Search Legislation

Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 3046 (Cy.321) (C.116)

IECHYD MEDDWL, CYMRU A LLOEGR

Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2011

Gwnaed

18 Rhagfyr 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010(1).

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2011.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

(a)ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010;

(b)mae i “claf cymwys” yr un ystyr a roddir i “qualifying patient” yn adran 130C o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(2);

(c)mae i “cleifion anffurfiol cymwys Cymru” yr un ystyr a roddir i “Welsh qualifying informal patients” yn adran 130J o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(3).

Darpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 3 Ionawr 2012

2.  Mae darpariaethau canlynol y Mesur yn dod i rym ar 3 Ionawr 2012—

(a)Adran 31 (eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol: Cymru) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;

(b)Adran 32 (darpariaeth bellach ynghylch eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol ar gyfer cleifion cymwys Cymru dan orfodaeth);

(c)Adran 34 (eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol: pwerau a dyletswyddau atodol) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;

(ch)Adran 35 (cleifion cymwys Cymru dan orfodaeth);

(d)Adran 37 (dyletswydd i roi gwybodaeth am eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol i gleifion cymwys Cymru dan orfodaeth);

(dd)Adran 39 (cymhwyso cod ymarfer Deddf Iechyd Meddwl 1983 i eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol Cymru) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;

(e)Adran 40 (gweithdrefnau ar gyfer gwneud rheoliadau o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;

(f)Adran 44 (codau ymarfer);

(ff)Adran 53(1) (diwygiadau canlyniadol etc) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;

(g)Adran 54 (diddymiadau) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru;

(ng)Atodlen 1 (diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru; ac

(h)Atodlen 2 (diddymiadau) ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â chleifion anffurfiol cymwys Cymru.

Darpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 2 Ebrill 2012

3.  Mae darpariaethau canlynol y Mesur yn dod i rym ar 2 Ebrill 2012—

(a)Adran 31 (eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol: Cymru) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;

(b)Adran 33 (darpariaeth bellach ynghylch eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol ar gyfer cleifion anffurfiol cymwys Cymru);

(c)Adran 34 (eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol: pwerau a dyletswyddau atodol) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;

(ch)Adran 36 (cleifion anffurfiol cymwys Cymru);

(d)Adran 38 (dyletswydd i roi gwybodaeth am eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol i gleifion anffurfiol cymwys Cymru);

(dd)Adran 39 (cymhwyso cod ymarfer Deddf Iechyd Meddwl 1983 i eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol Cymru) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;

(e)Adran 40 (gweithdrefnau ar gyfer gwneud rheoliadau o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;

(f)Adran 53(1) (diwygiadau canlyniadol etc) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;

(ff)Adran 54 (diddymiadau) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn;

(g)Atodlen 1 (diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn; ac

(ng)Atodlen 2 (diddymiadau) i'r graddau nad yw eisoes wedi cychwyn.

Darpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 8 Mai 2012

4.  Mae darpariaethau canlynol y Mesur yn dod i rym ar 8 Mai 2012—

(a)Adran 1 (ystyr “partneriaid iechyd meddwl lleol”);

(b)Adran 2 (cynlluniau ar y cyd ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol);

(c)Adran 4 (methiannau i gytuno ar gynlluniau);

(ch)Adran 5 (ystyr “gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol”);

(d)Adran 11 (cynnwys cynlluniau o dan y Rhan hon mewn cynlluniau plant a phobl ifanc);

(dd)Adran 43 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 1, 2, 4, 5 ac 11 o'r Mesur; ac

(e)Adran 45 (Rhan 1: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol).

Darpariaeth Drosiannol

5.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo claf cymwys yng Nghymru yn derbyn cymorth o dan drefniadau a wnaed o dan adran 130A o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

(2O 3 Ionawr 2012 ymlaen mae'r cymorth hwnnw i gael ei drin fel petai wedi cael ei roi o dan drefniadau a wnaed o dan adran 130E o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

18 Rhagfyr 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud o dan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”).

Hwn yw'r gorchymyn cychwyn cyntaf i gael ei wneud o dan y Mesur. Mae'n cychwyn Rhan 4 o'r Mesur sy'n diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983 (“Deddf 1983”) mewn perthynas ag Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol (“EIMAau”). Bydd Deddf 1983, fel y'i diwygiwyd gan Ran 4, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau bod cymorth yn cael ei ddarparu gan EIMAau i ddau grŵp o gleientiaid: cleifion cymwys Cymru dan orfodaeth a chleifion anffurfiol cymwys Cymru.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn cychwyn rhai o ddarpariaethau Rhan 1 o'r Mesur sy'n ei gwneud yn ofynnol i bartneriaid iechyd meddwl lleol gymryd camau rhesymol i gytuno ar gynllun ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, ac sy'n cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru pan fydd methiant i gytuno ar gynllun o'r fath.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn cychwyn adran 44 o'r Mesur sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i baratoi cod ymarfer fel canllaw ar gyfer (i) awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol, cydgysylltwyr gofal ac unrhyw bersonau eraill o ran eu swyddogaethau o dan y Mesur, a (ii) unrhyw bersonau mewn cysylltiad â gweithredu darpariaethau'r Mesur.

Mae erthygl 2 yn rhestru'r darpariaethau a fydd yn dod i rym ar 3 Ionawr 2012 ac at ba ddibenion. Mae erthygl 3 yn rhestru'r darpariaethau a fydd yn dod i rym ar 2 Ebrill 2012 ac at ba ddibenion.

Mae erthygl 4 yn rhestru'r darpariaethau, sy'n ffurfio rhan o Ran 1 o'r Mesur, a fydd yn dod i rym ar 8 Mai 2012.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaeth drosiannol fel bod y rhai hynny sydd yn derbyn cymorth o dan drefniadau a wnaed o dan adran 130A o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn cael eu trin, o 3 Ionawr 2012 ymlaen, fel petaent yn derbyn cymorth o dan drefniadau a wnaed o dan adran 130E o'r Ddeddf honno.

Dyma'r gorchymyn cychwyn cyntaf, ond gweler hefyd adran 55(1) o'r Mesur am y darpariaethau a ddaeth i rym ar y dyddiad ddau fis ar ôl i'r Mesur gael ei gymeradwyo gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

(2)

1983 p.20. Mewnosodwyd adran 130C gan adran 30 o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (p.12).

(3)

Mewnosodwyd adran 130J gan adran 36 o'r Mesur.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources