Search Legislation

Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 297 (Cy.50) (C.13)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2011

Gwnaed

9 Chwefror 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 47(1), 52(3) a 52(6) o Ddeddf Addysg Uwch 2004(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2011.

(2Yn y Gorchymyn hwn:

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(3);

  • ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Addysg Uwch 2004.

Darpariaethau sy'n dod i rym

2.  Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 yn dod i rym ar 11 Chwefror 2011—

(a)adran 22 mewn perthynas â Chymru;

(b)adran 28(6) i'r graddau y mae'n galluogi rheoliadau i gael eu gwneud;

(c)adrannau 33 i 36 mewn perthynas â Chymru i'r graddau y maent yn galluogi rheoliadau i gael eu gwneud;

(ch)adran 38 i'r graddau y mae'n galluogi rheoliadau i gael eu gwneud;

(d)adran 39 mewn perthynas â Chymru i'r graddau y mae'n galluogi rheoliadau i gael eu gwneud;

(dd)adran 41 mewn perthynas â Chymru.

3.  Daw darpariaethau canlynol Deddf 2004 i rym ar 31 Mawrth 2011—

(a)adran 27;

(b)adran 28(1) i (5);

(c)adran 28(6) i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(b);

(ch)adran 30(2) a (3);

(d)adran 32(4);

(dd)adran 38 i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(b).

4.  Daw darpariaethau canlynol Deddf 2004 i rym ar 31 Mawrth 2011 mewn perthynas â Chymru—

(a)adran 29;

(b)adran 30(1);

(c)adrannau 33 i 36 i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(c);

(ch)adran 39 i'r graddau nad yw wedi ei chychwyn gan erthygl 2(d);

(d)adran 49 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 6 a nodir ym mharagraffau (e) ac (f);

(dd)adran 50 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 7 a nodir ym mharagraffau (ff) ac (g);

(e)yn Atodlen 6, paragraff 7, hepgor adran 26(3), (4) a (6) i (11) o Ddeddf 1998;

(f)yn Atodlen 6, paragraff 8;

(ff)yn Atodlen 7, diddymu adran 26(3), (4) a (6) i (11) o Ddeddf 1998;

(g)yn Atodlen 7, diddymu yn adran 28(1) o Ddeddf 1998 Act y diffiniadau o “fees” a “publicly-funded institution”.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

9 Chwefror 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Hwn yw'r trydydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Addysg Uwch 2004 (“Deddf 2004”). Mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym ddarpariaethau ynghylch amodau y mae Gweinidogion Cymru yn eu gosod er mwyn rheoli ffioedd mewn sefydliadau yng Nghymru sy'n cael grantiau oddi wrth Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Mae'r darpariaethau sydd yn Rhan 3 o Ddeddf 2004 ac sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn (pan fônt yn gymwys o ran Cymru) fel a ganlyn:

  • adran 22, sy'n esbonio ystyr cynllun a gymeradwywyd o ran Cymru;

  • adran 27, sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru osod amodau sydd, mewn perthynas â grantiau a wneir i gorff cyllido, yn ei gwneud yn ofynnol i'r corff cyllido osod amod mewn perthynas â grantiau a benthyciadau y mae'n eu rhoi i sefydliadau perthnasol;

  • adran 28, sy'n nodi'r hyn sy'n ofynnol o dan amod a osodir gan gorff cyllido ar sefydliadau perthnasol;

  • adran 29, sy'n cynnwys darpariaethau atodol;

  • adran 30, sy'n esbonio ystyr “relevant authority” ac sy'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddynodi person i fod yn awdurdod perthnasol mewn perthynas â Chymru;

  • adran 32(4), sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod perthnasol mewn perthynas â Chymru roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru;

  • adrannau 33 i 36, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer cynnwys cynlluniau ffioedd, eu cymeradwyo, eu hyd ac ar gyfer eu hamrywio;

  • adran 38, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi cynlluniau ffioedd;

  • adran 39, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer adolygu penderfyniadau a wneir gan yr awdurdod perthnasol mewn perthynas â chynlluniau ffioedd;

  • adran 41, sy'n esbonio ystyr termau penodol a ddefnyddir yn Rhan 3 o Ddeddf 2004.

Mae erthygl 2 yn dwyn darpariaethau perthnasol i rym ar 11 Chwefror 2011 i alluogi rheoliadau i gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru.

Mae erthyglau 3 a 4 yn dwyn gweddill darpariaethau Rhan 3 o Ddeddf 2004 i rym ar 31 Mawrth 2011 at ddibenion sy'n weddill a phan fo'n gymwys, mewn perthynas â Chymru.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaethY dyddiad cychwynO.S. Rhif
Adran 10(2)7 Gorffennaf 20052005/1833 (Cy. 149)
Adran 111 Rhagfyr 20042004/3144 (Cy. 272)
Adran 121 Rhagfyr 20042004/3144 (Cy. 272)
Adran 131 Rhagfyr 20042004/3144 (Cy. 272)
Adran 141 Rhagfyr 20042004/3144 (Cy. 272)
Adran 151 Rhagfyr 20042004/3144 (Cy. 272)
Adran 161 Rhagfyr 20042004/3144 (Cy. 272)
Adran 171 Rhagfyr 20042004/3144 (Cy. 272)
Adran 181 Rhagfyr 20042004/3144 (Cy. 272)
Adran 201 Ionawr 20052004/3144 (Cy. 272)
Adran 211 Rhagfyr 20042004/3144 (Cy. 272)
Adran 44(1) a (2)7 Gorffennaf 20052005/1833 (Cy. 149)
Adran 44(3)1 Medi 20062005/1833 (Cy. 149)
Adran 44(4)23 Mehefin 20062005/1833 (Cy. 149)
Adran 44(5) a (6)7 Gorffennaf 20052005/1833 (Cy. 149)
Adran 461 Ionawr 20052004/3144 (Cy. 272)
Adran 49 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 6, paragraff 7, sy'n hepgor adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19987 Gorffennaf 20052005/1833 (Cy. 149)
Adran 50 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 7 sy'n diddymu adran 206 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 ac yn adran 207(1), paragraff (c) a'r gair “or” sy'n dod yn union o'i flaen1 Ionawr 20052004/3144 (Cy. 272)
Adran 50 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 7 sy'n diddymu adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19987 Gorffennaf 20052005/1833 (Cy. 149)
Atodlen 11 Rhagfyr 20042004/3144 (Cy. 272)
Atodlen 21 Rhagfyr 20042004/3144 (Cy. 272)
Atodlen 31 Rhagfyr 20042004/3144 (Cy. 272)
Atodlen 41 Rhagfyr 20042004/3144 (Cy. 272)
Atodlen 6, paragraff 7, hepgor adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19987 Gorffennaf 20052005/1833 (Cy. 149)
Yn Atodlen 7, diddymu yn Neddf Diwygio Addysg 1988 adran 206, ac yn adran 207(1), diddymu paragraff (c) a'r gair “or” sy'n dod yn union o'i flaen1 Ionawr 20052004/3144 (Cy. 272)
Yn Atodlen 7, diddymu adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19987 Gorffennaf 20052005/1833 (Cy. 149)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2004 wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol a ganlyn: O.S. 2004/2781, O.S. 2004/3255, O.S. 2005/767 ac O.S. 2006/51. Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2004 wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â'r Alban gan O.S.A. 2005/33.

Gweler hefyd adran 52(1) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym adeg pasio Deddf 2004.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 47(1), 52(3) a 52(6) i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources