Search Legislation

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2652 (Cy.220)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010

Gwnaed

25 Hydref 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2 Tachwedd 2010

Yn dod i rym

23 Tachwedd 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 68(1), 74A(1), (2) a (4) a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(1); a chan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd(3), mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol i warchod iechyd y cyhoedd(4) a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu a borthir iddynt(5), fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at yr Atodiadau i'r offerynnau UE a grybwyllir yn rheoliad 2(3) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.

Cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod paratoi'r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(6) neu, yn achos darpariaethau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd, yn unol â gofynion adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970.

RHAN 1Rhagarweiniol a chyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010, maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 23 Tachwedd 2010.

Dehongli a chwmpas

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod bwyd anifeiliaid” (“feed authority”) yw awdurdod a ddynodir yn adran 67(1A) o'r Ddeddf yn awdurdod a chanddo'r ddyletswydd i orfodi Rhan IV o'r Ddeddf o fewn ei ardal;

ystyr “Cyfarwyddeb 82/475” (“Directive 82/475”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 82/475/EEC sy'n gosod categorïau'r deunyddiau bwyd anifeiliaid y caniateir eu defnyddio at ddibenion labelu bwydydd anifeiliaid cyfansawdd ar gyfer anifeiliaid anwes(7);

ystyr “Cyfarwyddeb 2002/32” (“Directive 2002/32”) yw Cyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid(8);

ystyr “Cyfarwyddeb 2008/38” (“Directive 2008/38”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/38/EC sy'n sefydlu rhestr o'r defnydd y bwriedir ei wneud o fwydydd anifeiliaid at ddibenion maethiadol penodol(9);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Amaethyddiaeth 1970;

ystyr “Rheoliad 1831/2003” (“Regulation 1831/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion i'w defnyddio i roi maeth i anifeiliaid(10);

ystyr “Rheoliad 767/2009” (“Regulation 767/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar osod ar y farchnad a defnyddio bwyd anifeiliaid, sy'n diwygio Rheoliad Senedd Ewrop a'r Cyngor (EC) Rhif 1831/2003 ac sy'n diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/511/EEC, Cyfarwyddebau'r Cyngor 82/471/EEC, 83/228/EEC, 93/74/EEC, 93/113/EC a 96/25/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC(11); ac

ystyr “Rheoliad 242/2010” (“Regulation 242/2010”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 242/2010 sy'n creu'r Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid(12).

(2Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1831/2003 neu Reoliad 767/2009 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad dan sylw.

(3Mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475, Cyfarwyddeb 2002/32, Cyfarwyddeb 2008/38, Rheoliad 767/2009 neu Reoliad 242/2010 yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

(4Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw ychwanegyn bwyd anifeiliaid yng nghategori (d) neu (e) o Erthygl 6(1) o Reoliad 1831/2003, ac eithrio'r rheini yn y grwpiau swyddogaethol a restrir ym mharagraff 4(a), (b) ac (c) o Atodiad I i'r Rheoliad hwnnw(13).

RHAN 2Marchnata a defnyddio bwyd anifeiliaid

Dehongli'r Rhan hon ac Atodlen 1

3.  Yn y Rhan hon ac yn Atodlen 1 mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl neu'r Atodiad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 767/2009.

Gorfodi gofynion Rheoliad 767/2009

4.—(1Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a geir yn Erthygl 32, mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad 767/2009 a bennir yn Atodlen 1 neu'n methu â chydymffurfio â hi yn euog o dramgwydd.

(2Os caniateir, yn unol ag Erthygl 17(2)(c), i enw deunydd bwyd anifeiliaid penodol gael ei ddisodli gan enw'r categori y mae'r deunydd bwyd anifeiliaid yn perthyn iddo, dim ond y categorïau a restrir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475 y caniateir eu dynodi.

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 767/2009

5.—(1Yr awdurdod cymwys at ddibenion y canlynol yw pob awdurdod bwyd anifeiliaid yn ei ardal—

(a)Erthygl 5(3), 13(1)(a) a 17(3) ac Atodiad VII, Pennod 1, paragraff 8; a

(b)Erthygl 13(1)(b) fel yr awdurdod cymwys a gaiff ofyn am brawf gwyddonol o honiad ac y mae gan bwrcaswyr yr hawl i ddwyn amheuon ynghylch geirwirdeb honiad i'w sylw.

(2Yr awdurdod cymwys at ddibenion y canlynol yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd—

(a)Erthygl 26(1)(b); a

(b)Erthygl 13(1)(b) fel yr awdurdod cymwys a gaiff gyflwyno i'r Comisiwn amheuon ynghylch prawf gwyddonol o honiad.

(3Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 5(2) yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd a phob awdurdod bwyd anifeiliaid yn ei ardal.

RHAN 3Ychwanegion bwyd anifeiliaid

Dehongli'r Rhan hon

6.  Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Rheoliad 1831/2003.

Gorfodi gofynion Rheoliad 1831/2003

7.—(1Mae unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a bennir ym mharagraff (2) neu'n methu â chydymffurfio â hi yn euog o dramgwydd.

(2Dyma'r darpariaethau—

(a)Erthygl 3, paragraffau (1) i (4), (gosod ar y farchnad, prosesu a defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid), fel y'u darllenir gydag Erthygl 10 (statws cynhyrchion sydd eisoes yn bod);

(b)Erthygl 12 (monitro ar ôl awdurdodi); ac

(c)Erthygl 16, paragraffau (1) i (5), (labelu a phecynnu ychwanegion a rhag-gymysgeddau).

RHAN 4Sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid

Dehongli'r Rhan hon

8.  Yn y Rhan hon—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl neu'r Atodiad sy'n dwyn y rhif hwnnw yng Nghyfarwyddeb 2002/32; a

(b)ystyr “sylwedd annymunol” (“undesireable substance”) yw unrhyw sylwedd neu gynnyrch, nad yw'n asiant pathogenig sy'n bresennol mewn bwyd anifeiliaid neu arno ac—

(i)sy'n ffurfio perygl posibl i iechyd dyn neu anifail neu i'r amgylchedd, neu

(ii)a allai gael effaith andwyol ar gynhyrchu da byw.

Rheoli bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys sylweddau annymunol

9.—(1Mae unrhyw berson—

(a)sy'n gosod ar y farchnad unrhyw fwyd anifeiliaid a bennir yng ngholofn 2 o Atodiad I; neu

(b)sy'n defnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid o'r fath,

yn euog o dramgwydd os yw'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodiad hwnnw sy'n fwy nag uchafswm y cynhwysiad perthnasol a bennir yng ngholofn 3.

(2Mae unrhyw berson sy'n gosod ar y farchnad neu'n defnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid cydategol yn euog o dramgwydd—

(a)os, o ystyried pa faint ohono yr argymhellir ei ddefnyddio mewn dogn ddyddiol, yw'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a restrir yng ngholofn 1 o Atodiad I sy'n fwy nag uchafswm y cynhwysiad a bennir ar ei gyfer yng ngholofn 3 mewn perthynas â bwydydd anifeiliaid cyflawn; a

(b)nad oes darpariaeth yn ymwneud ag unrhyw fwyd anifeiliaid cydategol yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o'r Atodiad hwnnw.

(3Mae unrhyw berson sydd at y diben o wanedu yn cymysgu unrhyw fwyd anifeiliaid â bwyd anifeiliaid a bennir yng ngholofn 2 o Atodiad I ac sy'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a restrir yng ngholofn 1 o'r Atodiad hwnnw sy'n fwy nag uchafswm y cynhwysiad a bennir ar ei gyfer yng ngholofn 3 yn euog o dramgwydd.

(4Mae unrhyw berson sy'n gosod ar y farchnad neu'n defnyddio unrhyw fwyd anifeiliaid nad yw mewn cyflwr da ac yn ddilys ac o ansawdd marchnadwy yn euog o dramgwydd.

(5At ddibenion paragraff (4) nid yw bwyd anifeiliaid a restrir yng ngholofn 2 o Atodiad I mewn cyflwr da ac yn ddilys ac o ansawdd marchnadwy os yw'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodiad hwnnw sy'n fwy nag uchafswm y cynhwysiad a bennir ar ei gyfer yng ngholofn 3.

(6Rhaid i unrhyw berson sydd ag unrhyw o'r bwydydd anifeiliaid a bennir ym mharagraff (7) yn ei feddiant neu dan ei reolaeth, at ddibenion masnach neu fusnes, os gofyn arolygydd iddo wneud hynny, sicrhau dadansoddiad a'i roi gerbron yr arolygydd er mwyn dangos bod yr arsenig anorganaidd yn y bwyd anifeiliaid a bennir yn y paragraff hwnnw yn llai na 2 ran i'r filiwn.

(7Dyma'r bwydydd anifeiliaid—

(a)soeg cnewyll palmwydd;

(b)bwydydd anifeiliaid a gafwyd drwy brosesu pysgod ac anifeiliaid morol eraill;

(c) blawd gwymon a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy'n deillio o wymon; ac

(ch)bwydydd anifeiliaid cyflawn ar gyfer pysgod neu anifeiliaid sy'n cynhyrchu ffwr.

(8Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â gofyniad a wneir o dan baragraff (6) yn euog o dramgwydd.

RHAN 5Bwydydd anifeiliaid at ddibenion maethiadol penodol

Dehongli'r Rhan hon

10.  Yn y Rhan hon ystyr “yr Atodiad” (“the Annex”) yw Rhan B o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2008/38, fel y'i darllenir gyda pharagraffau 1 a 7 o Ran A o'r Atodiad hwnnw.

Rheolaeth dros fwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethiadol penodol

11.—(1Mae unrhyw berson sy'n gosod bwyd anifeiliaid a fwriedir at ddiben maethiadol penodol ar y farchnad yn euog o dramgwydd os nad yw gofynion perthnasol paragraffau (2) i (9) wedi'u bodloni.

(2O ran unrhyw ddiben maethiadol penodol a bennir yng ngholofn 1 o'r Atodiad—

(a)rhaid i'r bwyd anifeiliaid fod wedi ei fwriadu ar gyfer yr anifeiliaid a bennir gyferbyn â'r diben maethiadol penodol hwnnw yng ngholofn 3 o'r Atodiad; a

(b)rhaid argymell fod y bwyd anifeiliaid yn cael ei ddefnyddio am gyfnod o amser sy'n dod o fewn yr amrediad a bennir gyferbyn â'r diben maethiadol penodol hwnnw yng ngholofn 5 o'r Atodiad.

(3Pan fo grŵp o ychwanegion wedi'u pennu yng ngholofn 2 neu 4 o'r Atodiad, rhaid i'r ychwanegyn/ion fod wedi cael ei awdurdodi neu eu hawdurdodi fel un neu rai sy'n cyfateb i'r nodwedd hanfodol a bennir.

(4Pan fo'n ofynnol rhoi ffynhonnell cynhwysion neu gyfansoddion dadansoddol yng ngholofn 4 o'r Atodiad, rhaid i'r gweithgynhyrchwr wneud datganiad manwl-gywir (er enghraifft enw penodol y cynhwysyn, rhywogaeth yr anifail neu'r rhan o'r anifail) sy'n caniatáu gwerthuso cydymffurfiad y bwyd anifeiliaid â'r nodweddion maethiadol hanfodol cyfatebol.

(5Pan fo'n ofynnol rhoi'r datganiad am sylwedd ei fod hefyd wedi'i awdurdodi fel ychwanegyn yng ngholofn 4 o'r Atodiad a'i fod yn dod gyda'r ymadrodd “total”, rhaid i'r cynnwys a ddatgenir gyfeirio at ba faint sy'n bresennol yn naturiol pan na chaiff unrhyw faint ei ychwanegu, neu, yn ôl y priodoldeb, at gyfanswm y sylwedd sy'n bresennol yn naturiol a pha faint a ychwanegir fel ychwanegyn.

(6Rhaid rhoi'r datganiadau a bennir yng ngholofn 4 o'r Atodiad gyda'r cyfeiriad “if added” pan fo'r cynhwysyn neu'r ychwanegyn wedi cael ei ymgorffori neu ei gynyddu'n benodol er mwyn galluogi cyflawni'r diben maethiadol penodol.

(7Rhaid i'r datganiadau sydd i'w rhoi yn unol â cholofn 4 o'r Atodiad ynghylch cynwysyddion dadansoddol ac ychwanegion fod yn rhai yn ôl pa faint.

(8Pan fo bwyd anifeiliaid wedi'i fwriadu i fodloni mwy nag un diben maethiadol penodol, rhaid iddo gydymffurfio â'r cofnodion cyfatebol yn yr Atodiad.

(9Yn achos bwyd anifeiliaid cydategol a fwriedir at ddiben maethiadol penodol, rhaid rhoi canllawiau ar gydbwysedd y ddogn ddyddiol yn y cyfarwyddiadau defnyddio a geir ar y label.

RHAN 6Gweinyddu a gorfodi

Cosbau am dramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn

12.—(1Mae unrhyw berson a ganfyddir yn euog o dramgwydd o dan reoliad 4(1), 7(1) neu 9(1), (2), (3) neu (4) neu 11(1) yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na thri mis, neu i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, neu i'r ddau; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i gyfnod yn y carchar nad yw'n hwy na thri mis, neu i ddirwy, neu i'r ddau.

(2Mae unrhyw berson a geir yn euog o dramgwydd o dan reoliad 9(8) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Dyletswyddau i orfodi

13.  Mae'n ddyletswydd ar bob awdurdod bwyd anifeiliaid yn ei ardal i weithredu a gorfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn.

RHAN 7Diwygiadau ac addasiadau i Ddeddf Amaethyddiaeth 1970

Diwygiadau ac addasiadau i Ddeddf Amaethyddiaeth 1970

14.—(1Diwygir neu addesir y Ddeddf, yn ôl y digwydd, yn unol â pharagraffau (2) i (9).

(2Yn adran 66 (dehongli Rhan IV)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl y diffiniad o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

Regulation (EC) No 1831/2003” means Regulation (EC) No 1831/2003 of the European Parliament and of the Council on additives for use in animal nutrition;

Regulation (EC) No 767/2009” means Regulation (EC) No 767/2009 of the European Parliament and of the Council on the placing on the market and use of feed, amending European Parliament and Council Regulation (EC) No 1831/2003 and repealing Council Directive 79/373/EEC, Commission Directive 80/511/EEC, Council Directives 82/471/EEC, 83/228/EEC, 93/74/EEC, 93/113/EC and 96/25/EC and Commission Decision 2004/217/EC;; a

(b)yn lle is-adran (2) rhodder y canlynol—

(2) For the purposes of this Part of this Act material shall be treated as sold for use as a fertiliser or feeding stuff whether it is sold to be so used by itself or as an ingredient in something which is to be so used..

(3Yn adran 68 (dyletswydd gwerthwr i roi datganiad statudol)—

(a)ar ôl is-adran (5), rhodder yr is-adran ganlynol—

(5A) Nothing in subsections (1) to (5) applies to anyone to whom the requirements of Article 16 of Regulation (EC) No 1831/2003 (labelling and packaging of feed additives and premixtures) or of Chapter 4 of Regulation (EC) No 767/2009 (labelling, presentation and packaging) apply.; a

(b)ar ôl is-adran (6) ychwaneger yr is-adran a ganlyn—

(7) Failure to comply with the labelling requirements of Article 16 of Regulation (EC) No 1831/2003 or of Chapter 4 of Regulation (EC) No 767/2009 shall not invalidate a contract of sale, but such labelling shall, regardless of any contract or notice to the contrary, have effect as a warranty by the person who gives it that the particulars contained in it are correct..

(4Yn adran 69 (marcio deunydd sydd wedi'i baratoi at ei werthu), yn is-adran (1) hepgorer y geiriau “or feeding stuff”.

(5Yn adran 70 (defnyddio enwau neu ymadroddion ag iddynt ystyron rhagnodedig)—

(a)mae is-adran (1)(a) i'r graddau y mae'n gymwys i fwydydd anifeiliaid yn gymwys megis petai'r ymadrodd “under Regulation (EC) No. 767/2009” wedi'i roi yn lle'r ymadrodd “by regulations made for the purposes of this section”; a

(b)ar ôl is-adran (5) ychwaneger yr is-adran a ganlyn—

(6) Nothing in subsections (2) to (4) of this section shall apply to anyone to whom the labelling requirements of Regulation (EC) No. 767/2009 apply..

(6Yn adran 71 (rheidrwydd i roi manylion am nodweddion penodol os honnir eu bod yn bresennol)—

(a)mae is-adran (4) i'r graddau y mae'n gymwys i fwydydd anifeiliaid yn gymwys megis petai—

(i)yr ymadrodd “the requirements of Article 13 of Regulation (EC) No 767/2009” wedi'i roi yn lle'r ymadrodd “subsection (1) of this section”; a

(ii)“that Article” wedi'u rhoi yn lle “that subsection”;

(b)ar ôl is-adran (5) ychwaneger yr is-adran a ganlyn—

(6) Nothing in subsections (1) to (3) of this section shall apply to anyone to whom Article 13 (claims) of Regulation (EC) No 767/2009 applies..

(7Mae adrannau 73 a 73A yn peidio â chael effaith.

(8Yn adran 74 (terfynau amrywio) ar ôl is-adran (2) ychwaneger yr is-adran a ganlyn—

(3) Nothing in subsection (2) shall apply to anyone to whom Article 11(5) and Annex IV (permitted tolerances) of Regulation (EC) No 767/2009 applies..

(9Yn adran 74A, nid yw is-adran (3) yn gymwys i reoliadau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid.

RHAN 8Diwygiadau i Reoliadau

Diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005

15.—(1Diwygir Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005(14) yn unol â pharagraffau (2) i (6).

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—

(a)yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniad a ganlyn—

  • ystyr “y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid” (“the Animal Feed Regulations”) yw Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010;; a

(b)ar ôl y diffiniad o “Rheoliad 183/2005” mewnosoder y diffiniad a ganlyn—

(3Ym mharagraff (2)(b) o reoliad 15 (tramgwyddau, cosbau a gorfodi) hepgorer y geiriau “sy'n cynhyrchu bwyd”.

(4Yn lle paragraff (13) o reoliad 24 (pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig) rhodder y paragraff a ganlyn—

(13) Yn y rheoliad hwn—

(a)mae i “bwyd anifeiliaid cyfansawdd” (“compound feeding stuff”) yr un ystyr ag sydd i “compound feed” fel y'i diffinnir yn Erthygl 3(1)(h) o Reoliad 767/2009; a

(b)mae i “bwyd anifeiliaid a fwriedir at ddiben maethiadol penodol” (“feeding stuff which is intended for a particular nutritional purpose”) yr un ystyr ag sydd i “feed intended for particular nutritional purposes” fel y'i diffinnir yn Erthygl 3(1)(o) o Reoliad 767/2009..

(5Yn y testun Saesneg, ym mharagraff (1)(b) o reoliad 30 (y weithdrefn yn ymwneud â samplau i'w dadansoddi), ar ôl y gair “his” mewnosoder y geiriau “or her”.

(6Ym mhob un o'r rheoliadau 35(1) a (2), 36(1) a (3) a 37(1) a (2) ar ôl y geiriau “Rheoliadau hyn” mewnosoder “neu'r Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid”.

(7Yn Atodlen 1 (cyfraith bwyd anifeiliaid benodedig)—

(a)yn lle'r ymadrodd “Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006” rhodder “Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010”; a

(b)ychwaneger ar y diwedd “Rheoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar osod ar y farchnad a defnyddio bwyd anifeiliaid.”.

Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

16.—(1Diwygir Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(15) yn unol â pharagraffau (2) i (5).

(2Ym mharagraff (4)(a) o reoliad 2 (dehongli) hepgorer y geiriau “neu 7”.

(3Yn nhestun Cymraeg paragraff (2) o reoliad 32 (hysbysiadau yn unol ag Erthyglau 18 ac 19 o Reoliad 882/2004) yn lle'r geiriau “Erthygl 19(1)(a) a (b)” rhodder y geiriau “Erthygl 19(1)(a) neu (b)”.

(4Ym mharagraff 1(a) o reoliad 41 (tramgwyddau a chosbau) mewnosoder y gair “mewnforio” rhwng y geiriau “darpariaethau” a “penodedig”.

(5Ym mharagraff (dd) o Atodlen 2 (diffiniad o gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol), yn lle'r ymadrodd “Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006” rhodder “Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2010”.

Dirymiadau

17.  Dirymir y Rheoliadau neu'r rhannau ohonynt a restrir yn Atodlen 2.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

25 Hydref 2010

Rheoliad 4

ATODLEN 1Darpariaethau Penodedig Rheoliad 767/2009

Y Ddarpariaeth benodedigY pwnc
Erthygl 4, fel y'i darllenir gydag Atodiad I a chyda'r Atodiad i Reoliad 242/2010Gofynion diogelwch cyffredinol a gofynion eraill sydd i'w bodloni pan osodir bwyd anifeiliaid ar y farchnad neu pan ddefnyddir ef
Erthygl 5(1)Ymestyn y gofynion mewn perthynas â bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd mewn deddfwriaeth arall fel ei fod yn gymwys i fwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd
Erthygl 5(2)Rhwymedigaeth ar berson sy'n gyfrifol am labelu i beri fod gwybodaeth ar gael i'r awdurdod cymwys
Erthygl 6(1), fel y'i darllenir gydag Atodiad IIIGwaharddiad neu gyfyngiad ar farchnata na defnyddio deunyddiau penodol at ddibenion maethu anifeiliaid
Erthygl 8Rheolaethau ar y lefelau o ychwanegion mewn bwydydd anifeiliaid
Erthygl 9Rheolaethau ar farchnata bwydydd anifeiliaid at ddibenion maethiadol penodol
Erthygl 11, fel y'i darllenir gydag Atodiadau II a IV a chyda'r Atodiad i Reoliad 242/2010Rheolau ac egwyddorion sy'n llywodraethu labelu a chyflwyno bwyd anifeiliaid
Erthygl 12Dynodi'r person sy'n gyfrifol am labelu a rhwymedigaethau a chyfrifoldebau'r person hwnnw
Erthygl 13(1)Amodau cyffredinol ar honiadau ynghylch nodweddion neu swyddogaethau bwyd anifeiliaid wrth ei labelu neu ei gyflwyno
Erthygl 13(2) a (3)Amodau arbennig sy'n gymwys i honiadau ynghylch gwneud yr eithaf o'r maethiad ac ynghylch cynnal neu warchod yr amodau ffisiolegol
Erthygl 14(1) a (2)Y gofynion ar gyfer cyflwyno'r manylion labelu gorfodol
Erthygl 15, fel y'i darllenir gydag Atodiad VI a VII ac Erthygl 21Gofynion labelu gorfodol cyffredinol ar gyfer deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwydydd anifeiliaid cyfansawdd
Erthygl 16, fel y'i darllenir gydag Atodiad II a V ac Erthygl 21 a chyda'r Atodiad i Reoliad 242/2010Gofynion labelu penodol ar gyfer deunyddiau bwyd anifeiliaid
Erthygl 17(1) a (2) fel y'i darllenir gydag Atodiad II, VI a VII ac Erthygl 21Gofynion labelu penodol ar gyfer bwydydd anifeiliaid cyfansawdd
Erthygl 18Gofynion labelu ychwanegol ar gyfer bwyd anifeiliaid at ddibenion maethiadol penodol (bwydydd anifeiliaid dietegol)
Erthygl 19Gofynion labelu ychwanegol ar gyfer bwyd anifeiliaid anwes
Erthygl 20(1) fel y'i darllenir gydag Atodiad VIIIGofynion ychwanegol ar gyfer labelu bwyd anifeiliaid nad yw'n cydymffurfio, megis bwyd anifeiliaid sy'n cynnwys deunyddiau a halogwyd
Erthygl 23Gofynion sy'n ymwneud â phecynnu a selio deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwydydd anifeiliaid cyfansawdd sydd i'w rhoi ar y farchnad
Erthygl 24(5)Gofyniad os defnyddir enw deunydd bwyd anifeiliaid a restrir yn y Catalog Cymunedol o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid, bod rhaid cydymffurfio â holl ddarpariaethau perthnasol y Catalog
Erthygl 24(6)Rhwymedigaeth ar berson sy'n gosod ar y farchnad am y tro cyntaf ddeunydd bwyd anifeiliaid nad yw wedi'i restru yn y Catalog Cymunedol i roi hysbysiad o'i ddefnyddio
Erthygl 25(4)Gofyniad os dangosir y Codau Cymunedol ar arfer labelu da ar labelu, bod rhaid cydymffurfio â holl ddarpariaethau perthnasol y Codau

Rheoliad 17

ATODLEN 2Dirymiadau

1.  Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006(16)

2.  Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid a Phorthiant (Samplu a Dadansoddi) (Cymru) 2006(17)

3.  Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2006(18)

4.  Rheoliad 2 o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2006 a'r Atodlenni iddynt(19)

5.  Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2007(20)

6.  Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2008(21)

7.  Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2009(22)

8.  Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2009(23)

9.  Rheoliadau 11, 14, 15 a 25 o Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi a Sylweddau Annymunol Penodedig) (Cymru) 2010 ac Atodlenni 2, 3 a 4 iddynt(24)

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru—

(a)yn dirymu Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 fel y'u diwygiwyd ac yn ailddeddfu rhai o'u darpariaethau penodol;

(b)yn darparu ar gyfer rhoi ar waith a gorfodi Rheoliad UE gynhwysfawr newydd ar farchnata a defnyddio bwyd anifeiliaid y manylir arno ym mharagraff 2, ac ar gyfer gorfodi'n barhaus y Rheoliad UE ar ychwanegion bwyd anifeiliaid a grybwyllir ym mharagraff 3;

(c)yn cynnal gweithrediad Cyfarwyddebau UE sy'n ymwneud â bwydydd anifeiliaid dietetig a llygryddion mewn bwyd anifeiliaid;

(ch)yn rhagnodi tramgwyddau a chosbau am dorri'r Rheoliadau;

(d)yn gwneud diwygiadau ac addasiadau i Ran IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970; ac

(dd)yn diwygio Rheoliadau penodol eraill.

2.  Yn Rhan 2, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer rhoi ar waith Reoliad (EC) Rhif 767/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar osod ar y farchnad a defnyddio bwyd anifeiliaid, sy'n diwygio Rheoliad Senedd Ewrop a'r Cyngor (EC) Rhif 1831/2003 ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 80/511/EEC, Cyfarwyddebau'r Cyngor 82/471/EEC, 83/228/EEC, 93/74/EEC, 93/113/EC a 96/25/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC (OJ Rhif L229, 1.9.2009, t.1), (rheoliadau 3-5 ac Atodlen 1). Mae cyfeiriadau yn rheoliad 4(2) at yr Atodiad i Gyfarwyddeb 82/475 ac yn Atodlen 1 at yr Atodiad i Reoliad 242/2010 neu at yr Atodiadau i Reoliad 767/2009 yn gyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(3)).

3.  Yn Rhan 3, mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer parhau i roi ar waith Reoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion i'w defnyddio i roi maeth i anifeiliaid (OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.29), (rheoliadau 6 a 7).

4.  Yn Rhan 4, mae'r Rheoliadau yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwydydd anifeiliaid (OJ Rhif L140, 30.5.2002, t.10), (rheoliadau 8 a 9). Diwygiwyd Cyfarwyddeb 2002/32 eisoes amryw o weithiau, ac mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i'r Gyfarwyddeb hon yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir ymhellach o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(3)).

5.  Yn Rhan 5 mae'r Rheoliadau yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/38/EC sy'n sefydlu rhestr o'r defnydd y bwriedir ei wneud o fwydydd anifeiliaid at ddibenion maethiadol penodol (OJ Rhif L62, 6.3.2008, t.9), (rheoliadau 10 ac 11). Mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i'r Gyfarwyddeb hon yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(3)).

6.  Mae Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn yn darparu bod torri gofynion penodol yn y Rheoliadau hyn yn dramgwydd, yn gosod uchafswm y gosb sy'n dilyn dyfarniad o euogrwydd o drosedd o'r fath ac yn pennu awdurdodau bwyd anifeiliaid lleol sydd â'r ddyletswydd i orfodi'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliadau UE a grybwyllir uchod (rheoliadau 12 a 13).

7.  Yn Rhan 7, mae'r Rheoliadau'n gwneud diwygiadau neu addasiadau i Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 pan fyddai'r adrannau perthnasol o'r Ddeddf fel arall yn dyblygu, yn dehongli neu'n anghydnaws â darpariaethau Rheoliad 767/2009 (rheoliad 14).

8.  Yn Rhan 8, mae'r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau canlyniadol a diwygiadau eraill i Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005 ac i Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (rheoliadau 15 ac 16).

9.  Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1970 p.40. Mae adran 66(1) yn cynnwys diffiniadau o'r ymadroddion “the Ministers”, “prescribed” a “regulations”; Diwygiwyd y diffiniad o “the Ministers” gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), Atodlen 5, paragraff 1. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32). Mewnosodwyd adran 74A gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p.68), Atodlen 4, paragraff 6. Diwygiwyd adrannau 66(1) ac 84 gan O.S. 2004/3254. Diwygiwyd adran 66(1) hefyd gan O.S. 2010/2287 (Cy.199).

(2)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006, p.51) ac fe'i diwygiwyd gan Ran 1 o'r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (2008 p.7).

(3)

O.S. 2005/2766. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y dynodiad hwn a'r dynodiad o dan O.S. 2005/1971 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(6)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468 mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(7)

OJ Rhif L 213, 21.7.1982, t.27. Diwygiwyd y Gyfarwyddeb hon ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 98/67/EC (OJ Rhif L261, 24.9.1998, t.10).

(8)

OJ Rhif L140, 30.5.2002, t.10. Diwygiwyd y Gyfarwyddeb hon ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/6/EU (OJ Rhif L37, 10.2.2010, t.29).

(9)

OJ Rhif L62, 6.3.2008, t.9. Diwygiwyd y Gyfarwyddeb hon ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/82 (OJ Rhif L202, 31.7.2008, t.48).

(10)

OJ Rhif L268, 18.10.2003, t.29. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 767/2009.

(11)

OJ Rhif L229, 1.9.2009, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 568/2010 (OJ Rhif L163, 30.6.2010, t.30).

(12)

OJ Rhif L77, 24.3.2010 t.17.

(13)

Mae categorïau (d) ac (e) o Erthygl 6(1) yn cynnwys yn eu trefn ychwanegion sootechnegol a chocsidiostatau a histomonostatau. Mae'r grwpiau swyddogaethol a restrir ym mharagraffau 4(a), (b) ac (c) o Atodiad I yn cynnwys cadwolion, gwrthocsidanau ac emylsiynion.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources