Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

RHAN 1LL+CCyflwyniad, adolygu a dod i ben

Enwi, cymhwyso a dod i rymLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio Rhan 6, i rym ar [F120 Rhagfyr 2020].

(4Daw Rhan 6 i rym ar 23 Rhagfyr 2020.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

AdolyguLL+C

2.  Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, a pha un a yw’r cyfyngiadau a’r gofynion hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—

(a)erbyn 7 Ionawr 2021;

(b)o leiaf unwaith yn y cyfnod rhwng 8 Ionawr 2021 a 28 Ionawr 2021;

(c)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 o ddiwrnodau.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Dod i benLL+C

3.  Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar [F228 Mai] 2021.

Diwygiadau Testunol

F2Geiriau yn rhl. 3 wedi eu hamnewid (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(2)

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

RHAN 2LL+CLefelau o gyfyngiadau ar ymgynnull, ar deithio ac ar ddefnyddio mangreoedd busnesau a gwasanaethau

Lefelau o gyfyngiadauLL+C

4.—(1Mae Atodlenni 1 i 4 yn nodi cyfyngiadau a gofynion a all fod yn gymwys mewn ardal mewn perthynas ag—

(a)cynulliadau;

(b)trefnu digwyddiadau;

F3(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(d)defnyddio mangreoedd busnesau neu wasanaethau penodedig sydd fel arfer yn agored i’r cyhoedd.

(2Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 1.

(3Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 2 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 2.

(4Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3.

(5Mae’r cyfyngiadau a’r gofynion a nodir yn Atodlen 4 yn gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 4.

(6Mae Atodlen 5 yn nodi pa un o Atodlenni 1 i 4 sy’n gymwys i ardal drwy bennu lefel ar gyfer yr ardal honno.

[F4(6A) Ond, mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3, am y cyfnod sy’n dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar [F52 Mai] 2021, mae Atodlen 3 i’w thrin fel pe bai Atodlen 3A wedi ei rhoi yn ei lle.

(6B) Ac mae Atodlen 5 yn nodi addasiadau dros dro canlyniadol sy’n gymwys mewn perthynas ag ardal Lefel Rhybudd 3 am y cyfnod a bennir ym mharagraff (6A).]

F6(7. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(8Yn y Rheoliadau hyn—

(a)“ardal Lefel Rhybudd 1” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 1;

(b)“ardal Lefel Rhybudd 2” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 2;

(c)“ardal Lefel Rhybudd 3” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 3;

(d)“ardal Lefel Rhybudd 4” yw ardal a bennir yn y tabl yn Atodlen 5, pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel Rhybudd 4.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

RHAN 3LL+CGofyniad i ynysu etc.

PENNOD 1LL+CGofyniad i ynysu etc. pan fo person yn cael canlyniad positif am y coronafeirws neu wedi dod i gysylltiad agos â pherson o’r fath

Dehongli’r RhanLL+C

5.—(1Yn y Rhan hon, ystyr “cysylltiad agos” yw cysylltiad y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ystyried y gall arwain at risg o haint neu halogiad â’r coronafeirws, gan gynnwys—

(a)dod i gysylltiad wyneb yn wyneb â pherson o bellter o lai nag 1 metr;

(b)treulio mwy na 15 munud o fewn 2 fetr i berson;

(c)teithio mewn car neu gerbyd bach arall gyda pherson neu’n agos i berson ar awyren neu yn yr un cerbyd mewn trên.

(2Yn rheoliadau 6 ac 8, mae cyfeiriadau at “oedolyn” (“O”) yn cynnwys cyfeiriadau at blentyn sy’n 16 neu’n 17 oed.

(3At ddibenion y Rhan hon, mae gan berson gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan y person—

(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw hysbysiad drwy ap ffôn clyfar Covid 19 y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i ynysu: oedolyn â’r coronafeirwsLL+C

6.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod O wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

(2Ni chaiff O ymadael â’r man lle y mae O yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad O oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

(3Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i O hysbysu’r swyddog—

(a)am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae O yn byw, a

(b)am gyfeiriad y man hwnnw.

(4Diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(5Ond pan fo O yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd symptomau gyntaf, diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae O yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd y symptomau gyntaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i ynysu: plentyn â’r coronafeirwsLL+C

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod plentyn (“P”) y mae O yn gyfrifol amdano wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

(2Ni chaiff P ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

(3Os yw swyddog olrhain cysylltiadau yn gofyn am hynny, rhaid i O hysbysu’r swyddog—

(a)am enw pob person sy’n byw yn y man lle y mae P yn byw, a

(b)am gyfeiriad y man hwnnw.

(4Diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(5Ond mewn achos pan fo O yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd P symptomau gyntaf, diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae O yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd P symptomau gyntaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos: oedolynLL+C

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod O wedi dod i gysylltiad agos â pherson (“C”) sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

(2Ni chaiff O ymadael â’r man lle y mae O yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad O oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

(3Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i O hysbysu’r swyddog am gyfeiriad y man lle y mae O yn byw.

(4Diwrnod olaf ynysiad O yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth O i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(5Ond pan fo O yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad O yw—

(a)pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf;

(b)pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos: plentynLL+C

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod plentyn (“P”) y mae O yn gyfrifol amdano wedi dod i gysylltiad agos â pherson (“C”) sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

(2Ni chaiff P ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P oni bai bod rheoliad 10 neu 11 yn gymwys.

(3Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i O hysbysu’r swyddog am gyfeiriad y man lle y mae P yn byw.

(4Diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth P i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

(5Ond pan fo P yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad P yw—

(a)pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, neu

(b)pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofynion ynysu: eithriadau cyffredinolLL+C

10.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo’n ofynnol i berson beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw, neu fod y tu allan iddo, yn rhinwedd rheoliad 6(2), 7(2), 8(2) neu 9(2).

(2Caiff y person ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw a bod y tu allan iddo am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol i—

(a)ceisio cynhorthwy meddygol, pan fo angen hyn ar frys neu ar gais ymarferydd meddygol cofrestredig;

(b)cael gafael ar wasanaethau milfeddygol—

(i)pan fo eu hangen ar frys, a

(ii)pan na fo’n bosibl i berson arall yn y man lle y mae’r person yn byw gael gafael ar y gwasanaethau hynny;

(c)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol, pan na fo’n bosibl nac yn ymarferol gwneud hynny heb ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw;

(d)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(e)am resymau tosturiol, gan gynnwys mynd i angladd—

(i)aelod o’r teulu;

(ii)ffrind agos;

(f)cael angenrheidiau sylfaenol (gan gynnwys ar gyfer personau eraill yn y man lle y mae’r person yn byw neu unrhyw anifeiliaid anwes yn y man hwnnw) pan na fo’n bosibl nac yn ymarferol—

(i)i berson arall yn y man lle y mae’r person yn byw eu cael, neu

(ii)eu cael drwy eu danfon i’r man hwnnw gan drydydd parti;

(g)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus (gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau i ddioddefwyr)—

(i)pan fo cael gafael ar y gwasanaeth yn hanfodol i lesiant y person, a

(ii)pan na fo’r gwasanaeth yn gallu cael ei ddarparu os yw’r person yn aros yn y man lle y mae’r person yn byw;

(h)symud i fan gwahanol i fyw pan fo’n mynd yn anymarferol aros yn y man lle y mae’r person yn byw;

(i)pan fo’r person yn blentyn nad yw’n byw ar yr un aelwyd â rhieni’r plentyn, neu un o rieni’r plentyn, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld y plentyn a rhieni’r plentyn, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu sy’n gofalu amdano.

(3Nid yw rheoliadau 6(2), 7(2), 8(2) a 9(2) yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

(4Nid yw rheoliad 6(2) yn gymwys i berson—

(a)sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws yn ystod astudiaeth ymchwil (y “prawf blaenorol”), a

(b)sy’n cael canlyniad positif am y coronafeirws yn ystod yr un astudiaeth o fewn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad y prawf blaenorol.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofynion ynysu: eithriad ar gyfer y rheini sy’n cymryd rhan mewn cynllun profiLL+C

11.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—

(a)bo’n ofynnol i berson (“P”) beidio ag ymadael â’r man lle y mae P yn byw neu fod y tu allan i’r man hwnnw yn rhinwedd rheoliad 8(2) neu 9(2) (“y gofyniad ynysu”), a

(b)bo P yn cytuno i gymryd rhan mewn cynllun profi.

(2Os yw prawf cyntaf P o dan y cynllun profi yn negatif am y coronafeirws, mae’r gofyniad ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P o’r adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4).

(3Os yw canlyniad prawf a gymerir gan P o dan y cynllun profi yn bositif am y coronafeirws, mae’r gofyniad ynysu yn gymwys i P o’r adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf fel pe na bai wedi peidio â bod yn gymwys yn rhinwedd y paragraff (2).

(4Er gwaethaf paragraff (2), mae’r gofyniad ynysu yn gymwys i P ar—

(a)diwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau prawf;

(b)unrhyw ddiwrnod y mae’n ofynnol i P gymryd prawf o dan y cynllun ond y mae’n methu â gwneud hynny.

(5Os yw P yn cael canlyniad negatif am y coronafeirws yn ei brawf olaf o dan y cynllun profi, mae’r gofyniad ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P o’r cynharaf o—

(a)yr adeg y mae P yn cael canlyniad y prawf, neu

(b)diwrnod olaf ynysiad P a gyfrifir yn unol â rheoliad 8 neu 9 yn ôl y digwydd.

(6Pan fo P yn blentyn—

(a)rhaid i berson a chanddo gyfrifoldeb dros P gytuno ar ran P fod P i gymryd rhan mewn cynllun profi;

(b)mae’r cyfeiriadau ym mharagraffau (2) a (5)(a) at P yn cael canlyniad prawf yn cynnwys cyfeiriadau at berson a chanddo gyfrifoldeb dros P yn cael y canlyniad.

(7Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “cynllun profi” yw cynllun sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru y mae’n ofynnol odano i P gymryd nifer o brofion am y coronafeirws a bennir yn y cynllun, ar ddyddiadau ac mewn modd a bennir felly;

(b)ystyr “diwrnod nad yw’n ddiwrnod prawf” yw diwrnod, rhwng y diwrnod y mae P yn cymryd y prawf cyntaf a’r prawf olaf o dan y cynllun, nad yw’n ofynnol i P gymryd prawf o dan y cynllun.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

[F7Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 22 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Congo neu Weriniaeth Unedig Tanzania yn y 10 niwrnod blaenorol]LL+C

F811A.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad i ynysu: darpariaeth benodol ar gyfer pobl sydd yng Nghymru ar 29 Ionawr 2021 ac sydd wedi bod mewn gwledydd penodol yn y 10 niwrnod blaenorolLL+C

F911AA.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad i ynysu: eithriad penodol ar gyfer pobl sydd wedi bod mewn gwledydd penodol LL+C

F1011B.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad ar bersonau a chanddynt gyfrifoldeb dros blantLL+C

12.  Pan fo gofyniad wedi ei osod ar blentyn o dan reoliad 7(2) [F11neu 9(2)] , rhaid i berson a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r gofyniad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Tynnu’n ôl hysbysiad sy’n gwneud ynysu yn ofynnolLL+C

13.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau—

(a)wedi rhoi hysbysiad o dan reoliad 6(1), 7(1), 8(1) neu 9(1) (“yr hysbysiad gwreiddiol”), ond

(b)yn hysbysu derbynnydd yr hysbysiad gwreiddiol wedi hynny fod yr hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

(2Mae’r hysbysiad gwreiddiol i’w drin fel pe na bai wedi ei roi.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

PENNOD 2LL+CGwybodaeth

Pŵer i ddefnyddio a datgelu gwybodaethLL+C

14.—(1Ni chaiff swyddog olrhain cysylltiadau ond datgelu gwybodaeth berthnasol i berson (“deiliad yr wybodaeth”) y mae’n angenrheidiol i ddeiliad yr wybodaeth ei chael—

(a)at ddibenion—

(i)cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,

(ii)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(iii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

F12(aa). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(b)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

(2Gwybodaeth berthnasol yw—

(a)pan fo’n ofynnol i berson ynysu yn unol â rheoliad 6(2), 7(2), 8(2) neu 9(2)

(i)gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, manylion cyswllt yr oedolyn a hysbysir ei bod yn ofynnol i’r plentyn ynysu a dyddiad geni’r plentyn;

(ii)y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o dan reoliad 6(1), 7(1), 8(1) neu 9(1);

(iii)y cyfnod penodol y mae’n ofynnol i’r person beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r person yn byw neu fod y tu allan iddo mewn cysylltiad ag ef, wedi ei gyfrifo yn unol â rheoliad 6, 7, 8 neu 9;

(b)cadarnhad na chafodd person ganlyniad positif am y coronafeirws ac enw, gwybodaeth gyswllt a dyddiad geni’r person, neu, pan fo’r person yn blentyn, enw a manylion cyswllt oedolyn a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn yn ogystal ag enw a dyddiad geni’r plentyn.

(3Ni chaiff deiliad yr wybodaeth ddefnyddio gwybodaeth berthnasol a ddatgelir o dan baragraff (1) ond i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol—

(a)at ddibenion—

(i)cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn,

(ii)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(iii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(b)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir ym is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (6), ni chaiff deiliad yr wybodaeth ond datgelu hynny o wybodaeth berthnasol i berson arall (y “derbynnydd”) y mae’n angenrheidiol i’r derbynnydd ei chael—

(a)at ddibenion—

(i)cyflawni un o swyddogaethau’r derbynnydd o dan y Rheoliadau hyn,

(ii)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(iii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(b)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu sydd fel arall â chysylltiad â’r diben hwnnw.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (7), nid yw datgeliad sydd wedi ei awdurdodi gan y rheoliad hwn yn torri—

(a)rhwymedigaeth o safbwynt cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, na

(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (sut bynnag y’i gorfodir).

(6Nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan ganiateir i wybodaeth gael ei datgelu fel arall o dan unrhyw ddeddfiad arall neu reol gyfreithiol.

(7Nid oes unrhyw beth yn y rheoliad hwn yn awdurdodi defnyddio neu ddatgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.

(8Yn y rheoliad hwn, mae i “deddfwriaeth diogelu data” a “data personol” yr un ystyron â “data protection legislation” a “personal data” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(1).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

[F13RHAN 3ALL+CCyfyngiadau teithio etc.

Cyfyngiad ar deithio rhyngwladolLL+C

14A.(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol—

(a)ymadael â Chymru i deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, neu

(b)teithio i fan cychwyn, neu fod yn bresennol ynddo, at ddiben teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.

(2) At ddibenion paragraff (1), mae gan berson esgus rhesymol—

(a)os yw’r diben y mae’r person yn teithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin ato yn rhesymol angenrheidiol ac nad oes dewis arall sy’n rhesymol ymarferol;

(b)os yw un o’r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys.

(3) Mae enghreifftiau o’r dibenion y gall fod yn rhesymol angenrheidiol i berson deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin atynt yn cynnwys—

(a)cael neu ddarparu cynhorthwy meddygol;

(b)osgoi salwch, anaf neu risg arall o niwed;

(c)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(d)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(e)darparu, cael neu gael gafael ar ofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal plant neu ofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2), pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(f)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(g)symud cartref;

(h)ymgymryd â gweithgareddau mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl;

(i)cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael y gwasanaethau hynny.

(4) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) yw bod y person yn—

(a)darparu neu’n cael cynhorthwy brys;

(b)mynd i weinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall—

(i)fel parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall, neu

(ii)fel gofalwr parti i’r briodas, y bartneriaeth sifil neu’r briodas arall;

(c)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(d)athletwr elît ac yn teithio at ddibenion hyfforddi neu gystadlu;

(e)darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît, neu’n darparu cymorth mewn—

(i)digwyddiad chwaraeon elît, neu

(ii)digwyddiad chwaraeon sy’n digwydd y tu allan i’r ardal deithio gyffredin;

(f)teithio er mwyn pleidleisio mewn etholiad.

(5) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i berson y cyfeirir ato yn Atodlen 5A.

(6) Yn y rheoliad hwn, ac yn rheoliadau 14B a 29—

(a)mae i “yr ardal deithio gyffredin” yr un ystyr â “the common travel area” yn Neddf Mewnfudo 1971(3);

(b)ystyr “man cychwyn” yw terfynfa ryngwladol neu unrhyw fan arall yng Nghymru y caiff person deithio ohono i gyrchfan y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

Ffurflen datganiad teithio rhyngwladolLL+C

14B.(1) Rhaid i berson (“P”) sy’n bresennol mewn man cychwyn at ddiben teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog gorfodaeth, ddarparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau i’r swyddog.

(2) Rhaid i’r ffurflen datganiad teithio rhyngwladol fod ar y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru(4) a chynnwys yr wybodaeth a ganlyn—

(a)enw llawn P,

(b)dyddiad geni a chenedligrwydd P,

(c)rhif pasbort P, neu rif cyfeirnod dogfen deithio P (fel y bo’n briodol),

(d)cyfeiriad cartref P,

(e)cyrchfan P,

(f)y rheswm y mae P yn teithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin,

(g)datganiad bod P yn ardystio bod yr wybodaeth y mae P yn ei darparu yn wir, ac

(h)y dyddiad y mae’r datganiad wedi ei gwblhau.

(3) Pan fo P yn teithio gyda phlentyn neu berson nad oes ganddo alluedd (“G”), y mae gan P gyfrifoldeb drosto, rhaid i P, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog gorfodaeth, ddarparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau sy’n ymwneud ag G i’r swyddog.

(4) Nid yw’r rhwymedigaeth ym mharagraff (1) yn gymwys—

(a)i G, na

(b)i berson y cyfeirir ato yn Atodlen 5A.

(5) Yn y rheoliad hwn, nid oes gan berson alluedd os nad oes ganddo alluedd, o fewn ystyr “lack capacity” yn adran 2 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005(5), i gwblhau’r ffurflen datganiad teithio rhyngwladol.]

RHAN 4LL+CCymryd mesurau ataliol mewn mangreoedd rheoleiddiedig

Mangreoedd rheoleiddiedig a phersonau cyfrifolLL+C

15.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, y canlynol yw “mangreoedd rheoleiddiedig”—

(a)mangreoedd busnesau neu wasanaethau a restrir yn Atodlen 7, i’r graddau y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddynt;

(b)cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus;

(c)mangre arall lle y mae gwaith yn cael ei wneud.

(2Yn y Rhan hon, ystyr “person cyfrifol”, mewn perthynas â mangre reoleiddiedig, yw—

(a)mewn perthynas â mangre y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(a) a (b), y person sy’n gyfrifol am y fangre,

(b)mewn perthynas â mangre y cyfeirir ati ym mharagraff (1)(c), y person sy’n gyfrifol am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirwsLL+C

16.—(1At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronafeirws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol—

[F14(za)cynnal asesiad penodol o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre ac, wrth wneud hynny, ymgynghori â phersonau sy’n gweithio yn y fangre neu gynrychiolwyr y personau hynny;]

(a)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(i)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr);

(ii)pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person sy’n cael cynhorthwy gan y gofalwr),

(b)cymryd pob mesur rhesymol arall at y diben hwnnw, er enghraifft mesur sy’n cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb ac yn cynnal hylendid megis—

(i)newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;

(ii)rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;

(iii)rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;

(iv)fel arall, rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi;

(v)gosod rhwystrau neu sgriniau;

(vi)darparu, neu’n ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol, ac

(c)darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

(2Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (1) hefyd yn cynnwys—

(a)peidio â gwneud gweithgareddau penodol;

(b)cau rhan o’r fangre;

(c)caniatáu i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu, a’i alluogi i wneud hynny, oherwydd profi’n bositif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif, am gyfnod—

(i)a argymhellir mewn canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru;

(ii)a bennir mewn hysbysiad a roddir i’r person gan swyddog olrhain cysylltiadau;

(d)casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—

(i)Gweinidogion Cymru;

(ii)swyddog olrhain cysylltiadau;

(e)cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth gyswllt o’r fath yn gywir.

[F15(3) Rhaid i asesiad o dan baragraff (1)(za)—

(a)bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 (“Rheoliadau 1999”), a

(b)cael ei gynnal—

(i)pa un a yw’r person cyfrifol eisoes wedi cynnal asesiad o dan y rheoliad hwnnw ai peidio, a

(ii)pa un a yw’r rheoliad hwnnw yn gymwys i’r person cyfrifol ai peidio.

(4) At ddibenion paragraff (3)—

(a)mae rheoliad 3 o Reoliadau 1999 i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “by regulations 16, 17 and 17A of the Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) Regulations 2020” wedi eu rhoi yn lle “by or under the relevant statutory provisions F16...”, yn y ddau le y maent yn digwydd, a

(b)os na fyddai rheoliad 3 o Reoliadau 1999 yn gymwys i berson cyfrifol oni bai am baragraff (3)(b)(ii)—

(i)mae’r rheoliad hwnnw i’w drin fel pe bai’n gymwys i’r person fel pe bai’r person yn gyflogwr, a

(ii)mae personau sy’n gweithio yn y fangre i’w trin, at ddibenion y rheoliad hwnnw fel y mae’n gymwys yn rhinwedd paragraff (3)(b)(ii), fel pe baent wedi eu cyflogi gan y person cyfrifol.]

Mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd trwyddedigLL+C

17.[F17(1) Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, mae’r mesurau sydd i’w cymryd gan y person cyfrifol yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—

(a)cael person sy’n rheoli mynediad i’r fangre F18...;

(b)ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid fod yn eistedd yn y fangre yn unrhyw le ac eithrio wrth far—

(i)pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod,

(ii)pan weinir bwyd neu ddiod iddynt, a

(iii)pan fyddant yn bwyta neu’n yfed.]

(3Ond pan fo bwyd yn cael ei ddarparu yn y fangre ar sail bwffe, caiff cwsmeriaid ddewis bwyd o’r bwffe a dychwelyd i’r man lle y maent yn eistedd.

(4Nid yw paragraff (1) [F19 yn gymwys i—

(a)ffreuturau yn y gweithle, neu

(b)mangreoedd mewn sefydliad addysgol.

(5) At ddibenion paragraff (1)—

(a)nid yw bwyd neu ddiod a werthir mewn llety gwyliau neu lety teithio fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre;

(b)mae bwyd neu ddiod a werthir i’w fwyta neu i’w hyfed mewn ardal sy’n gyfagos i’r fangre lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre.

(6) Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae paragraffau (1) i (4) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

[F20Mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd manwerthuLL+C

17A.  Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre fanwerthu busnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi yn y fangre honno (gan gynnwys busnesau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre), mae’r mesurau sydd i’w cymryd gan y person cyfrifol yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—

(a)mesurau ar gyfer rheoli mynediad i’r fangre a chyfyngu ar nifer y cwsmeriaid sydd yn y fangre ar unrhyw adeg;

(b)darparu cynhyrchion diheintio dwylo neu gyfleusterau golchi dwylo i’w defnyddio gan gwsmeriaid pan fyddant yn mynd i’r fangre ac yn ymadael â hi;

(c)mesurau i ddiheintio unrhyw fasgedi, trolïau neu gynwysyddion tebyg a ddarperir i gwsmeriaid eu defnyddio yn y fangre;

(d)er mwyn atgoffa cwsmeriaid i gynnal pellter o 2 fetr rhyngddynt ac i wisgo gorchudd wyneb—

(i)arddangos arwyddion a chymhorthion gweledol eraill;

(ii)gwneud cyhoeddiadau yn rheolaidd.]

Canllawiau ynghylch cymryd mesurau rhesymolLL+C

18.—(1Rhaid i berson y mae’n ofynnol iddo gymryd mesurau rhesymol o dan reoliad 16(1) [F21, 17(1) neu 17A] roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y mesurau hynny.

(2O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a

(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

(3Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).

(4Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan—

(a)paragraff (1) o reoliad 20 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020(2), neu

(b)paragraff (1) o reoliad 24 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020(3),

i’w trin fel pe baent yn ganllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

[F22RHAN 4ALL+CCymryd mesurau ataliol wrth ymgyrchu mewn etholiad

Gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws wrth ymgyrchu mewn etholiadLL+C

18A.(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gyflawni neu hwyluso gweithgaredd sy’n cynnwys cymryd rhan mewn cynulliad at ddibenion darbwyllo unrhyw berson i bleidleisio neu i beidio â phleidleisio mewn modd penodol mewn etholiad—

(a)cymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg—

(i)y bydd unrhyw berson sy’n ymwneud â’r gweithgaredd yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws, a

(ii)y bydd unrhyw berson o’r fath yn lledaenu’r coronafeirws, a

(b)wrth gymryd y mesurau hynny, roi sylw i unrhyw ganllawiau amdanynt a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

(2) O ran y mesurau sydd i’w cymryd o dan baragraff (1)(a)—

(a)rhaid iddynt gynnwys cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad (ac eithrio rhwng aelodau o’r un aelwyd neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr), a

(b)gallant gynnwys cymryd mesurau eraill sy’n cyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb agos ac yn cynnal hylendid megis—

(i)cyfyngu ar nifer y personau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad;

(ii)gwisgo gorchuddion wyneb;

(iii)cyfyngu ar nifer y personau sy’n trin taflenni neu ddeunyddiau eraill.

(3) O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1)(b), a

(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau). ]

RHAN 5LL+CGorchuddion wyneb

Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddusLL+C

19.—(1Rhaid i berson (“P”) sy’n teithio fel teithiwr mewn cerbyd a ddefnyddir i ddarparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus wisgo gorchudd wyneb.

(2Ond nid yw hyn yn ofynnol—

(a)pan fo esemptiad yn gymwys o dan baragraff (3);

(b)pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (4).

(3Mae esemptiad i’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn gymwys—

(a)pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;

(b)mewn cerbyd sy’n darparu gwasanaeth cludiant i’r ysgol;

(c)ar fferi—

(i)pan fo’r rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr yn yr awyr agored yn gyfan gwbl, neu

(ii)pan ellir cynnal pellter o 2 fetr o leiaf rhwng personau ar y rhan o’r fferi sydd ar agor i deithwyr;

(d)ar long fordeithio;

(e)pan ddyrennir caban, man cysgu neu lety tebyg arall i P yn y cerbyd, ar unrhyw adeg pan yw P yn y llety hwnnw—

(i)ar ei ben ei hunan, neu

(ii)gydag aelodau o aelwyd P neu ofalwr i aelod o’r aelwyd yn unig;

(f)pan—

(i)caniateir i P, neu pan fo’n ofynnol fel arfer i P, fynd i gerbyd ac aros ynddo wrth ddefnyddio’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,

(ii)na fo’r cerbyd ei hunan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, a

(iii)bo P yn aros yn y cerbyd hwnnw;

(g)ar gerbyd awyr na chychwynnodd o fan yng Nghymru, ac nad yw i lanio mewn man yng Nghymru;

(h)ar lestr nad yw’n docio mewn porthladd yng Nghymru.

(4Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—

(a)pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010(4));

(b)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);

(c)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P neu i eraill;

(d)pan fo P yn teithio i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;

(e)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—

(i)cymryd meddyginiaeth;

(ii)bwyta neu yfed, os caniateir gwneud hyn yn y cerbyd a bod hynny’n rhesymol angenrheidiol (er enghraifft oherwydd hyd y daith);

(f)pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan—

(i)swyddog gorfodaeth, neu

(ii)gweithredwr y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr.

(5Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ddarparu gwybodaeth i deithwyr am y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb yn ei gerbydau.

(6At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “gwasanaeth cludiant i’r ysgol” yw unrhyw wasanaeth cludiant nad yw ond yn cael ei ddarparu at ddiben—

(a)cludo person i’r ysgol ac o’r ysgol neu’r man arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo, neu

(b)hwyluso fel arall bresenoldeb person mewn ysgol neu fan arall y mae’r person yn cael addysg neu hyfforddiant ynddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus penodol o dan doLL+C

20.—(1Rhaid i berson (“P”) wisgo gorchudd wyneb yn ardaloedd cyhoeddus o dan do mangreoedd y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt neu y caniateir i’r cyhoedd gael mynediad iddynt.

(2Ond nid yw hyn yn ofynnol—

(a)pan fo P yn blentyn o dan 11 oed;

(b)pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, ac o ran hynny gweler paragraff (3).

(3Mae’r amgylchiadau pan fo gan P esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb yn cynnwys—

(a)pan na fo P yn gallu rhoi gorchudd am ei wyneb, neu wisgo neu dynnu gorchudd wyneb, oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd (o fewn yr ystyr a roddir i “disability” yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010);

(b)pan fo P yn ymgymryd â gweithgaredd ac y gellir ystyried fod gwisgo gorchudd wyneb yn ystod y gweithgaredd hwnnw yn peri risg i iechyd P;

(c)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn cyfathrebu â pherson sy’n cael anhawster i gyfathrebu (mewn perthynas â lleferydd, iaith neu fel arall);

(d)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, neu’r risg o niwed neu anaf, i P neu i eraill;

(e)pan fo P yn y fangre i osgoi anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed, ac nad oes gan P orchudd wyneb;

(f)pan fo P yn gorfod tynnu’r gorchudd wyneb i—

(i)cymryd meddyginiaeth;

(ii)bwyta neu yfed, pan fo’n rhesymol angenrheidiol;

(g)pan ofynnir i P dynnu’r gorchudd wyneb gan swyddog gorfodaeth;

(h)pan fo P yn eistedd mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y’i darperir fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Canllawiau ynghylch gofynion i wisgo gorchuddion wynebLL+C

21.—(1Rhaid i weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus y mae rheoliad 19 yn gymwys iddo roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch—

(a)y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn unol â pharagraffau (1) i (4) o reoliad 19 a gorfodi’r gofyniad hwnnw o dan reoliad 32;

(b)darparu gwybodaeth i deithwyr yn unol â pharagraff (5) o reoliad 19.

(2O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a

(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

(3Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).

(4Mae canllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan—

(a)paragraff (2) o reoliad 20 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

(b)paragraff (2) o reoliad 24 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,

i’w trin fel pe baent yn ganllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

RHAN 6LL+CDarparu addysg mewn ysgol

Darparu addysg mewn ysgol i ddisgyblion penodol pan fo mangreoedd ysgolion ar gauLL+C

22.—(1Mae paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â disgybl perthnasol—

(a)os yw mangre’r ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi ar gau i’r disgybl hwnnw am gyfnod o 3 diwrnod ysgol yn olynol o leiaf, a

(b)os yw’r cau mewn ymateb i fygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad y coronafeirws.

(2At ddibenion paragraff (1), ystyr “disgybl perthnasol” yw disgybl cofrestredig—

(a)y mae’r awdurdod lleol priodol sy’n cynnal yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn ystyried ei fod yn blentyn i weithiwr hanfodol, neu

(b)y mae perchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi yn ystyried y dylai’r disgybl fynd i’r ysgol oherwydd ei hyglwyfedd.

(3Rhaid i berchennog yr ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi wneud trefniadau i’r disgybl fynd i fangre ysgol at ddiben darparu addysg ar y trydydd diwrnod ysgol a phob diwrnod ysgol dilynol yn y cyfnod pan fydd mangre’r ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi ar gau.

(4Ond nid yw paragraff (3) yn gymwys os, ar y diwrnod ysgol o dan sylw—

(a)yw’n ofynnol i’r disgybl beidio ag ymadael â’r man lle y mae’r disgybl yn byw neu beidio â bod y tu allan i’r man hwnnw yn rhinwedd rheoliad 6(2), 7(2), 8(2) [F23neu 9(2)] , neu

(b)os yw’r disgybl yn ynysu fel arall ar ôl—

(i)cael ei hysbysu drwy ap ffôn clyfar Covid 19 y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu

(ii)cael ei gynghori i wneud hynny gan berchennog yr ysgol lle y mae’r disgybl wedi ei gofrestru neu gan ddarparwr gofal plant.

(5Wrth benderfynu, at ddibenion paragraff (1)(a), a yw mangre ysgol ar gau i ddisgybl, mae’r ffaith y gall y fangre honno fod ar agor yn rhinwedd paragraff (3) i’w diystyru.

(6Wrth benderfynu a yw disgybl yn blentyn i weithiwr hanfodol, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ynghylch nodi plant gweithwyr hanfodol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 22 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I23Rhl. 22 mewn grym ar 23.12.2020, gweler rhl. 1(4)

Methiant i gydymffurfio â rheoliad 22LL+C

23.  Mae unrhyw fethiant gan berchennog i gydymffurfio â rheoliad 22 yn orfodadwy drwy gais am waharddeb gan Weinidogion Cymru neu gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol i’r Uchel Lys neu’r Llys Sirol, heb rybudd.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Rhl. 23 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I25Rhl. 23 mewn grym ar 23.12.2020, gweler rhl. 1(4)

Dehongli’r Rhan honLL+C

24.  Yn y Rhan hon—

(a)mae i “ysgol feithrin a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained nursery school” gan adran 22(9) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(5);

(b)mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir i “maintained school” gan adran 20(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

(c)mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “proprietor” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996(6);

(d)mae i “disgybl” yr un ystyr â “pupil” yn adran 3 o Ddeddf Addysg 1996;

(e)mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19(2) o Ddeddf Addysg 1996;

(f)mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” gan adran 434(5) o Ddeddf Addysg 1996;

(g)ystyr “ysgol” yw ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion;

(h)mae i “diwrnod ysgol” yr ystyr a roddir i “school day” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Rhl. 24 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

I27Rhl. 24 mewn grym ar 23.12.2020, gweler rhl. 1(4)

RHAN 7LL+CGorfodi

Swyddogion gorfodaethLL+C

25.—(1At ddibenion rheoliad 26 ac Atodlen 8, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol—

(a)at ddibenion y Rheoliadau hyn,

(b)o dan reoliad 17(A1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020(7),

(c)o dan reoliad 21(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

(d)o dan reoliad 25(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

(2At ddibenion rheoliadau [F2414B, 18A,] 19, 20, 27 i 34, 36 a 47, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw—

(a)cwnstabl,

(b)swyddog cymorth cymunedol yr heddlu,

(c)person sydd wedi ei ddynodi gan—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)awdurdod lleol,

at ddibenion y Rheoliadau hyn (ond gweler paragraff (3)), neu

(d)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol o dan—

(i)rheoliad 10(11)(c) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(8) yn berson perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir gan y rheoliad hwnnw),

(ii)rheoliad 17(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 at ddibenion y Rheoliadau hynny,

(iii)rheoliad 21(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 at ddibenion y Rheoliadau hynny, neu

(iv)o dan reoliad 25(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,

(ond gweler paragraff (3)).

(3Ni chaiff person sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol arfer swyddogaethau swyddog gorfodaeth ond—

(a)mewn perthynas â thorri gofyniad (neu achos honedig o’i dorri) yn—

(i)rheoliad 16(1) [F25, 17(1) neu 17A]

(ii)paragraff 7(1) F26... o Atodlen 1,

(iii)paragraff 7(1) F27... o Atodlen 2,

(iv)paragraff 7(1), 8(1) neu [F289(1)] o Atodlen 3, neu

(v)paragraff 7(1), 8(1), 9(1) [F29, 10(1) neu 11(3)] o Atodlen 4, neu

(b)o dan ac yn rhinwedd Atodlen 8.

Gorfodi’r gofyniad i gymryd mesurau ataliolLL+C

26.  Mae Atodlenni 8 a 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi swyddogaethau i swyddogion gorfodaeth at ddiben gorfodi rheoliadau 16(1) [F30, 17(1) a 17A] ac mewn cysylltiad â rhoi’r swyddogaethau hynny.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 26 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Hysbysiadau cydymffurfioLL+C

27.—(1Caiff swyddog gorfodaeth roi hysbysiad cydymffurfio i berson os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod y person yn torri gofyniad yn—

[F31(za)rheoliad 18A(1),]

(a)rheoliad 19(5),

(b)paragraff 7(1)F32... o Atodlen 1,

(c)paragraff 7(1) F33... o Atodlen 2,

(d)paragraff 7(1), 8(1) neu [F349(1)] o Atodlen 3, neu

(e)paragraff 7(1), 8(1), 9(1) [F35, 10(1) neu 11(3)] o Atodlen 4.

(2Caiff hysbysiad cydymffurfio bennu mesurau y mae rhaid i’r person y’i rhoddir iddo eu cymryd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol er mwyn atal y person hwnnw rhag parhau i dorri’r gofyniad.

Diwygiadau Testunol

F35Geiriau yn rhl. 27(1)(e) wedi eu hamnewid (22.12.2020 dod i rym am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1623), rhlau. 1(2), 2(3)

Gwybodaeth Cychwyn

I30Rhl. 27 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Pwerau symud a gwasgaru: cynulliadau a bod oddi cartrefLL+C

28.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn cymryd rhan mewn cynulliad mewn annedd breifat yn groes i—

(a)paragraff 1(1) o Atodlen 1,

(b)paragraff 1(1) o Atodlen 2,

(c)paragraff 1(1) o Atodlen 3, neu

(d)paragraff 2(1) o Atodlen 4.

(2Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;

(b)os oes gan y swyddog sail resymol dros amau nad yw’r person yn byw yn yr annedd—

(i)cyfarwyddo’r person i ymadael â’r annedd;

(ii)symud y person o’r annedd.

(3Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn cymryd rhan mewn cynulliad mewn man ac eithrio annedd breifat yn groes i—

(a)paragraff 2(1) o Atodlen 1,

(b)paragraff 2(1) neu (3) o Atodlen 2,

(c)paragraff 2(1) neu [F363(1)] o Atodlen 3, neu

(d)paragraff 2(1) o Atodlen 4.

(4Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;

(b)cyfarwyddo’r person i ymadael â’r man lle y mae’r cynulliad yn digwydd;

(c)symud y person o’r man hwnnw.

(5Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person i ffwrdd o’r man lle y mae’r person yn byw yn groes i baragraff 1(1) o Atodlen 4, caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i’r man lle y mae’r person yn byw;

(b)symud y person i’r man hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I31Rhl. 28 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

[F37Pwerau sy’n ymwneud â chyfyngiadau teithioLL+C

29.(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person ar fin ymadael â Chymru i deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac eithrio o fan cychwyn, yn groes i reoliad 14A(1)(a).

(2) Caiff y swyddog gorfodaeth gyfarwyddo’r person i beidio ag ymadael â Chymru.

(3) Mae paragraff (4) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person wedi ymadael â Chymru i deithio i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac eithrio o fan cychwyn, yn groes i reoliad 14A(1)(a).

(4) Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i Gymru;

(b)dychwelyd y person i Gymru.

(5) Mae paragraff (6) yn gymwys pan fo swyddog gorfodaeth yn ystyried—

(a)bod person (“P”) yn bresennol mewn man cychwyn at ddibenion teithio oddi yno i gyrchfan y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, a

(b)bod y gofyniad yn rheoliad 14B(1) yn gymwys i P a bod P wedi methu â chydymffurfio â’r gofyniad.

(6) Caiff y swyddog gorfodaeth gyfarwyddo P i gwblhau ffurflen datganiad teithio rhyngwladol a chaiff bennu amser erbyn pryd y mae’r ffurflen i’w chwblhau.

(7) Mae paragraff (8) yn gymwys—

(a)pan fo swyddog gorfodaeth yn ystyried bod y cyfyngiad yn rheoliad 14A(1) yn gymwys yn achos person (“P”) sy’n bresennol mewn man cychwyn, a

(b)pan fo P naill ai—

(i)yn methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn rheoliad 14B(1), ac na fo’n cwblhau’r ffurflen datganiad teithio rhyngwladol pan y’i cyfarwyddir i wneud hynny o dan baragraff (5), neu

(ii)yn darparu ffurflen datganiad teithio rhyngwladol wedi ei chwblhau i’r swyddog gorfodaeth y mae’r swyddog yn ystyried nad yw’n datgelu esgus rhesymol.

(8) Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)cyfarwyddo P i ymadael â’r man cychwyn heb ymadael â’r Deyrnas Unedig;

(b)symud y person o’r man cychwyn.]

Pwerau sy’n ymwneud â thorri gofyniad ynysuLL+C

30.  Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person i ffwrdd o’r man lle y mae’n byw yn groes i reoliad 6(2), 7(2), 8(2) [F38neu 9(2)] , caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo’r person i ddychwelyd i’r man lle y mae’r person yn byw;

(b)symud y person i’r man hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I32Rhl. 30 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Pwerau sy’n ymwneud â digwyddiadauLL+C

31.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”)—

(a)yn cyflawni trosedd o dan reoliad 39(2);

(b)yn ymwneud â threfnu digwyddiad yn groes i (neu y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried ei fod yn debygol o fod yn groes i) baragraff 4 o Atodlen 1, paragraff 4 o Atodlen 2, [F39paragraff 5 o Atodlen 3] neu baragraff 4 o Atodlen 4.

(2Caiff y swyddog gorfodaeth—

(a)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;

(b)symud P o leoliad y digwyddiad;

(c)cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad;

(d)symud unrhyw berson o’r digwyddiad;

(e)pan na fo’r digwyddiad wedi dechrau—

(i)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal y digwyddiad rhag digwydd;

(ii)symud P o leoliad arfaethedig y digwyddiad.

(3Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) yn ymwneud â threfnu digwyddiad sydd wedi ei awdurdodi o dan baragraff 5 o Atodlen 1, paragraff 5 o Atodlen 2F40... [F41, paragraff 6 o Atodlen 3] neu baragraff 5 o Atodlen 4 y mae’r swyddog yn ystyried ei fod yn cael ei gynnal yn groes i ofyniad, cyfyngiad neu amod arall a bennir mewn perthynas â’r awdurdodiad, caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau cydymffurfedd â’r gofyniad, y cyfyngiad neu’r amod arall;

(b)cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn stopio’r digwyddiad;

(c)symud P o leoliad y digwyddiad;

(d)cyfarwyddo unrhyw berson i ymadael â’r digwyddiad;

(e)symud unrhyw berson o’r digwyddiad.

Diwygiadau Testunol

F40Geiriau yn rhl. 31(3) wedi eu hepgor (13.3.2021 yn union cyn dechrau'r diwrnod) yn rhinwedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (O.S. 2021/307), rhlau. 1(2), 2(3)

Gwybodaeth Cychwyn

I33Rhl. 31 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gorfodi gofynion gorchuddion wynebLL+C

32.—(1Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 19(1), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw;

(b)symud y person o’r cerbyd.

(2Pan fo gan—

(a)gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus,

(b)cyflogai i’r gweithredwr, neu

(c)person sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr,

sail resymol dros amau bod person ar fin torri rheoliad 19(1), caiff y gweithredwr, y cyflogai neu’r person awdurdodedig gyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r cerbyd sy’n darparu’r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus o dan sylw.

(3Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person yn torri (neu ar fin torri) rheoliad 20(1), caiff y swyddog—

(a)cyfarwyddo’r person i beidio â mynd i’r fangre;

(b)symud y person o’r fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Rhl. 32 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gorfodi: plantLL+C

33.—(1Pan fo gan swyddog gorfodaeth sail resymol dros amau bod person (“P”) y caiff y swyddog arfer pŵer mewn cysylltiad ag ef o dan y Rhan hon yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—

(a)caiff y swyddog gyfarwyddo U i gymryd unrhyw gamau gweithredu mewn cysylltiad â P y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol, a

(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y swyddog i P.

(2At ddibenion paragraff (1), mae gan U gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan U—

(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Rhl. 33 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Pŵer mynediadLL+C

34.—(1Caiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre—

(a)os oes gan y swyddog sail resymol dros amau bod gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri yn y fangre, a

(b)os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r gofyniad yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri.

(2Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1) fynd ag unrhyw bersonau eraill, cyfarpar a deunyddiau i’r fangre y mae’n ymddangos i’r swyddog eu bod yn briodol.

(3Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)

(a)os gofynnir iddo gan berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o bwy yw’r swyddog ac amlinellu’r diben yr arferir y pŵer ato;

(b)os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.

(4Ni chaiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat onid yw’r swyddog gorfodaeth yn gwnstabl.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Rhl. 34 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Pŵer yr heddlu i gynnal archwiliadau ar y ffyrddLL+C

35.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “archwiliad ar y ffordd” yw arfer y pŵer a roddir gan adran 163 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(9) mewn ardal yn y fath fodd i stopio, yn ystod y cyfnod pan fydd y pŵer hwnnw yn parhau i gael ei arfer yn yr ardal honno, bob cerbyd neu gerbydau sydd wedi eu dethol yn ôl unrhyw faen prawf.

(2Caiff cwnstabl gynnal archwiliad ar y ffordd at ddiben canfod a yw cerbyd yn cario person y mae’r cwnstabl yn credu’n rhesymol—

(a)ei fod wedi cyflawni, neu

(b)ei fod yn bwriadu cyflawni

trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i archwiliad ar y ffordd gael ei awdurdodi gan gwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch.

(4Ond caiff cwnstabl o dan y rheng honno awdurdodi archwiliad ar y ffordd os yw’r cwnstabl yn ystyried ei fod yn angenrheidiol fel mater o frys.

(5Caiff cwnstabl awdurdodi archwiliad ar y ffordd os oes gan y cwnstabl sail resymol dros gredu bod person y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yn yr ardal y byddai cerbydau’n cael eu stopio ynddi, neu ar fin bod yn yr ardal honno.

(6Rhaid i awdurdodiad fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu—

(a)yr ardal y mae cerbydau i’w stopio ynddi;

(b)y cyfnod, nad yw’n hwy na 7 niwrnod, pan ganiateir cynnal yr archwiliad ar y ffordd;

(c)a yw’r archwiliad ar y ffordd i’w gynnal—

(i)yn barhaus drwy gydol y cyfnod, neu

(ii)ar adegau penodol yn ystod y cyfnod (ac yn yr achos hwnnw rhaid i’r awdurdodiad bennu’r adegau hynny);

(d)enw’r cwnstabl sy’n rhoi’r awdurdodiad.

(7Pan fo archwiliad ar y ffordd wedi ei awdurdodi o dan baragraff (4)

(a)ni chaiff y cyfnod a bennir ym mharagraff (6)(b) fod yn hwy na 2 ddiwrnod;

(b)rhaid i’r cwnstabl sy’n rhoi’r awdurdodiad, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi’r awdurdodiad, roi gwybod i gwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch ei fod wedi ei roi.

(8Caiff cwnstabl o reng uwch-arolygydd neu’n uwch roi awdurdodiad yn ysgrifenedig i archwiliad ar y ffordd barhau am gyfnod pellach, nad yw’n hwy na 7 niwrnod, y tu hwnt i’r cyfnod yr awdurdodwyd yr archwiliad ar y ffordd amdano yn wreiddiol.

(9Pan fo cerbyd yn cael ei stopio yn ystod archwiliad ar y ffordd, mae gan y person sy’n gyfrifol am y cerbyd ar yr adeg pan yw’n cael ei stopio hawlogaeth i gael datganiad ysgrifenedig am ddiben yr archwiliad ar y ffordd drwy gyflwyno cais yn ysgrifenedig—

(a)i’r heddlu sy’n gyfrifol am yr ardal lle y cynhelir yr archwiliad ar y ffordd, a

(b)heb fod yn hwyrach na diwedd y cyfnod o 12 mis o’r diwrnod pan stopiwyd y cerbyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Rhl. 35 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Gorfodi: darpariaeth atodolLL+C

36.—(1Caiff swyddog gorfodaeth gymryd camau gweithredu eraill i hwyluso arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y Rhan hon.

(2Caiff y camau gweithredu a gymerir o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)ei gwneud yn ofynnol i berson roi unrhyw wybodaeth neu ateb unrhyw gwestiwn y mae’r swyddog yn ystyried—

(i)ei bod neu ei fod yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r swyddog i benderfynu pa un ai i arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y Rhan hon, neu

(ii)ei bod neu ei fod yn berthnasol fel arall i arfer pŵer o’r fath;

(b)cyfarwyddo person i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

(3Caiff cwnstabl ddefnyddio grym rhesymol wrth arfer pŵer o dan—

(a)rheoliad 28(2)(b)(ii), (4)(c) neu (5)(b);

(b)rheoliad 29(4)(b) neu (8)(b);

(c)rheoliad 30(b);

(d)rheoliad 31(2)(b), (d) neu (e)(ii), neu (3)(c) neu (e);

(e)rheoliad 32(1)(b) neu (3)(b);

(f)rheoliad 34(1).

(4Ni chaiff swyddog gorfodaeth ond arfer pŵer o dan y Rhan hon os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.

(5Yn y Rhan hon a Rhan 8, mae cyfeiriadau at ofyniad yn cynnwys cyfeiriadau at gyfyngiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Rhl. 36 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

RHAN 8LL+CTroseddau a chosbau

PENNOD 1LL+CTroseddau

Troseddau sy’n ymwneud â chynulliadau a bod oddi cartrefLL+C

37.—(1Mae person sy’n torri gofyniad yn—

(a)Paragraff 1(1) neu 2(1) o Atodlen 1,

(b)paragraff 1(1) neu 2(1) neu (3) o Atodlen 2,

(c)paragraff 1(1) [F422(1) neu 3(1)] o Atodlen 3, neu

(d)paragraff 1(1) neu 2(1) o Atodlen 4,

yn cyflawni trosedd.

(2Mae person sy’n cymryd rhan mewn cynulliad—

(a)sy’n digwydd mewn annedd breifat,

(b)lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, ac

(c)lle y mae pobl yn ymgynnull yn groes i—

(i)paragraff 1(1) o Atodlen 1,

(ii)paragraff 1(1) o Atodlen 2,

(iii)paragraff 1(1) o Atodlen 3, neu

(iv)paragraff 2(1) o Atodlen 4,

yn cyflawni trosedd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I39Rhl. 37 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

[F43Troseddau cyfyngiadau teithioLL+C

38.(1) Mae person sy’n torri gofyniad yn—

(a)rheoliad 14A, neu

(b)rheoliad 14B,

yn cyflawni trosedd.

(2) Mae’n drosedd i berson ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol ar ffurflen datganiad teithio rhyngwladol o dan reoliad 14B pan fo’r person yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu’n ddi-hid o ran a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.

(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo’r wybodaeth anwir neu gamarweiniol wedi ei rhoi am resymau diogelwch gwladol.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I40Rhl. 38 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Troseddau sy’n ymwneud â threfnu digwyddiadauLL+C

39.—(1Mae person sy’n torri gofyniad yn—

(a)paragraff 4 o Atodlen 1,

(b)paragraff 4 o Atodlen 2,

(c)[F44paragraff 5] o Atodlen 3,

(d)paragraff 4 o Atodlen 4,

yn cyflawni trosedd.

(2Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddoriaeth mawr sydd heb ei drwyddedu yn cyflawni trosedd.

(3At ddibenion paragraff (2)

(a)ystyr “digwyddiad cerddoriaeth mawr sydd heb ei drwyddedu” yw digwyddiad—

(i)y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol ynddo,

(ii)lle y mae cerddoriaeth yn cael ei chwarae neu ei pherfformio at ddiben adloniant neu at ddibenion sy’n cynnwys y diben hwnnw, a

(iii)lle o ran chwarae neu berfformio cerddoriaeth—

(aa)y mae’n weithgaredd trwyddedadwy (o fewn ystyr “licensable activity” yn Neddf Trwyddedu 2003(10)), a

(bb)nas cynhelir o dan awdurdodiad nac yn unol ag awdurdodiad (o fewn yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno);

(b)nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad cerddorol mawr sydd heb ei drwyddedu os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I41Rhl. 39 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Troseddau sy’n ymwneud â gofynion ynysu ac olrhain cysylltiadauLL+C

40.—(1Mae person sydd—

(a)yn torri gofyniad yn rheoliad 6(2), 7(2), 8(2), 9(2) F45... neu 12, neu

(b)heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 6(3), 7(3), 8(3) [F46neu 9(3)] ,

yn cyflawni trosedd.

(2Mae’n drosedd i berson (“P”) roi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i swyddog olrhain cysylltiadau—

(a)o dan reoliad 6(3), 7(3), 8(3) [F47neu 9(3)] , neu

(b)ynghylch—

(i)gwybodaeth gyswllt P, neu

(ii)personau y gall P fod wedi dod i gysylltiad agos â hwy,

pan fo P yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu pan fo P yn ddi-hid o ran a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.

(3Ym mharagraff (2), mae i “cysylltiad agos” yr un ystyr ag yn Rhan 3.

Trosedd o fethu â gwisgo gorchudd wynebLL+C

41.  Mae person sy’n torri’r gofyniad yn rheoliad 19(1) neu 20(1) yn cyflawni trosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Rhl. 41 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Troseddau sy’n ymwneud â busnesau a gwasanaethauLL+C

42.—(1Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn—

(a)[F48paragraff 7(1)] o Atodlen 1,

(b)[F49paragraff 7(1)] o Atodlen 2,

(c)paragraffau 7(1), 8(1) neu [F509(1)] o Atodlen 3, neu

(d)paragraffau 7(1), 8(1), 9(1) [F51, 10(1) neu 11(3)] o Atodlen 4,

yn cyflawni trosedd.

(2Mae gweithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus sydd, heb esgus rhesymol, yn torri’r gofyniad yn rheoliad 19(5) yn cyflawni trosedd.

(3Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chymryd y mesurau a bennir mewn hysbysiad gwella mangre a ddyroddir o dan baragraff 1(1) o Atodlen 8 o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad yn cyflawni trosedd.

(4Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri paragraff 3(1) o Atodlen 8 yn cyflawni trosedd.

(5Mae person sydd—

(a)yn torri paragraff 3(2) o Atodlen 8, neu

(b)heb esgus rhesymol, yn tynnu, yn cuddio neu’n difrodi hysbysiad neu arwydd y mae’n ofynnol ei arddangos o dan baragraff 7(2)(a) o’r Atodlen honno,

yn cyflawni trosedd.

Diwygiadau Testunol

F51Geiriau yn rhl. 42(1)(d) wedi eu hamnewid (22.12.2020 dod i rym am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1623), rhlau. 1(2), 2(4)

Gwybodaeth Cychwyn

I44Rhl. 42 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Rhwystro a thorri cyfarwyddydau a hysbysiadau cydymffurfioLL+C

43.—(1Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

(2Mae person sydd, heb esgus rhesymol—

(a)yn torri cyfarwyddyd a roddir—

(i)gan swyddog gorfodaeth o dan Ran 7, neu

(ii)gan weithredwr gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, cyflogai i’r gweithredwr, neu berson sydd wedi ei awdurdodi gan y gweithredwr, o dan reoliad 32(2), neu

(b)yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio a roddir gan swyddog gorfodaeth o dan reoliad 27(1),

yn cyflawni trosedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Rhl. 43 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

CosbLL+C

44.  Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Rhl. 44 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Arestio heb warantLL+C

45.  Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(11) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y Rheoliadau hyn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—

(a)cynnal iechyd y cyhoedd;

(b)cynnal trefn gyhoeddus.

Gwybodaeth Cychwyn

I47Rhl. 45 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Troseddau a gyflawnwyd gan gyrff corfforedig etc.LL+C

46.—(1Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforedig—

(a)wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath,

mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.

(3Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.

(4Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.

(5Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(12) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(13) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.

(6Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o asedau’r bartneriaeth.

(7Mae dirwy a osodir ar gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei euogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y corff.

Gwybodaeth Cychwyn

I48Rhl. 46 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

PENNOD 2LL+CCosbau penodedig

Hysbysiadau cosb benodedigLL+C

47.—(1Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i berson y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol—

(a)ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a

(b)ei fod yn 18 oed neu drosodd.

(2Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

(a)awdurdod lleol, neu

(b)person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,

a bennir yn yr hysbysiad.

(3Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).

(4Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan—

(a)rheoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

(b)rheoliad 21 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,

(c)rheoliad 31 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

(d)rheoliad 37 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020

i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

(5Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo fod yn awdurdod (neu yn ôl y digwydd, un o’r awdurdodau) yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni yn ei ardal.

(6Pan fo hysbysiad wedi ei ddyroddi i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir dwyn unrhyw achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;

(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Rhl. 47 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Swm cosb benodedig: cyffredinolLL+C

48.—(1Oni bai bod rheoliad 49, [F5249A,] 50, 51 neu 52 yn gymwys, swm cosb benodedig yw—

(a)£60, neu

(b)os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hybysiad, £30.

(2Ond os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig o’r fath iddo eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—

(a)nid yw paragraff (1) yn gymwys, a

(b)y swm a bennir fel y gosb benodedig yw—

(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £120;

(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £240;

(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £480;

(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, £960;

(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig perthnasol a geir wedi hynny, £1,920.

(3Ym mharagraff (2), ystyr “hysbysiad cosb benodedig perthnasol” yw—

(a)hysbysiad cosb benodedig pan fo swm y gosb benodedig wedi ei bennu o dan y rheoliad hwn;

(b)hysbysiad cosb benodedig o dan—

(i)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

(ii)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 21(7A) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,

(iii)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 31(8) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,

(iv)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 ac eithrio hysbysiad y mae rheoliad 39, 40, 41 neu 42 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo,

(v)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020(14).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I50Rhl. 48 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Swm cosb benodedig: cymryd rhan mewn cynulliad mawr mewn annedd breifatLL+C

49.  Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 37(2), swm y gosb benodedig yw £60.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Rhl. 49 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

[F53Swm cosb benodedig: gofynion teithio rhyngwladolLL+C

49A.  Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 38(1)(a), swm y gosb benodedig yw £5000.]

Swm cosb benodedig: trefnu digwyddiadLL+C

50.—(1Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 39(1), swm y gosb benodedig yw £500.

(2Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd honedig o’r fath eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—

(a)nid yw paragraff (1) yn gymwys, a

(b)swm y gosb benodedig yw—

(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £1,000;

(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £2,000;

(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, £4,000.

(3Ym mharagraff (2), ystyr “hysbysiad cosb benodedig perthnasol” yw—

(a)hysbysiad cosb benodedig pan fo swm y gosb benodedig wedi ei bennu o dan y rheoliad hwn;

(b)hysbysiad cosb benodedig o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 y mae rheoliad 40 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I52Rhl. 50 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Swm cosb benodedig: trefnu digwyddiad cerddoriaeth sydd heb ei drwyddeduLL+C

51.  Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 39(2), swm y gosb benodedig yw £10,000.

Gwybodaeth Cychwyn

I53Rhl. 51 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Swm cosb benodedig: troseddau sy’n gysylltiedig â busnesLL+C

52.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 42(1), (2), (3) neu (4) (“trosedd busnes honedig”).

(2Pan fo hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig, swm y gosb benodedig yw £1,000.

(3Ond os yw’r person y dyroddir iddo hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig perthnasol—

(a)nid yw paragraff (2) yn gymwys, a

(b)swm y gosb benodedig yw—

(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £2,000;

(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, £4,000;

(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig o’r fath a geir wedi hynny, £10,000.

(4Ym mharagraff (3), ystyr “hysbysiad cosb benodedig perthnasol” yw—

(a)hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd busnes honedig;

(b)hysbysiad cosb benodedig o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 y mae rheoliad 42 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I54Rhl. 52 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Cosbau penodedig: ffurf a gweithdrefnLL+C

53.—(1Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd;

(b)datgan y cyfnod pryd (oherwydd rheoliad 47(6)(a)) na ddygir achos am y drosedd;

(c)pennu swm y gosb benodedig a bennir o dan reoliad 48, 49, [F5449A,] 50, 51 neu 52 (yn ôl y digwydd);

(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;

(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(2Pa ddull bynnag arall a bennir o dan baragraff (1)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) at y person y nodir ei enw o dan baragraff (1)(d) i’r cyfeiriad a nodir.

(3Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel y’i crybwyllir ym mharagraff (2), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.

(4Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person a chanddo gyfrifoldeb am faterion ariannol—

(i)yr awdurdod lleol, neu

(ii)y person sydd wedi ei ddynodi o dan reoliad 47(2)(b),

a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a

(b)sy’n datgan bod y taliad am gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a nodwyd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I55Rhl. 53 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Hysbysiadau cosb benodedig: gwahardd cosbi ddwywaithLL+C

54.—(1Pan fo’r un weithred neu anweithred, neu fwy neu lai yr un weithred neu anweithred, gan berson yn gallu arwain at gred resymol bod y person wedi cyflawni mwy nag un drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ni chaniateir dyroddi hysbysiad cosb benodedig i’r person ond mewn cysylltiad ag un o’r troseddau honedig.

(2Ond caniateir dyroddi hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 37(1) yn ogystal â throsedd honedig o dan reoliad 37(2) pan fo’r un weithred, neu fwy neu lai yr un weithred, gan berson yn arwain at gred resymol bod y person wedi cyflawni’r naill drosedd a’r llall.

Gwybodaeth Cychwyn

I56Rhl. 54 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

PENNOD 3LL+CAchosion

HunanargyhuddoLL+C

55.—(1Caniateir i wybodaeth berthnasol gael ei defnyddio fel tystiolaeth yn erbyn y person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef mewn achos troseddol.

(2Pan fo’r wybodaeth yn cael ei defnyddio mewn achos ac eithrio am drosedd o dan y Rheoliadau hyn neu adran 5 o Ddeddf Anudon 1911(15) (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw)—

(a)ni chaniateir i unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei rhoi gan yr erlyniad nac ar ei ran, a

(b)ni chaniateir i unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei ofyn gan yr erlyniad nac ar ei ran.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys—

(a)os rhoddir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person a’i darparodd, neu ar ei ran, yn ystod yr achos, neu

(b)os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person hwnnw, neu ar ei ran, yn ystod yr achos.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw—

(a)gwybodaeth sy’n wybodaeth berthnasol at ddibenion rheoliad 14;

(b)gwybodaeth, neu’r ateb i gwestiwn, a roddir mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan reoliad 36(1);

(c)unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys mewn dogfen neu gofnodion electronig a ddangosir mewn ymateb i ofyniad a osodir o dan baragraff 8(1) o Atodlen 8.

Gwybodaeth Cychwyn

I57Rhl. 55 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

ErlynLL+C

56.—(1Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan—

(a)y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus,

(b)unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru, neu

(c)mewn perthynas ag achos am [F55drosedd a grybwyllir ym mharagraff (1A)], awdurdod lleol.

[F56(1A) Y troseddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(c) yw—

(a)trosedd o dan reoliad 42 ac eithrio trosedd o dan baragraff (2) o’r rheoliad hwnnw;

(b)trosedd o dan reoliad 43(1) pan fo’r person sy’n cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn swyddog gorfodaeth sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol;

(c)trosedd o dan reoliad 43(2)(a)(i) neu (b) pan fo’r swyddog gorfodaeth sy’n rhoi’r cyfarwyddyd neu’r hysbysiad cydymffurfio yn berson sydd wedi ei ddynodi gan awdurdod lleol.]

(2Mae person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan—

(a)rheoliad 14 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

(b)rheoliad 22 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,

(c)rheoliad 32 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

(d)rheoliad 46 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,

i’w drin fel pe bai wedi ei ddynodi o dan y rheoliad hwn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I58Rhl. 56 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

RHAN 9LL+CCyffredinol

DehongliLL+C

57.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(a)“mae i “alcohol” yr ystyr a roddir i “alcohol” gan adran 191 o Ddeddf Trwyddedu 2003(16);

(b)ystyr “seremoni briodas arall” yw seremoni—

(i)sy’n seiliedig ar ffydd neu gred person, neu ei ddiffyg cred, i nodi uniad dau o bobl, ac eithrio seremoni at ddibenion gweinyddiad priodas neu ffurfio partneriaeth sifil,

(ii)a gynhelir mewn mangre reoleiddiedig, a

(iii)a drefnir gan sefydliad elusennol, llesiannol neu ddyngarol;

(c)ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu gofal ar gyfer y person a gynorthwyir pan fo—

(i)hawlogaeth gan y gofalwr i asesiad o dan adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(17),

(ii)y gofal yn rhan o ddarparu gwasanaethau gofal cymunedol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu

(iii)y gofal wedi ei ddarparu gan ddarparwr gofal sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(18);

(d)ystyr “plentyn” yw person sydd o dan 18 oed;

[F57(da)ystyr “gwasanaeth cysylltiad agos” yw gwasanaeth a ddarperir fel arfer gan unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(i)salonau gwallt a barbwyr;

(ii)salonau ewinedd a harddwch gan gynnwys gwasanaethau lliw haul ac electrolysis;

(iii)gwasanaethau tyllu’r corff a thatŵio;]

(e)ystyr “gwybodaeth gyswllt”, mewn perthynas â pherson, yw enw’r person a gwybodaeth sy’n ddigon i alluogi cysylltiad â’r person, (gan gynnwys rhif ffôn, ac, mewn perthynas â pherson mewn mangre reoleiddiedig, y dyddiad a’r amser yr oedd y person yn y fangre);

(f)ystyr “swyddog olrhain cysylltiadau” yw—

(i)person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen at ddibenion y gwasanaeth iechyd (o fewn ystyr “the health service” yn adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(19) neu adran 108 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(20));

(ii)person sydd wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen gan awdurdod lleol,

sydd wedi ei ddynodi at ddibenion Rhan 3 gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru(21) neu awdurdod lleol;

(g)ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

[F58(h)ystyr “athletwr elît” yw unigolyn—

(i)sy’n ennill bywoliaeth o gystadlu mewn camp,

(ii)sydd wedi ei ddynodi’n athletwr elît gan Gyngor Chwaraeon Cymru at ddibenion—

(aa)y Rheoliadau hyn,

(bb)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020,

(cc)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020,

(dd)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020, neu

(ee)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020,

(iii)sy’n “mabolgampwr elît” o fewn yr ystyr a roddir i “elite sportsperson” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau) (Pob Haen) (Lloegr) 2020,

(iv)sy’n “mabolgampwr proffesiynol” o fewn yr ystyr a roddir i “professional sportsperson” gan reoliad 2(1) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cyfyngiadau a Gofynion) (Lefelau Lleol) (Yr Alban) 2020, neu

(v)sy’n “athletwr elît” o fewn yr ystyr a roddir i “elite athlete” gan baragraff 39(2) o Atodlen 2 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Gogledd Iwerddon) 2020;]

(i)ystyr “digwyddiad chwaraeon elît” yw digwyddiad chwaraeon nad yw ond athletwyr elît yn cystadlu ynddo;

(j)ystyr “gorchudd wyneb” yw gorchudd o unrhyw fath sy’n gorchuddio trwyn a cheg person;

(k)ystyr “busnes bwyd a diod” yw—

(i)bariau (gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau);

(ii)tafarndai;

(iii)caffis, ffreuturau a bwytai (gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau);

(l)ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—

(i)wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu

(ii)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.

(m)ystyr “llety gwyliau neu lety teithio” yw llety mewn—

(i)safleoedd gwersylla;

(ii)safleoedd gwyliau;

(iii)gwestai a llety gwely a brecwast;

(iv)llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio);

(n)ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(o)mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr ag a roddir i “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989(22);

(p)mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;

(q)mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;

(r)ystyr “gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus” yw gwasanaeth a ddarperir i’r cyhoedd ar gyfer cludo teithwyr ar ffordd, ar reilffordd, ar dramffordd, yn yr awyr neu ar y dŵr;

(s)mae i “mangre reoleiddiedig” yr ystyr a roddir gan reoliad 15(1);

F59(t). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(u)ystyr “aelwyd un oedolyn” yw—

(i)aelwyd sydd ag 1 oedolyn (ac unrhyw nifer o blant), neu

(ii)aelwyd sydd ag—

(aa)1 oedolyn sydd â chyfrifoldebau gofalu am 1 oedolyn arall neu ragor ar yr aelwyd,

(bb)yr oedolyn neu’r oedolion y gofelir amdanynt,

(cc)dim oedolion eraill, a

(dd)unrhyw nifer o blant;

(v)mae “cerbyd” yn cynnwys awyren, car cebl, trên, tram a llestr;

(w)mae “person hyglwyf” yn cynnwys—

(i)unrhyw berson sy’n 70 oed neu’n hŷn;

(ii)unrhyw berson o dan 70 oed sydd â chyflwr iechyd isorweddol;

(iii)unrhyw berson sy’n feichiog;

(iv)unrhyw blentyn;

(v)unrhyw berson sy’n oedolyn hyglwyf o fewn yr ystyr a roddir i “vulnerable adult” gan adran 60(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(23).

(2At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio yn unol â pharagraff (1)(l), mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—

(a)y person sy’n berchen ar y safle, neu

(b)person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(24) yn gymwys iddo.

(3Yn y Rheoliadau hyn, o ran cyfeiriadau at “annedd breifat”—

(a)maent yn cynnwys cwch preswyl ac unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, tŷ allan neu unrhyw atodyn arall i’r annedd;

(b)nid ydynt yn cynnwys y canlynol—

(i)llety gwyliau neu lety teithio;

(ii)llety mewn gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd, o fewn yr ystyr a roddir i’r termau hynny gan Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;

(iii)llety cyfiawnder troseddol.

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)mae cynulliad pan fydd dau neu ragor o bobl yn yr un man er mwyn gwneud rhywbeth gyda’i gilydd;

(b)mae digwyddiad yn achlysur—

(i)sydd wedi ei gynllunio neu ei amserlennu at ddiben penodol, a

(ii)pan fo unrhyw nifer o bobl yn yr un man at y diben hwnnw, pa un a ydynt yn cymryd rhan mewn cynulliad ai peidio.

(5At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)mae mangre o dan do os yw’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan [F60reoliad 3 o Reoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020] ;

(b)mae mangre wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol pan fo awdurdodiad wedi ei ganiatáu neu ei roi i’r fangre o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, ac mae i “awdurdodiad” yr ystyr a roddir i “authorisation” gan adran 136(5) o’r Ddeddf honno.

(6At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae mangre sinema neu theatr yn sinema o sedd cerbyd neu’n theatr o sedd cerbyd—

(a)os yw’r fangre yn yr awyr agored, a

(b)os o ran personau sy’n mynd i arddangosiad ffilm neu berfformiad yn y fangre—

(i)ni chânt ond gwneud hynny mewn cerbyd caeedig, a

(ii)ni chânt, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, adael y cerbyd tra byddant yn y fangre.

(7At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gweithgaredd “wedi ei drefnu”—

(a)os yw wedi ei drefnu gan—

(i)busnes,

(ii)corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, llesiannol, addysgol neu ddyngarol,

(iii)clwb neu sefydliad gwleidyddol, neu

(iv)corff llywodraethu cenedlaethol camp neu weithgaredd arall, a

(b)os yw’r person sy’n ei drefnu wedi—

(i)cynnal asesiad risg a fyddai’n bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999(25), pa un a yw’r person yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hynny ai peidio, a

(ii)cydymffurfio â gofynion rheoliadau 16 ac 18(1).

(8At ddibenion paragraff (7)(b)

(a)mae rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn gymwys fel pe bai’r gweithgaredd yn ymgymeriad a wneir gan y person sy’n ei drefnu;

(b)mae rheoliad 16 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai—

(i)y man lle y mae’r gweithgaredd yn digwydd yn fangre reoleiddiedig at ddibenion y rheoliad hwnnw, a

(ii)y person sy’n trefnu’r gweithgaredd oedd y person cyfrifol mewn perthynas â’r fangre reoleiddiedig honno.

DirymuLL+C

58.  Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020, ac eithrio rheoliad 48;

(b)rheoliad 4 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020(26);

(c)rheoliad 6 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020(27).

Gwybodaeth Cychwyn

I60Rhl. 58 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Diwygiad canlyniadolLL+C

59.  Yn rheoliad 19(10) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020, ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

(e)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 os yw rheoliad 48 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys i’r hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I61Rhl. 59 mewn grym ar 20.12.2020 (fel y diwygiwyd gan O.S. 2020/1610, rhl. 2(2)), gweler rhl. 1(3)

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 5.45 p.m. ar 18 Rhagfyr 2020

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources