf 1982, fel y'i diwygiwyd gan adran 27 o Ddeddf 2009, yn dod i rym yn yr ardal honno o ganlyniad i benderfyniad yr awdurdod lleol o dan adran 2 o Ddeddf 1982 neu baragraff 2(2) o Atodlen 3 i Ddeddf 2009,

  • mae i “lleoliad adloniant rhywiol” (a chyfeiriadau at ddefnydd o'r fangre fel lleoliad o'r fath) yr ystyr a roddir i “sexual entertainment venue” ym mharagraff 2A o Atodlen 3 i Ddeddf 1982,

  • mae i “mangre” (ar wahân i'r ymadroddion “trwydded i fangre” a “tystysgrif mangre clwb”) yr ystyr a roddir i “premises” gan baragraff 2A(14) o Atodlen 3 i Ddeddf 1982,

  • mae i “sinema ryw” yr ystyr a roddir i “sex cinema” ym mharagraff 3 o Atodlen 3 i Ddeddf 1982,

  • mae i “siop ryw” yr ystyr a roddir i “sex shop” ym mharagraff 4 o Atodlen 3 i Ddeddf 1982,

  • mae i “trwydded i fangre” (a “tystysgrif mangre clwb”) yr ystyr a roddir i “premises licence” (a “club premises certificate”) yn Neddf 2003,

  • ystyr “y trydydd diwrnod penodedig” (“the third appointed day”), o ran ardal awdurdod lleol, yw'r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd cyfnod o 12 mis sy'n dechrau ar y diwrnod sef y diwrnod penodedig cyntaf o ran yr ardal honno.

(2Mae'r cyfeiriadau yn erthyglau 6(1), 7(1) ac 8(1) at gais i gael trwydded o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 o ran lleoliad adloniant rhywiol yn cynnwys cyfeiriadau at gais i amrywio neu adnewyddu trwydded o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 am siop ryw neu sinema ryw er mwyn galluogi defnyddio'r fangre o dan sylw fel lleoliad adloniant rhywiol.

(3Nid yw'r cyfeiriadau yn erthyglau 6 i 8 at benderfynu cais yn cynnwys cyfeiriadau at benderfynu unrhyw apêl yn erbyn gwrthod caniatáu cais o'r fath.

Darpariaethau trosiannol ac arbed

3.  Mae erthyglau 4 i 11 yn gymwys os bydd Atodlen 3 i Ddeddf 1982, fel y'i diwygiwyd gan adran 27 o Ddeddf 2009, yn dod i rym yn ardal awdurdod lleol o ganlyniad i benderfyniad gan yr awdurdod o dan adran 2 o Ddeddf 1982 neu baragraff 2(2) o Atodlen 3 i Ddeddf 2009.

4.  Nid yw paragraffau 28 a 29 o Atodlen 3 i Ddeddf 1982 (darpariaeth drosiannol bresennol) yn gymwys o ran lleoliadau adloniant rhywiol.

5.—(1Mae'n gyfreithlon i unrhyw berson y mae ganddo yn union cyn y diwrnod penodedig cyntaf drwydded Deddf 2003 o ran unrhyw fangre ac sy'n defnyddio'r fangre fel lleoliad adloniant rhywiol o dan drwydded Deddf 2003, neu sy'n gwneud gwaith paratoi i ddefnyddio'r fangre fel lleoliad o'r fath o dan y drwydded honno, ddefnyddio'r fangre fel lleoliad adloniant rhywiol o dan drwydded Deddf 2003 tan y trydydd diwrnod penodedig, neu benderfynu cais y mae erthygl 6 neu 7 yn gymwys iddo ac sy'n cael ei wneud gan y person hwnnw (gan gynnwys penderfynu unrhyw apêl yn erbyn gwrthod caniatáu'r cais), p'un bynnag yw'r diweddaraf.

(2Ym mharagraff (1) ystyr “trwydded Deddf 2003”, o ran unrhyw fangre, yw trwydded i fangre neu dystysgrif mangre clwb y mae'n gyfreithlon darparu odani adloniant perthnasol yn y fangre honno.

(3Mae paragraff (1) yn gymwys er gwaethaf Atodlen 3 i Ddeddf 1982 (ac o'r herwydd nid yw unrhyw ddefnydd a awdurdodir gan y paragraff hwnnw yn groes i baragraff 6 o'r Atodlen honno) ond fel arall nid yw'n rhagfarnu unrhyw ddeddfiad arall.

6.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i gais a wnaed o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 ar neu ar ôl y diwrnod penodedig cyntaf ond ar neu cyn yr ail ddiwrnod penodedig, am gael trwydded o dan yr Atodlen honno o ran lleoliad adloniant rhywiol.

(2Rhaid i'r awdurdod lleol o dan sylw beidio â phenderfynu unrhyw gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo hyd nes ei fod wedi ystyried pob cais o'r fath.

(3Pan fo'r awdurdod lleol yn caniatáu cais o'r fath cyn y trydydd diwrnod penodedig o ran mangre y mae erthygl 5(1) yn gymwys iddi, nid yw'r drwydded yn effeithiol tan y trydydd diwrnod penodedig.

(4Nid yw paragraff (3) yn rhwystro unrhyw drwydded arall a roddir drwy gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddi rhag cael effaith ar unwaith.

7.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i gais a wnaed o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 ar ôl yr ail ddiwrnod penodedig ond cyn y trydydd diwrnod penodedig, i gael trwydded o dan yr Atodlen honno o ran lleoliad adloniant rhywiol.

(2Rhaid i'r awdurdod lleol o dan sylw beidio â phenderfynu unrhyw gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo hyd nes ei fod wedi penderfynu pob cais y mae erthygl 6 yn gymwys iddynt.

(3Pan fo'r awdurdod lleol yn caniatáu cais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo cyn y trydydd diwrnod penodedig o ran mangre y mae erthygl 5(1) yn gymwys iddi, nid yw'r drwydded yn effeithiol tan y trydydd diwrnod penodedig.

(4Nid yw paragraff (3) yn rhwystro unrhyw drwydded arall a roddir drwy gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddi rhag cael effaith ar unwaith.

8.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i gais a wnaed o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 ar neu ar ôl y trydydd diwrnod penodedig, i gael trwydded o dan yr Atodlen honno o ran lleoliad adloniant rhywiol.

(2Rhaid i'r awdurdod lleol o dan sylw beidio â phenderfynu unrhyw gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo hyd nes ei fod wedi penderfynu pob cais y mae erthygl 7 yn gymwys iddynt.

9.—(1Nid yw'r diwygiad a wneir i Atodlen 3 i Ddeddf 1982 gan adran 27(5) o Ddeddf 2009 (seiliau dros wrthod trwyddedau) yn gymwys i unrhyw gais a wnaed o dan yr Atodlen honno cyn y diwrnod penodedig cyntaf am gael neu adnewyddu trwydded ar gyfer siop ryw neu sinema ryw.

(2Nid yw'r diwygiad a wneir i Atodlen 3 i Ddeddf 1982 gan adran 27(7) o Ddeddf 2009 (ffioedd) yn gymwys i unrhyw gais a wnaed o dan yr Atodlen honno cyn y diwrnod penodedig cyntaf am gael amrywio trwydded ar gyfer siop ryw neu sinema ryw.

(3Nid yw'r diwygiad a wneir i Atodlen 3 i Ddeddf 1982 gan adran 27(8) o Ddeddf 2009 (pwerau cwnstabliaid a swyddogion awdurdod lleol) yn gymwys pan fo cwnstabl neu swyddog awdurdodedig awdurdod lleol yn gweithredu o ran siop ryw neu sinema ryw o dan awdurdod gwarant a roddwyd o dan yr Atodlen honno cyn y diwrnod penodedig cyntaf.

(4Nid yw'r diwygiad a wneir i Atodlen 3 i Ddeddf 1982 gan adran 27(9) o Ddeddf 2009 (apelau) yn gymwys i unrhyw gais a wnaed o dan yr Atodlen honno cyn y diwrnod penodedig cyntaf am adnewyddu trwydded ar gyfer siop ryw neu sinema ryw.

10.  Nid yw'r diwygiad a wneir gan baragraff 23 o Atodlen 7 i Ddeddf 2009 yn gymwys o ran mangre y mae erthygl 5(1) yn gymwys iddi hyd nes bod yr awdurdod a roddwyd gan yr erthygl honno i ddefnyddio'r fangre honno'n dod i ben.

11.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys os bydd person, pan geir cais y mae erthygl 6 neu 7 yn gymwys iddo o ran mangre y mae erthygl 5(1) yn gymwys iddi, yn cael trwydded o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 i ddefnyddio'r fangre yn lleoliad adloniant rhywiol.

(2Mae unrhyw amodau yn y drwydded i fangre neu dystysgrif mangre clwb o dan sylw—

(a)sy'n ymwneud yn ddatganedig ac yn unig â rheoleiddio adloniant perthnasol yn y fangre, neu

(b)sy'n anghyson â'r amod yn y drwydded a roddwyd o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 ac yn llai beichus nag ef,

i'w trin fel pe baent wedi'u dileu o'r drwydded i fangre neu'r dystysgrif mangre clwb o dan sylw o'r diwrnod y mae'r drwydded a roddwyd o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 yn effeithiol.

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

4 Mai 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed o ran darpariaethau Deddf Plismona a Throsedd 2009 ynglŷn â lleoliadau adloniant rhywiol. Yn fras, bydd clybiau dawnsio glin presennol sydd â thrwydded i'r fangre neu dystysgrif i fangre'r clwb o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, y mae'n gyfreithlon i ddarparu adloniant o'r fath odani, yn parhau i allu gweithredu am flwyddyn ar ôl i awdurdodau lleol fabwysiadu darpariaethau 2009 neu, os bydd ar ôl hynny, tan benderfynu unrhyw gais a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn honno.

(3)

1982 p.30. Diwygiwyd Atodlen 3 i'r Ddeddf honno gan adran 52 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (p.48) a pharagraff 7 o Atodlen 14 iddi, adran 198 o Ddeddf Trwyddedu 2003 a pharagraffau 82 ac 85 o Atodlen 5 iddi, adran 24 o Ddeddf Sinemâu 1985 (p.13) a pharagraff 16 o Atodlen 2 iddi, adran 26(1) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (p. 60), adrannau 111 a 174 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p. 15) a pharagraff 22 o Atodlen 7 iddi, O.S. 1984/447, O.S. 2005/886, O.S. 2009/2999, ac o ran bwrdeistrefi penodol yn Llundain, gan adran 12 o Ddeddf Cyngor Llundain Fwyaf (Pwerau Cyffredinol) 1986 (p. iv), adran 33 o Ddeddf Awdurdodau Lleol Llundain 2007 (p. ii) ac O.S. 2005/1541. Caiff ei diwygio hefyd gan adran 27 o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26) o 6 Ebrill 2010 ymlaen o ran Lloegr ac o 8 Mai 2010 ymlaen o ran Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources