- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
8.—(1) O ran deunyddiau ac eitemau a weithgynhyrchir â pholymerau neu gydbolymerau finyl clorid—
(a)rhaid iddynt beidio â chynnwys monomer finyl clorid mewn mesur sy'n fwy nag 1 miligram y cilogram o'r deunydd neu eitem fel y'i mesurir drwy'r dull dadansoddi a bennir yn rheoliad 9(1); a
(b)rhaid iddynt gael eu gweithgynhyrchu yn y fath fodd nad ydynt yn trosglwyddo i fwydydd y maent mewn cysylltiad â hwy unrhyw fesur o finyl clorid sy'n fwy na 0.01 miligram o finyl clorid y cilogram o fwyd fel y'i mesurir drwy'r dull dadansoddi a bennir yn rheoliad 9(2).
(2) Ni chaiff neb—
(a)gwerthu;
(b)mewnforio; nac
(c)defnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd,
unrhyw ddeunydd neu eitem nad yw'n cydymffurfio â pharagraff (1).
9.—(1) Y dull a ddefnyddir wrth ddadansoddi unrhyw sampl i bwrpas canfod faint o fonomer finyl clorid sydd yn bresennol yn y deunydd neu eitem, er mwyn dyfarnu a yw'n cydymffurfio â rheoliad 8(1)(a), yw'r dull a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 80/766/EEC sydd yn pennu dull y Gymuned o ddadansoddi er mwyn rheoli'n swyddogol lefel y monomer finyl clorid mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd(1).
(2) Y dull a ddefnyddir wrth ddadansoddi unrhyw fwyd i bwrpas canfod faint o finyl clorid sydd yn bresennol yn y bwyd, er mwyn dyfarnu a yw deunydd neu eitem sydd mewn cysylltiad â'r bwyd, neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â'r bwyd, yn cydymffurfio â rheoliad 8(1)(b), yw'r dull a nodir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 81/432/EEC sydd yn pennu dull y Gymuned o ddadansoddi er mwyn rheoli'n swyddogol y finyl clorid a ryddheir i fwydydd gan ddeunyddiau ac eitemau(2).
OJ Rhif L213, 16.8.80, t.42.
OJ Rhif L167, 24.6.81, t.6.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: