Search Legislation

Gorchymyn Personau Cydnabyddedig (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1248 (Cy.153)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Personau Cydnabyddedig (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) (Cymru) 2012

Gwnaed

9 Mai 2012

Yn dod i rym

9 Mai 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 32AB(2) o Ddeddf Addysg 1997(1).

Yn unol ag adran 54(2A) o'r Ddeddf honno(2) gosodwyd drafft o'r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Personau Cydnabyddedig (Cosbau Ariannol) (Penderfynu Trosiant) (Cymru) 2012.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 9 Mai 2012 ac y mae'n gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “blwyddyn fusnes” (“business year”) yw cyfnod, o chwe mis neu ragor, y mae'r person cydnabyddedig yn cyhoeddi cyfrifon mewn perthynas ag ef, neu, os na chyhoeddwyd cyfrifon o'r fath am y cyfnod, yn paratoi cyfrifon mewn perthynas ag ef;

ystyr “blwyddyn fusnes flaenorol” (“preceding business year”) yw'r flwyddyn fusnes yn union cyn y dyddiad hysbysu;

ystyr “dyddiad hysbysu” (“date of notice”) yw'r dyddiad pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad i berson cydnabyddedig o dan adran 32AA(6) o'r Ddeddf o'u bwriad i osod cosb ariannol ar y person cydnabyddedig;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg 1997;

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “trosiant cymwysadwy” (“applicable turnover”) yw unrhyw symiau, a gyfrifir yn unol ag arferion cyfrifyddu arferol yn y Deyrnas Unedig, a'r rheini'n rhai—

(a)y mae'r person cydnabyddedig wedi eu deillio o ddarparu nwyddau a gwasanaethau sy'n dod o fewn ei weithgareddau cyffredin yn y Deyrnas Unedig; a

(b)a dderbynnir ar ffurf rhodd, grant neu gymhorthdal gan y person cydnabyddedig, wrth iddo gyflawni ei weithgareddau cyffredin yn y Deyrnas Unedig,

ar ôl didynnu disgowntiau masnach, treth ar werth a threthi eraill sy'n seiliedig ar y symiau sy'n deillio neu a dderbynnir felly;

Penderfynu trosiant at ddibenion adran 32AB o'r Ddeddf

3.—(1Rhaid penderfynu trosiant person cydnabyddedig at ddibenion adran 32AB(1) o'r Ddeddf yn unol â'r erthygl hon.

(2Os oes blwyddyn fusnes flaenorol—

(a)os yw'r flwyddyn fusnes flaenorol yn gyfnod o ddeuddeng mis, y trosiant yw'r trosiant cymwysadwy am y cyfan o'r flwyddyn fusnes flaenorol honno;

(b)os yw'r flwyddyn fusnes flaenorol yn fwy neu'n llai na chyfnod o ddeuddeng mis, y trosiant yw'r trosiant cymwysadwy yn y flwyddyn fusnes honno wedi ei rannu gyda nifer y misoedd yn y flwyddyn fusnes honno a'i luosi gyda deuddeg.

(3Os nad oes blwyddyn fusnes flaenorol—

(a)y trosiant yw'r trosiant cymwysadwy am y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis sy'n rhagflaenu'r mis sy'n cynnwys y dyddiad hysbysu; neu

(b)os oes gan y person cydnabyddedig drosiant cymwysadwy am gyfnod sy'n llai na deuddeng mis, y trosiant yw'r trosiant cymwysadwy am y cyfnod hwnnw wedi ei rannu gyda nifer y misoedd yn y cyfnod hwnnw a'i luosi gyda deuddeg.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

9 Mai 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu trosiant person cydnabyddedig (“recognised person”) at ddibenion adran 32AB o Ddeddf Addysg 1997 (“Deddf 1997”).

Mae adran 32AA o Ddeddf 1997 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru osod cosb ariannol ar berson cydnabyddedig (fel y diffinnir “recognised person” yn adran 32A(5) o Ddeddf 1997), os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio ag un o amodau ei gydnabyddiaeth o dan adran 32(3A) a (4) o Ddeddf 1997. Caiff swm y gosb ariannol fod yr hyn a benderfynir sy'n briodol gan Weinidogion Cymru, o ystyried holl amgylchiadau'r achos, ond ni chaiff y gosb ariannol fod yn fwy na 10% o drosiant y person cydnabyddedig, fel y'i penderfynir gan y Gorchymyn hwn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ni thybiwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Gorchymyn hwn.

(1)

1997 p.44; mewnosodwyd adran 32AB gan adran 24 o Ddeddf Addysg 2011 (p.21).

(2)

1997 p.44; mewnosodwyd adran 54(2A) gan adran 24 o Ddeddf Addysg 2011 (p.21).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources