- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
13 Rhagfyr 2016
Yn dod i rym
3 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 79(2)(b) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 187(2)(m) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ehangu Ystyr “Gweithiwr Gofal Cymdeithasol”) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
ystyr “GCC” (“SCW”) yw Gofal Cymdeithasol Cymru(2).
3. At ddibenion swyddogaethau GCC o dan adrannau 68(2), 112, 114 a 116 o’r Ddeddf yn unig, mae personau o unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau ym mharagraffau (a) i (l) o adran 79(3) o’r Ddeddf i gael eu trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adran 79(2)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddarparu bod personau penodol i gael eu trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol.
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu mai’r personau sydd i gael eu trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol yw’r rhai a ddisgrifir ym mharagraffau (a) i (l) o adran 79(3) o’r Ddeddf. Mae’r rheini yn cynnwys personau sydd wedi eu dynodi’n unigolion cyfrifol gan ddarparwyr gwasanaethau; personau sy’n ymgymryd â gwaith at ddibenion swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol (neu â’r ddarpariaeth o wasanaethau sy’n debyg i’r rheini a ddarperir wrth arfer y swyddogaethau hynny); personau sy’n ymgymryd â darparu gofal a chymorth personol nad ydynt wedi eu rheoleiddio i unrhyw berson; personau sydd wedi eu cofrestru fel gwarchodwyr plant neu fel darparwyr gofal dydd i blant; personau sy’n rheoli ymgymeriad neu sydd wedi eu cyflogi mewn ymgymeriad sy’n cynnal busnes cyflogi neu asiantaeth gyflogi mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o ofal a chymorth personol i unrhyw berson yng Nghymru; myfyrwyr gwaith cymdeithasol penodol ac arolygwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol penodedig.
Mae’r personau a grybwyllir uchod wedi eu pennu’n weithwyr gofal cymdeithasol at ddibenion swyddogaethau Gofal Cymdeithasol Cymru (“GCC”) o dan adrannau 68(2), 112, 114 a 116 o’r Ddeddf. O dan adran 68(2) o’r Ddeddf, rhaid i GCC arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar hybu a chynnal safonau uchel yn y ddarpariaeth o wasanaethau gofal a chymorth, safonau uchel o ymddygiad ac ymarfer ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol, safonau uchel o ran hyfforddi gweithwyr gofal cymdeithasol a hyder y cyhoedd mewn gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae adran 112 o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i GCC lunio a chyhoeddi codau ymarfer sy’n pennu safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol ac unrhyw bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae adran 114 o’r Ddeddf yn rhoi pŵer i GCC i wneud rheolau i gymeradwyo cyrsiau penodol ac mae adran 116 yn nodi swyddogaethau eraill GCC mewn cysylltiad ag addysg a hyfforddiant.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Ailenwyd Cyngor Gofal Cymru yn Ofal Cymdeithasol Cymru gan adran 67(3) o’r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: