Search Legislation

Gorchymyn Parth Arddangos Morlais 2021

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi a Chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Parth Arddangos Morlais 2021 a daw i rym ar 22 Rhagfyr 2021.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 1961” yw Deddf Digollediad Tir 1961(1);

ystyr “Deddf 1965” yw Deddf Prynu Gorfodol 1965(2);

ystyr “Deddf 1980” yw Deddf Priffyrdd 1980(3);

ystyr “Deddf 1981” yw Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981(4);

ystyr “Deddf 1990” yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(5);

ystyr “Deddf 1991” yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 1991(6);

ystyr “Deddf 2004” yw Deddf Ynni 2004(7);

ystyr “Deddf 2009” yw Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009(8);

ystyr “Rheoliadau 2007” yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Parthau Diogelwch) (Gweithdrefnau Gwneud Cais a Rheoli Mynediad) 2007(9);

mae “cyfeiriad” yn cynnwys unrhyw nifer o gyfeiriadau a ddefnyddir at ddibenion darlledu electronig;

ystyr “ardal araeau” yw’r rhan honno o derfynau Gorchymyn ar y môr a sefydlwyd fel ardal yr araeau yn Rhan 3 o Atodlen 1 y caniateir adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu Gwaith Rhif 1 oddi mewn iddi;

ystyr “gweithfeydd awdurdodedig” yw’r gweithfeydd rhestredig a nodwyd yn Rhan 1 o Atodlen 1 ac unrhyw weithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn, gan gynnwys y gweithfeydd pellach a nodwyd yn Rhan 2 o Atodlen 1;

mae “adeilad” yn cynnwys unrhyw strwythur neu unrhyw ran o adeilad neu strwythur;

ystyr “cyfeirlyfr” yw’r cyfeirlyfr a ardystiwyd gan Weinidogion Cymru fel y cyfeirlyfr at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “diogelu ceblau” yw diogelu unrhyw geblau sy’n ffurfio rhan o’r gweithfeydd awdurdodedig a chaiff gynnwys bagiau o greigiau, matrisau concrid, cyfnewid cerrig dros ffosydd agored wedi’u torri a chwndid neu bibell a all gynnwys tiwb J neu fesur diogelu pibellau hollt cyffelyb;

mae i “cerbytffordd” yr un ystyr â “carriageway” yn Neddf 1980;

ystyr “cychwyn” yw dechrau cyflawni unrhyw weithrediad perthnasol (fel y’i diffiniwyd yn adran 56(4) o Ddeddf 1990) sy’n ffurfio rhan o’r gweithfeydd awdurdodedig naill ai ar y tir neu ar y môr heblaw am weithrediadau sy’n cynnwys gwaith dymchwel, ymchwiliadau at ddiben asesu amodau’r ddaear neu wely’r môr, ymchwiliadau archaeolegol, codi unrhyw ddull dros dro o amgáu ac arddangos hysbysiadau neu hysbysebion dros dro; a rhaid dehongli “cychwyn” yn unol â hynny;

ystyr “ceblau cyfathrebu” yw ceblau ffôn a/neu geblau ffeibr optig ar gyfer cyfathrebu’n electronig;

ystyr “datgomisiynu” yw datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig (neu unrhyw ran ohonynt) ar ddiwedd eu hoes weithredol ond ni fydd yn cynnwys ailbweru;

ystyr “strategaeth gwella bioamrywiaeth forol fanwl” yw strategaeth gwella bioamrywiaeth forol sy’n unol â’r strategaeth gwella bioamrywiaeth forol ac sy’n disgrifio unrhyw fesurau gwella amrywiaeth arfaethedig i’w cyflwyno fel rhan o adeiladu neu ailbweru dyfeisiau llanwol, hybiau gweithredol neu osod ceblau y mae’n ymwneud â hwy;

ystyr “protocol ar ddefnyddio dyfeisiau” yw datganiad sy’n nodi—

(a)

mewn cysylltiad â dyfeisiau llanwol a hybiau gweithredol sy’n codi o’r wyneb yn yr ardaloedd cyfyngedig a gweddill ardal yr araeau fanylion sy’n cynnwys dimensiynau’r dyfeisiau llanwol neu’r hybiau gweithredol y mae’r ymgymerwr yn bwriadu eu hadeiladu neu eu hailbweru ac asesiad morwedd, tirwedd a gweledol a gynhelir yn unol â’r fethodoleg asesu ar gyfer y datganiad amgylcheddol neu unrhyw ganllawiau arferion gorau a gyhoeddir wedi hynny ar y dyfeisiau llanwol neu’r hybiau gweithredol arfaethedig a fydd yn cynnwys asesiad o effaith gronnol y dyfeisiau llanwol a’r hybiau gweithredol arfaethedig a/neu y rhoddwyd cydsyniad iddynt (yn unol â phrotocol ar ddefnyddio dyfeisiau cymeradwy) ar adeg ei baratoi, a/neu

(b)

mewn perthynas â dyfeisiau llanwol neu hybiau gweithredol o dan yr wyneb yn yr ardal gyfyngedig – UKC 8m gyda lle clirio arfaethedig o dan y cêl o lai nag 8m fanylion am y ddyfais lanwol neu’r hwb gweithredol i’w (d)defnyddio, a/neu

(c)

mewn perthynas â dyfeisiau llanwol neu hybiau gweithredol o dan y wyneb yn yr ardal gyfyngedig UKC 20m gyda lle clirio arfaethedig o dan y cêl o lai nag 20m fanylion am y ddyfais lanwol neu’r hwb gweithredol i’w (d)defnyddio ac ym mhob achos bydd yn gyson â’r asesiad risg mordwyol wedi’i ddiweddaru ar gyfer y gwaith llanwol perthnasol;

ystyr “Cyfarwyddeb AEA” yw Cyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Rhagfyr 2011 fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2014/52/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 16 Ebrill 2014 ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd(10);

ystyr “darlledu electronig” yw cyfathrebiad a ddarlledir—

(d)

drwy rwydwaith cyfathrebu electronig, neu

(e)

drwy fodd arall ond ar ffurf electronig;

ystyr “datganiad amgylcheddol” yw’r datganiad amgylcheddol a gyflwynir ar y cyd â’r cais am y Gorchymyn hwn fel yr ychwanegir ato neu fel y’i diwygir gan y wybodaeth amgylcheddol bellach a gyflwynir i gefnogi’r cais ac fel y’i hardystir ynghyd â’r datganiad amgylcheddol gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “dogfen gyfatebol” yw dogfen a restrir yng ngholofn 1 o Ran 4 o Atodlen 1 y mae ei chynnwys hefyd yn ddarostyngedig i amod ar unrhyw drwydded forol a roddir ar gyfer gweithfeydd llanwol;

ystyr “safle Ewropeaidd” yw safle Ewropeaidd fel y’i diffiniwyd yn Rheoliad 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017(11);

ystyr “coridor ceblau allforio” yw’r rhan o derfynau’r Gorchymyn ar y môr a sefydlwyd fel y coridor ceblau allforio yn Rhan 3 o Atodlen 1;

mae i “troetffordd” yr un ystyr â “footway” yn Neddf 1980;

mae i “priffordd” ac “awdurdod priffyrdd” yr un ystyr â “highway” a “highway authority” yn Neddf 1980;

ystyr “terfynau’r gwyro” yw terfynau’r gwyro ar gyfer y gweithfeydd ar y tir a ddangosir ar blaniau’r tir;

ystyr “terfynau tir sydd i’w gaffael neu i’w ddefnyddio” yw’r tir a ddangosir ar blaniau’r tir;

mae “cynnal a chadw” yn cynnwys archwilio, atgyweirio, adnewyddu, cyfnewid, addasu, newid ac mae hefyd yn cynnwys, mewn perthynas â rhan gyfansoddol o waith ond nid y gwaith cyfan, waredu, clirio, adnewyddu, ailadeiladu, dymchwel, cyfnewid a gwella unrhyw ran o’r gweithfeydd awdurdodedig, ond nid yw’n cynnwys unrhyw weithgarwch (heblaw gweithgarwch a awdurdodir gan neu o dan y Gorchymyn hwn) sydd o fewn dosbarth a restrir yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb AEA neu mewn dosbarth a restrir yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb AEA ac, oherwydd ei faint neu ei leoliad, sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd ac nad yw wedi cael ei ystyried na’i asesu yn y datganiad amgylcheddol a rhaid dehongli “cynnal a chadw” yn unol â hynny;

ystyr “MW” yw megawatiau;

ystyr “Cyfoeth Naturiol Cymru” yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

ystyr “terfynau’r Gorchymyn ar y môr” yw’r terfynau y caiff y gweithfeydd llanwol eu hadeiladu, eu gweithredu, eu cynnal a’u cadw, eu hailbweru a’u datgomisiynu oddi mewn iddynt a ddangosir ar blaniau’r gweithfeydd alltraeth;

ystyr “planiau’r gweithfeydd alltraeth” mewn perthynas â’r gweithfeydd llanwol yw’r planiau a baratoir yn unol â rheol 12(1)(a) o Reolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006 ac a ardystir gan Weinidogion Cymru fel planiau’r gweithfeydd alltraeth at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “terfynau’r Gorchymyn ar y tir” yw terfynau’r gwyro a therfynau tir sydd i’w gaffael neu i’w ddefnyddio at gyfer y gweithfeydd ar y môr fel y’u dangosir ar blaniau’r tir;

ystyr “planiau’r tir” yw’r planiau a baratoir yn unol â rheol 12(1)(a) a rheol 12(5) o Reolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006 ac a ardystir gan Weinidogion Cymru fel planiau’r tir at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “gweithfeydd ar y tir” yw cymaint o’r gweithfeydd awdurdodedig ag sy’n gorwedd tua’r tir o ddistyll cymedrig y gorllanw;

ystyr “hwb gweithredol” yw hwb ar gyfer casglu a chyfuno trydan a gynhyrchir gan nifer o ddyfeisiau llanwol sy’n cynnwys rhan o Waith Rhif 1;

ystyr “strategaeth gwella bioamrywiaeth forol amlinellol” yw’r ddogfen a ardystiwyd fel y strategaeth gwella bioamrywiaeth forol amlinellol gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Gorchymyn hwn neu unrhyw strategaeth gwella bioamrywiaeth forol amlinellol sydd wedi’i diweddaru neu wedi’i diwygio ag a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru neu Cyfoeth Naturiol Cymru yn unol â thelerau unrhyw drwydded forol y gellir ei rhoi ar gyfer y gweithfeydd llanwol;

mae i “perchennog”, mewn perthynas â thir, yr un ystyr ag “owner” yn Neddf Caffael Tir 1981(12);

ystyr “paramedrau’r prosiect” yw’r paramedrau ar gyfer y gweithfeydd awdurdodedig fel y’u nodwyd yn nhablau 4-21 i 4-30 o’r bennod 4 ddiwygiedig o’r wybodaeth amgylcheddol wedi’i diweddaru sy’n rhan o’r datganiad amgylcheddol ac sy’n dwyn cyfeirnod dogfen MOR-RHDHV-DOC-0004 fersiwn F4.0 dyddiedig Hydref 2019;

ystyr “ailbweru” yw cyfnewid dyfais lanwol bresennol â dyfais lanwol wahanol yn yr un lleoliad neu mewn lleoliad gwahanol a all gynnwys—

(a)

tynnu ymaith ddyfeisiau llanwol, hybiau cysylltiedig, ceblau rhwng araeau a chyfarpar monitro sy’n cynnwys y rhan honno o Waith Rhif 1 ag sy’n cael ei hailbweru; ac

(b)

adeiladu dyfeisiau llanwol, hybiau cysylltiedig, ceblau rhwng araeau a chyfarpar monitro newydd a gweithfeydd awdurdodedig eraill gyda Gwaith Rhif 1 ynghyd ag unrhyw weithfeydd cysylltiedig a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1;

ond nid yw’n cynnwys unrhyw weithgarwch (heblaw gweithgarwch a awdurdodir gan neu o dan y Gorchymyn hwn) sydd o fewn dosbarth a restrir yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb AEA neu mewn dosbarth a restrir yn Atodiad II i’r Gyfarwyddeb AEA ac, oherwydd ei faint neu ei leoliad, sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd ac nad yw wedi cael ei ystyried na’i asesu yn y datganiad amgylcheddol a rhaid dehongli “ailbweru” yn unol â hynny;

ystyr “plan ardal gyfyngedig” yw’r plan a nodir â ‘Plan yr Ardal Gyfyngedig’ ac sy’n dwyn y cyfeirnod PB5034-ES-004-005 Rev 05 ac a ardystir gan Weinidogion Cymru fel plan yr ardal gyfyngedig at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “ardal gyfyngedig – gogleddol” yw’r rhan honno o ardal yr araeau a sefydlwyd fel yr ardal gyfyngedig – gogleddol, yn Rhan 3 o Atodlen 1 ac a ddangosir mewn lliw aur ar Blan yr Ardal Gyfyngedig;

ystyr “ardal gyfyngedig - UKC 8m” yw’r rhan o ardal yr araeau a sefydlwyd fel yr ardal gyfyngedig UKC 8m yn Rhan 3 o Atodlen 1 ac a ddangosir mewn lliw glas ar Blan yr Ardal Gyfyngedig;

ystyr “ardal gyfyngedig – UKC 20m” yw’r rhan o’r ardal a sefydlwyd fel yr ardal gyfyngedig – UKC 20m yn Rhan 3 o Atodlen 1 ac a ddangosir mewn lliw porffor ar Blan yr Ardal Gyfyngedig;

ystyr “ardaloedd cyfyngedig” yw’r ardal gyfyngedig – gogleddol yr ardal gyfyngedig – UKC 8m a’r ardal gyfyngedig – UKC 20m;

ystyr “yr Ysgrifennydd Gwladol” yw’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol neu ei olynydd o ran swyddogaeth sydd â phwerau i sicrhau datgomisiynu gosodiadau ynni adnewyddadwy alltraeth yn unol â Deddf 2004;

ystyr “y trawsluniau” yw’r trawsluniau a baratoir yn unol â rheol 12(3) o Reolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006 ac a ardystiwyd gan Weinidogion Cymru fel y trawsluniau at ddibenion y Gorchymyn hwn;

mae “stryd” yn cynnwys rhan o stryd;

mae i “awdurdod strydoedd”, mewn perthynas â stryd, yr yn ystyr â “street authority” yn Rhan 3 o Ddeddf 1991;

ystyr “dyfais lanwol” yw generadur ynni’r llanw ar wahân sy’n cynnwys trawsnewidiwr/trawsnewidwyr ynni’r llanw, sylfeini a strwythurau ategol;

ystyr “trawsnewidiwr ynni’r llanw” yw’r rhan honno o ddyfais lanwol sy’n trawsnewid ynni cinetig a phosibl a geir o fewn dŵr llanwol symudol yn drydan;

ystyr “gweithfeydd llanwol” yw cymaint o’r gweithfeydd awdurdodedig ag sy’n gorwedd tua’r môr o benllanw cymedrig y gorllanw neu unrhyw ran neu rannau ohonynt a byddant yn cynnwys unrhyw gyfryw weithfeydd ag sydd wedi cael eu hailbweru ac mewn perthynas ag erthygl 21 (diogelwch mordwyo) ac maent yn cynnwys unrhyw weithfeydd carthu, boed hynny yn unol ag erthygl 16 (pŵer i garthu) neu fel arall;

ystyr “y tribiwnlys” yw Siambr Diroedd yr Uwch Dribiwnlys;

ystyr “Trinity House” yw Corporation of Trinity House o Deptford Strond;

ystyr “ymgymerwr” mewn perthynas ag adeiladu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig yw Menter Môn Morlais Cyfyngedig neu’r cyfryw gwmni arall y trosglwyddir buddiant y Gorchymyn iddo yn unol ag erthygl 6(1) ac mewn perthynas â’r gweithfeydd llanwol mae’n cynnwys unrhyw berson y mae rhan o’r gweithfeydd llanwol neu derfynau’r Gorchymyn ar y môr wedi cael ei phrydlesu iddo yn unol ag erthygl 6(2);

ystyr “asesiad risg mordwyol wedi’i ddiweddaru” yw asesiad risg mordwyol wedi’i ddiweddaru ar gyfer pob cam perthnasol o bob gwaith llanwol a wneir yn unol â methodoleg ac argymhellion Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a nodir yn MGN654 ‘Offshore Renewable Energy Installations (OREIs) – Guidance on UK Navigational Practice, Safety and Emergency Response’ a’i atodiadau neu ddiweddariadau dilynol ac ystyried lleoliad a nodweddion y gweithfeydd llanwol y cynigir y dylid eu defnyddio, y dull o adeiladu, angori goleuadau a gynigir, gweithredu ac unrhyw ofynion cynnal a chadw cysylltiedig neu ddulliau ailbweru neu ddatgomisiynu (fel y bo’n gymwys) ac asesiad o effeithiau cronnol y cynigion gyda gweithfeydd llanwol a ddefnyddiwyd yn flaenorol a bydd yn cynnwys graddau unrhyw barth diogelwch arfaethedig i wneud cais amdano yn unol ag erthygl 43;

mae “cwrs dŵr” yn cynnwys pob afon, ffrwd, ffos, draen camlas, toriad, cwlfer, clawdd, llifddor, carthffos a thramwy y mae dŵr yn llifo drwyddi neu drwyddo ac eithrio carthffos neu ddraen gyhoeddus.

(2Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn i hawliau dros dir yn cynnwys cyfeiriadau at hawliau i wneud, neu i osod a chynnal a chadw, unrhyw beth yn y tir, arno neu oddi tano neu yn yr awyr uwchlaw ei wyneb.

(3Dehonglir unrhyw bellteroedd, cyfeiriadau a hydoedd a nodir yn y disgrifiad o’r gweithfeydd awdurdodedig neu mewn unrhyw ddisgrifiad o bwerau neu diroedd fel pe bai’r geiriau “neu fwy neu lai” wedi’u mewnosod ar ôl pob cyfryw bellter, cyfeiriad a hyd, a thybir bod pellteroedd rhwng pwyntiau ar waith awdurdodedig wedi’u mesur ar hyd y gwaith awdurdodedig.

RHAN 2Darpariaethau ynghylch Gweithfeydd

Prif bwerau

Pŵer i adeiladu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu gweithfeydd

3.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn caiff yr ymgymerwr adeiladu, cynnal a chadw a datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn caiff yr ymgymerwr adeiladu, cynnal a chadw a datgomisiynu’r gweithfeydd llanwol neu unrhyw rannau ohonynt o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y môr.

(3Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn caiff yr ymgymerwr ailbweru Gwaith Rhif 1 neu unrhyw rannau ohono o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y môr.

(4Wrth adeiladu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd llanwol, rhaid i’r dogfennau yng ngholofn 1 o Ran 4 o Atodlen 1 gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru a’u cymeradwyo’n ysgrifenedig ganddynt cyn bod y gweithgarwch yng ngholofn 2 yn digwydd a bydd yn rhaid i’r cyfryw ddogfennau fod yn unol ag unrhyw amodau sy’n ymwneud â’u cynnwys a osodir ar unrhyw drwydded forol ar gyfer y gweithfeydd llanwol perthnasol ac ni fyddant yn awdurdodi unrhyw weithfeydd y tu allan i baramedrau’r prosiect.

(5Ni fydd Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo unrhyw brotocol ar ddefnyddio dyfeisiau yn unol â pharagraff (4) mewn perthynas ag adeiladu neu ailbweru dyfeisiau llanwol sy’n codi o’r arwyneb a hybiau gweithredol yn ardal yr araeau heb ymgynghori â Chyngor Sir Ynys Môn yn gyntaf ac ni fydd yn cymeradwyo unrhyw brotocol ar ddefnyddio dyfeisiau, cynllun rheoli ceblau, rhaglen ddatgomisiynu nac asesiad risg mordwyol wedi’i ddiweddaru yn unol â pharagraff (4) heb ymgynghori â Trinity House ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yn gyntaf, ac ym mhob achos bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi sylw i ymatebion yr ymgyngoreion hynny.

(6Rhaid i’r gweithfeydd llanwol ac unrhyw rannau ohonynt gael eu hadeiladu, eu cynnal a’u cadw, eu hailbweru a’u datgomisiynu (fel y bo’n briodol) yn unol â’r dogfennau a gymeradwyir yn unol â pharagraff (4) uchod ac eithrio y gellir diwygio’r cyfryw ddogfennau o bryd i’w gilydd gyda chytundeb Gweinidogion Cymru.

(7At ddibenion paragraffau (4) a (6) uchod, bernir y bydd unrhyw gymeradwyaeth o ddogfen gyfatebol yn unol ag un o amodau trwydded forol a roddir ar gyfer y gweithfeydd llanwol neu ddiwygiad y cytunwyd arno i’r cyfryw ddogfen yn gymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru.

(8Ni chaiff unrhyw weithfeydd llanwol gychwyn nes bod rhaglen ddatgomisiynu ysgrifenedig yn unol ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir i’r ymgymerwr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 105(2) o Ddeddf 2004 wedi’i gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol i’w gymeradwyo.

Pŵer i wyro

4.  Wrth adeiladu neu gynnal a chadw’r gweithfeydd alltraeth—

(a)caiff yr ymgymerwr mewn perthynas â Gweithfeydd Rhif 3 i 9 wyro’n ochrol i unrhyw raddau oddi wrth y llinellau neu’r sefyllfaoedd a ddangosir ar blaniau’r tir o fewn terfynau’r gwyro;

(b)ni chaniateir i’r ymgymerwr mewn perthynas â Gweithfeydd Rhif 7 ac 8 adeiladu unrhyw weithfeydd o fewn 1.6 metr i wyneb y ddaear; a

(c)chaiff yr ymgymerwr mewn perthynas â phob un o’r gweithfeydd awdurdodedig a bennir yng ngholofn (3) o’r tabl a nodir ym Mhennod 2 o Ran 2 i Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn, adeiladu’r gweithfeydd hynny yn y tir a nodir mewn perthynas â’r gwaith penodol hwnnw yng ngholofnau (1) a (2) o’r tabl hwnnw.

Pŵer i weithredu

5.—(1Caiff yr ymgymerwr weithredu a defnyddio’r gweithfeydd awdurdodedig fel system ar gyfer cynhyrchu a thrawsyrru trydan.

(2Wrth weithredu’r gweithfeydd alltraeth rhaid i’r ymgymerwr gydymffurfio â’r dogfennau a nodir yn Rhan 4 o Atodlen 1 fel y’u cymeradwywyd i’r graddau sy’n berthnasol i weithredu a defnyddio’r gweithfeydd llanwol.

Budd y Gorchymyn

6.—(1Caiff yr ymgymerwr, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, drosglwyddo i berson arall (“y trosglwyddai”) unrhyw ran neu bob rhan o fudd darpariaeth y Gorchymyn hwn gan gynnwys ei hawl i adeiladu, cynnal a chadw, gweithredu, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig (neu unrhyw ran ohonynt) a’r cyfryw hawliau statudol ag y caiff yr ymgymerwr a’r trosglwyddai gytuno arnynt.

(2Caiff yr ymgymerwr roi i berson arall (“y prydlesai”) am gyfnod y cytunir arno rhwng yr ymgymerwr a’r prydlesai yr hawl i adeiladu, cynnal a chadw, gweithredu, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd llanwol (neu unrhyw ran ohonynt) a’r cyfryw hawliau statudol cysylltiedig ag y cytunir arnynt felly.

(3Mae arfer y pwerau a roddir drwy ddeddfiad gan unrhyw berson yn unol â throsglwyddo neu roi’r pwerau hynny o dan baragraff (1) neu (2) yn ddarostyngedig i’r un cyfyngiadau, atebolrwyddau a rhwymedigaethau ag a fyddai’n gymwys o dan y Gorchymyn hwn pe bai’r pwerau hynny yn cael eu harfer gan yr ymgymerwr.

StrydoeddCymhwyso Deddf 1991

Pŵer i wneud gweithfeydd stryd

7.—(1Caiff yr ymgymerwr, at ddibenion adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw’r gweithfeydd awdurdodedig, fynd ar gymaint o unrhyw un o’r strydoedd a bennir yn Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwn ag sydd o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir a chaiff—

(a)torri neu agor y stryd, neu unrhyw garthffos, draen neu dwnnel oddi tani,

(b)twnelu neu durio o dan y stryd;

(c)gosod cyfarpar yn y stryd;

(d)cynnal a chadw cyfarpar yn y stryd neu newid ei leoliad; a

(e)gwneud unrhyw weithfeydd sy’n ofynnol ar gyfer unrhyw weithfeydd y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a)-(d) neu sy’n gysylltiedig â hwy.

(2Mae’r awdurdod a roddir gan baragraff (1) yn hawl statudol at ddibenion adrannau 48(3) (strydoedd, gweithfeydd stryd ac ymgymerwyr) a 51(1) (gwahardd gweithfeydd stryd anawdurdodedig) o Ddeddf 1991.

(3Mae adrannau 54 i 106 o Ddeddf 1991 yn gymwys i unrhyw weithfeydd stryd a gyflawnir o dan baragraff (1).

(4Mae’r erthygl hon yn ddarostyngedig i baragraff 2 o Atodlen 10 (darpariaethau sy’n ymwneud ag ymgymerwyr statudol etc) i’r Gorchymyn hwn.

(5Yn yr erthygl hon mae i “cyfarpar” yr yn ystyr â “apparatus” yn Rhan 3 o Ddeddf 1991.

Cau strydoedd dros dro

8.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, caiff yr ymgymerwr, mewn cysylltiad ag adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw a datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig, gau, newid neu ddargyfeirio unrhyw stryd dros dro a chaiff, am unrhyw gyfnod rhesymol—

(a)dargyfeirio’r traffig o’r stryd; ac

(b)atal personau rhag mynd ar hyd y stryd.

(2Heb gyfyngu ar gwmpas ar baragraff (1), caiff yr ymgymerwr ddefnyddio unrhyw stryd sy’n cael ei chau o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir fel safle gwaith dros dro.

(3Pan fo’r ymgymerwr yn atal personau rhag mynd ar hyd y stryd, rhaid i’r ymgymerwr roi mynediad rhesymol i neu o safleoedd sy’n ffinio â stryd neu a wasanaethir gan stryd yr effeithir arni o ganlyniad i gau, newid neu ddargyfeirio stryd dros dro o dan yr erthygl hon pe na bai’r cyfryw fynediad fel arall.

(4Heb gyfyngu ar baragraff (1), caiff yr ymgymerwr gau, newid neu ddargyfeirio dros dro y strydoedd a nodir yng ngholofnau (1) a (2) o Atodlen 4 (strydoedd sydd i’w cau dros dro) i’r graddau a bennir, drwy gyfeirio at y llythrennau a’r rhifau a ddangosir ar blaniau’r tir, yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno.

(5Rhaid i’r ymgymerwr beidio â chau, newid na dargyfeirio dros dro—

(a)y strydoedd a nodir fe y’u crybwyllir ym mharagraff (4) heb ymgynghori â’r awdurdod strydoedd yn gyntaf; ac

(b)unrhyw stryd arall heb gydsyniad yr awdurdod strydoedd, a gaiff atodi amodau rhesymol i unrhyw gydsyniad, gan gynnwys ynglŷn â’r rhybudd i’w roi.

(6Mae gan unrhyw berson sy’n dioddef colled drwy atal unrhyw ffordd fynediad breifat o dan yr erthygl hon yr hawl i gael digollediad i’w benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(7Os, o fewn 56 diwrnod i gael cais am gydsyniad o dan baragraff (5)(b), bydd awdurdod strydoedd yn methu â hysbysu’r ymgymerwr am ei benderfyniad neu’n gwrthod rhoi cydsyniad heb roi unrhyw seiliau dros wrthod, bernir bod yr awdurdod strydoedd hwnnw wedi rhoi ei gydsyniad.

(8Mae’r erthygl hon yn ddarostyngedig i baragraff 2 o Atodlen 10 (darpariaethau sy’n ymwneud ag ymgymerwyr statudol etc) i’r Gorchymyn hwn.

Mynediad i weithfeydd

9.  Caiff yr ymgymerwr, at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig—

(a)ffurfio a gosod ffordd fynediad, neu wella ffordd fynediad bresennol, yn y lleoliad a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o Atodlen 5 (mynediad i weithfeydd) yn y pwynt a nodir ag A ar blaniau’r tir ar gyfer y Gorchymyn hwn neu tua’r pwynt hwnnw; a

(b)chyda chymeradwyaeth yr awdurdod priffyrdd perthnasol ar ôl ymgynghori, nad atelir y cyfryw gymeradwyaeth yn afresymol, ffurfio a gosod y cyfryw ffordd fynediad arall neu wella ffordd fynediad bresennol, yn y cyfryw leoliadau o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir ag sydd ei hangen yn rhesymol ar yr ymgymerwr at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig.

Cytundebau ag awdurdodau strydoedd

10.—(1Caiff awdurdod strydoedd a’r ymgymerwr ymrwymo i gytundebau mewn perthynas ag—

(a)cau, newid neu ddargyfeirio unrhyw stryd a awdurdodir drwy’r Gorchymyn hwn; neu

(b)cyflawni yn y stryd unrhyw un o’r gweithfeydd y cyfeirir atynt yn erthygl 7 (pŵer i wneud gweithfeydd stryd).

(2Caiff y cyfryw gytundeb, heb gyfyngu ar baragraff (1),—

(a)gwneud darpariaeth ar gyfer yr awdurdod strydoedd i gyflawni unrhyw swyddogaeth o dan y Gorchymyn hwn sy’n ymwneud â’r stryd dan sylw;

(b)cynnwys cytundeb rhwng yr ymgymerwr a’r awdurdod strydoedd sy’n pennu cyfnod rhesymol ar gyfer cwblhau’r gweithfeydd; ac

(c)cynnwys y cyfryw delerau ynglŷn â thâl ac fel arall fel y tybia’r partïon yn briodol.

Defnyddio ffyrdd preifat ar gyfer adeiladu

11.—(1Caiff yr ymgymerwr ddefnyddio unrhyw ffordd breifat o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir neu unrhyw ffordd breifat sy’n ffinio â therfynau’r Gorchymyn ar y tir sydd â chyffordd â’r cyfryw ffordd ar gyfer tramwy personau neu gerbydau (gyda neu heb ddeunyddiau, offer a pheiriannau) at ddibenion adeiladu, cynnal a chadw a datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig neu mewn cysylltiad â hynny.

(2Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu’r person sy’n gyfrifol am atgyweirio ffordd y mae paragraff (1) yn gymwys iddi am unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefir gan y person hwnnw drwy arfer y pŵer a roddir gan baragraff (1).

(3Mae unrhyw anghydfod ynglŷn â hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (2), neu ynglŷn â swm y cyfryw ddigollediad, i’w benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

Pwerau atodol

Gollwng dŵr

12.—(1Caiff yr ymgymerwr ddefnyddio unrhyw gwrs dŵr neu unrhyw garthffos neu ddraen gyhoeddus i ddraenio dŵr mewn cysylltiad ag adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig ac at y diben hwnnw caiff osod, tynnu a newid pibellau a chaiff, ar unrhyw dir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir, wneud agoriadau i’r cwrs dŵr, carthffos neu’r ddraen gyhoeddus a chysylltiadau ag ef/hi.

(2Rhaid i unrhyw anghydfod sy’n deillio o arfer y pwerau ym mharagraff (1) i gysylltu â charthffos neu ddraen gyhoeddus neu ei defnyddio gael ei benderfynu fel pe bai’n anghydfod o dan adran 106 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(13).

(3Rhaid i’r ymgymerwr beidio â gollwng unrhyw ddŵr i mewn i unrhyw gwrs dŵr, carthffos neu ddraen gyhoeddus oni cheir cydsyniad y person sy’n berchen arno neu arni; a chaiff y cyfryw gydsyniad ei roi yn ddarostyngedig i’r cyfryw delerau ac amodau ag y caiff yn rhesymol eu gosod, ond ni ellir ei atal yn afresymol.

(4Rhaid i’r ymgymerwr beidio â gwneud unrhyw agoriad i mewn i unrhyw garthffos na draen gyhoeddus ac eithrio—

(a)yn unol â chynlluniau a gymeradwyir gan y person sy’n berchen ar y garthffos neu’r ddraen, ond ni ellir atal y cyfryw gymeradwyaeth yn afresymol; a

(b)pan fo’r person hwnnw wedi cael cyfle i oruchwylio gwneud yr agoriad.

(5Rhaid i’r ymgymerwr, wrth arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon, beidio â difrodi gwely na glannau unrhyw gwrs dŵr nac ymyrryd â hwy.

(6Rhaid i’r ymgymerwr gymryd y cyfryw gamau ag sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau bod unrhyw ddŵr sy’n cael ei ollwng i mewn i gwrs dŵr neu garthffos neu ddraen gyhoeddus o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mor rhydd ag y bo’n ymarferol rhag gro, pridd neu sylwedd solet arall, olew neu sylwedd mewn toddiant.

(7Nid yw’r erthygl hon yn awdurdodi unrhyw weithgarwch ynglŷn â dŵr daear na gweithgarwch gollwng dŵr o fewn ystyr Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(14) nac yn trechu’r gofyniad i gael trwydded o dan reoliad 12(1)(b) o’r un rheoliadau.

(8Os bydd person sy’n cael cais am gydsyniad neu gymeradwyaeth yn methu â hysbysu’r ymgymerwr am benderfyniad o fewn 56 diwrnod i gael cais am gydsyniad o dan baragraff (3) neu gymeradwyaeth o dan baragraff (4)(a) tybir bod y person hwnnw wedi rhoi ei gydsyniad neu wedi rhoi ei gymeradwyaeth, yn ôl y digwydd.

(9Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “carthffos neu ddraen gyhoeddus” yw carthffos neu ddraen sy’n perthyn i Cyfoeth Naturiol Cymru, bwrdd draenio mewnol, awdurdod lleol, neu ymgymerwr carthffosiaeth; a

(b)mae i ymadroddion eraill, heb gynnwys cyrsiau dŵr a ddefnyddir yn yr erthygl hon ac yn Neddf Adnoddau Dŵr 1991(15) yr un ystyr ag sydd yn y Ddeddf honno.

Gweithfeydd diogelu ar adeiladau

13.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr erthygl hon, caiff yr ymgymerwr ar ei draul ei hun gyflawni’r cyfryw weithfeydd diogelu ar unrhyw adeilad sydd o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir ag y barna’r ymgymerwr yn angenrheidiol neu’n hwylus.

(2Caiff gweithfeydd diogelu eu cyflawni—

(a)ar unrhyw adeg cyn neu yn ystod y gwaith adeiladu yng nghyffiniau adeiladu unrhyw ran o’r gweithfeydd awdurdodedig; neu

(b)ar ôl cwblhau’r rhan honno o’r gweithfeydd awdurdodedig yng nghyffiniau’r adeilad ar unrhyw adeg hyd at ddiwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod yr agorwyd y rhan honno o’r gweithfeydd awdurdodedig yn gyntaf i’w defnyddio.

(3At ddiben penderfynu sut mae’r swyddogaethau o dan yr erthygl hon yn cael eu harfer, caiff yr ymgymerwr fynd i mewn i unrhyw adeilad sy’n dod o dan baragraff (1) ac unrhyw dir o fewn ei gwrtil a chynnal arolwg.

(4At ddiben cyflawni gweithfeydd diogelu o dan yr erthygl hon ar adeilad, caiff yr ymgymerwr (yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6))—

(a)mynd i mewn i’r adeilad ac unrhyw dir o fewn ei gwrtil; a

(b)pan na fo modd cyflawni’r gweithfeydd yn rhesymol gyfleus heb fynd ar dir sy’n gyfagos i’r adeilad ond y tu allan i’w gwrtil, fynd ar y tir cyfagos (ond nid unrhyw adeilad sydd wedi’i godi arno).

(5Cyn arfer—

(a)hawl o dan baragraff (1) i gyflawni gweithfeydd diogelu ar adeilad;

(b)hawl o dan baragraff (3) i fynd i mewn i adeilad a thir o fewn ei gwrtil;

(c)hawl o dan baragraff (4)(a) i fynd i mewn i adeilad a thir o fewn ei gwrtil; neu

(d)hawl o dan baragraff (4)(b) i fynd ar dir,

rhaid i’r ymgymerwr, ac eithrio mewn argyfwng, gyflwyno hysbysiad sy’n rhoi 56 diwrnod o leiaf o rybudd i berchenogion a meddianwyr yr adeilad neu’r tir am ei fwriad i arfer yr hawl honno ac, mewn achos sy’n dod o fewn is-baragraff (a) neu (c), bennu’r gweithfeydd diogelu y bwriedir eu cyflawni.

(6Pan gyflwynir hysbysiad o dan baragraff (5)(a), (c) neu (d), caiff perchennog neu feddiannydd yr adeilad neu’r tir dan sylw, drwy gyflwyno gwrth-hysbysiad o fewn y cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y cyflwynwyd yr hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i’r cwestiwn ynghylch a yw’n angenrheidiol neu’n hwylus cyflawni’r gweithfeydd diogelu neu fynd i mewn i’r adeilad neu ar y tir gael ei gyfeirio at gymrodeddwr o dan erthygl 49 (cymrodeddu).

(7Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr unrhyw adeilad neu dir y mae’r pwerau a roddir gan yr erthygl hon wedi cael eu harfer mewn perthynas â hwy am unrhyw golled neu ddifrod a achosir iddynt drwy arfer y pwerau hynny.

(8Pan—

(a)fo gweithfeydd diogelu yn cael eu cyflawni o dan yr erthygl hon ar adeilad; ac

(b)o fewn cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod yr agorwyd y rhan o’r gweithfeydd awdurdodedig a adeiladwyd yng nghyffiniau’r adeilad yn gyntaf i’w defnyddio ymddengys bod y gweithfeydd awdurdodedig yn annigonol i ddiogelu’r adeilad rhag difrod a achosir gan y gweithrediad adeiladu neu gynnal a chadw’r rhan honno o’r gweithfeydd awdurdodedig,

rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr yr adeilad am golled neu ddifrod a ddioddefwyd ganddynt.

(9Heb ragfarnu erthygl 48 (dim adennill dwbl) nid oes dim yn yr erthygl hon yn rhyddhau’r ymgymerwr rhag unrhyw atebolrwydd i dalu digollediad o dan adran 10(2)(16) o Ddeddf 1965.

(10Rhaid i unrhyw ddigollediad sy’n daladwy o dan baragraff (7) neu (8) gael ei benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(11Yn yr erthygl hon, ystyr “gweithfeydd diogelu” mewn perthynas ag adeilad yw—

(a)tanategu, atgyfnerthu ac unrhyw weithfeydd eraill a wneir er mwyn atal difrod a all gael ei achosi i’r adeilad oherwydd adeiladu, cynnal a chadw neu weithredu’r gweithfeydd awdurdodedig; ac

(b)unrhyw weithfeydd a wneir er mwyn unioni unrhyw ddifrod a achoswyd i’r adeilad oherwydd adeiladu, cynnal a chadw neu weithredu’r gweithfeydd awdurdodedig.

Pŵer i arolygu ac ymchwilio i dir

14.—(1Caiff yr ymgymerwr at ddibenion y Gorchymyn hwn—

(a)arolygu unrhyw dir a ddangosir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir neu y gall y gweithfeydd awdurdodedig effeithio arno neu ymchwilio iddo;

(b)heb ragfarnu cyffredinolrwydd is-baragraff (a), gwneud tyllau treialu yn y cyfryw leoliadau ag y gwêl yr ymgymerwr yn dda ar y tir er mwyn ymchwilio i natur haen yr arwyneb a’r is-bridd a thynnu samplau o bridd;

(c)heb ragfarnu cyffredinolrwydd paragraff (a), cynnal ymchwiliadau ecolegol neu archaeolegol ar y cyfryw dir;

(d)gosod cyfarpar i’w ddefnyddio mewn cysylltiad ag arolygu ac ymchwilio i’r tir a gwneud tyllau treialu ar y tir, ei adael ar y tir neu ei dynnu ymaith; ac

(e)mynd ar y tir at ddiben arfer y pwerau a roddir gan is-baragraffau (a) i (d).

(2Ni chaniateir mynd ar dir na gosod cyfarpar arno, ei adael arno na’i dynnu ymaith o dan baragraff (1), oni hysbysir pob perchennog ar y tir a phob meddiannydd o leiaf 7 diwrnod ymlaen llaw a bod y cyfryw hysbysiad yn cynnwys hysbysu’r derbynnydd am ei hawl i gael ei ddigolledu o dan baragraff (13).

(3Os yw’r ymgymerwr yn bwriadu gwneud unrhyw un o’r canlynol, rhaid i’r hysbysiad gynnwys manylion am yr hyn a fwriedir—

(a)chwilio, turio neu gloddio;

(b)gadael cyfarpar ar dir;

(c)cymryd samplau;

(d)arolwg o’r awyr; ac

(e)cyflawni unrhyw weithgareddau eraill a all fod yn ofynnol er mwyn hwyluso cydymffurfiaeth â’r offerynnau a grybwyllir ym mharagraff (4).

(4Yr offerynnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(e) yw—

(a)Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(17); neu

(b)Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017(18).

(5Mewn perthyn ag unrhyw berson sy’n mynd ar dir o dan yr erthygl hon ar ran yr ymgymerwr—

(a)mae’n rhaid iddo, os gofynnir iddo wneud hynny, cyn neu ar ôl mynd ar y tir ddangos tystiolaeth ysgrifenedig o’i awdurdod i wneud hynny gan gynnwys unrhyw warant a roddir o dan baragraff (6); a

(b)ni chaniateir iddo ddefnyddio grym oni bai bod ynad heddwch wedi rhoi gwariant o dan baragraff (6).

(6Caiff ynad heddwch roi gwarant sy’n awdurdodi person i ddefnyddio grym wrth arfer y pŵer a roddwyd gan yr erthygl hon os yw wedi’i fodloni—

(a)bod person arall wedi atal neu’n debygol o atal arfer y pŵer hwnnw; a

(b)ei bod yn rhesymol defnyddio grym wrth arfer y pŵer hwnnw.

(7Mae’r grym y gellir ei awdurdodi drwy warant wedi’i gyfyngu i’r hyn sy’n rhesymol angenrheidiol.

(8Rhaid i warant sy’n awdurdodi’r person i ddefnyddio grym bennu nifer yr achlysuron y gall yr ymgymerwr ddibynnu ar y warant wrth fynd ar dir, ei arolygu neu ei brisio.

(9Rhaid mai’r nifer a bennwyd yw’r nifer y mae’r ynad heddwch yn barnu ei fod yn briodol er mwyn cyflawni’r diben y mae’n ofynnol mynd ar dir a’i arolygu neu ei brisio ar ei gyfer.

(10Rhaid i unrhyw dystiolaeth mewn achos cyfreithiol i gael gwarant o dan yr erthygl hon gael ei rhoi ar lw.

(11Ni chaniateir gwneud unrhyw dyllau treialu o dan yr erthygl hon—

(a)mewn cerbytffordd neu droedffordd heb gydsyniad yr awdurdod priffyrdd; neu

(b)mewn stryd breifat heb gydsyniad yr awdurdod strydoedd,

ond ni chaniateir atal y cyfryw gydsyniad yn afresymol.

(12Os bydd awdurdod priffyrdd neu awdurdod strydoedd y cyflwynir cais am gydsyniad iddo yn methu â hysbysu’r ymgymerwr am ei benderfyniad o fewn 56 diwrnod i gael y cais am gydsyniad–

(a)o dan baragraff (11)(a) yn achos awdurdod priffyrdd; neu

(b)o dan baragraff (11)(b) yn achos awdurdod strydoedd;

tybir bod yr awdurdod hwnnw wedi rhoi cydsyniad.

(13Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr y tir am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi drwy arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon, y penderfynir ar y cyfryw ddigollediad, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(14Mae paragraffau (1) i (13) yn gymwys mewn perthynas â thir y Goron, fodd bynnag dim ond os oes person wedi cael caniatâd yr awdurdod priodol y caiff arfer y pŵer a roddir gan baragraff (1) mewn perthynas â thir y Goron.

Arbediad Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009

15.  Nid oes unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn yn dileu’r angen i gael trwydded forol o dan Ran 4 o Ddeddf 2009 nac i gydymffurfio ag amodau unrhyw drwydded forol.

Pŵer i garthu

16.—(1Caiff yr ymgymerwr, at ddibenion adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd llanwol o bryd i’w gilydd ddyfnhau, carthu, sgwrio, glanhau, newid a gwella cymaint o wely, glannau a sianeli’r tir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y môr ag sy’n cyffinio â’r gweithfeydd awdurdodedig neu sy’n agos i’r gweithfeydd awdurdodedig a chaiff ddefnyddio, meddiannu neu waredu’r deunyddiau (heblaw am longddrylliad o fewn ystyr Rhan 9 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(19)) sydd o bryd i’w gilydd yn cael eu carthu ganddo.

(2Ni chaniateir gosod na dyddodi’r cyfryw ddeunyddiau yn groes i ddarpariaethau unrhyw ddeddfiad mewn perthynas â gwaredu gwastraff neu sgil gynhyrchion a garthwyd.

Darpariaeth rhag perygl i fordwyo

17.—(1Os bydd gwaith llanwol neu unrhyw ran ohono heb gynnwys amlygu ceblau yn cael ei ddifrodi neu ei ddinistrio neu os bydd yn dirywio, rhaid i’r ymgymerwr, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol a heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl i’r ymgymerwr ddod yn ymwybodol o unrhyw gyfryw ddifrodi, dinistrio neu ddirywio, hysbysu Cyfoeth Naturiol Cymru, Trinity House, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, Swyddfa Hydrograffig y Deyrnas Unedig a Gwasanaeth Gwybodaeth Kingfisher am Bysgod y Môr a gosod y cyfryw fwiau, arddangos y cyfryw oleuadau a chymryd y cyfryw gamau sy’n atal perygl i fordwyo ag a gyfarwyddir gan Trinity House o bryd i’w gilydd.

(2Os bydd ceblau yn cael eu hamlygu ar wely’r môr neu uwchlaw gwely’r môr, rhaid i’r ymgymerwr o fewn tridiau ar ôl nodi bod ceblau wedi cael eu hamlygu o bosibl, hysbysu morwyr drwy gyhoeddi hysbysiad i forwyr a thrwy hysbysu Gwasanaeth Gwybodaeth Kingfisher am Bysgod y Môr am leoliad a graddau’r amlygiad a rhaid rhoi copi o bob hysbysiad i Cyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, Trinity House a Swyddfa Hydrograffig y Deyrnas Unedig o fewn pum diwrnod.

Atal gweithfeydd llanwol a adawyd neu a ddinistriwyd

18.—(1Pan fo gwaith llanwol yn cael ei adael, neu pan fo’n dirywio, caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i’r ymgymerwr ar ei draul ei hun naill ai atgyweirio ac adfer y gwaith hwnnw neu unrhyw ran ohono, neu waredu’r gwaith hwnnw ac adfer y safle i’w gyflwr priodol, i’r cyfryw raddau ac o fewn y cyfryw derfynau ag yr ystyria Gweinidogion Cymru yn briodol.

(2Pan fo gwaith sy’n cynnwys gwaith llanwol yn rhannol a gweithfeydd ar neu dros y tir uwchlaw penllanw cymedrig y gorllanw yn rhannol yn cael ei adael neu’n dirywio a bod y rhan honno o’r gwaith ar neu dros dir uwchlaw penllanw cymedrig y gorllanw yn y cyfryw gyflwr ag sy’n ymyrryd â’r hawl i fordwyo neu hawliau cyhoeddus eraill dros y blaendraeth neu sy’n achosi pryder rhesymol y caiff ymyrryd â’r cyfryw hawliau, caiff Gweinidogion Cymru gynnwys y rhan honno o’r gwaith, neu unrhyw ddarn ohono, mewn unrhyw hysbysiad o dan yr erthygl hon.

(3Os bydd yr ymgymerwr yn methu â chydymffurfio mewn unrhyw ffordd â hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon o fewn y cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau ar y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru gymryd pa gamau bynnag ag y bydd Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol i sicrhau’r canlyniad sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad; ac mae unrhyw wariant y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddo yn adenilladwy oddi wrth yr ymgymerwr.

Arolwg o weithfeydd llanwol

19.—(1Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn hwylus gwneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru orchymyn arolwg ac archwiliad o waith llanwol neu’r safle y bwriedir adeiladu neu ailbweru’r gwaith arno, a bydd unrhyw wariant y mae Gweinidogion Cymru yn mynd iddo’n rhesymol mewn unrhyw gyfryw arolwg ac archwiliad yn adenilladwy oddi wrth yr ymgymerwr.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaniateir gorchymyn y cyfryw arolygon fwy nag unwaith y flwyddyn; a chyn gorchymyn y cyfryw arolwg—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r ymgymerwr er mwyn cadarnhau pa wybodaeth berthnasol o arolygon sydd eisoes ar gael; a

(b)rhoi cyfle i ymgymerwr gynnal yr arolwg ei hun.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn argyfwng.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu gorchymyn arolwg ac archwiliad y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru wneud hynny yn unol â’r cyfryw amodau rhesymol sy’n ymwneud ag iechyd, diogelwch neu gyfrinachedd ag a osodir gan yr ymgymerwr.

Goleuadau ar weithfeydd llanwol

20.—(1Rhaid i’r ymgymerwr ar neu ger—

(a)gwaith llanwol, gan gynnwys unrhyw waith dros dro; a

(b)unrhyw offer, cyfarpar neu rwystr arall a osodwyd mewn cysylltiad â’r gweithfeydd llanwol,

yn ystod yr holl gyfnod adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu ddangos bob nos o fachlud yr haul i godiad yr haul ac mewn cyfnodau o welededd cyfyngedig y cyfryw oleuadau, os o gwbl, a chymryd y cyfryw gamau eraill er mwyn atal perygl i fordwyo ag a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru neu Trinity House o bryd i’w gilydd.

(2Ar ôl cwblhau adeiladu neu ailbweru gwaith llanwol, rhaid i’r ymgymerwr ar y ffiniau allanol dangos bob nos o fachlud yr haul i godiad yr haul ac mewn cyfnodau o welededd cyfyngedig y cyfryw oleuadau, os o gwbl, a chymryd y cyfryw gamau, os o gwbl, er mwyn atal perygl i fordwyo ag a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru neu Trinity House o bryd i’w gilydd.

Diogelwch mordwyo

21.—(1Ni chaniateir cychwyn, adeiladu, gweithredu, ailbweru na datgomisiynu unrhyw weithfeydd llanwol nes bod cynllun i sicrhau diogelwch mordwyo ar gyfer pob cam perthnasol o’r gwaith llanwol wedi cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ac wedi cael ei gymeradwyo’n ysgrifenedig ganddynt mewn ymgynghoriad â Trinity House, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a Chyngor Sir Ynys Môn.

(2Rhaid i’r cynllun a gyflwynir i’w gymeradwyo fod yn gyson â’r asesiad risg mordwyol wedi’i ddiweddaru ar gyfer y gwaith llanwol perthnasol a gymeradwywyd yn unol ag erthygl 3(4) neu erthygl 3(7) a chydag argymhellion Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a geir yn MGN654 ‘Offshore Renewable Energy Installations (OREIs) – Guidance on UK Navigational Practice, Safety and Emergency Response’ a’i atodiadau neu ddiweddariadau dilynol.

(3Bydd y gweithfeydd awdurdodedig yn cael eu cyflawni yn unol â’r cynllun cymeradwy ac eithrio i’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn cytuno ar amrywiad i’r cynllun cymeradwy ar ôl ymgynghori â’r personau a grybwyllir ym mharagraff (1).

(4At ddiben erthygl 21(1) bydd term cychwyn yn cynnwys gwaith dymchwel, ymchwiliadau at ddiben asesu amodau gwely’r môr ac ymchwiliadau archaeolegol a chodi unrhyw ddull amgáu dros dro.

RHAN 3Caffael a Meddiannu Tir

Pwerau caffael

Pŵer i gaffael tir

22.  Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol—

(a)cymaint o’r tir a ddangosir ar blan y tir o fewn terfynau’r gwyro fel tir i’w gaffael yn orfodol ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr ag sy’n ofynnol at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig; a

(b)cymaint o’r tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn (sef tir a ddangosir ar blan y tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr) ag sy’n ofynnol at y diben a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno.

a chaiff ddefnyddio unrhyw dir a gaffaelir felly at y dibenion hynny neu at unrhyw ddibenion eraill sy’n ategol i’r gweithfeydd awdurdodedig a’u gweithrediad.

Pŵer i gaffael hawliau newydd a gosod cyfamodau cyfyngol

23.—(1Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol y cyfryw hawddfreintiau neu hawliau eraill dros dir y cyfeirir ato yn erthygl 22 (pŵer i gaffael tir) ag sy’n ofynnol at unrhyw ddiben y gellir caffael y tir hwnnw ar ei gyfer o dan y ddarpariaeth honno, drwy eu creu yn ogystal â thrwy gaffael hawddfreintiau neu hawliau eraill sydd eisoes yn bodoli.

(2Yn achos y tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 6 (tir na ellir ond caffael hawliau newydd ynddo) mae pwerau caffael gorfodol yr ymgymerwr wedi’i gyfyngu i gaffael y cyfryw hawliau newydd ag sy’n ofynnol at y diben a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (3) o’r tabl hwnnw.

(3Yn achos y tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o’r tabl yn Rhan 2 (tir y gellir gosod cyfamodau cyfyngol drosto) o Atodlen 6 mae pŵer yr ymgymerwr o dan erthygl 22 (pŵer i gaffael tir) hefyd yn cynnwys pŵer i osod cyfamodau cyfyngol dros y tir at y dibenion a bennir mewn perthynas â’r tir yng ngholofn (3) o’r tabl.

(4Yn ddarostyngedig i—

(a)Atodlen 2A (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn hysbysiad i drafod telerau) i Ddeddf 1965 (fel y’i hamnewidiwyd gan baragraff 5(7) o Atodlen 7 (addasu deddfiadau digolledu a phrynu gorfodol er mwyn creu hawliau newydd)); a

(b)Atodlen A1 i Ddeddf 1981 (fel y’i haddaswyd gan baragraff 7(7) o Atodlen 7),

pan fo’r ymgymerwr yn caffael hawl dros dir neu’n gosod cyfamod cyfyngol o dan baragraff (1), (2) neu (3), nid yw’n ofynnol i’r ymgymerwr gaffael mwy o fuddiant yn y tir hwnnw.

(5Mae Atodlen 7 yn cael effaith at ddiben addasu’r deddfiadau sy’n ymwneud â digolledu, a darpariaethau Deddf 1965 a Deddf 1981 wrth eu cymhwyso mewn perthynas â chaffael yn orfodol o dan yr erthygl hon hawl dros dir drwy greu hawl newydd neu osod cyfamod cyfyngol.

Cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965

24.—(1Mae Rhan 1 o Ddeddf 1965, i’r graddau nad yw wedi’i haddasu drwy ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn ac nad yw’n anghyson â darpariaethau’r Gorchymyn hwn, yn gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn—

(a)gan ei bod yn gymwys i bryniant gorfodol y mae Deddf Caffael Tir 1981(20) yn gymwys iddo; a

(b)fel pe bai’r Gorchymyn hwn yn orchymyn prynu gorfodol o dan y Ddeddf honno.

(2Mae Rhan 1 o Ddeddf 1965, i’r graddau y mae’n cael ei chymhwyso, yn cael effaith gyda’r addasiadau a ganlyn.

(3Hepgorer adran 4 (sy’n darparu terfyn amser ar gyfer prynu tir yn orfodol).

(4Yn adran 4A(1)(21) (estyn terfyn amser yn ystod her) yn lle “section 23 of the Acquisition of Land Act 1981 (application to High Court in respect of compulsory purchase order), the three year period mentioned in section 4”, rhodder “section 22 of the Transport and Works Act 1992 (validity of orders under section 1 or 3), the five year period mentioned in article 36 (time limit for exercise of powers of acquisition) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021”.

(5Yn adran 11(1B)(22) (pwerau mynediad), mewn achos pan fo’r hysbysiad i drafod telerau yn ymwneud â chaffael hawddfraint neu hawl arall dros dir neu osod cyfamod cyfyngol yn unig, yn lle “3 months” rhodder “1 month”.

(6Yn adran 11A(23) (pwerau mynediad: hysbysiadau mynediad pellach)—

(a)yn is-adran (1)(a), ar ôl “land” mewnosoder “under that provision”; a

(b)yn is-adran (2), ar ôl “land” mewnosoder “under that provision”.

(7Yn adran 22(2) (darfodiad y terfyn amser ar gyfer arfer pŵer prynu gorfodol i beidio ag effeithio ar gaffael buddiannau a hepgorwyd o’r pryniant), yn lle “section 4 of this Act” rhodder “article 36 (time limit for exercise of powers of acquisition) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021”.

(8Yn Atodlen 2A(24) (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i brynu tir nad yw mewn hysbysiad i drafod telerau)—

(a)rhodder paragraffau 1(2) a 14(2) yn lle—

(2) But see article 26(3) (Power to acquire subsoil only) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021, which excludes the acquisition of subsoil only from this Schedule; and

(b)ar ôl paragraff 29, mewnosoder—

PART 4INTERPRETATION

30.  In this Schedule, references to entering on and taking possession of land do not include doing so under article 28 (temporary use of land for construction of works) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021.

Cymhwyso Deddf 1981

25.—(1Mae Deddf 1981 yn gymwys fel pe bai’r Gorchymyn hwn yn orchymyn prynu gorfodol.

(2Mae Deddf 1981, fel y’i cymhwyswyd gan baragraff (1), yn cael effaith gyda’r addasiadau a ganlyn.

(3Yn adran 5 (y dyddiad cynharaf ar gyfer weithredu datganiad), yn is-adran (2), hepgorer y geiriau o “, and this subsection” hyd at y diwedd.

(4Hepgorer adran 5A(25) (terfyn amser ar gyfer datganiad breinio cyffredinol).

(5Yn adran 5B(1)(26) (estyn terfyn amser yn ystod her) yn lle “section 23 of the Acquisition of Land 1981 (application to the High Court in respect of compulsory purchase order), the three year period mentioned in section 5A” rhodder “section 22 of the Transport and Works Act 1992 (validity of orders under section 1 or 3), the five year period mentioned in article 36 (time limit for exercise of powers of acquisition) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021”.

(6Yn adran 6(27) (hysbysiadau ar ôl gweithredu datganiad), yn is-adran (1)(b), yn lle “section 15 of, or paragraph 6 of Schedule 1 to, the Acquisition of Land Act 1981” rhodder “section 14A(28) of the Transport and Works Act 1992”.

(7Yn adran 7(29) (hysbysiad deongliadol i drafod telerau), yn is-adran (1)(a), hepgorer “(as modified by section 4 of the Acquisition of Land Act 1981)”.

(8Yn Atodlen A1(30) (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn datganiad breinio cyffredinol), paragraff 1(2) —

(2) But see article 26(3) (power to acquire subsoil only) of the Morlais Demonstration Zone Order 2021 which excludes the acquisition of subsoil only from this Schedule.

(9Dehonglir cyfeiriadau at Ddeddf 1965 yn Neddf 1981 fel cyfeiriadau at Ddeddf 1965 fel y’u cymhwyswyd at gaffael tir o dan erthygl 22 (pŵer i gaffael tir).

Pŵer i Gaffael Is-bridd yn Unig

26.—(1Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol gymaint o is-bridd y tir y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b) o erthygl 22 (pŵer i gaffael tir), neu’r cyfryw hawliau ynddo, ag sy’n ofynnol at unrhyw ddiben y gellir caffael y tir hwnnw ar ei gyfer o dan y ddarpariaeth honno yn lle caffael y tir cyfan.

(2Pan fo’r ymgymerwr yn caffael unrhyw ran o is-bridd tir o dan baragraff (1) neu hawliau ynddi, ni fydd yn ofynnol caffael buddiant mewn unrhyw ran arall o’r tir.

(3Nid yw’r canlynol yn gymwys mewn cysylltiad ag arfer y pŵer o dan baragraff (1) mewn perthynas ag is-bridd neu ofod awyr yn unig—

(a)Atodlen 2A (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn hysbysiad i drafod telerau) i Ddeddf 1965 (fel y’i haddaswyd gan erthygl 24 (Cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965));

(b)Atodlen A1 (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn datganiad breinio cyffredinol) i Ddeddf 1981 (fel y’i haddaswyd gan erthygl 25 (Cymhwyso Deddf 1981)); ac

(c)adran 153(4A) (tir o dan falltod: bwriad i gaffael buddiant rhannol; prawf niwed sylweddol) Deddf 1990.

(4Diystyrir paragraffau (2) a (3) pan fo’r ymgymerwr yn caffael daeargell seler, arch neu adeiledd arall sy’n rhan o dŷ, adeilad neu ffatri.

(5Mae Atodlen 8 yn cynnwys darpariaeth sydd mewn achosion penodol yn cyfyngu’r pŵer o dan erthygl 22 i is-bridd neu danwyneb y tir sydd dros 9 metr o dan yr wyneb.

Hawliau o dan neu dros strydoedd

27.—(1Caiff yr ymgymerwr fynd i mewn i unrhyw stryd o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir a meddiannu cymaint o’i his-bridd neu’r gofod awyr drosti ag sy’n ofynnol at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig a chaiff ddefnyddio’r is-bridd neu’r gofod awyr at y dibenion hynny neu unrhyw ddiben arall sy’n ategol i’r gweithfeydd awdurdodedig.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff y pŵer o dan baragraff (1) ei arfer mewn perthynas â stryd heb fod yn ofynnol i’r ymgymerwr gaffael unrhyw ran o’r stryd neu unrhyw hawddfraint neu hawl yn y stryd.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mae gan unrhyw berson sy’n berchennog neu’n feddiannydd tir y mae’r pŵer i feddiannu a roddir gan baragraff (1) yn cael ei arfer yn ei gylch heb i’r ymgymerwr gaffael unrhyw ran o fuddiant y person hwnnw yn y tir, ac sy’n dioddef colled drwy arfer y pŵer hwnnw, yr hawl i gael digollediad sydd i’w benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(4Nid yw paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)unrhyw danffordd neu adeilad tanddaearol; neu

(b)unrhyw seler, daeargell, arch neu adeiledd arall mewn, ar neu o dan stryd sy’n rhan o ffryntiad adeilad ar y stryd.

(5Nid yw digollediad yn daladwy o dan baragraff (3) i unrhyw berson sy’n ymgymerwr y mae adran 85 o Ddeddf 1991 yn gymwys iddo mewn perthynas â mesurau y bydd y costau a ganiateir ar eu cyfer yn cael eu dwyn yn unol â’r adran honno.

Meddiannu Tir Dros Dro

Defnyddio tir dros dro ar gyfer adeiladu gweithfeydd

28.—(1Caiff yr ymgymerwr, mewn cysylltiad â chyflawni’r gweithfeydd awdurdodedig—

(a)fynd ar—

(i)y tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o Atodlen 9 (tir y gellir ei feddiannu dros dro) a’i feddiannu dros dro at y diben a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno; a

(ii)unrhyw dir arall o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir nad yw hysbysiad mynediad wedi cael ei gyflwyno yn ei gylch o dan adran 11(31) (pwerau mynediad) o Ddeddf 1965 (ac eithrio mewn cysylltiad â chaffael hawliau yn unig) ac nad yw datganiad wedi cael ei weithredu yn ei gylch o dan adran 4(32) (gweithredu datganiad) o Ddeddf 1981 a’i feddiannu dros dro;

(b)gwaredu unrhyw adeiladau a llystyfiant ar y tir hwnnw;

(c)adeiladu gweithfeydd dros dro (gan gynnwys darparu ffordd fynediad) ac adeiladau ar y tir hwnnw;

(d)adeiladu unrhyw weithfeydd sy’n ofynnol fel y’i crybwyllir yn erthygl 3 (pŵer i adeiladu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu gweithfeydd); ac

(e)adeiladu unrhyw weithfeydd lliniaru ar y tir hwnnw.

(2Heb fod yn llai na 28 diwrnod cyn mynd ar dir a’i feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr gyflwyno hysbysiad o’r bwriad i fynd ar dir i berchenogion a meddianwyr y tir.

(3Ni chaiff yr ymgymerwr, heb gytundeb perchenogion y tir, barhau i feddiannu unrhyw dir o dan yr erthygl hon—

(a)yn achos unrhyw dir a bennir ym mharagraff (1)(a)(i), ar ôl diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y dyddiad y cwblheir y rhan o’r gweithfeydd awdurdodedig a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (4) o Atodlen 9; neu

(b)yn achos unrhyw dir y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a)(ii), ar ôl diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar y dyddiad y cwblheir y gweithfeydd neu ddiben arall y meddiannwyd y tir dros dro ar ei gyfer oni bai bod yr ymgymerwr, erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, wedi cyflwyno hysbysiad mynediad o dan adran 11 o Ddeddf 1965 neu wedi gwneud datganiad o dan adran 4 o Ddeddf 1981 mewn perthynas â’r tir hwnnw.

(4Cyn ildio meddiant o dir sydd wedi cael ei feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr dynnu ymaith yr holl weithfeydd dros dro ac adfer y tir er boddhad rhesymol perchenogion y tir; ond nid yw’n ofynnol i’r ymgymerwr—

(a)codi adeilad yn lle adeilad a dynnwyd ymaith o dan yr erthygl hon;

(b)adfer y tir y mae unrhyw weithfeydd parhaol wedi cael eu hadeiladu arno o dan baragraffau (1)(d) neu (1)(e);

(c)gwaredu unrhyw weithfeydd i gryfhau’r ddaear sydd wedi cael eu gosod ar y tir er mwyn hwyluso adeiladu’r gweithfeydd awdurdodedig; neu

(d)waredu unrhyw fesurau a osodwyd dros neu o amgylch cyfarpar yr ymgymerwr statudol i ddiogelu’r cyfarpar hwnnw rhag y gweithfeydd awdurdodedig.

(5Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr tir a feddiannwyd dros dro o dan yr erthygl hon am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi o arfer pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas â’r tir.

(6Mae unrhyw anghydfod ynglŷn â hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (5), neu ynglŷn â swm y cyfryw ddigollediad, i’w benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(7Heb effeithio ar erthygl 48 (dim adennill dwbl), nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd i dalu digollediad o dan adran 10(2)(33) (darpariaethau pellach ynglŷn â digolledu am effeithiad andwyol) o Ddeddf 1965 nac o dan unrhyw ddeddfiad arall mewn perthynas â cholled neu ddifrod sy’n codi o gwblhau unrhyw weithfeydd, ac eithrio colled neu ddifrod y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano o dan baragraff (5).

(8Pan fo’r ymgymerwr yn meddiannu tir o dan yr erthygl hon, nid yw’n ofynnol caffael y tir nac unrhyw fuddiant ynddo.

(9Mae adran 13(34) (gwrthod rhoi meddiant i awdurdod caffael) o Ddeddf 1965 yn gymwys i ddefnyddio tir dros dro o dan yr erthygl hon i’r un graddau y mae’n gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn yn rhinwedd erthygl 24(1) (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf 1965).

Defnyddio tir dros dro ar gyfer cynnal a chadw gweithfeydd

29.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cynnal a chadw sy’n ymwneud ag unrhyw un o’r gweithfeydd awdurdodedig, caiff yr ymgymerwr—

(a)mynd ar unrhyw dir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir a’i feddiannu dros dro os yw’r cyfryw feddiannu yn rhesymol ofynnol at ddiben cynnal a chadw’r gwaith neu unrhyw weithfeydd ategol sy’n gysylltiedig ag ef; a

(b)adeiladu’r cyfryw weithfeydd dros dro (gan gynnwys darparu ffordd fynediad) ac adeiladau ar y tir ag sy’n rhesymol angenrheidiol at y diben hwnnw.

(2Nid yw paragraff (1) yn awdurdodi’r ymgymerwr i feddiannu dros dro—

(a)unrhyw dŷ neu ardd sy’n eiddo i dŷ; neu

(b)unrhyw adeilad (heblaw am dŷ) os yw wedi’i feddiannu am y tro.

(3Heb fod yn llai na 28 diwrnod cyn mynd ar dir a’i feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr gyflwyno hysbysiad o’r bwriad i fynd ar dir i berchenogion a meddianwyr y tir.

(4Caiff yr ymgymerwr ond parhau i feddiannu tir o dan yr erthygl hon am gyhyd ag y bo’n rhesymol angenrheidiol i gynnal a chadw’r rhan o’r gweithfeydd awdurdodedig y meddiannwyd y tir ar eu cyfer.

(5Cyn ildio meddiant o dir sydd wedi cael ei feddiannu dros dro o dan yr erthygl hon, rhaid i’r ymgymerwr waredu’r holl weithfeydd dros dro ac adfer y tir er boddhad rhesymol perchenogion y tir.

(6Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr tir a feddiannwyd dros dro o dan yr erthygl hon am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi o arfer pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas â’r tir.

(7Bydd unrhyw anghydfod ynglŷn â hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (6), neu ynglŷn â swm y cyfryw ddigollediad, yn cael ei benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(8Heb ragfarnu erthygl 48 (dim adennill dwbl), nid oes dim yn yr erthygl hon yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd i dalu digollediad o dan adran 10(2) o Ddeddf 1965 neu o dan unrhyw ddeddfiad arall mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod sy’n codi o gwblhau unrhyw weithfeydd y mae digollediad yn daladwy amdani neu amdano o dan baragraff (6).

(9Pan fo’r ymgymerwr yn meddiannu tir o dan yr erthygl hon, ni fydd yn ofynnol iddo gaffael y tir nac unrhyw fuddiant ynddo.

(10Mae adran 13 o Ddeddf 1965 yn gymwys i ddefnyddio tir dros dro yn unol â’r erthygl hon i’r un graddau y mae’n gymwys i gaffael tir o dan y Gorchymyn hwn yn rhinwedd erthygl 24 (Cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965).

(11Yn yr erthygl hon, ystyr “y cyfnod cynnal a chadw”, mewn perthynas â gwaith awdurdodedig, yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y dyddiad y mae’r gwaith yn cael ei agor i’w ddefnyddio.

Ymgorffori’r cod mwynau

30.  Mae Rhannau 2 a 3 o Atodlen 2 i Ddeddf Caffael Tir 1981 (mwynau) wedi’u hymgorffori yn y Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i’r addasiadau—

(a)yn lle “the acquiring authority” rhodder “the undertaker”;

(b)yn lle “undertaking” rhodder “authorised works”; ac

(c)yn lle “compulsory purchase order” rhodder “this Order”.

Diogelu hawliau i bysgota

31.—(1Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu’r perchenogion, y meddianwyr neu bersonau sydd fel arall â hawl berchenogol i bysgota y mae adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig, neu arfer y pwerau a roddir i’r ymgymerwr gan y Gorchymyn hwn, yn cael effaith andwyol arnynt, am unrhyw ddifrod a ddioddefir gan y cyfryw bersonau drwy adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu neu arfer y pwerau.

(2Rhaid i ddigollediad o dan baragraff (1) gael ei benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

Digolledu

Diystyru buddiannau a gwelliannau penodol

32.—(1Wrth asesu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson ar adeg caffael unrhyw dir oddi wrth y person hwnnw o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i’r tribiwnlys beidio ag ystyried—

(a)unrhyw fuddiant mewn tir; neu

(b)unrhyw ychwanegiad at werth unrhyw fuddiant mewn tir drwy godi unrhyw adeilad, cwblhau unrhyw weithfeydd neu wneud unrhyw welliant neu newid ar dir perthnasol,

os yw’r tribiwnlys wedi’i fodloni nad oedd creu’r buddiant, codi’r adeilad, cwblhau’r gweithfeydd na gwneud y gwelliant neu’r newid yn rhesymol angenrheidiol a’i fod wedi cael ei wneud gyda’r bwriad o gael digollediad neu fwy o ddigollediad.

(2Ym mharagraff (1) ystyr “tir perthnasol” yw’r tir sy’n cael ei gaffael oddi wrth y person dan sylw neu unrhyw dir arall y mae a wnelo’r person hwnnw, neu yr oedd a wnelo’r person hwnnw ar adeg codi’r adeilad, cwblhau’r gweithfeydd neu wneud y gwelliant neu’r newid, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ag ef.

Gwrthgyfrif ar gyfer ychwanegiad yng ngwerth tir a gadwyd

33.—(1Wrth asesu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson mewn cysylltiad â chaffael unrhyw dir (gan gynnwys yr is-bridd) oddi wrth y person hwnnw o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i’r tribiwnlys wrthgyfrif yn erbyn gwerth y tir a gaffaelwyd felly unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw dir cyffiniol neu gyfagos sy’n eiddo i’r person hwnnw yn yr un rhinwedd a fydd yn cronni i’r person hwnnw drwy adeiladu’r gweithfeydd awdurdodedig.

(2Wrth asesu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson mewn perthynas â chaffael unrhyw hawliau newydd dros dir (gan gynnwys yr is-bridd) oddi wrth y person hwnnw o dan erthygl 23 (pŵer i gaffael hawliau newydd a gosod cyfamodau cyfyngol), rhaid i’r tribiwnlys wrthgyfrif yn erbyn gwerth yr hawliau a gaffaelwyd felly—

(a)unrhyw gynnydd yng ngwerth y tir y mae’r hawliau newydd drosto’n ofynnol; a

(b)unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw dir cyffiniol neu gyfagos sy’n eiddo i’r person hwnnw yn yr un rhinwedd,

a fydd yn cronni iddo drwy adeiladu’r gweithfeydd awdurdodedig.

(3Mae Deddf 1961 yn cael effaith, yn ddarostyngedig i baragraffau (1) a (2), fel pe bai’r Gorchymyn hwn yn ddeddfiad lleol at ddibenion y Ddeddf honno.

Atodol

Pŵer i drechu hawddfreintiau a hawliau eraill

34.—(1Mae unrhyw weithgarwch awdurdodedig sy’n digwydd ar dir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir (p’un a gynhelir y gweithgarwch gan yr ymgymerwr, neu gan unrhyw berson sy’n deillio teitl gan yr ymgymerwr neu gan gontractwyr, gweision neu asiantau’r ymgymerwr) wedi’i awdurdodi gan y Gorchymyn hwn os y’i gwneir yn unol â thelerau’r Gorchymyn hwn, er ei fod yn cynnwys—

(a)ymyrraeth â diddordeb neu hawl y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo neu iddi; neu

(b)torri cyfyngiad ynglŷn â’r defnydd o dir sy’n codi yn rhinwedd contract.

(2Yn yr erthygl hon, ystyr “gweithgarwch awdurdodedig” yw—

(a)adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu unrhyw ran o’r gweithfeydd awdurdodedig;

(b)arfer unrhyw bŵer a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn; neu

(c)ddefnyddio unrhyw dir (gan gynnwys defnyddio tir dros dro).

(3Mae’r buddiannau a’r hawliau y mae’r erthygl hon yn gymwys iddynt yn cynnwys unrhyw hawddfraint, rhyddid, braint, hawl neu fantais a atodir i dir ac sy’n effeithio’n andwyol ar dir arall, gan gynnwys unrhyw hawl naturiol i gymorth; ac yn cynnwys cyfyngiadau ynglŷn â’r defnydd o dir sy’n codi yn rhinwedd contract.

(4Pan fo unrhyw fuddiant, hawl neu gyfyngiad yn cael ei drechu neu ei threchu gan baragraff (1), mae digollediad—

(a)yn daladwy o dan adran 7 (mesur digollediad yn achos gwahanu tir) neu adran 10 (darpariaeth bellach ynglŷn â digolledu am effeithiad andwyol) o Ddeddf 1965; a

(b)i’w asesu yn yr un modd ac yn ddarostyngedig i’r un rheolau ag yn achos digolledu arall o dan yr adrannau hynny—

(i)pan fo’r digollediad i’w amcangyfrif mewn cysylltiad â phryniant o dan y Ddeddf honno; neu

(ii)pan fo’r niwed yn codi o gwblhau gweithfeydd ar y tir a gaffaelwyd o dan y Ddeddf honno neu o ddefnyddio’r cyfryw dir.

(5Pan fo person sy’n deillio teitl o dan yr ymgymerwr a gaffaelodd y tir dan sylw—

(a)yn atebol i dalu digollediad yn rhinwedd paragraff (4); a

(b)yn methu â chyflawni’r atebolrwydd hwnnw;

mae’r atebolrwydd yn orfodadwy yn erbyn yr ymgymerwr.

(6Nid oes dim yn yr erthygl hon i’w ddehongli fel pe bai’n awdurdodi unrhyw weithred neu anwaith ar ran unrhyw berson sy’n agored i gyfraith drwy achos cyfreithiol unrhyw berson ar unrhyw seiliau heblaw am y cyfryw ymyrraeth neu’r tor cyfyngiad a grybwyllir ym mharagraff (1).

Hawliau preifat dros dir

35.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, diddymir pob hawl tramwy breifat dros dir sy’n cael ei gaffael yn orfodol o dan y Gorchymyn hwn—

(a)o’r dyddiad y mae’r ymgymerwr yn caffael y tir, boed hynny’n orfodol neu drwy gytundeb; neu

(b)ar y dyddiad y mae’r ymgymerwr yn mynd ar y tir o dan adran 11(35) (pwerau mynediad) o Ddeddf 1965,

pa un bynnag sydd gynharaf.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, diddymir pob hawl breifat dros dir sy’n ddarostyngedig i gaffael hawliau’n orfodol neu osod cyfamodau cyfyngol o dan y Gorchymyn hwn i’r graddau y byddai parhad y cyfryw hawliau preifat yn anghyson ag arfer hawl neu fyrdwn y cyfamod cyfyngol—

(a)o’r dyddiad y caffaelir hawl neu fuddiant y cyfamod cyfyngol sy’n cael ei osod o blaid yr ymgymerwr, boed hynny’n orfodol neu drwy gytundeb;

(b)ar y dyddiad y mae’r ymgymerwr yn mynd ar y tir o dan adran 11(1) o Ddeddf 1965; neu

(c)ar adeg cychwyn unrhyw weithgarwch a awdurdodir gan y Gorchymyn sy’n ymyrryd â’r hawliau hynny sy’n eu torri,

pa un bynnag sydd gynharaf.

(3Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, mae pob hawl breifat dros dir y mae’r ymgymerwr yn ei feddiannu dros dro o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei hatal a byddant yn anorfodadwy cyhyd ag y bo’r ymgymerwr yn parhau i feddiannu’r tir yn gyfreithlon.

(4Mae gan unrhyw berson sy’n dioddef colled oherwydd diddymu neu atal unrhyw hawl breifat neu oherwydd gosod unrhyw gyfamod cyfyngol o dan yr erthygl hon yr hawl i gael digollediad, i’w benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 (penderfynu ar gwestiynau sy’n ymwneud â digolledu y mae anghydfod yn ei gylch) o Ddeddf 1961.

(5Nid yw’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hawl y mae adran 271 neu 272 (diddymu hawliau ymgymerwyr statudol etc.) o Ddeddf 1990(36) yn gymwys iddi.

(6Mae paragraffau (1) i (3) yn cael effaith yn ddarostyngedig i—

(a)unrhyw hysbysiad a roddir gan yr ymgymerwr cyn—

(i)cwblhau caffael y tir neu gaffael yr hawliau neu osod cyfamodau cyfyngol dros y tir neu sy’n effeithio ar y tir;

(ii)i’r ymgymerwr ei feddiannu;

(iii)i’r ymgymerwr fynd arno; neu

(iv)i’r ymgymerwr ei feddiannu dros dro,

nad oes unrhyw un na phob un o’r paragraffau hynny yn gymwys i unrhyw hawl tramwy a bennir yn yr hysbysiad; nac

(b)unrhyw gytundeb a wneir ar unrhyw adeg rhwng yr ymgymerwr a’r person y mae’r hawl tramwy dan sylw wedi’i breinio ynddo neu’n perthyn iddo.

(7Os yw’r cyfryw gytundeb ag y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b)—

(a)yn cael ei wneud â pherson y mae’r hawl tramwy wedi’i breinio ynddo neu’n perthyn iddo; ac

(b)yn cael ei fynegi i gael effaith hefyd er budd y rhai sy’n deillio teitl gan neu o dan y person hwnnw.

mae’n effeithiol mewn cysylltiad â’r personau sy’n deillio teitl felly, p’un a oedd y teitl yn deillio cyn neu ar ôl gwneud y cytundeb.

(8Mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon at hawliau preifat dros dir yn cynnwys unrhyw hawl tramwy, ymddiriedolaeth, nodwedd, hawddfraint, rhyddid, braint, hawl neu fantais a atodir i dir ac sy’n effeithio’n andwyol ar dir arall, gan gynnwys unrhyw hawl naturiol i gymorth; ac yn cynnwys cyfyngiadau ynghylch y defnydd o dir sy’n codi yn rhinwedd contract, cytundeb neu ymgymeriad sy’n cael yr effaith honno.

Terfyn amser ar gyfer arfer pwerau caffael

36.—(1Ar ôl diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r Gorchymyn hwn i rym—

(a)ni ellir cyflwyno unrhyw hysbysiad i drafod telerau o dan Ran 1 o Ddeddf 1965 fel y’i cymhwysir at gaffael tir gan erthygl 24 (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965); a

(b)ni ellir gweithredu unrhyw ddatganiad o dan adran 4 o Ddeddf 1981 fel y’i cymhwysir gan erthygl 25 (Cymhwyso Deddf 1981).

(2Mae’r pwerau a roddir gan erthygl 28 (defnyddio tir dros dro ar gyfer adeiladu gweithfeydd) yn peidio ar ddiwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1), ac eithrio nad oes dim yn y paragraff hwn yn atal yr ymgymerwr rhag parhau i feddiannu tir ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, os aethpwyd ar y tir a’i feddiannu cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

RHAN 4Amrywiol a Chyffredinol

Datgymhwyso darpariaethau deddfwriaethol

37.—(1Nid yw darpariaethau adran 36 o Ddeddf Trydan 1989(37) yn gymwys mewn perthynas â’r gweithfeydd awdurdodedig.

(2Nid yw darpariaethau adran 23 o Ddeddf Draenio Tir 1991(38) yn gymwys mewn perthynas â’r gweithfeydd awdurdodedig.

Amddiffyniad i achosion cyfreithiol mewn cysylltiad â niwsans statudol

38.—(1Pan fo achos cyfreithiol yn cael ei ddwyn o dan adran 82(1) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990(39) (achos cyfreithiol diannod gan berson sydd wedi cael ei dramgwyddo gan niwsans statudol) mewn perthynas â niwsans sy’n dod o fewn adran 79(1) (d), (e), (fb), (g), (ga) neu (h) o’r Ddeddf honno(40), nid oes unrhyw orchymyn i’w wneud, ac nid oes unrhyw ddirwy i’w gosod, o dan adran 82(2) o’r Ddeddf honno os yw’r amddiffynnydd yn dangos bod y niwsans—

(a)yn ymwneud â safle a ddefnyddir gan yr ymgymerwr at ddibenion adeiladu a chynnal y gweithfeydd awdurdodedig ac mewn cysylltiad â hynny ac y gellir ei briodoli i gyflawni’r gweithfeydd awdurdodedig yn unol â hysbysiad a gyflwynir o dan adran 60 (rheoli sŵn ar safle adeiladu), neu gydsyniad a roddir o dan adran 61(41) (cydsyniad ymlaen llaw ar gyfer gwaith ar safle adeiladu), o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974(42);

(b)o ganlyniad i adeiladu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig ac na ellir yn rhesymol ei osgoi;

(c)yn ymwneud â safle a ddefnyddir gan yr ymgymerwr at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig neu mewn cysylltiad â’u defnyddio a gellir ei briodoli i’r defnydd o’r gweithfeydd awdurdodedig yn unol â chynllun monitro sŵn y cytunir arno â’r awdurdod cynllunio yn unol ag un o amodau’r caniatâd cynllunio tybiedig; neu

(d)o ganlyniad i’r defnydd o’r gweithfeydd awdurdodedig ac na ellir yn rhesymol ei osgoi;

(2Nid yw adran 61(9) o Ddeddf Rheoli Llygredd 1974 (cydsyniad ar gyfer gwaith ar safle i gynnwys datganiad nad yw ynddo’i hun yn gyfystyr ag amddiffyniad i achos cyfreithiol o dan adran 82 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990) yn gymwys pan fo’r cydsyniad yn ymwneud â’r defnydd o’r safle gan yr ymgymerwr at ddibenion adeiladu neu gynnal a chadw’r gweithfeydd awdurdodedig neu mewn cysylltiad â hynny.

Caniatâd cynllunio a materion atodol

39.—(1Mewn perthynas â chymhwyso paragraff 3(c) o’r Ail Atodlen i Ffurf Gorchymyn Diogelu Coed a nodwyd yn yr Atodlen i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Diogelu Coed) 1969(43) (gan gynnwys y paragraff hwnnw fel y’i cymhwyswyd gan reoliad 3(ii) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorchymyn Diogelu Coed) (Diwygio) a (Coed Mewn Ardaloedd Cadwraeth) (Achosion Eithriedig) 1975(44), neu fel y’i hymgorfforwyd mewn unrhyw orchymyn diogelu coed), trinnir unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 sy’n tybio bod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn fel un sy’n tybio bod caniatâd wedi cael ei roi ar gais a wneir o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno at ddibenion y Rhan honno.

(2Mewn perthynas â chymhwyso erthygl 5(1)(d) o Ffurf Gorchymyn Diogelu Coed a nodwyd yn yr Atodlen i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999(45) fel y’i hymgorfforwyd mewn unrhyw orchymyn diogelu coed neu sy’n cael effaith yn rhinwedd rheoliad 10(1)(a) o’r Rheoliadau hynny, ni fydd unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 90(2A) o Ddeddf 1990 sy’n tybio bod caniatâd cynllunio wedi cael ei roi mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn yn cael ei drin fel caniatâd cynllunio amlinellol.

(3Mae caniatâd cynllunio y bernir ei fod wedi cael ei roi gan gyfarwyddyd o dan adran 90(2A)(46) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â gweithfeydd a awdurdodir gan y Gorchymyn hwn i’w drin fel caniatâd cynllunio penodol at ddibenion adran 264(3)(a) o’r Ddeddf honno (achosion lle mae tir i’w drin fel pe bai’n dir gweithredol at ddibenion y Ddeddf honno).

Pŵer i docio coed sy’n gorhongian dros y gweithfeydd awdurdodedig a gwaredu gwrychoedd

40.—(1Caiff yr ymgymerwr gwympo neu docio unrhyw goeden neu lwyn ger unrhyw ran o’r gweithfeydd awdurdodedig, neu dorri ei gwreiddiau yn ôl, os cred yn rhesymol ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn atal y goeden neu’r llwyn rhag rhwystro neu ymyrryd ag adeiladu, cynnal a chadw, gweithredu neu ddatgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig neu unrhyw gyfarpar a ddefnyddir ar y gweithfeydd awdurdodedig.

(2Drwy arfer pwerau paragraff (1), rhaid i’r ymgymerwr beidio â gwneud unrhyw ddifrod diangen i unrhyw goeden na llwyn a rhaid iddo ddigolledu unrhyw berson am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi o arfer y pwerau hynny.

(3Rhaid i unrhyw anghydfod ynglŷn â hawl person i gael ei ddigolledu o dan baragraff (2), neu ynglŷn â swm y cyfryw ddigollediad, gael ei benderfynu o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.

(4Caiff yr ymgymerwr waredu unrhyw wrychoedd o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir y mae’n ofynnol eu gwaredu at ddibenion cyflawni’r gweithfeydd awdurdodedig.

Cymhwyso cyfraith landlord a thenant

41.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i—

(a)unrhyw gytundeb ar gyfer prydlesu’r gweithfeydd awdurdodedig cyfan neu unrhyw ran ohonynt neu’r hawl i’w gweithredu i unrhyw berson; a

(b)unrhyw gytundeb y mae’r ymgymerwr yn ymrwymo iddo ag unrhyw berson ar gyfer adeiladu, cynnal a chadw, gweithredu, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig, neu unrhyw ran ohonynt;

i’r graddau y mae unrhyw gyfryw gytundeb yn ymwneud â’r telerau y mae unrhyw dir sy’n destun prydles a roddir gan neu o dan y cytundeb hwnnw i’w ddarparu at ddefnydd y person hwnnw.

(2Nid oes unrhyw ddeddfiad na rheol gyfreithiol sy’n rheoleiddio hawliau a rhwymedigaethau landlordiaid a thenantiaid yn lleihau effaith gweithrediad unrhyw gytundeb y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo.

(3Yn unol â hynny, nid oes unrhyw gyfryw ddeddfiad na rheol gyfreithiol yn gymwys mewn perthynas â hawliau a rhwymedigaethau’r partïon mewn unrhyw brydles a roddir gan neu o dan unrhyw gyfryw gytundeb er mwyn—

(a)eithrio unrhyw un o hawliau a rhwymedigaethau’r partïon hynny o dan delerau’r brydles na’u haddasu mewn unrhyw ffordd, boed hynny mewn cysylltiad â therfynu’r denantiaeth neu unrhyw fater arall;

(b)rhoi neu osod unrhyw gyfryw hawl neu rwymedigaeth i unrhyw gyfryw barti sy’n codi o unrhyw beth sy’n cael ei wneud neu ei hepgor ar neu mewn perthynas â thir sy’n ddarostyngedig i’r brydles neu mewn cysylltiad â hynny, yn ychwanegol at unrhyw gyfryw hawl neu rwymedigaeth y darperir ar ei chyfer gan delerau’r brydles; neu

(c)cyfyngu ar orfodi (boed hynny drwy achos cyfreithiol am iawndal neu fel arall) gan unrhyw barti yn y brydles unrhyw rwymedigaeth gan unrhyw barti arall o dan y brydles.

Rhwystro adeiladu gweithfeydd awdurdodedig

42.  Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol—

(a)yn rhwystro unrhyw berson sy’n gweithredu o dan awdurdod yr ymgymerwr wrth adeiladu, cynnal a chadw, gweithredu, ailbweru neu ddatgomisiynu unrhyw waith awdurdodedig; neu

(b)yn ymyrryd ag unrhyw gyfarpar sy’n eiddo i unrhyw berson sy’n gweithredu o dan awdurdod yr ymgymerwr, yn ei dynnu ymaith neu’n ei waredu,

yn euog o drosedd ac, ar ôl euogfarn ddiannod, yn agored i dalu dirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Parthau diogelwch ar gyfer mordwyo, treillrwydo ac angori

43.—(1Caiff Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu unrhyw weithfeydd llanwol gyflwyno hysbysiad neu hysbysiadau sy’n datgan bod yr ardaloedd a ddisgrifir yn yr hysbysiad yn barthau diogelwch.

(2Bydd unrhyw geisiadau a wneir gan yr ymgymerwr am barth diogelwch yn cynnwys asesiad risg mordwyol wedi’i ddiweddaru.

(3Bydd adrannau 95 i 98 o Ddeddf 2004 a Rheoliadau 2007 yn gymwys i gais o dan baragraffau (2) a’r datganiad a gweithrediad parthau diogelwch o dan baragraff (1).

(4Yn yr erthygl hon, mae i “parthau diogelwch” yr un ystyr â “safety zones” ym Mhennod 2 o Ddeddf 2004.

Ymgymerwyr statudol a darpariaethau diogelu etc

44.  Mae Atodlen 10 (darpariaethau sy’n ymwneud ag ymgymerwyr statudol a darpariaethau diogelu etc) yn cael effaith.

Diogelu buddiannau

45.  Mae Atodlen 11 (darpariaethau diogelu) yn cael effaith.

Ardystio planiau etc

46.  Rhaid i’r ymgymerwr, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud, gyflwyno copïau o’r datganiad amgylcheddol, y cyfeirlyfr, planiau’r gweithfeydd alltraeth, planiau’r tir, y strategaeth gwella bioamrywiaeth forol amlinellol, y trawsluniau a phlan yr ardal gyfyngedig i Weinidogion Cymru i ardystio eu bod, yn y drefn honno, yn gopïau cywir o’r datganiad amgylcheddol, y cyfeirlyfr, planiau’r gweithfeydd alltraeth, planiau’r tir, y strategaeth gwella bioamrywiaeth forol amlinellol, y trawsluniau a phlan yr ardal gyfyngedig y cyfeirir atynt yn y Gorchymyn hwn; ac mae dogfen a ardystir felly yn dderbyniadwy mewn unrhyw achos cyfreithiol fel tystiolaeth o gynnwys y ddogfen y mae’n gopi ohoni.

Cyflwyno hysbysiadau

47.—(1Caiff hysbysiad neu ddogfen arall y mae’n ofynnol ei gyflwyno neu ei chyflwyno neu yr awdurdodwyd ei gyflwyno neu ei chyflwyno at ddibenion y Gorchymyn hwn ei gyflwyno neu ei chyflwyno—

(a)drwy’r post; neu

(b)gyda chydsyniad y derbynnydd ac yn ddarostyngedig i baragraffau (6) i (8) drwy ddarlledu electronig.

(2Pan fo’r person y mae hysbysiad neu ddogfen arall i’w gyflwyno neu i’w chyflwyno iddo at ddibenion y Gorchymyn hwn yn gorff corfforaethol, cyflwynir yr hysbysiad neu’r ddogfen yn briodol os y’i cyflwynir i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.

(3At ddibenion adran 13 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019(47) fel y mae’n gymwys at ddibenion yr erthygl hon, cyfeiriad priodol unrhyw berson mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad neu ddogfen iddo o dan baragraff (1), os yw wedi rhoi cyfeiriad cyflwyno, yw’r cyfeiriad hwnnw, ac fel arall—

(a)yn achos ysgrifennydd neu glerc corff corfforaethol, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw; a

(b)mewn unrhyw achos arall, ei gyfeiriad hysbys diwethaf ar adeg cyflwyno.

(4Pan fo’n ofynnol at ddibenion y Gorchymyn hwn gyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall i berson am fod ganddo fuddiant mewn tir, neu fel meddiannydd y tir, neu pan awdurdodir hynny, ac ni ellir cadarnhau ei enw na’i gyfeiriad ar ôl ymholiadau rhesymol, caiff yr hysbysiad ei gyflwyno drwy—

(a)ei gyfeirio ato yn ôl enw neu yn ôl y disgrifiad o “perchennog”, neu yn ôl y digwydd “meddiannydd”, y tir (sy’n ei ddisgrifio); a

(b)naill ai ei adael yn nwylo’r person sydd neu sy’n ymddangos ei fod yn preswylio neu’n cael ei gyflogi ar y tir neu ei adael wedi’i osod mewn man amlwg ar ryw adeilad neu wrthrych ar neu ger y tir.

(5Pan fo hysbysiad neu ddogfen arall y mae’n ofynnol ei gyflwyno neu ei chyflwyno neu ei (h)anfon drwy ddarlledu electronig, tybir bod y gofyniad wedi’i fodloni pan fo derbynnydd yr hysbysiad neu ddogfen arall i’w (d)darlledu wedi cydsynio i’r defnydd o ddarlledu electronig naill ai’n ysgrifenedig neu drwy ddarlledu electronig.

(6Pan fo derbynnydd hysbysiad neu ddogfen arall a gyflwynwyd neu a anfonwyd drwy ddarlledu electronig yn hysbysu’r anfonwr o fewn 7 diwrnod i’w (d)dderbyn bod arno angen copi papur o’r holl hysbysiad hwnnw neu’r ddogfen arall honno neu unrhyw ran ohono neu ohoni, rhaid i’r anfonwr ddarparu’r cyfryw gopi cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(7Caiff person ddirymu ei gydsyniad i’r defnydd o ddarlledu electronig yn unol â pharagraff (8).

(8Pan na fydd person yn barod i dderbyn y defnydd o ddarlledu trosglwyddo at unrhyw un o ddibenion y Gorchymyn hwn mwyach—

(a)rhaid iddo roi hysbysiad yn ysgrifenedig neu drwy ddarlledu electronig yn dirymu unrhyw gydsyniad a roddir ganddo at y diben hwnnw; a

(b)bydd y cyfryw ddirymiad yn derfynol a bydd yn weithredol ar ddyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad ond ni chaiff y dyddiad hwnnw fod yn llai na 7 diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.

(9Ni thybir bod yr erthygl hon yn eithrio defnyddio unrhyw ddull o gyflwyno nad yw’n darparu ar ei gyfer yn benodol.

Dim adennill dwbl

48.  Ni fydd digollediad yn daladwy mewn perthynas â’r un mater o dan y Gorchymyn hwn nac o dan unrhyw ddeddfiad arall, unrhyw gontract nac unrhyw reol gyfreithiol.

Cymrodeddu

49.—(1Mae unrhyw wahaniaeth o dan unrhyw un o ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, oni ddarperir fel arall ar ei gyfer, i’w gyfeirio at un cymrodeddwr y cytunir arno gan y partïon, neu os ydynt yn methu â chytuno, i’w benodi ar gais y naill barti neu’r llall (ar ôl cyflwyno hysbysiad yn ysgrifenedig i’r llall) gan Lywydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil a’i ddatrys ganddo.

(2Er mwyn osgoi amheuaeth, ni fydd unrhyw fater y mae’n ofynnol cael cydsyniad neu gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, neu sy’n ddarostyngedig i bwerau gwneud cyfarwyddyd Trinity House, o dan unrhyw un o ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, yn ddarostyngedig i gymrodeddu.

Arbediad ar gyfer Trinity House

50.  Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn lleihau effaith unrhyw un o hawliau, dyletswyddau neu freintiau Trinity House nac yn eu rhanddirymu.

Deddf Cynllunio Cymdogaeth 2017

51.  Nid yw darpariaethau Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cynllunio Cymdogaeth 2017(48) yn gymwys o ran y Gorchymyn hwn.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

17 Rhagfyr 2021

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources