Search Legislation

Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 829 (Cy.124) (C.33)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2011

Gwnaed

16 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 269(3) ac (8) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(1):

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2011.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.

Y diwrnod penodedig

2.—(11 Ebrill 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru—

(a)adran 49 (personau a gedwir yn gaeth mewn llety ieuenctid: cymhwyso darpariaethau) at ddibenion—

(i)adran 50 i'r graddau y dygir hi i rym gan is-baragraff (b); a

(ii)adran 52 o'r Ddeddf;

(b)adran 50 (personau a gedwir yn gaeth mewn llety ieuenctid: darpariaeth bellach) i'r graddau y mae'n mewnosod y darpariaethau a ganlyn yn Neddf Addysg 1996—

  • adran 562A(3);

  • adran 562B(1) i (3);

  • adran 562C(1) a (2);

  • adran 562F(1) i (6) ac (11);

  • adran 562I; ac

  • adran 562J;

(c)adran 51 (cadw plentyn neu person ifanc: rhoi gwybod i awdurdodau lleol);

(ch)adran 52 (rhyddhad plentyn neu person ifanc sy'n cael ei gadw sydd ag anghenion addysgol arbennig); a

(d)paragraffau 54 i 56 o Atodlen 6.

Huw Lewis

Y Dirprwy Weinidog dros Blant, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru.

16 Mawrth 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw'r trydydd Gorchymyn Cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (“Deddf 2009”), sy'n dwyn darpariaethau penodedig yn Neddf 2009 i rym i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru.

Mae adrannau 48 i 52 o Ddeddf 2009 yn gwneud darpariaeth o ran addysg a hyfforddiant plant a phobl ifanc sydd dan gadwad mewn llety ieuenctid perthnasol.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu mai 1 Ebrill 2011 fydd y diwrnod y caiff adrannau 49 a 50 o Ddeddf 2009 eu dwyn i rym yn rhannol.

Mae adran 49 o Ddeddf 2009 yn gwrth-droi effaith adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”) i blant a phobl ifanc sydd dan gadwad mewn llety ieuenctid perthnasol (fel y bydd swyddogaethau awdurdodau lleol, Gweinidogion Cymru, a rhieni o dan Ddeddf 1996 yn gymwys yn gyffredinol tuag at bersonau o'r fath). Deuir ag adran 49 i rym at ddibenion y diwygiadau i Ddeddf 1996 sydd wedi eu cynnwys yn adran 50 o Ddeddf 2009 ac sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn.

Mae adran 50 o Ddeddf 2009 yn mewnosod nifer o adrannau yn Neddf 1996. Deuir â rhai o'r darpariaethau hyn i rym fel a ganlyn. Mae adran 562A(3) yn diffinio person sydd dan gadwad at ddibenion Deddf 1996. Mae adran 562B(1) i (3) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cartref (sef yr awdurdod lleol lle y mae person yn byw fel arfer) gymryd camau i roi hwb i gyflawni'r potensial i ddysgu sydd gan berson sydd dan gadwad. Mae adran 562C(1) a (2) yn gwneud darpariaeth o ran datganiadau o anghenion addysgol arbennig yn ystod y cyfnod y caiff plentyn ei roi dan gadwad. Mae adran 562F(1) i (6) ac (11) yn gwneud darpariaeth ynghylch rhannu gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag addysg ac sy'n ymwneud â pherson sydd dan gadwad. Mae adran 562I yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau Gweinidogion Cymru wrth gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â phersonau sy'n cael eu cadw'n gaeth mewn llety i bobl ieuenctid ac mae adran 562J yn cynnwys diffiniadau.

Mae'r Gorchymyn hefyd hwn yn pennu mai 1 Ebrill 2011 fydd y diwrnod y caiff adran 51 o Ddeddf 2009 eu dwyn i rym. Mae adran 51 o Ddeddf 2009 yn diwygio Deddf Troseddau ac Anhrefn 1998 er mwyn gosod dyletswydd ar dîmau troseddau ieuenctid i roi gwybod i awdurdodau lleol penodol pan fydd person yn cael ei roi dan gadwad mewn llety ieuenctid perthnasol, ei drosglwyddo iddo neu ei ryddhau ohono.

Mae'r Gorchymyn hefyd yn pennu mai 1 Ebrill 2011 fydd y diwrnod y caiff adran 52 o Ddeddf 2009 eu dwyn i rym. Mae adran 52 yn mewnosod adran 312A newydd yn Neddf 1996 sy'n gwneud darpariaeth ynghylch datganiadau o anghenion addysgol arbennig pan ryddheir rhywun sy'n cael ei gadw ac sydd hefyd yn diwygio adran 328(5) o Ddeddf 1996 i'w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol adolygu datganiad pan gaiff plentyn ei ryddhau o fod dan gadwad.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r darpariaethau yn Neddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (“Deddf 2009”) yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2009 wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr yn unig gan yr Offerynnau Statudol a ganlyn: O.S. 2010/303, O.S. 2011/200.

Gweler hefyd adran 269(1) o Ddeddf 2009 am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 12 Tachwedd 2009 (diwrnod pasio Deddf 2009).

Gweler hefyd adran 269(2) o Ddeddf 2009 am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 12 Ionawr 2010 (ar ddiwedd deufis yn dechrau ar ddyddiad pasio'r Ddeddf).

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif yr O.S.
adran 174 (yn rhannol)1 Tachwedd 2010O.S. 2010/2413 (Cy. 207)
adran 192 (yn rhannol)1 Tachwedd 2010O.S. 2010/2413 (Cy. 207)
adran 20512 Ionawr 2010 (Cy. 292)O.S. 2009/3341
adran 2591 Hydref 2010O.S. 2010/2413 (Cy. 207)
adran 266 (yn rhannol)1 Tachwedd 2010O.S. 2010/2413 (Cy. 207)
Atodlen 12 (yn rhannol)1 Tachwedd 2010O.S. 2010/2413 (Cy. 207)
Atodlen 1412 Ionawr 2010 (Cy. 292)O.S. 2009/3341
Atodlen 16 (yn rhannol)1 Tachwedd 2010 yn rhannol ac 1 Hydref 2010 yn rhannolO.S. 2010/2413 (Cy. 207)

Mae'r darpariaethau canlynol yn Neddf 2009 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynOS. Rhif
adran 16 Ebrill 2011O.S. 2011/200
adrannau 3 i 66 Ebrill 2011O.S. 2011/200
adrannau 13 i 161 Mawrth 2011O.S. 2011/200
adran 176 Ebrill 2011O.S. 2011/200
adrannau 23 i 2730 Medi 2010O.S. 2010/2374
adrannau 32 i 361 Awst 2011 (o ran Cymru) a 6 Ebrill 2011 (o ran Lloegr)O.S. 2011/200
adran 376 Ebrill 2011O.S. 2011/200
adran 381 Mawrth 2011O.S. 2011/200
adran 406 Ebrill 2010 (yn rhannol) a 6 Ebrill 2011 (at y dibenion sy'n weddill)O.S. 2010/303
adrannau 41 i 441 Ebrill 2010O.S. 2010/303
adrannau 46 a 471 Ebrill 2010O.S. 2010/303
adrannau 53 a 541 Ebrill 2010O.S. 2010/303
adrannau 55 a 5612 Ionawr 2010O.S. 2009/3317
adran 571 Ebrill 2010O.S. 2010/303
adran 59 (yn rhannol)12 Ionawr 2010 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/303
adrannau 60 i 901 Ebrill 2010O.S. 2010/303
adrannau 100 i 1041 Ebrill 2010O.S. 2010/303
adran 1056 Ebrill 2011O.S. 2011/200
adran 106 i 1111 Ebrill 2010O.S. 2010/303
adran 112 (yn rhannol)12 Ionawr 2010 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/303
adran 113 i 1241 Ebrill 2010O.S. 2010/303
adran 12512 Ionawr 2010 (yn rhannol) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill)O.S. 2009/3317 ac O. S. 2010/303
adran 12612 Ionawr 2010O.S. 2009/3317
adrannau 127 i 1441 Ebrill 2010O.S. 2010/1151
adran 1471 Ebrill 2010O.S. 2010/1151
adran 148 (yn rhannol)1 Ebrill 2010O.S. 2010/1151
adrannau 149 i 1541 Ebrill 2010O.S. 2010/1151
adrannau 156 a 1571 Ebrill 2010O.S. 2010/1151
adrannau 158 (yn rhannol)1 Ebrill 2010O.S. 2010/1151
adran 159 (yn rhannol)1 Ebrill 2010O.S. 2010/1151
adran 160 (yn rhannol)1 Ebrill 2010O.S. 2010/1151
adrannau 161 i 1731 Ebrill 2010O.S. 2010/1151
adran 174 (yn rhannol)1 Ebrill 2010O.S. 2010/1151
adrannau 175 i 1771 Ebrill 2010O.S. 2010/1151
adran 17812 Ionawr 2010 (yn rhannol) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill)O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/1151
adran 1791 Ebrill 2010O.S. 2010/1151
adran 180 (yn rhannol)1 Ebrill 2010O.S. 2010/1151
adrannau 181 i 1911 Ebrill 2010O.S. 2010/1151
adran 192 (yn rhannol)1 Ebrill 2010O.S. 2010/1151
adran 19312 Ionawr 2010 (yn rhannol ) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill)O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/303
adran 19426 Chwefror 2010 (yn rhannol) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill)O.S. 2010/303
adran 19512 Ionawr 2010O.S. 2009/3317
adrannau 196 a 1971 Ebrill 2010O.S. 2010/303
adran 20212 Ionawr 2010 (yn rhannol) a 28 Chwefror 2011 (at y dibenion sy'n weddill)O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/2374
adrannau 203 a 20412 Ionawr 2010O.S. 2009/3317
adrannau 206 i 22419 Ebrill 2010 (yn rhannol) ac 1 Medi 2010 (yn rhannol)O.S. 2010/303 ac O.S. 2010/1151
adran 22512 Ionawr 2010 (yn rhannol) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill)O.S. 2009/3317 ac O.S. 2010/303
adran 226 (yn rhannol)12 Ionawr 2010O.S.2009/3317
adrannau 227 i 24112 Ionawr 2010O.S. 2009/3317
adrannau 242 to 2451 Medi 2010O.S. 2010/303
adran 249 (yn rhannol)1 Medi 2010O.S. 2010/303
adrannau 251 i 25512 Ionawr 2010O.S. 2009/3317
adran 2561 Ebrill 2010O.S. 2010/303
adrannau 257 a 25812 Ionawr 2010O.S. 2009/3317
adran 26112 Ionawr 2010O.S. 2009/3317
adran 266 (yn rhannol)12 Ionawr 2010 ac 1 Ebrill 2010O.S. 2009/3317, O.S. 2010/303 ac O.S. 2010/1151
Atodlen 16 Ebrill 2010 (yn rhannol) a 6 Ebrill 2011 (at y dibenion sy'n weddill)O.S. 2010/303
Atodlen 2 (yn rhannol)12 Ionawr 2010, 1 Ebrill 2010 ac 1 Medi 2010O.S. 2009/3317 ac O. S. 2010/303
Atodlen 3 (yn rhannol)1 Ebrill 2010O.S. 2010/303
Atodlenni 4 i 71 Ebrill 2010O.S. 2010/303
Atodlen 812 Ionawr 2010 (yn rhannol) ac 1 Ebrill 2010 (at y dibenion sy'n weddill)O.S. 2009/3317 a 2010/303
Atodlenni 9 i 111 Ebrill 2010O.S. 2010/1151
Atodlen 12 (yn rhannol)1 Ebrill 2010O.S. 2010/1151
Atodlen 1312 Ionawr 2010O.S. 2009/3317
Atodlen 1512 Ionawr 2010O.S. 2009/3317
Atodlen 16 (yn rhannol)12 Ionawr 2010, 1 Ebrill 2010, 19 Ebrill 2010 ac 1 Medi 2010O.S. 2009/3317, O.S. 2010/303 ac O.S. 2010/1151

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources