Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 4Y Gofynion ar gyfer Caen Cellwlos Atgynyrchiedig

Rheolaethau a therfynau

10.—(1Mae'r Rhan hon yn gymwys i gaen cellwlos atgynyrchiedig—

(a)sydd ynddo'i hun yn ffurfio cynnyrch gorffenedig; neu

(b)sy'n rhan o gynnyrch gorffenedig sy'n cynnwys deunyddiau eraill,

ac y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, neu sydd, drwy gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw, yn dod i gysylltiad â bwyd.

(2Ac eithrio ym mharagraff (4), mae unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at Atodiad II yn gyfeiriad at Atodiad II i Gyfarwyddeb 2007/42/EC.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5) a rheoliad 12, ni chaiff unrhyw berson, wrth weithgynhyrchu unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, ddefnyddio unrhyw sylwedd neu grŵp o sylweddau heblaw'r sylweddau a enwir neu a ddisgrifir—

(a)yng ngholofn gyntaf (enwau) Atodiad II (rhestr o sylweddau a awdurdodwyd wrth weithgynhyrchu caen cellwlos atgynyrchiedig) yn achos—

(i)caen heb ei araenu; neu

(ii)caen wedi ei araenu os yw'r araen yn deillio o gellwlos;

(b)yng ngholofn gyntaf Rhan Gyntaf Atodiad II (caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen) yn achos caen sydd i'w araenu, pan fydd yr araen yn cynnwys plastigion,

ac ym mhob achos, mewn unrhyw fodd nad yw'n unol â'r amodau a'r cyfyngiadau a nodir yn y cofnod cyfatebol yn ail golofn y Rhan briodol o Atodiad II, fel y'i darllenir gyda'r rhaglith i'r Atodiad hwnnw.

(4Yn ddarostyngedig i reoliad 12, ni chaiff unrhyw berson, wrth weithgynhyrchu unrhyw araen sydd i'w rhoi ar gaen y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b), ddefnyddio unrhyw sylwedd neu grŵp o sylweddau ar wahân i'r rhai a restrir yn Atodiad II, III neu IV i Gyfarwyddeb 2002/72/EC, ac ni chaiff eu defnyddio mewn unrhyw ddull nad yw'n unol â'r gofynion, y cyfyngiadau a'r manylion priodol a gynhwysir yn yr Atodiadau hynny ac yn Rheoliadau 2009.

(5Caniateir defnyddio sylweddau heblaw'r rhai a restrir yn Atodiad II fel lliwyddion neu adlynion wrth weithgynhyrchu unrhyw gaen y mae paragraff (3)(a) yn gymwys iddo, ar yr amod bod caen o'r fath yn cael ei weithgynhyrchu yn y fath fodd ag i beidio â throsglwyddo unrhyw liwydd neu adlyn i fwyd mewn unrhyw faint canfyddadwy.

(6Yn ddarostyngedig i reoliad 12 ni chaiff neb—

(a)gwerthu;

(b)mewnforio; na

(c)defnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd,

unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig a weithgynhyrchwyd yn groes i ofynion paragraffau (3) neu (4), neu sy'n methu â chydymffurfio â pharagraff (8).

(7Ni chaiff neb, wrth gynnal busnes, ddefnyddio mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd—

(a)pan fo'r bwyd yn cynnwys dŵr sydd yn ffisegol rydd ar yr wyneb, unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig sy'n cynnwys ether bis(2-hydrocsiethyl) neu ethanedïol; neu

(b)unrhyw gaen gellwlos atgynyrchiedig yn y fath fodd fel y bydd unrhyw wyneb printiedig o'r caen hwnnw'n dod i gysylltiad â'r bwyd.

(8Yn ystod unrhyw gam marchnata heblaw'r cam adwerthu, rhaid i unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi ei wneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig, oni bai ei fod wedi ei fwriadu o ran natur i ddod i gysylltiad â bwyd, ddod gyda datganiad ysgrifenedig sydd yn ardystio ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n gymwys iddo.

Terfynau ymfudo ar gyfer caen cellwlos atgynyrchiedig wedi'i araenu gyda phlastigion

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff unrhyw berson weithgynhyrchu neu fewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi ei wneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion ac—

(a)y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd; a

(b)y gellir trosglwyddo eu cyfansoddion i fwyd mewn meintiau sy'n fwy na therfyn ymfudo cyffredinol o 10 miligram y decimetr sgwâr o arwyneb y deunydd neu'r eitem sydd mewn cysylltiad â bwyd.

(2Yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed â chaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion—

(a)sydd yn gynhwysydd, neu'n debyg i gynhwysydd, neu y gellir ei lenwi i gynhwysedd o ddim llai na 500 mililitr a dim mwy na 10 litr;

(b)y gellir ei llenwi a'i bod yn anymarferol i amcangyfrif arwynebedd yr wyneb mewn cysylltiad â bwyd; neu

(c)sy'n gap, gasged, caead neu ddyfais debyg ar gyfer selio,

y terfyn ymfudo cyffredinol fydd 60 miligram o gyfansoddion yn cael eu trosglwyddo ar gyfer pob cilogram o fwyd.

(3Ni chaiff unrhyw berson weithgynhyrchu neu fewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem wedi ei wneud â chaen cellwlos atgynyrchiedig sydd wedi ei araenu â phlastigion a weithgynhyrchwyd ag unrhyw sylwedd a restrir yn Adran A neu B o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/72/EC (monomerau a awdurdodir, a sylweddau cychwyn eraill) ac—

(a)y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd; a

(b)y gellir trosglwyddo eu cyfansoddion i fwyd mewn meintiau sy'n fwy na'r terfynau ymfudo penodol a restrir yng ngholofn 4 o'r Adrannau hynny, fel y'u darllenir gyda'r rhagarweiniad cyffredinol i'r Atodiad hwnnw.

(4Pan fo'r terfyn ymfudo penodedig ar gyfer sylwedd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn cael ei fynegi mewn miligramau fesul cilogram, yn achos caen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion—

(a)sydd yn gynhwysydd, neu'n debyg i gynhwysydd, neu y gellir ei lenwi i gynhwysedd o lai na 500 mililitr neu fwy na 10 litr; neu

(b)na ellir ei lenwi neu ei bod yn anymarferol i amcangyfrif y berthynas rhwng arwynebedd wyneb y caen a maint y bwyd sydd mewn cysylltiad ag ef,

mae'r terfyn ymfudo i gael ei rannu â'r ffactor trawsnewid o 6 er mwyn ei fynegi mewn miligramau o gyfansoddion a drosglwyddir fesul decimetr sgwâr o'r deunydd neu'r eitem sydd mewn cysylltiad â bwyd.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae'r gwiriad o gydymffurfiad â therfynau ymfudo i'w gynnal yn unol â darpariaethau Atodlenni 2 a 3 i Reoliadau 2009, fel y'u darllenir gyda rheoliad 13 o'r Rheoliadau hynny ac at ddibenion y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at ddeunydd neu eitem blastig i gael ei ddehongli fel cyfeiriad at gaen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastig.

(6Nid yw paragraff (5) yn gymwys mewn unrhyw amgylchiad y mae rheoliad 9 yn gymwys iddo.

Darpariaeth arbed ac amddiffyniad trosiannol

12.  Mewn unrhyw achos am dramgwydd o fynd yn groes i reoliad 10(3), (4), (6) neu (7), neu reoliad 11(1) neu (3) y mae profi'r canlynol yn amddiffyniad—

(a)digwyddodd y weithred sy'n ffurfio'r tramgwydd mewn cysylltiad â deunydd neu eitem a wnaed â chaen cellwlos atgynyrchiedig a gafodd ei weithgynhyrchu yn yr Undeb Ewropeaidd neu ei mewnforio iddo cyn 29 Ionawr 2006; a

(b)ni fyddai'r weithred sy'n ffurfio'r tramgwydd wedi bod yn dramgwydd o dan y Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987(1) fel yr oeddynt yn union cyn i Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005 ddod i rym(2).

(2)

O.S. 2005/1647 (Cy. 128). Cafodd y Rheoliadau hynny eu diwygio'n ddiweddarach gan O.S. 2005/3254 (Cy. 247) ac O.S. 2006/2982 (Cy. 273), ond ni wnaeth yr un o'r offerynnau hynny ddiwygiadau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth hon.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources