Search Legislation

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1238 (Cy.151)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

DŴR, CYMRU

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed

5 Mai 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Mai 2012

Yn dod i rym-

1 Mehefin 2012

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â diogelu dyfroedd rhag y llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol. Gan arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan yr adran honno, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 1 Mehefin 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008 (3).

Amnewid rheoliad 2

2.  Yn lle rheoliad 2 (cymhwyso) o'r prif Reoliadau, rhodder—

Cymhwyso

2.(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(2) Mae Rhannau 3 i 8 yn gymwys yn unig i ddaliad mewn parth perygl nitradau a ddynodir felly gan y Rheoliadau hyn.

(3) Yn achos daliad sy'n rhannol o fewn parth perygl nitradau a ddynodir felly gan y Rheoliadau hyn, mae Rhannau 3 i 8 yn gymwys yn unig i'r rhan o'r daliad sydd o fewn y parth, ac mae cyfeiriad at ddaliad o fewn Rhannau 3 i 8 yn gyfeiriad at y rhan honno..

Amnewid rheoliadau 7 i 10

3.  Yn lle rheoliadau 7 (dynodi parthau perygl nitradau), 8 (cais am ddatganiad), 9 (achosion cyfreithiol gerbron y person penodedig) a 10 (effaith y canfyddiadau a wneir gan y person penodedig) yn y prif Reoliadau, rhodder—

Dynodi parthau perygl nitradau

7.(1) Yn y Rhan hon—

ystyr “daliad perthnasol” (“relevant holding”) yw tir ynghyd â'i adeiladau cysylltiedig sydd ar gael i'r meddiannydd ac sy'n cael eu defnyddio i dyfu cnydau mewn pridd neu fagu da byw at ddibenion amaethyddol, ac sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal—

(a)

y mae'r Asiantaeth yn ei argymell; a

(b)

bod Gweinidogion Cymru â'u bryd ar dderbyn (gyda diwygiadau neu hebddynt)

a ddylai gael ei ddynodi yn barth perygl nitradau, neu a ddylai barhau i gael ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn;

ystyr “y person penodedig” (“the appointed person”) yw'r person a benodwyd gan Weinidogion Cymru.

(2) Mae'r ardaloedd a nodir ar y map o'r enw “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2008” (“Nitrate Vulnerable Zones Index Map 2008”) ac a adneuwyd yn swyddfeydd Gweinidogion Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ yn cael eu dynodi yn barthau perygl nitradau at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(3) Parthau perygl nitradau yw darnau o dir sy'n draenio i ddyfroedd llygredig ac sy'n cyfrannu at lygru'r dyfroedd hynny.

(4) I gynorthwyo Gweinidogion Cymru mewn perthynas â'u ddyletswyddau o dan reoliad 11(3), rhaid i'r Asiantaeth, ar 1 Mehefin 2012, ac ar yr hwyraf, bob pedair blynedd sy'n dilyn, wneud argymhellion i Weinidogion Cymru, drwy gyfeirio at y materion a grybwyllir yn rheoliad 11(3)(a) i (c), ynghylch pa ardaloedd y dylid eu dynodi'n barthau perygl nitradau neu a ddylai barhau i gael eu dynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(5) Mae unrhyw argymhellion ynghylch y materion a gaiff eu datgan yn rheoliad 7(4) ac a gafodd eu gwneud gan yr Asiantaeth cyn 1 Mehefin 2012 yn cael effaith fel petaent wedi eu gwneud ar y dyddiad hwnnw.

(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi'r argymhellion hynny a wnaed gan yr Asiantaeth y maent â'u bryd ar eu derbyn (gyda diwygiadau neu hebddynt) ac anfon hysbysiad o'r argymhellion i unrhyw berchennog neu feddiannydd daliad perthnasol.

(7) Rhaid i hysbysiad gynnwys cyfeiriad at dudalen ar wefan a gynhelir gan yr Asiantaeth neu Weinidogion Cymru, lle y mae modd dod o hyd i'r argymhelliad perthnasol (gydag unrhyw ddiwygiad y mae Gweinidogion Cymru â'u bryd ar ei wneud iddo).

Apelau

8.(1) Caiff perchennog neu feddiannydd daliad perthnasol yr anfonwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 7(6) apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.

(2) Dim ond ar un neu ragor o'r seiliau a nodir ym mharagraff (3) y ceir apelio.

(3) Y seiliau yw bod, mewn perthynas â'r daliad perthnasol neu unrhyw ran ohono, na ddylai Gweinidogion Cymru dderbyn argymhellion yr Asiantaeth (yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiad y mae Gweinidogion Cymru â'u bryd ar ei wneud iddynt) oherwydd—

(a)nad yw'r daliad perthnasol nac unrhyw ran ohono yn draenio i ddŵr—

(i)y mae Gweinidogion Cymru â'u bryd ar ei ddynodi ei fod yn llygredig neu wedi ei ddynodi felly, neu

(ii)sydd wedi cael ei nodi felly yn Lloegr; neu

(b)bod y daliad perthnasol neu unrhyw ran ohono yn draenio i ddŵr na ddylai Gweinidogion Cymru ddynodi ei fod yn llygredig, neu na ddyllai barhau i gael ei ddynodi felly.

(4) Mae'r apêl i'w seilio ar naill ai—

(a)data a ddarparwyd gan yr apelydd; neu

(b)tystiolaeth a ddarparwyd gan yr apelydd sy'n dangos fod y data y mae Gweinidogion Cymru'n dibynnu arno yn anghywir.

(5) Rhaid i'r apêl—

(a)gael ei gwneud yn ysgrifenedig yn y dull a'r ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru;

(b)cynnwys manylion yr holl dystiolaeth y mae'r apelydd yn bwriadu dibynnu arni; ac

(c)bod yn nwylo Gweinidogion Cymru ddim hwyrach na 35 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr anfonodd Gweinidogion Cymru'r hysbysebiad y mae'r apêl yn ymwneud ag ef.

(6) Rhaid i Weinidogion Cymru ailgyfeirio'r apêl at y person penodedig ar gyfer ei ystyriaeth a'i benderfyniad arni.

Achosion gerbron y person penodedig

9.(1) Os yw'r person penodedig wedi ei fodloni bod apêl a gyflwynwyd yn cydymffurfio â gofynion rheoliad 8 ym mhob manylyn o bwys, rhaid i'r person penodedig fynd ymlaen i wneud penderfyniad ar yr apêl.

(2) Mae'r weithdrefn ar gyfer gwneud penderfyniad ar yr apêl i'w phennu gan y person penodedig.

(3) Ond mae hynny yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(4) Cyn penderfynu ar yr apêl rhaid i'r person penodedig, gan ganiatáu'r cyfnod hwnnw sy'n rhesymol—

(a)gwahodd yr apelydd a Gweinidogion Cymru i gyflwyno sylwadau a dogfennau ategol mewn perthynas â'r apêl;

(b)anfon i Weinidogion Cymru gopi o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan yr apelydd;

(c)anfon i'r apelydd gopi o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru;

(d)rhoi cyfle i'r apelydd a Gweinidogion Cymru gyflwyno sylwadaethau i'r person penodedig ar sylwadau a dogfennau ategol y naill a'r llall.

(5) Caiff y person penodedig, ar unrhyw adeg, ofyn am wybodaeth bellach gan yr apelydd neu gan Weinidogion Cymru.

(6) Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson yr ymddengys bod ganddo fuddiant sylweddol mewn apêl i gyflwyno sylwadau, ond rhaid iddo ganiatáu i'r apelydd a Gweinidogion Cymru gael y cyfle i gyflwyno sylwadaethau ar unrhyw un o'r sylwadau a wnaed.

(7) Caiff y person penodedig anwybyddu unrhyw sylwadau, sylwadaethau neu ddogfennau sydd wedi eu cyflwyno mewn modd nad yw'n unol â'r Rheoliadau hyn.

(8) Os yw'r person penodedig wedi ei fodloni bod amgylchiadau eithriadol yn bodoli, caiff gynnal gwrandawiad llafar.

(9) Mewn gwrandawiad llafar mae gan y apelydd a Gweinidogion Cymru hawl i ymddangos, a chaiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw barti arall ymddangos gerbron.

(10) Wrth benderfynu ar yr apêl, rhaid i'r person penodedig anfon copi o'r penderfyniad i bawb a oedd yn barti i'r apêl.

(11) Rhaid i bob un sy'n barti i apêl ddwyn ei gostau ei hun.

(12) Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl ar unrhyw adeg cyn i'r person penodedig benderfynu arni.

(13) Mae tynnu apêl yn ôl yn effeithiol wrth i'r apelydd roi hysbysiad ysgrifenedig i'r person penodedig.

(14) Os tynnir apêl yn ôl mae'r person penodedig yn peidio â bod o dan ddyletswydd i'w hystyried a phenderfynu arni.

Effaith y penderfyniadau a wneir gan y person penodedig

10.(1) Mae Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo wrth benderfyniad y person penodedig ar yr apêl.

(2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi penderfyniadau'r apelau gan y person penodedig ar wefan a gynhelir ganddynt..

John Griffiths

Y Gweinidog Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

5 Mai 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli darpariaethau penodol yn Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3143 (Cy.278)) (“y prif Reoliadau”) sy'n ymwneud â dynodi parthau perygl nitradau.

Mae'r prif Reoliadau'n gweithredu, yng Nghymru, Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC ynghylch diogelu dyfroedd rhag llygredd gan nitradau o ffynonellau amaethyddol (OJ Rhif L375, 31.12.1991, t.1).

Mae'r ddarpariaeth a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ymwneud â'r adolygiad gan Weinidogion Cymru o ddynodi parthau perygl nitradau yn 2009 gan y prif Reoliadau. Mae'r adolygiad yn ofynnol gan reoliad 11 o'r prif Reoliadau.

Gwneir darpariaeth gan y Rheoliadau hyn i Asiantaeth yr Amgylchedd wneud argymhellion i Weinidogion Cymru, bod Gweinidogion Cymru'n cyhoeddi ac yn hysbysu'r penderfyniadau y maent â'u bryd ar eu gwneud yn dilyn yr argymhellion hynny, ac i apelau i gael eu gwneud i Weinidogion Cymru, ac i berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru benderfynu arnynt.

Mae rheoliad 2 yn dirymu ac yn disodli rheoliad 2 o'r prif Reoliadau. Mae rheoliad 2, ar ôl yr amnewid, yn penderfynu cymhwysiad y rhannau amrywiol o'r prif Reoliadau yn dilyn yr amnewid (gan reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn) o ddarpariaethau o fewn Rhan 2 o'r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 3 yn dirymu ac yn disodli rheoliadau 7, 8, 9 a 10 o'r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 7 o'r prif Reoliadau, ar ôl yr amnewid, yn parhau â'r dynodiad o'r parthau perygl nitradau a wnaed gan y prif Reoliadau. Mae hefyd yn darparu bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn cynorthwyo Gweinidogion Cymru yn eu hadolygiad o'r parthau drwy wneud argymhellion iddynt ynghylch dynodi ardaloedd yn barthau perygl nitradau, bod Gweinidogion Cymru'n cyhoeddi'r argymhellion hynny y mae eu bryd ar eu derbyn (gyda diwygiadau neu hebddynt) ac i gyflwyno hysbysiad i berchenogion a meddianwyr y tir yr effeithir arno.

Mae rheoliad 8 o'r prif Reoliadau, ar ôl yr amnewid, yn disodli'r trefniadau apelio yn Rhan 2 o'r prif Reoliadau (a oedd yn gymwys mewn perthynas â dynodi parthau perygl nitradau yn 2009). Gwneir darpariaeth bod apelau'n cael eu gwneud, ar seiliau penodedig ac o fewn terfyn amser penodedig, gan y personau yr anfonwyd hysbysiad o dan reoliad 7 atynt. Gosodir gofynion o ran ffurf yr apelau. Gwneir darpariaeth i apelau gael eu gwneud i Weinidogion Cymru, ond bod unrhyw apêl a gyflwynir i gael ei hailgyfeirio i berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru ar gyfer ei hystyried a phenderfynu arni.

Mae rheoliad 9 o'r prif Reoliadau, ar ôl yr amnewid, yn gwneud darpariaeth ynghylch ystyried apelau gan y person penodedig a phenderfynu arnynt. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth o ran y weithdrefn ar gyfer rhoi sylwadau, cynnal gwrandawiad llafar mewn amgylchiadau eithriadol, tynnu apelau yn ôl, a chostau.

Mae rheoliad 10 o'r prif Reoliadau, ar ôl yr amnewid, yn darparu bod Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo wrth benderfyniad y person penodedig, ac maent i gyhoeddi'r penderfyniadau hynny.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd hi'n anghenrheidiol i wneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

(1)

Gweler O.S. 2001/2555 am y dynodiad a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adran 59 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 28(1) o Atodlen 11 iddi, mae'r dynodiad hwnnw wedi ei freinio bellach yng Ngweinidogion Cymru.

(2)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7) a Rhan 1 o'r Atodlen iddi, a chan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources