Search Legislation

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Rhagymadrodd

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mawrth 2014.

(3Daw rheoliad 27 ac Atodlen 2 i rym yn union ar ôl i’r rheoliadau eraill a’r atodlen arall ddod i rym.

(4Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;

ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw person sy’n arfer swyddogaethau o dan reoliad 21(1) neu (2);

ystyr “gofyniad sgil-gynhyrchion anifeiliaid” (“animal by-product requirement”) yw unrhyw ofyniad yn Rhan 3 ac unrhyw ofyniad yng Ngholofn 2 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn fel y’i darllenir gyda’r darpariaethau yng Ngholofn 3 i’r Atodlen honno;

mae “llong” (“ship”) yn cynnwys hofranlong, cwch ymsuddol neu unrhyw gwch arnofiol arall ond nid llestr—

(a)

sy’n gorwedd yn barhaol ar wely’r môr neu sydd ynghlwm yn barhaol wrth wely’r môr; neu

(b)

sy’n osodiad o fewn adran 16 o Ddeddf Ynni 2008(1);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys—

(a)

unrhyw dir, adeilad, sied neu loc;

(b)

unrhyw ddaliedydd neu gynhwysydd;

(c)

unrhyw long; neu

(d)

cerbyd o unrhyw ddisgrifiad;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person a awdurdodwyd o dan reoliad 22;

ystyr “Rheoliad Gweithredu’r UE” (“EU Implementing Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 142/2011 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd ynglŷn â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta ac sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC ynglŷn â samplau ac eitemau penodol sy’n esempt rhag gwiriadau milfeddygol wrth y ffin o dan y Gyfarwyddeb honno fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;

ystyr “Rheoliad Rheolaeth yr UE” (“EU Control Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau iechyd ynglŷn â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta ac sy’n dirymu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 (Rheoliad Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid)(2).

(2Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir hefyd yn Rheoliad Rheolaeth yr UE neu yn Rheoliad Gweithredu’r UE yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad Rheolaeth yr UE neu yn Rheoliad Gweithredu’r UE.

RHAN 2Yr awdurdod cymwys a darpariaethau amrywiol

Yr awdurdod cymwys

3.  Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad Rheolaeth yr UE a Rheoliad Gweithredu’r UE.

Cyfyngiadau ar fynediad i sgil-gynhyrchion anifeiliaid

4.—(1Rhaid peidio â mynd â sgil-gynhyrchion anifeiliaid, gan gynnwys gwastraff arlwyo, i unrhyw fangre pe bai gan anifeiliaid a ffermir fynediad at sgil-gynhyrchion anifeiliaid o’r fath.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, ac eithrio—

(a)cynhyrchion sy’n dod o wastraff arlwyo; neu

(b)blawd cig ac esgyrn sy’n dod o ddeunydd Categori 2 a phroteinau anifeiliaid wedi eu prosesu y bwriedir eu defnyddio fel gwrteithiau organig a deunyddiau i wella pridd neu eu defnyddio ynddynt, nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion Erthygl 32(1)(d) (rhoi ar y farchnad a defnyddio) o Reoliad Rheolaeth yr UE.

(3Rhaid i gorff neu ran o gorff unrhyw anifail a ffermir na chafodd ei gigydda i’w fwyta gan bobl gael eu cadw gan weithredwr, hyd nes y’u traddodir neu y’u gwaredir, yn y fath fodd a fydd yn sicrhau na fydd unrhyw anifail neu aderyn yn gallu cael mynediad at y corff neu’r rhan o gorff.

Defnyddio gwrteithiau organig a deunyddiau i wella pridd

5.—(1Os defnyddir gwrteithiau organig neu ddeunyddiau i wella pridd ar dir, ni chaiff neb ganiatáu i foch gael mynediad at y tir hwnnw na chael eu bwydo â phorfa wedi ei thorri oddi ar y tir hwnnw am gyfnod o 60 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y defnyddir y gwrteithiau organig neu’r deunyddiau i wella pridd.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i’r gwrteithiau organig na’r deunyddiau i wella pridd a ganlyn—

(a)tail;

(b)llaeth;

(c)cynhyrchion yn seiliedig ar laeth;

(d)cynhyrchion sy’n dod o laeth;

(e)llaeth tor;

(f)cynhyrchion o laeth tor; neu

(g)cynnwys y llwybr treulio.

Canolfannau casglu

6.  Mae safle prosesu ar gyfer deunydd Categori 2 a gymeradwywyd at ddibenion bod yn ganolfan gasglu ar gyfer deunydd Categori 2 wedi ei awdurdodi’n ganolfan gasglu.

Ardaloedd pellennig

7.  Mae’r ardaloedd a ganlyn yn ardaloedd pellennig at ddibenion Erthygl 19(1)(b) o Reoliad Rheolaeth yr UE (casglu, cludo a gwaredu)—

(a)Ynys Enlli;

(b)Ynys Byr;

(c)Ynys Dewi; a

(d)Ynys Echni.

Rhoi ar y farchnad

8.  Mae rhoi ar y farchnad wlân sydd heb ei drin a blew sydd heb ei drin o ffermydd neu o sefydliadau neu safleoedd wedi ei awdurdodi ac eithrio pan fônt yn peri risg o unrhyw glefyd trosglwyddadwy drwy’r cynhyrchion hynny i fodau dynol neu i anifeiliaid.

Rhoi gwybod am ganlyniadau profion

9.  Rhaid i weithredwyr roi gwybod i Weinidogion Cymru am ganlyniadau unrhyw brofion a gynhelir yn unol ag unrhyw rai o’r Erthyglau a ganlyn yn Rheoliad Gweithredu’r UE sy’n methu â bodloni’r safonau y mae’r Erthyglau hynny’n gofyn amdanynt—

(a)Erthygl 10(1) (gofynion ynglŷn â thrawsffurfio sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid yn fionwy a chompostio);

(b)Erthygl 21(1) (prosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a’u rhoi ar y farchnad i’w bwydo i anifeiliaid a ffermir);

(c)Erthygl 22(1) (rhoi gwrteithiau organig a deunyddiau i wella pridd ar y farchnad a’u defnyddio); a

(d)Erthygl 24(3) (bwyd anifeiliaid anwes a chynhyrchion eraill sy’n dod o anifeiliaid).

RHAN 3Staenio

Staenio

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i weithredwyr y canlynol—

(a)lladd-dai;

(b)safleoedd torri;

(c)sefydliadau trin anifeiliaid hela; a

(d)storfeydd oer.

(2Yn y rhan hon—

(a)mae i’r termau “lladd-dy”, “safle torri” a “sefydliad trin anifeiliaid hela” yr ystyron a roddir iddynt yn rheoliad 5(6) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(3);

(b)ystyr “storfa oer” yw unrhyw fangre arall a ddefnyddir i storio cig ffres y bwriedir ei werthu i bobl ei fwyta, o dan amodau lle rheolir y tymheredd.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i weithredwyr fynd ati’n ddi-oed i staenio’r sgil-gynhyrchion anifeiliaid a ganlyn yn unol â pharagraff (4)—

(a)sgil-gynhyrchion anifeiliaid a ddiffinnir gan unrhyw rai o’r erthyglau a ganlyn yn Rheoliad Rheolaeth yr UE—

(i)Erthygl 8(c);

(ii)Erthygl 8(d);

(iii)Erthygl 9(c); neu

(iv)Erthygl 9(d);

(b)cyrff cyfan dofednod pan fo’r anifeiliaid yn farw wrth gyrraedd y lladd-dy;

(c)cyrff anifeiliaid neu rannau o anifeiliaid sy’n anaddas i’w bwyta gan bobl am eu bod yn dangos arwyddion clefyd a all gael ei drosglwyddo i fodau dynol neu anifeiliaid;

(d)cyrff anifeiliaid neu rannau o anifeiliaid sy’n anaddas i’w bwyta gan bobl am nad ydynt wedi eu cyflwyno i’w harolygu naill ai ante mortem neu post mortem;

(e)cyrff anifeiliaid neu rannau o anifeiliaid sydd wedi eu halogi ag unrhyw sylwedd a all beri bygythiad i iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; ac

(f)deunydd Categori 3 sydd wedi newid drwy ddadelfennu neu drwy gael ei ddifetha nes ei fod yn peri risg annerbyniol i iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.

(4Rhaid i weithredwyr—

(a)staenio’r deunydd a restrwyd ym mharagraff (3) ag asiant lliwio a chan defnyddio toddiant o’r cyfryw gryfder sy’n sicrhau bod y staenio’n glir i’w weld ac yn parhau’n weladwy ar ôl i’r sgil-gynnyrch anifeiliaid gael ei oeri neu ei rewi;

(b)gosod y staen ar arwyneb cyfan y sgil-gynnyrch, boed drwy drochi’r sgil-gynnyrch yn y staen, ei chwistrellu â’r toddiant neu osod y toddiant arno drwy unrhyw ddull sydd yr un mor effeithiol;

(c)yn achos sgil-gynnyrch anifeiliaid nad yw’n dod o fewn paragraff (3) ac sy’n pwyso mwy nag 20 kg, gosod y staen ar ôl i’w arwyneb gael ei agor gan doriadau niferus a dwfn; a

(d)yn achos sgil-gynnyrch anifeiliaid sy’n gorff cyfan dofedn, p’un a yw wedi ei ddiberfeddu neu wedi ei bluo ai peidio, gosod y staen ar ôl i arwyneb y corff gael ei agor gan doriadau niferus a dwfn.

(5Nid oes angen i weithredwyr staenio yn unol â pharagraff (3)—

(a)unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid a symudir, neu y bwriedir iddo gael ei symud, oddi ar unrhyw fangre gan filfeddyg neu o dan awdurdod milfeddyg i’w archwilio gan y milfeddyg neu ar ei ran;

(b)unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid a gymysgir ag offal gwyrdd mewn cynhwysydd sy’n cynnwys yn bennaf offal gwyrdd i’w waredu yn unol â Rheoliad Rheolaeth yr UE;

(c)unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion gwyddonol ac a osodir, hyd nes ei ddefnyddio neu ei symud i fangre i’w ddefnyddio felly yn unol â Rheoliad Rheolaeth yr UE, mewn ystafell ac mewn daliedydd a ddyluniwyd i ddal sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac sydd â hysbysiad arno fod ei gynnwys wedi ei fwriadu i’w ddefnyddio at ddibenion gwyddonol;

(d)unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid a symudir ar unwaith ar ôl ei gynhyrchu i sefydliad neu safle prosesu, neu sefydliad neu safle llosgi, a gymeradwywyd o dan Reoliad Rheolaeth yr UE drwy bibell sydd wedi’i selio ac sy’n ddiogel rhag gollyngiadau; neu

(e)corff cyfan anifail, ac eithrio corff cyfan dofedn.

(6Ni chaiff neb allforio deunydd wedi ei staenio o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff (3) i Aelod-wladwriaeth arall yn yr Undeb Ewropeaidd oni bai bod yr Aelod-wladwriaeth honno’n cytuno i fewnforio’r deunydd.

(7Ym mharagraff (5)(b) o’r rheoliad hwn ystyr “offal gwyrdd” yw stumog a pherfeddion anifail a chynnwys y llwybr treulio.

RHAN 4Cofrestru a chymeradwyo

Y weithdrefn ar gyfer cofrestru safleoedd a sefydliadau

11.  Rhaid i hysbysiad i’r awdurdod cymwys gael ei wneud mewn ysgrifen, pan fo’n cael ei wneud—

(a)gyda’r bwriad o gofrestru yn unol ag Erthygl 23(1) (cofrestru gweithredwyr, sefydliadau neu safleoedd) o Reoliad Rheolaeth yr UE; neu

(b)er mwyn hysbysu’r awdurdod am newidiadau yn unol ag Erthygl 23(2) o’r Rheoliad hwnnw.

Hysbysiadau awdurdod cymwys mewn perthynas â chofrestru

12.  Rhaid i’r awdurdod cymwys roi hysbysiad ysgrifenedig i’r canlynol—

(a)y gweithredwr sydd wedi hysbysu yn unol â rheoliad 11, am y canlynol—

(i)bod y gweithredwr wedi ei gofrestru; neu

(ii)y penderfyniad i beidio â chofrestru’r gweithredwr;

(b)gweithredwr cofrestredig, am y canlynol—

(i)gwaharddiad a wnaed o dan Erthygl 46(2) (gwaharddiad ar weithrediadau) o Reoliad Rheolaeth yr UE;

(ii)gofyniad i gydymffurfio ag Erthygl 23(1)(b) neu (2) o Reoliad Rheolaeth yr UE (gwybodaeth am weithgareddau a’r wybodaeth ddiweddaraf); neu

(iii)bod y cofrestriad wedi ei ddiwygio neu wedi ei ddiweddu pan fo gweithredwr wedi hysbysu’r awdurdod cymwys bod sefydliad wedi ei gau yn unol ag Erthygl 23(2) (yr wybodaeth ddiweddaraf) o Reoliad Rheolaeth yr UE.

Y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo

13.  Rhaid i weithredwyr y mae Erthygl 24(1) (cymeradwyo sefydliadau neu safleoedd) o Reoliad Rheolaeth yr UE yn gymwys iddynt, wneud cais ysgrifenedig i’r awdurdod cymwys i gael cymeradwyaeth, gan gynnwys cymeradwyaeth ar ôl cael cymeradwyaeth dros dro pan fo Erthygl 33 o Reoliad Gweithredu’r UE (ailgymeradwyo safleoedd a sefydliadau ar ôl rhoi cymeradwyaeth dros dro) yn gymwys.

Hysbysiad mewn perthynas â phenderfyniadau ar gymeradwyo

14.  Rhaid i’r awdurdod cymwys roi hysbysiad ysgrifenedig i’r canlynol—

(a)y ceisydd am gymeradwyaeth, am y canlynol—

(i)bod cymeradwyaeth wedi ei rhoi yn unol ag Erthyglau 24 (cymeradwyo) a 44 (y weithdrefn ar gyfer cymeradwyo) o Reoliad Rheolaeth yr UE;

(ii)bod cymeradwyaeth amodol wedi ei rhoi yn unol ag Erthyglau 24 a 44 o Reoliad Rheolaeth yr UE, neu fod y gymeradwyaeth honno wedi ei hestyn yn unol ag Erthygl 44; neu

(iii)y gwrthodwyd rhoi cymeradwyaeth mewn perthynas â chais cychwynnol neu estyniad;

(b)gweithredwr safle neu sefydliad sydd o dan gymeradwyaeth amodol a roddwyd yn unol ag Erthyglau 24 a 44 o Reoliad Rheolaeth yr UE, am y canlynol—

(i)bod cymeradwyaeth lawn wedi ei rhoi;

(ii)bod cymeradwyaeth o’r fath wedi ei hestyn;

(iii)bod amodau wedi eu gosod yn unol ag Erthygl 46(1)(c) (ataliadau dros dro, tynnu’n ôl a gwaharddiadau ar weithrediadau) o Reoliad Rheolaeth yr UE;

(iv)bod cymeradwyaeth o’r fath wedi ei hatal dros dro yn unol ag Erthygl 46(1)(a) o Reoliad Rheolaeth yr UE;

(v)bod cymeradwyaeth o’r fath wedi ei thynnu’n ôl yn unol ag Erthygl 46(1)(b) o Reoliad Rheolaeth yr UE;

(vi)bod gwaharddiad wedi ei wneud yn unol ag Erthygl 46(2) o Reoliad Rheolaeth yr UE; neu

(vii)y gwrthodwyd estyn cymeradwyaeth lawn neu roi cymeradwyaeth lawn;

(c)gweithredwr safle neu sefydliad a gymeradwywyd, am y canlynol—

(i)bod amodau wedi eu gosod yn unol ag Erthygl 46(1)(c) o Reoliad Rheolaeth yr UE (atal dros dro, tynnu’n ôl);

(ii)bod cymeradwyaeth o’r fath wedi ei hatal dros dro yn unol ag Erthygl 46(1)(a) o Reoliad Rheolaeth yr UE;

(iii)bod gwaharddiad wedi ei wneud yn unol ag Erthygl 46(2) o Reoliad Rheolaeth yr UE; neu

(iv)bod cymeradwyaeth o’r fath wedi ei thynnu’n ôl yn unol ag Erthygl 46(1)(b) o Reoliad Rheolaeth yr UE.

Y rhesymau dros benderfyniadau

15.—(1Pan fo’r awdurdod cymwys yn gwneud penderfyniad ac yn hysbysu yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 14, rhaid i’r awdurdod cymwys roi rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad hwnnw.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i benderfyniadau a hysbysir o dan—

(a)rheoliad 12(a)(i);

(b)rheoliad 14(a)(i); neu

(c)rheoliad 14(b)(i) neu (ii).

Y weithdrefn apelio

16.—(1Pan fo’r awdurdod cymwys wedi rhoi hysbysiad y mae rheoliad 15(1) yn gymwys iddo, caiff person apelio yn ei erbyn drwy wneud sylwadau ysgrifenedig, o fewn 21 diwrnod o ddyroddi’r hysbysiad am y penderfyniad hwnnw, i berson a benodwyd at y diben gan Weinidogion Cymru.

(2Caiff yr awdurdod cymwys hefyd wneud sylwadau ysgrifenedig i’r person penodedig ynglŷn â’r penderfyniad.

(3Rhaid wedyn i’r person penodedig gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r ceisydd hysbysiad ysgrifenedig am ddyfarniad terfynol Gweinidogion Cymru a’r rhesymau drosto.

RHAN 5Troseddau a chosbau

Cydymffurfio â gofynion sgil-gynhyrchion anifeiliaid

17.  Mae person sy’n methu â chydymffurfio â gofyniad sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn cyflawni trosedd.

Rhwystro

18.  Mae’n drosedd—

(a)rhwystro person awdurdodedig yn fwriadol;

(b)methu â rhoi unrhyw wybodaeth neu gymorth i berson awdurdodedig neu fethu â darparu unrhyw gyfleusterau y mae’n rhesymol i berson o’r fath ofyn amdanynt, a hynny heb achos rhesymol;

(c)rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i berson awdurdodedig yn fwriadol neu’n ddi-hid; neu

(d)methu â dangos cofnod neu ddogfen pan fo person awdurdodedig yn gofyn amdanynt.

Troseddau corfforaethol, troseddau partneriaeth a throseddau cymdeithas anghorfforedig

19.—(1Pan fo—

(a)trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni gan gorff corfforaethol neu gan bartneriaeth neu gan bartneriaeth Albanaidd neu gan gymdeithas anghorfforedig arall; a

(b)y profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unigolyn perthnasol, neu ei bod i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unigolyn perthnasol (gan gynnwys unigolyn sy’n honni ei fod yn gweithredu yn swyddogaeth unigolyn perthnasol),

mae’r unigolyn perthnasol yn ogystal â’r corff corfforaethol, y bartneriaeth, y bartneriaeth Albanaidd neu’r gymdeithas anghorfforedig, yn euog o’r drosedd ac mae’n agored i achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “unigolyn perthnasol” yw—

(a)o ran corff corfforaethol—

(i)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff;

(ii)pan fo materion y corff yn cael eu rheoli gan ei aelodau, aelod;

(b)o ran partneriaeth neu bartneriaeth Albanaidd, partner;

(c)o ran cymdeithas anghorfforedig heblaw partneriaeth Albanaidd, person sy’n ymwneud â rheolaeth neu reoli’r gymdeithas.

(3Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig gael ei ddwyn yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.

(4At ddibenion achos yn unol â pharagraff (3) mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol—

(a)rheolau’r llys ynglŷn â chyflwyno dogfennau;

(b)adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(4); ac

(c)Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(5).

(5Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu ar gymdeithas anghorfforedig wedi ei chollfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.

Cosbau

20.  Mae person sy’n euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na thri mis, neu’r ddau; neu

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw’n fwy na dwy flynedd, neu’r ddau.

RHAN 6Gorfodi

Awdurdod gorfodi

21.—(1Gorfodir rheoliad 10—

(a)o ran unrhyw ladd-dy, safle torri neu sefydliad sy’n trafod anifeiliaid hela, gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd; a

(b)o ran unrhyw fangre arall, gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu’r awdurdod lleol y lleolir y fangre yn ei ardal.

(2Fel arall gorfodir y Rheoliadau hyn—

(a)gan yr awdurdod lleol perthnasol;

(b)gan yr awdurdod iechyd porthladd o ran dosbarth iechyd porthladd a gyfansoddwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(6); neu

(c)gan Weinidogion Cymru o ran sefydliad hylendid bwyd.

(3Nid yw is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru’n cyfarwyddo bod y ddyletswydd orfodi i’w harfer mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol gan Weinidogion Cymru.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.

(5Ym mharagraff (2)(c) ystyr “sefydliad hylendid bwyd” yw sefydliad y cyfeirir ato yn rheoliad 5(2) o Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(7) y mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd swyddogaethau gorfodi mewn perthynas ag ef o dan y Rheoliadau hynny.

Person awdurdodedig

22.  Caiff awdurdod gorfodi awdurdodi’n ysgrifenedig unrhyw bersonau y mae’r awdurdod o’r farn eu bod yn briodol i weithredu er mwyn gorfodi’r Rheoliadau hyn.

Pwerau mynediad a phwerau ychwanegol

23.—(1Caiff person awdurdodedig, drwy ddangos awdurdod y person hwnnw os gofynnir amdano er mwyn gorfodi’r Rheoliadau hyn, Rheoliad Rheolaeth yr UE a Rheoliad Gweithredu’r UE—

(a)mynd i mewn i fangre a’i harolygu (ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel tŷ annedd) ar unrhyw adeg resymol;

(b)mynd ag unrhyw bersonau eraill ac unrhyw offer neu ddeunyddiau y mae eu hangen;

(c)gwneud unrhyw archwiliad neu ymchwiliad y mae eu hangen;

(d)cyfarwyddo gadael y fangre, neu ran ohoni, heb aflonyddu arni (p’un ai’n gyffredinol ynteu mewn agweddau penodol) am ba amser bynnag sy’n rhesymol angenrheidiol at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c);

(e)cymryd unrhyw fesurau a thynnu unrhyw ffotograffau a gwneud unrhyw gofnodion y bernir eu bod yn angenrheidiol at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c);

(f)yn achos unrhyw eitem neu sylwedd a ganfyddir yn y fangre neu arni—

(i)cymryd samplau;

(ii)eu profi neu eu gwneud yn destun unrhyw broses, pan fo’n ymddangos eu bod wedi peri niwed neu’n debygol o beri niwed i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid neu blanhigion;

(iii)cymryd meddiant ohonynt a’u cadw cyhyd ag y bo’n angenrheidiol—

(aa)i’w harchwilio ac i arfer y pŵer ym mharagraff (ii);

(bb)i sicrhau nad ymyrrir â hwy cyn i’r archwiliad arnynt gael ei gwblhau; ac

(cc)i sicrhau eu bod ar gael i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn;

(g)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gofnodion y mae’n angenrheidiol eu gweld at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c) gael eu dangos neu, pan fo’r wybodaeth wedi ei chofnodi ar ffurf gyfrifiadurol, i ddetholiad o’r cofnodion gael ei ddangos, ac arolygu a chymryd copïau o’r cofnodion hynny, neu o unrhyw gofnod ynddynt;

(h)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw gyfleusterau a chymorth mewn perthynas ag unrhyw faterion neu bethau o dan reolaeth y person hwnnw neu y mae gan y person hwnnw gyfrifoldebau mewn perthynas â hwy ag sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi’r person awdurdodedig i arfer unrhyw rai o’r pwerau a roddir gan y rheoliad hwn; neu

(i)marcio unrhyw anifail neu sgil-gynnyrch anifeiliaid y mae’r person awdurdodedig o’r farn ei fod yn angenrheidiol.

(2Rhaid i berson awdurdodedig sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu neu y mae’r meddiannydd yn absennol ohoni dros dro ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag ydoedd cyn i’r person awdurdodedig fynd yno.

(3Caniateir i berson awdurdodedig fynd ag unrhyw bersonau eraill y mae o’r farn eu bod yn angenrheidiol gydag ef.

(4Pan fo person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer ym mharagraff (1)(f)(ii), rhaid i’r person awdurdodedig—

(a)os gofynnir hynny gan berson sy’n bresennol ar y pryd ac y mae ganddo gyfrifoldebau mewn perthynas â’r fangre honno, beri bod unrhyw beth sydd i’w wneud yn rhinwedd y pŵer hwnnw yn cael ei wneud ym mhresenoldeb y person hwnnw;

(b)ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i’r person awdurdodedig eu bod yn briodol er mwyn canfod pa beryglon, os oes rhai, a allai ddigwydd wrth wneud unrhyw beth y bwriedir ei wneud o dan y pŵer hwnnw.

(5Pan fo person awdurdodedig yn bwriadu arfer y pŵer ym mharagraff (1)(f)(iii), rhaid i’r person awdurdodedig, os yw’n ymarferol gwneud hynny, gymryd sampl o’r eitem neu’r sylwedd a rhoi i berson cyfrifol yn y fangre gyfran o’r sampl wedi ei marcio mewn dull sy’n ddigonol i’w hadnabod.

(6Pan fo person awdurdodedig yn arfer y pŵer ym mharagraff (1)(f)(iii), rhaid i’r person awdurdodedig adael hysbysiad sy’n rhoi manylion am yr eitem neu’r sylwedd sy’n ddigonol i ddynodi beth ydyw ac yn datgan bod meddiant wedi ei gymryd ohoni neu ohono, naill ai—

(a)gyda pherson cyfrifol; neu

(b)os nad yw hynny’n ymarferol, wedi ei osod mewn lle amlwg yn y fangre honno.

(7Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn gorfodi unrhyw berson i ddangos dogfen y byddai hawl gan y person hwnnw i’w dal yn ôl rhag ei dangos ar sail braint broffesiynol gyfreithiol o dan orchymyn datgelu mewn achos yn yr Uchel Lys.

Gwarant

24.—(1Os bydd ynad heddwch, mewn perthynas â’r pŵer i fynd i mewn i fangre o dan reoliad 23, drwy wybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)wedi ei fodloni bod seiliau rhesymol dros gredu bod unrhyw wybodaeth neu ddeunydd yn berthnasol i’r archwiliad neu’r ymchwiliad o dan reoliad 23(1)(c) ar unrhyw fangre o’r fath; a

(b)wedi ei fodloni—

(i)bod mynediad i’r fangre honno wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd; neu

(ii)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o’r fath, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i mewn, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre honno heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad drwy warant, a fydd yn parhau mewn grym am gyfnod o fis, awdurdodi person awdurdodedig i fynd i mewn i’r fangre, drwy ddefnyddio grym os yw hynny’n angenrheidiol.

(2Os bydd ynad heddwch, mewn perthynas â mangre sy’n cael ei defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf fel tŷ annedd, drwy wybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)wedi ei fodloni bod seiliau rhesymol dros gredu bod gwybodaeth neu ddeunydd yn berthnasol i archwiliad neu ymchwiliad at ddibenion gorfodi Rheoliad Rheolaeth yr UE, Rheoliad Gweithredu’r UE neu’r Rheoliadau hyn mewn mangre o’r fath; a

(b)wedi ei fodloni—

(i)bod mynediad i’r fangre honno wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd; neu

(ii)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o’r fath, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i mewn, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre honno heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad drwy warant, a fydd yn parhau mewn grym am gyfnod o fis, awdurdodi person awdurdodedig i fynd i mewn i’r fangre honno, drwy ddefnyddio grym os yw hynny’n angenrheidiol, a’i harolygu.

(3Pan fo person awdurdodedig wedi ei awdurdodi o dan baragraff (2) i fynd i mewn drwy warant, bydd gan y person awdurdodedig y pwerau a roddir gan reoliad 23(1)(b) i (i).

Hysbysiadau a gyflwynir gan berson awdurdodedig

25.—(1Caiff person awdurdodedig gyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (2) pan fo’r person hwnnw—

(a)o’r farn bod gofyniad sgil-gynhyrchion anifeiliaid wedi ei dorri, neu fod methiant i gydymffurfio â’r gofyniad hwnnw; neu

(b)yn rhesymol yn amau, o ganlyniad i dorri’r gofyniad hwnnw neu fethu â chydymffurfio ag ef, fod mangre yn peri risg i iechyd dynol neu i iechyd anifeiliaid.

(2Caniateir i hysbysiadau gael eu cyflwyno i feddiannydd unrhyw fangre, neu i’r person sydd â gofal neu gyfrifoldeb dros y fangre neu unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r canlynol gael eu gwaredu ac, os yw’n gymwys, eu storio cyn eu gwaredu—

(i)sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid;

(ii)deunydd mewn mangre y mae paragraff (1)(b) yn gymwys iddi;

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i fangre y mae paragraff (1)(b) yn gymwys iddi gael ei glanhau a’i diheintio ac, os yw’n gymwys, yn pennu’r dull ar gyfer y glanhau a’r diheintio hwnnw;

(c)yn gwahardd sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid—

(i)rhag cael eu symud neu eu cludo i fangre;

(ii)rhag cael eu symud neu eu cludo i fangre oni wneir hynny yn unol ag amodau a bennir yn yr hysbysiad, gan gynnwys amod ynglŷn â chwblhau’n foddhaol y glanhau a’r diheintio yn unol â hysbysiad fel y darperir yn is-baragraff (b).

(3Rhaid cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2) a hynny ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac os na chydymffurfir ag ef, caiff person awdurdodedig drefnu y cydymffurfir ag ef ar draul y person hwnnw.

(4Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo Erthygl 46(1)(a) neu (b) (ataliadau dros dro, tynnu’n ôl a gwaharddiadau ar weithrediadau) o Reoliad Rheolaeth yr UE yn gymwys.

(5Mae unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo ac sy’n fwriadol yn torri neu’n methu â chydymffurfio â darpariaethau’r hysbysiad hwnnw yn euog o drosedd.

Y pŵer i ddatgelu gwybodaeth at ddibenion gorfodi

26.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i wybodaeth y mae awdurdod gorfodi neu berson awdurdodedig yn ei chael wrth orfodi’r Rheoliadau hyn.

(2Caiff y person hwnnw ddatgelu’r wybodaeth i unrhyw awdurdod gorfodi neu berson awdurdodedig cyffelyb (a benodwyd yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig i orfodi Rheoliad Rheolaeth yr UE a Rheoliad Gweithredu’r UE) at ddibenion eu rôl orfodi.

RHAN 7Diwygiadau canlyniadol

Diwygiadau canlyniadol

27.  Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol.

RHAN 8Dirymiadau a darpariaeth drosiannol

Dirymiadau

28.  Mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) 2002(8);

(b)Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) 2003(9);

(c)Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2003(10);

(d)Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Rhif 2) (Cymru) 2011(11);

(e)o ran Cymru—

(i)Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995(12);

(ii)Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) (Diwygio) 1997(13).

Darpariaeth drosiannol

29.—(1Mae casglu, cludo a gwaredu deunydd Categori 3 yn Erthygl 10(f) o Reoliad Rheolaeth yr UE (deunydd Categori 3) wedi ei awdurdodi ar gyfer y cyfnod sy’n dod i ben ar 31 Rhagfyr 2014, pan fo gofynion paragraff (2) wedi eu bodloni.

(2Y gofynion yw—

(a)bod y deunydd yn bodloni Erthygl 36(3) o Reoliad Gweithredu’r UE a pharagraffau (a) i (c) o Bennod IV o Atodiad IV iddo; a

(b)bod y dull o waredu’r deunydd hwnnw, yn ychwanegol at y dull yn Erthygl 14 o Reoliad Rheolaeth yr UE (gwaredu a defnyddio deunydd Categori 3), yn gwaredu—

(i)mewn safle tirlenwi awdurdodedig heb brosesu ymlaen llaw; neu

(ii)pan fo Erthygl 21 o Reoliad Rheolaeth yr UE wedi ei bodloni, i safle bionwy neu safle compostio ar gyfer trawsffurfio yn unol ag awdurdodiad o dan baragraff 2 o Adran 2 o Bennod III o Atodiad V i Reoliad Gweithredu’r UE.

Alun Davies

un o Weinidogion Cymru

Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd,

5 Mawrth 2014

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources