- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Y GWASANAETHIECHYD GWLADOL, CYMRU
PLANT A PHOBLIFANC, CYMRU
Gwnaed
30 Ionawr 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
31 Ionawr 2012
Yn dod i rym
28 Chwefror 2012
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 28 Chwefror 2012.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Mesur 2010” (“the 2010 Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;
ystyr “achos” (“a case”) yw achos a gaiff ei adolygu gan dîm ICiD yn unol â'r Rheoliadau hyn;
ystyr “y Rheoliadau Adolygu” (“the Review Regulations”) yw Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007(3);
ystyr “teulu” (“a family”) yw teulu y mae wedi ei atgyfeirio gan awdurdod lleol i'w dîm integredig cymorth i deuluoedd ac yr hysbyswyd ei aelodau y byddant yn cael eu cefnogi gan y tîm;
ystyr “tîm ICiD” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol yn cymryd rhan yn ei sefydlu yn unol ag adran 57 o Fesur 2010.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran yr ardaloedd hynny o Gymru y mae adran 57 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd) o Fesur 2010 wedi ei chychwyn mewn perthynas â hwy(4).
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a (3), rhaid i awdurdod lleol adolygu achos pob teulu yn unol â'r Rheoliadau hyn tra bo'r teulu yn cael ei gefnogi gan ei dîm ICiD.
(2) Pan fo tîm ICiD yn cael ei sefydlu ar y cyd gan ragor nag un awdurdod lleol, yna mae'r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i'r awdurdod lleol lle y mae'r plentyn yn byw ac mae unrhyw drefniadau dros dro i'r plentyn fyw y tu allan i ardal yr awdurdod lleol i'w diystyru at y diben hwn.
(3) Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn yn gymwys o ran achos teulu pan fo un neu ragor o'r plant yn y teulu yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol neu'n cael ei letya neu eu lletya gan yr awdurdod lleol ac y mae achos y plentyn hwnnw (neu'r plant hynny) yn ddarostyngedig i adolygiad o dan y Rheoliadau Adolygu.
3.—(1) Rhaid i bob achos gael ei adolygu am y tro cyntaf cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad pryd y caiff y teulu ei hysbysu y bydd ei achos yn cael ei gefnogi gan y tîm ICiD.
(2) Rhaid cynnal ail adolygiad o'r achos cyn pen tri mis ar ôl yr adolygiad cyntaf ac ar ôl hynny rhaid cynnal adolygiadau dilynol cyn pen chwe mis ar ôl dyddiad yr adolygiad blaenorol.
(3) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn rhwystro awdurdod lleol rhag adolygu'r achos cyn pen yr amseroedd a bennir ym mharagraff (1) neu (2).
4.—(1) Rhaid i awdurdod lleol nodi yn ysgrifenedig sut y mae achos pob teulu i'w adolygu a rhaid iddo drefnu bod hyn ar gael i'r personau a bennir yn rheoliad 6(1).
(2) Rhaid i awdurdod lleol y mae ei dîm ICiD yn cefnogi teulu wneud trefniadau i gyd-drefnu gweithrediad pob agwedd ar yr adolygiad.
(3) Rhaid i awdurdod lleol benodi un o'i swyddogion i gyd-drefnu pob agwedd ar yr adolygiad.
(4) Rhaid i'r materion i ymdrin â hwy ym mhob adolygiad achos, i'r graddau y mae'n ymarferol, gynnwys yr elfennau a bennir yn Atodlen 1.
(5) Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn atal cynnal unrhyw adolygiad o dan y Rheoliadau hyn ac unrhyw adolygiad, asesiad neu ystyriaeth arall o dan unrhyw ddarpariaeth arall ar yr un pryd.
5. Yr ystyriaethau y mae'n rhaid i awdurdod lleol, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, dalu sylw iddynt wrth adolygu pob achos yw'r ystyriaethau cyffredinol a bennir yn Atodlen 2.
6.—(1) Cyn cynnal unrhyw adolygiad, rhaid i awdurdod lleol, oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny, geisio barn ac ystyried barn—
(a)plant y teulu;
(b)y rhieni;
(c)unrhyw berson nad yw'n rhiant i'r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn hwnnw;
(ch)aelodau'r tîm ICiD; a
(d)unrhyw berson arall y mae'r awdurdod yn ystyried bod ei farn yn berthnasol;
yn enwedig, o ran y materion sydd i ymdrin â hwy yn ystod yr adolygiad.
(2) Rhaid i awdurdod lleol, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gynnwys y personau y ceisir eu barn o dan baragraff (1) yn yr adolygiad, a phan fo'r awdurdod yn ystyried bod hynny'n briodol, eu gwahodd i fod yn bresennol mewn rhan neu'r cyfan ohono.
(3) Rhaid i awdurdod lleol, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, wneud canlyniad yr adolygiad ac unrhyw benderfyniad a gymerwyd ganddo o ganlyniad i'r adolygiad yn hysbys i—
(a)plant y teulu;
(b)y rhieni;
(c)unrhyw berson nad yw'n rhiant i'r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn hwnnw;
(ch)y tîm ICiD; ac
(d)unrhyw berson arall y mae'r awdurdod yn ystyried y dylai gael ei hysbysu.
7. Rhaid i awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i weithredu unrhyw benderfyniad y mae'n ei gymryd o ganlyniad i adolygiad, p'un ai drwy wneud trefniadau ei hun neu drwy wneud trefniadau â bwrdd iechyd lleol neu ag unrhyw berson arall.
8. Rhaid i awdurdod lleol gadw cofnod ysgrifenedigo—
(a)gwybodaeth a geir at ddibenion adolygiad;
(b)unrhyw gyfarfod a drefnir gan yr awdurdod o flaen neu o ganlyniad i unrhyw agwedd ar adolygiad yr achos hwnnw; ac
(c)manylion canlyniad yr adolygiad ac unrhyw benderfyniadau a wneir gan yr awdurdod o ganlyniad i'r adolygiad.
9.—(1) Mae rheoliadau 1 i 8 o Reoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 2010(5) wedi eu dirymu.
(2) Mae'r diwygiadau i'r Rheoliadau Adolygu a wnaed gan reoliad 9 o Reoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 2010 yn gymwys i'r rhannau o Gymru sy'n weddill(6).
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
30 Ionawr 2012
Rheoliad 4(4)
1. Unrhyw newid yn amgylchiadau unrhyw blant neu oedolion yn y teulu.
2. Effeithiolrwydd y cynllun i fynd i'r afael ag anghenion y plentyn, boed mewn perthynas ag anghenion iechyd, neu anghenion cymdeithasol, emosiynol neu ymddygiadol.
3. Effeithiolrwydd cynlluniau i fynd i'r afael ag anghenion oedolion, boed mewn perthynas ag anghenion iechyd neu anghenion gofal cymdeithasol.
4. Barn yr oedolion a'r plant yn y teulu.
5. P'un a ddylid addasu'r cynlluniau ar gyfer y plentyn (y plant) neu'r oedolyn (oedolion) i gefnogi ei gilydd yn well.
Rheoliad 5
1. Unrhyw newid yn statws cyfreithiol y plentyn
2. Unrhyw risgiau i'r plentyn
3. P'un a yw'r trefniadau presennol ar gyfer gofal y plentyn yn foddhaol ai peidio.
4. Cynnydd datblygol y plentyn a p'un a oes angen i'r plentyn fod yn destun unrhyw asesiad pellach mewn perthynas ag anghenion iechyd, neu anghenion cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol neu addysgol.
5. Unrhyw newidiadau yn amgylchiadau'r teulu ers yr adolygiad diwethaf.
6. Unrhyw ddigwyddiadau arwyddocaol y tu allan i'r teulu sy'n berthnasol gan gynnwys rhoi camau gweithredu ar waith o adolygiadau blaenorol.
7. Unrhyw newid yng ngallu'r rhieni i gyflawni rôl rhieni o ganlyniad i wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol a ddarparwyd neu o ganlyniad i ffactorau eraill.
8. Unrhyw anawsterau a brofodd y teulu o bosibl wrth ymwneud â'r tîm ICiD.
9. P'un a oes unrhyw wrthdaro rhwng anghenion y plentyn ac anghenion yr oedolion a sut y gellir ei ddatrys.
10. Yr angen i baratoi am ddod ag ymgysylltiad y tîm ICiD i ben.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn sefydlu gofynion am sut y mae'n rhaid i awdurdodau lleol adolygu achosion teuluoedd sy'n cael eu cefnogi gan dimau integredig cymorth i deuluoedd (“ICiD”). Nid yw'r gofynion i awdurdod lleol adolygu achos yn gymwys o ran plentyn y mae ei achos eisoes yn ddarostyngedig i adolygiad o dan Reoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007 (O.S. 2007/307 (Cy.26)) (“y Rheoliadau Adolygu”) yn rhinwedd eu bod “yn derbyn gofal” yn unol â'r diffiniad o “looked after” yn adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989.
Mae adran 57 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru)2010 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu un neu ragor o dimau ICiD. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ardaloedd awdurdodau lleol y mae adran 57 wedi ei chychwyn mewn perthynas â hwy ac y mae ganddynt ddyletswydd i sefydlu tîm ICiD. Ar y dyddiad y caiff y Rheoliadau hyn eu dwyn i rym mae adran 57 mewn grym mewn perthynas ag ardaloedd yr awdurdodau lleol a ganlyn: Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Wrecsam, Caerdydd a Bro Morgannwg (gweler Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010 a Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 4) 2012).
Mae rheoliad 2 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol adolygu achosion teuluoedd y mae eu hachosion yn cael eu cefnogi gan dîm ICiD ond mae'n eithrio achosion plant sy'n derbyn gofal.
Mae rheoliad 3 yn nodi pryd y mae'n rhaid adolygu achos am y tro cyntaf a pha mor aml y mae'n rhaid cynnal adolygiadau wedyn. Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol nodi yn ysgrifenedig ei drefniadau i adolygu achosion ac y mae'n ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn cyd-drefnu'r adolygiad. Ymdrinnir â'r materion i ymdrin â hwy yn yr adolygiad yn Atodlen 1.
Mae rheoliad 5 ac Atodlen 2 yn nodi pob mater y mae'n rhaid i awdurdod lleol ei ystyried wrth adolygu achosion. Mae rheoliad 6 yn nodi'r gofynion ynglŷn â phwy y mae'n rhaid ymgynghori cyn adolygiad, pwy y mae'n rhaid iddo gymryd rhan ynddo a phwy y dylid ei hysbysu wedyn.
Mae rheoliad 7 yn creu dyletswydd i awdurdod lleol weithredu'r penderfyniadau a gymerwyd mewn adolygiad. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth a ddarperir ar gyfer adolygiad, ynghyd â chofnodion, ac unrhyw benderfyniadau gan adolygiad, yn cael eu cofnodi yn ysgrifenedig.
Mae rheoliad 9 yn dirymu rheoliadau 1 i 8 o Reoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1700 (Cy.161)) (“Rheoliadau 2010”). Mae rheoliad 9 o Reoliadau 2010, sy'n gwneud diwygiadau i'r Rheoliadau Adolygu, wedi ei gadw. Yr oedd y diwygiadau yn gymwys yn wreiddiol i ardaloedd yr awdurdodau lleol a ganlyn: Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam. Mae rheoliad 9(2) o'r Rheoliadau hyn yn darparu bod y diwygiadau a wnaed gan Reoliadau 2010 yn gymwys i'r rhannau o Gymru sy'n weddill.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi cael ei baratoi ynglŷn â chostau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Gyfarwyddiaeth Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Ar y dyddiad y caiff y Rheoliadau hyn eu dwyn i rym mae adran 57 o Fesur 2010 mewn grym mewn perthynas ag ardaloedd yr awdurdodau lleol a ganlyn: Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Wrecsam, Caerdydd a Bro Morgannwg.
Cafodd y diwygiadau a wnaed gan reoliad 9 o'r Rheoliadau Adolygu eu gwneud mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Wrecsam, Caerdydd a Bro Morgannwg (gweler Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010 (O.S. 2010/1699 (Cy.160) (C.87)).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: