- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Tiroedd Comin, Cymru
Gwnaed
9 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r awdurdod cenedlaethol priodol gan adran 56(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(1):
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1965” (“the 1965 Act”) yw Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965(2); ac
ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 i rym ar 10 Ebrill 2017—
(a)adran 19(1) i (5) a (7) (cywiro); a
(b)paragraffau 1, 2(1) a (2)(a) i (c), 3(1) a (2)(a) i (d), 4(1) i (5), 5(1), 5(2), 6(1), 6(2), 7(1), 7(2), 8(1), 8(2) a 9(1) i (3) o Atodlen 2 (tir comin heb ei gofrestru neu dir comin a gam-gofrestrwyd o dan Ddeddf 1965).
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 i rym at bob diben sy’n weddill ar 10 Ebrill 2017—
(a)adran 19(6) (cywiro);
(b)adran 22 (tir comin heb ei gofrestru neu dir comin a gam-gofrestrwyd o dan Ddeddf 1965); ac
(c)paragraffau 2(2)(d) a (3), 3(2)(e) a (3), 4(6), 5(3), 6(3), 7(3), 8(3), 9(4) a 10 o Atodlen 2 (tir comin heb ei gofrestru neu dir comin a gam-gofrestrwyd o dan Ddeddf 1965).
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Ebrill 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 10 Ebrill 2017 adran 19 (cywiro) ac adran 22 (tir comin heb ei gofrestru neu dir comin a gam-gofrestrwyd o dan Ddeddf 1965) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”) ac Atodlen 2 (tir comin heb ei gofrestru neu dir comin a gam-gofrestrwyd o dan Ddeddf 1965) iddi, o ran Cymru.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf 2006 a nodir yn yr erthygl honno.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym at bob diben sy’n weddill ddarpariaethau sy’n ymwneud â chywiro a thir comin heb ei gofrestru neu dir comin a gam-gofrestrwyd o dan Ddeddf 1965. Gellir cael gwybodaeth bellach am y darpariaethau y daw’r Gorchymyn hwn â hwy i rym yn y Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2006 y gellir eu gweld yn www.legislation.gov.uk.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 3(5) – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 4 | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 5 | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 6(4) – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 7(4) – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 8(1),(2) – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 11(5),(6) – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 12(a) – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 13(1)(a) – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 14 – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 15 | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 16 | 1 Ebrill 2012 | 2012/739 (Cy. 99) (C. 19) |
Adran 17(1) i (2) a (4) i (9) | 1 Ebrill 2012 | 2012/739 (Cy. 99) (C. 19) |
Adran 17(3), (10) – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 17(3) a (10) – i’r graddau nad yw eisoes mewn grym | 1 Ebrill 2012 | 2012/739 (Cy. 99) (C. 19) |
Adran 19(6) – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 20(2), (3) – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 21(2), (3) – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 22 – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 23 – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 23 – at ddibenion penodol | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 24 – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 24 | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 25 – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 29(1), (6) – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 31(6)(a) – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 38 | 1 Ebrill 2012 | 2012/739 (Cy. 99) (C. 19) |
Adran 39(1) i (5) a (7) | 1 Ebrill 2012 | 2012/739 (Cy. 99) (C. 19) |
Adran 39(6) – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 39(6) – i’r graddau nad yw eisoes mewn grym | 1 Ebrill 2012 | 2012/739 (Cy. 99) (C. 19) |
Adran 40 – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 40 – i’r graddau nad yw eisoes mewn grym | 1 Ebrill 2012 | 2012/739 (Cy. 99) (C. 19) |
Adran 41 | 1 Ebrill 2012 | 2012/739 (Cy. 99) (C. 19) |
Adran 42(1) i (3) a (5) | 1 Ebrill 2012 | 2012/739 (Cy. 99) (C. 19) |
Adran 42(4) – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 42(4) – i’r graddau nad yw eisoes mewn grym | 1 Ebrill 2012 | 2012/739 (Cy. 99) (C. 19) |
Adran 43 – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 43 – i’r graddau nad yw eisoes mewn grym | 1 Ebrill 2012 | 2012/739 (Cy. 99) (C. 19) |
Adran 44 – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 44 – at ddibenion penodol | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 44 – i’r graddau nad yw eisoes mewn grym | 1 Ebrill 2012 | 2012/739 (Cy. 99) (C. 19) |
Adran 45 | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 46 | 1 Ebrill 2012 | 2012/806 (Cy. 113) (C. 21) |
Adran 47 | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 48 | 1 Ebrill 2012 | 2012/739 (Cy. 99) (C. 19) |
Adran 49 | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 50(1), (4)-(6) – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 51 | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 52 – at ddibenion penodol | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 53 – at ddibenion penodol | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Adran 53 – at ddibenion penodol | 1 Rhagfyr 2010 | 2010/2356 (C. 114) |
Adran 53 – at ddibenion penodol | 1 Ebrill 2012 | 2012/739 (Cy. 99) (C. 19) |
Atodlen 2, paragraffau 2(2)(d) a (3), 3(2)(e) a (3), 4(6), 5(3), 6(3), 7(3), 8(3), 9(4) a 10 – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Atodlen 3, paragraffau 2(1), (5) a (6), 4, 5, 8(2) a (3) – at ddibenion penodol | 12 Awst 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Atodlen 3, paragraff 9 | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Atodlen 4, paragraff 6 | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Atodlen 4, i’r graddau nad yw eisoes mewn grym | 1 Ebrill 2012 | 2012/739 (Cy. 99) (C. 19) |
Atodlen 5, paragraffau 4, 6(a), 7(1)(yn rhannol) a (5) | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Atodlen 6, Rhan 1 yn rhannol | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Atodlen 6, Rhan 1 yn rhannol | 1 Rhagfyr 2010 | 2010/2356 (C. 114) |
Atodlen 6, Rhan 2 yn rhannol | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Atodlen 6, Rhan 3 yn rhannol | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Atodlen 6, Rhan 5 | 6 Medi 2007 | 2007/2386 (Cy. 197) (C. 88) |
Atodlen 6, Rhannau 2, 3 a 5, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym | 1 Ebrill 2012 | 2012/739 (Cy. 99) (C. 19) |
Gwnaed y Gorchymyn Cychwyn a ganlyn o dan Ddeddf 2006 gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr a chan Weinidogion Cymru o ran Cymru—
Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion (Cymru a Lloegr) a Chychwyn Rhif 5 (Lloegr) (Diwygio)) 2010 (O.S. 2010/2356) (C. 114)
Gwnaed y Gorchmynion Cychwyn a ganlyn o dan Ddeddf 2006 gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr—
Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Lloegr) 2006 (O.S. 2006/2504 (C. 84)
Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Lloegr) 2007 (O.S. 2007/456) (C. 17)
Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 3, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Lloegr) 2007 (O.S. 2007/2584) (C. 98)
Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 4 ac Arbedion) (Lloegr) 2008 (O.S. 2008/1960) (C. 94)
Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 5) (Lloegr) 2010 (O.S. 2010/61) (C. 10)
Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 6) (Lloegr) 2011 (O.S. 2011/2460) (C. 88)
Gorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 7, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Lloegr) 2014 (O.S. 2014/3026) (C. 128)
Gweler hefyd adran 56 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 ar gyfer y darpariaethau sy’n dod i rym heblaw drwy orchymyn cychwyn.
2006 p. 26; diwygiwyd adran 61(1) gan baragraff 9 o Atodlen 7 i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (p. 4), ac mae’n diffinio “appropriate national authority” fel Gweinidogion Cymru o ran Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: