Search Legislation

Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 26

YR ATODLENDIWYGIADAU I DDEDDFWRIAETH SYLFAENOL: CREDYDAU TRETH

RHAN 1DIWYGIADAU I DDEDDF TRETH GWAREDIADAU TIRLENWI (CYMRU) 2017

1.  Mae DTGT wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2.  Yn adran 37 o DTGT (canslo cofrestriad), yn is-adran (4)—

(a)mae’r geiriau o “bod yr holl dreth y mae’n ofynnol i’r person ei thalu” hyd at y diwedd yn dod yn baragraff (a);

(b)ar ddiwedd y paragraff hwnnw mewnosoder

, a

(b)bod yr holl gredyd treth y mae gan y person hawlogaeth iddo ac y mae’r person wedi ei hawlio—

(i)wedi ei osod yn erbyn swm o dreth y byddai fel arall wedi bod yn ofynnol i’r person ei dalu, neu

(ii)wedi ei dalu i’r person.

3.  Yn adran 42 o DTGT (talu treth), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A) Ond os yw swm o gredyd treth wedi ei osod yn erbyn y swm hwnnw o dreth yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 54, y swm o dreth y mae’n ofynnol i’r person ei dalu erbyn y dyddiad hwnnw yw’r swm sy’n parhau i fod yn weddill ar ôl y gosod yn erbyn (os oes unrhyw swm o’r fath).

4.  Yn adran 43 o DTGT (dyletswydd i gadw crynodeb treth gwarediadau tirlenwi), yn is-adran (1)—

(a)hepgorer yr “a” ar ddiwedd paragraff (a);

(b)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)swm y credyd treth a hawliwyd gan y person, a.

5.  Yn adran 77 o DTGT (dynodi grŵp o gwmnïau), yn is-adran (8)—

(a)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth;;

(b)ym mharagraff (c), yn lle “neu (b)” rhodder “, (b) neu (ba)”.

6.  Yn adran 83 o DTGT (dyletswyddau a rhwymedigaethau partneriaethau a chyrff anghorfforedig), yn is-adran (8)—

(a)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth;;

(b)ym mharagraff (c), yn lle “neu (b)” rhodder “, (b) neu (ba)”.

7.  Yn adran 96 o DTGT (dehongli), yn is-adran (1), mewnosoder yn y man priodol—

ystyr “credyd treth” (“tax credit”) yw credyd treth o dan reoliadau a wneir o dan adran 54;.

RHAN 2DIWYGIADAU I DDEDDF CASGLU A RHEOLI TRETHI (CYMRU) 2016

8.  Mae DCRhT wedi ei diwygio fel a ganlyn.

9.  Yn adran 37 o DCRhT (trosolwg o Ran 3), ym mharagraff (e), yn lle “os na chynhelir ymholiad” rhodder “ac o symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth”.

10.  Yn adran 44 o DCRhT (cwmpas ymholiad), yn is-adran (1)—

(a)hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (a);

(b)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)sy’n ymwneud â’r cwestiwn pa un a oes gan y person a ddychwelodd y ffurflen dreth hawlogaeth i gredyd treth a hawliwyd yn y ffurflen dreth, neu

(d)sy’n ymwneud â’r swm o gredyd treth y mae gan y person hawlogaeth iddo.

11.—(1Mae adran 45 o DCRhT(1) (diwygio ffurflen dreth yn ystod ymholiad er mwyn osgoi colli treth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A) Os yw ACC, yn ystod y cyfnod pan fo ymholiad i ffurflen dreth yn mynd rhagddo, yn dod i’r casgliad—

(a)bod swm y credyd treth a hawliwyd yn y ffurflen dreth yn ormodol, a

(b)ei bod yn debygol, oni chaiff y ffurflen dreth ei diwygio ar unwaith, y collir treth ddatganoledig,

caiff ACC ddiwygio’r ffurflen dreth drwy ddyroddi hysbysiad i’r person a’i dychwelodd fel nad yw’r swm a hawlir yn ormodol mwyach.

(3Yn is-adran (2)—

(a)mae’r geiriau o “nid yw is-adran (1) yn gymwys” hyd at y diwedd yn dod yn baragraff (a);

(b)ar ddiwedd y paragraff hwnnw mewnosoder

, a

(b)nid yw is-adran (1A) yn gymwys ond i’r graddau y mae’r swm gormodol i’w briodoli i’r diwygiad.

(4Yn is-adran (3), ar ôl “is-adran (1)” mewnosoder “neu (1A)”.

12.  Ar ôl adran 55 o DCRhT mewnosoder—

Asesiad mewn perthynas â chredyd treth

55A.  Os yw ACC yn dod i’r casgliad—

(a)mewn perthynas â swm o gredyd treth sydd wedi ei osod yn erbyn swm o dreth y byddai fel arall wedi bod yn ofynnol i berson ei dalu—

(i)na ddylid fod wedi ei osod yn erbyn y swm o dreth, neu

(ii)ei fod wedi mynd yn ormodol,

(b)mewn perthynas â swm a dalwyd i berson mewn cysylltiad â chredyd treth—

(i)na ddylid fod wedi ei dalu, neu

(ii)ei fod wedi mynd yn ormodol, neu

(c)nad yw swm y mae’n ofynnol i berson ei dalu i ACC mewn cysylltiad â chredyd treth wedi ei dalu,

caiff ACC wneud asesiad o’r swm y dylid bod wedi ei dalu i ACC, ym marn ACC, er mwyn unioni’r mater.

13.  Yn adran 56 o DCRhT (cyfeiriadau at “asesiad ACC”), yn lle “neu 55” rhodder “, 55 neu 55A”.

14.  Yn adran 57 o DCRhT (cyfeiriadau at y “trethdalwr”), ym mharagraff (b), ar ôl “adran 55” mewnosoder “neu 55A”.

15.—(1Mae adran 58 o DCRhT(2) (amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACC) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-adran (1), ym mharagraff (a)—

(a)yn lle “tri” rhodder “pedwar”;

(b)yn lle “a (3A)” rhodder “, (3A) a (3B)”.

(3ar ôl is-adran (3A) mewnosoder—

(3B) Y pedwerydd achos yw pan fo ACC wedi dod i’r casgliad fod y sefyllfa a ddisgrifir yn adran 55A wedi digwydd.

16.—(1Mae adran 59 o DCRhT(3) (terfynau amser ar gyfer asesiadau ACC) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-adran (1), ar ôl “dyddiad perthnasol” mewnosoder “mewn unrhyw achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54, 55 neu 55A(a) neu (b)”.

(3Yn is-adran (2), yn lle “neu 55” rhodder “, 55 neu 55A(a) neu (b)”.

(4Yn is-adran (3), yn lle “neu 55” rhodder “, 55 neu 55A(a) neu (b)”.

(5Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A) Ni chaniateir gwneud asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(c)—

(a)os yw ACC wedi dyroddi hysbysiad i’r trethdalwr sy’n gwneud talu’r swm o dan sylw yn ofynnol, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd y taliad yn ofynnol, a

(b)fel arall, ar ôl y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth ACC yn ymwybodol ei bod yn ofynnol i’r trethdalwr dalu’r swm o dan sylw.

(6Yn is-adran (7)—

(a)yng ngeiriau agoriadol y diffiniad o “dyddiad perthnasol”, ar ôl “(“relevant date”)” mewnosoder “, mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 54 neu 55,”;

(b)ar ôl y diffiniad o “dyddiad perthnasol” mewnosoder—

ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”), mewn perthynas ag asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(a) neu (b), yw—

(a)

pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny, y dyddiad ffeilio;

(b)

pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio mewn ffurflen dreth a ddychwelwyd ar ôl y dyddiad ffeilio, y dyddiad y dychwelwyd y ffurflen dreth;

(c)

pan fo’r credyd treth o dan sylw wedi ei hawlio drwy unrhyw ddull arall, y diwrnod y gwnaed yr hawliad.

17.  Yn adran 81D o DCRhT(4) (diffiniadau sy’n ymwneud â’r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi), yn y diffiniad o “mantais drethiannol”—

(a)hepgorer yr “ac” ar ôl paragraff (d);

(b)ar ddiwedd paragraff (e) mewnosoder

, ac

(f)credyd treth neu gredyd treth uwch.

18.—(1Mae adran 84 o DCRhT (ystyr “sefyllfa dreth”) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-adran (1), ym mharagraff (b)—

(a)ar ôl “cosbau” mewnosoder “credydau treth”;

(b)ar ôl “gosbau” mewnosoder “a symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth”.

(3Ym mharagraff (c) o’r is-adran honno, ar ôl “dreth ddatganoledig” mewnosoder “neu unrhyw swm mewn cysylltiad â chredyd treth”.

19.  Ar ôl adran 84 o DCRhT mewnosoder—

Ystyr “niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig”

84A.  Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu trethi datganoledig yn cynnwys niweidio’r gwaith o asesu neu gasglu unrhyw swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth.

20.  Yn adran 93 (pŵer i gael manylion cyswllt dyledwyr), yn is-adran (2)—

(a)hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (c);

(b)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(e)taliad mewn cysylltiad â chredyd treth, neu

(f)llog ar daliad mewn cysylltiad â chredyd treth,.

21.  Yn adran 100 o DCRhT (hysbysiadau trethdalwr ar ôl dychwelyd ffurflen dreth), yn is-adran (5)—

(a)hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (b);

(b)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)ei bod yn bosibl bod swm o gredyd treth nad oes gan y person hawlogaeth iddo wedi ei hawlio, neu

(e)ei bod yn bosibl bod hawliad am gredyd treth yn ormodol neu wedi mynd yn ormodol.

22.  Yn adran 117 o DCRhT (trosolwg o Ran 5), yn is-adran (1), ym mharagraff (a), ar ôl “trethi datganoledig” mewnosoder “neu symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredydau treth”.

23.  Yn y pennawd i Bennod 2 o Ran 5 o DCRhT (cosbau am fethu â dychwelyd ffurflenni neu dalu treth), ar y diwedd mewnosoder “NEU SYMIAU SY’N DALADWY MEWN CYSYLLTIAD Â CHREDYDAU TRETH”.

24.  Yn adran 122 o DCRhT(5) (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd), yn Nhabl A1, yn eitem 2 yng ngholofn 3, yn lle “a ddatgenir mewn” rhodder “sy’n daladwy o ganlyniad i”.

25.  Ar ôl adran 122A o DCRhT(6) mewnosoder—

Cosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth

Cosb am fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth mewn pryd

123A.(1) Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson dalu swm o ganlyniad i asesiad ACC a wneir o dan adran 55A.

(2) Mae person yn agored i gosb os yw’n yn methu â thalu’r swm ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny.

(3) Y dyddiad cosbi yw’r dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd yn ofynnol talu’r swm.

(4) Y gosb yw 5% o’r swm sy’n daladwy o ganlyniad i’r asesiad ACC.

26.—(1Mae adran 126 o DCRhT(7) (esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A) Os yw person yn bodloni ACC neu (drwy apêl) y tribiwnlys fod esgus rhesymol dros fethu â thalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, nid yw’r person yn agored i gosb o dan adran 123A mewn perthynas â’r methiant.

(3Yn is-adran (3), yn y geiriau cyn paragraff (a), yn lle “a (2)” rhodder “, (2) a (2A)”.

(4Ym mhennawd yr adran, ar y diwedd mewnosoder “neu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth”.

27.—(1Mae adran 127 o DCRhT(8) (asesu cosbau o dan Bennod 2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-adran (1), ym mharagraff (c), yn lle “neu’r trafodiad” rhodder “, y trafodiad neu’r swm”.

(3Ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

(6A) Caniateir gwneud asesiad atodol mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A os oedd asesiad cynharach yn gweithredu drwy gyfeirio at danamcangyfrif o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r credyd treth o dan sylw.

(6B) Os yw asesiad mewn cysylltiad â chosb o dan adran 123A yn seiliedig ar swm y darganfyddir ei fod yn ormodol, caiff ACC ddyroddi hysbysiad i’r person sy’n agored i’r gosb yn diwygio’r asesiad fel ei fod yn seiliedig ar y swm cywir.

(4Yn is-adran (7), yn lle “neu (6)” rhodder “, (6) neu (6B)”.

28.—(1Mae adran 128 o DCRhT (9) (terfyn amser ar gyfer asesu cosbau o dan Bennod 2) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-adran (2)—

(a)hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (a);

(b)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder

, neu

(c)yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, â’r dyddiad cosbi.

(3Yn is-adran (3), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(c)yn achos methiant i dalu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, diwedd y cyfnod apelio ar gyfer yr asesiad o’r swm yr asesir y gosb mewn cysylltiad ag ef.

(4Ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A) Yn is-adran (2)(c), mae i “dyddiad cosbi” yr ystyr a roddir gan adran 123A(3).

(5Yn is-adran (5), yn y geiriau cyn paragraff (a), hepgorer “(a) a (b)”.

29.  Yn adran 129 o DCRhT (cosb am anghywirdeb mewn dogfen a roddir i ACC), yn is-adran (2)—

(a)hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (b);

(b)ar ddiwedd paragraff (c) mewnosoder

, neu

(d)hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.

30.  Yn adran 132 o DCRhT(10) (cosb am anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC gan berson arall), yn is-adran (2)—

(a)hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (b);

(b)ar ddiwedd paragraff (c) mewnosoder

, neu

(d)hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.

31.  Yn adran 133 o DCRhT(11) (cosb am fethu â hysbysu ynghylch tanasesiad neu danddyfarniad), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A) Mae person hefyd yn agored i gosb pan fo—

(a)asesiad ACC o dan adran 55A yn tanddatgan y swm y mae’n ofynnol i’r person ei dalu i ACC, a

(b)y person wedi methu â chymryd camau rhesymol i hysbysu ACC, o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad am yr asesiad, ei fod yn danasesiad.

32.—(1Mae adran 135 o DCRhT (refeniw posibl a gollir: y rheol arferol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-adran (1), yn y geiriau ar ôl paragraff (b), ar ôl “threth ddatganoledig” mewnosoder “neu gredyd treth”.

(3Yn is-adran (2)—

(a)hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (a);

(b)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder

ac

(c)swm y byddai wedi bod yn ofynnol i ACC ei osod yn erbyn atebolrwydd person i dreth, neu ei dalu i berson, pe na bai’r anghywirdeb neu’r tanasesiad wedi ei gywiro.

33.  Yn adran 136 o DCRhT (refeniw posibl a gollir: camgymeriadau lluosog) yn is-adran (2)—

(a)yn lle “neu drafodiad”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “, trafodiad neu hawliad am gredyd treth”;

(b)yn lle “neu drafodiad”, yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “, trafodiad neu hawliad am gredyd treth”.

34.  Yn adran 139 o DCRhT (gostwng cosb o dan Bennod 3 am ddatgelu), yn is-adran (2) 

(a)hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (b);

(b)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)anghywirdeb sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth,

(e)bod gwybodaeth ffug wedi ei darparu, neu wybodaeth wedi ei hatal, sy’n berthnasol i hawlogaeth person i gredyd treth neu atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth, neu

(f)methiant i ddatgelu tanasesiad mewn cysylltiad ag atebolrwydd person i dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth.

35.  Yn adran 141 o DCRhT(12) (asesu cosbau o dan Bennod 3), yn is-adran (1), ym mharagraff (c), yn lle “neu drafodiad” rhodder “, trafodiad neu hawliad am gredyd treth”.

36.—(1Mae adran 151 o DCRhT (cosb gysylltiedig â threth am fethu â chydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth neu am rwystro) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-adran (1), ym mharagraff (c)—

(a)mae’r geiriau o “swm y dreth ddatganoledig” hyd at “y mae’n debygol o’i dalu,” yn dod yn is-baragraff (i);

(b)ar ddiwedd yr is-baragraff hwnnw mewnosoder

neu

(ii)y swm y mae’r person wedi ei dalu, neu y mae’n debygol o’i dalu mewn cysylltiad â chredyd treth,.

(3Yn is-adran (3)—

(a)mae’r geiriau “swm y dreth ddatganoledig” yn dod yn is-baragraff (i);

(b)ar ddiwedd yr is-baragraff hwnnw mewnosoder

, neu

(ii)y swm mewn cysylltiad â chredyd treth,.

37.  Ar ôl adran 157A o DCRhT(13) mewnosoder—

Llog taliadau hwyr ar symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth

157B.(1) Mae’r adran hon yn gymwys i swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth.

(2) Os na thelir y swm ar y dyddiad erbyn pryd y mae’n ofynnol ei dalu neu cyn hynny, mae’r swm yn dwyn llog (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “llog taliadau hwyr”) ar y gyfradd llog taliadau hwyr ar gyfer y cyfnod—

(a)sy’n dechrau â dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr, a

(b)sy’n dod i ben â’r dyddiad talu.

(3) Pan fo’r swm yn daladwy o ganlyniad i asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(a) neu (b), dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw—

(a)os hawliwyd y credyd treth o dan sylw mewn ffurflen dreth, y diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth;

(b)os hawliwyd y credyd treth o dan sylw drwy unrhyw ddull arall, y diwrnod ar ôl y diwrnod y talwyd swm sy’n hafal â’r swm i berson mewn cysylltiad â’r hawliad.

(4) Pan fo’r swm yn daladwy o ganlyniad i asesiad ACC mewn achos sy’n ymwneud â sefyllfa a grybwyllir yn adran 55A(c), dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr yw’r diwrnod ar ôl y diwrnod erbyn pryd yr oedd yn ofynnol talu’r swm.

(5) Ond pan fo adran 160 yn gymwys, dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr at ddibenion yr adran hon yw’r dyddiad a bennir yn yr adran honno.

38.  Yn adran 158 o DCRhT(14) (llog taliadau hwyr: atodol), yn is-adran (1), yn lle “a 157A” rhodder “, 157A a 157B”.

39.  Yn adran 160 o DCRhT (dyddiad dechrau’r llog taliadau hwyr: marwolaeth trethdalwr), yn is-adran (1), ym mharagraff (a), yn lle “person y mae swm o dreth ddatganoledig i’w godi arno neu gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig i’w chodi arno” rhodder

person—

(i)y mae swm o dreth ddatganoledig i’w godi arno neu gosb sy’n ymwneud â threth ddatganoledig i’w chodi arno, neu

(ii)y mae’n ofynnol iddo dalu swm mewn cysylltiad â chredyd treth,.

40.—(1Mae adran 161 o DCRhT (llog ad-daliadau ar symiau sy’n daladwy gan ACC) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-adran (2)—

(a)hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (a);

(b)ar ddiwedd paragraff (b) mewnosoder

, neu

(c)swm mewn cysylltiad â chredyd treth.

(3Yn is-adran (4), ym mharagraff (b), yn lle “(2)(a) neu (b)” rhodder “(2)(a), (b) neu (c)”.

41.  Yn adran 164 o DCRhT (ystyr “swm perthnasol” yn Rhan 7), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(e)swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth;

(f)llog ar swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth.

42.—(1Mae adran 169 o DCRhT(15) (achosion yn llys yr ynadon) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-adran (4)—

(a)ar ôl “neu’n gosb” mewnosoder “neu’n swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth”;

(b)yn lle “neu’r gosb” rhodder “, y gosb neu’r swm arall”.

(3Yn is-adran (5)—

(a)ar ôl “neu’n gosb” mewnosoder “neu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth”;

(b)yn lle “neu’r gosb” rhodder “, y gosb neu’r swm arall”.

43.  Yn adran 172 o DCRhT(16) (penderfyniadau apeliadwy), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (k) mewnosoder—

(l)penderfyniad sy’n ymwneud â chredyd treth mewn cysylltiad â threth gwarediadau tirlenwi.

44.  Yn y pennawd i Bennod 3A o Ran 8 o DCRhT, ar ôl “TRETH DDATGANOLEDIG” mewnosoder “ETC”.

45.  Ar ôl adran 181I(17) mewnosoder—

Cymhwyso’r Bennod hon i symiau sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth

181J.(1) Mae’r Bennod hon yn gymwys i dalu ac adennill symiau sy’n ymwneud â chredydau treth—

(a)fel pe bai cyfeiriadau at swm o dreth ddatganoledig (gan gynnwys symiau o dreth gwarediadau tirlenwi) yn gyfeiriadau at swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth,

(b)fel pe bai cyfeiriadau at log ar swm o dreth ddatganoledig yn gyfeiriadau at log ar swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth, ac

(c)fel pe bai cyfeiriadau at dreth ddatganoledig yn cael ei chodi neu i’w chodi ar berson yn gyfeiriadau at swm sy’n daladwy gan berson mewn cysylltiad â chredyd treth.

46.  Yn adran 183A o DCRhT(18) (atal ad-daliad pan fo apêl bellach yn yr arfaeth), yn is-adran (1), ym mharagraff (a)—

(a)mae’r geiriau o “bod ACC i ad-dalu” i “gan berson,” yn dod yn is-baragraff (i);

(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder

neu

(ii)bod swm a dalwyd gan berson mewn cysylltiad â chredyd treth i’w ad-dalu gan ACC,.

47.  Yn adran 192 o DCRhT(19) (dehongli), yn is-adran (2), mewnosoder yn y man priodol 

ystyr “credyd treth” (“tax credit”) yw credyd treth o dan reoliadau a wneir o dan adran 54 o DTGT;.

48.  Yn adran 193 o DCRhT(20) (mynegai o ymadroddion a ddiffinnir), mewnosoder yn y man priodol—

Credyd treth (“tax credit”)adran 192(2)
(1)

Diwygiwyd adran 45 gan baragraff 13 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (dccc 1).

(2)

Diwygiwyd adran 58 gan baragraff 18 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“DTTT”).

(3)

Diwygiwyd adran 59 gan baragraff 19 o Atodlen 23 i DTTT.

(4)

Mewnosodwyd adran 81D gan adran 66 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

(5)

Amnewidiwyd adran 122 gan baragraff 42 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“DTTT”).

(6)

Mewnosodwyd adran 122A gan baragraff 42 o Atodlen 23 i DTTT a diddymwyd adran 123 gan baragraff 43 o Atodlen 23 i DTTT.

(7)

Diwygiwyd adran 126 gan baragraff 45 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“DTTT”) a chan baragraff 13 o Atodlen 4 i DTGT.

(8)

Diwygiwyd adran 127 gan baragraff 46 o Atodlen 23 i DTTT a chan baragraff 14 o Atodlen 4 i DTGT.

(9)

Diwygiwyd adran 128 gan baragraff 47 o Atodlen 23 i DTTT.

(10)

Diwygiwyd adran 132 gan baragraff 49 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“DTTT”).

(11)

Diwygiwyd adran 133 gan baragraff 50 o Atodlen 23 i DTTT.

(12)

Diwygiwyd adran 141 gan baragraff 51 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

(13)

Mewnosodwyd adran 157A gan baragraff 58 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.

(14)

Amnewidiwyd adran 158 gan baragraff 58 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“DTTT”).

(15)

Diwygiwyd adran 169 gan baragraff 60 o Atodlen 23 i DTTT.

(16)

Diwygiwyd adran 172(2) gan baragraff 62 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“DTTT”) a chan adrannau 24, 38, 58 a 80 o DTGT a pharagraff 16 o Atodlen 4 iddi.

(17)

Mewnosodwyd Pennod 3A (gan gynnwys adran 181I) gan baragraff 63 o Atodlen 23 i DTTT.

(18)

Mewnosodwyd adran 183A gan baragraff 65 o Atodlen 23 i DTTT.

(19)

Diwygiwyd adran 192 gan baragraff 70 o Atodlen 23 i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“DTTT”), a chan baragraff 19 o Atodlen 4 i DTGT.

(20)

Diwygiwyd adran 193 gan baragraff 71 o Atodlen 23 i DTTT, a chan baragraff 20 o Atodlen 4 i DTGT.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources