Search Legislation

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 797 (Cy. 175)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022

Gwnaed

13 Gorffennaf 2022

Yn dod i rym

15 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 80(1), 83, 84 a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 80(2)(c) ac adran 82(2) a (3)(a) a (d) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol ar ddrafft o’r Rheoliadau hyn, ac wedi rhoi hysbysiad o’u bwriad i wneud y Rheoliadau i’r prif gynghorau yn ardaloedd y cyd-bwyllgorau corfforedig ac i’r cyd-bwyllgorau corfforedig.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5) o’r Ddeddf honno.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Gorffennaf 2022.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(2);

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (3).

RHAN 2Perfformiad a gwybodaeth sy’n gysylltiedig â pherfformiad

Diwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 i ddarparu ar gyfer cyfarwyddydau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

3.—(1Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 46(1) (cyrff y caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru eu cyfarwyddo i gyhoeddi gwybodaeth), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)a corporate joint committee;.

(3Yn adran 47(4)(c) (edrych ar wybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad), ar y dechrau mewnosoder “in the case of a relevant body which is not a corporate joint committee,”.

(4Yn adran 48 (dulliau a ganiateir o gyhoeddi gwybodaeth o dan adran 47), yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) The permitted methods of publication referred to in section 47(4)(b) are—

(a)in the case of a relevant body which is a corporate joint committee, electronic publication;

(b)in the case of a relevant body which is not a corporate joint committee, the methods mentioned in subsections (2) and (3).

Diwygio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 i gymhwyso Pennod 1 o Ran 6 i gyd-bwyllgorau corfforedig

4.  Ar ôl Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2021 (perfformiad cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) mewnosoder—

PENNOD 1APERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH: CYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG

115A    Cymhwyso Pennod 1 i gyd-bwyllgorau corfforedig

Mae Atodlen 10A yn cymhwyso Pennod 1 (perfformiad, asesiadau perfformiad ac ymyrraeth: prif gynghorau), ac eithrio adrannau 113, 114 a 115, i gyd-bwyllgor corfforedig gyda’r addasiadau a nodir yn yr Atodlen honno.

5.  Ar ôl Atodlen 10 i Ddeddf 2021 mewnosoder—

ATODLEN 10A(a gyflwynir gan adran 115A)

CYMHWYSO PENNOD 1 O RAN 6 I GYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG

1.  Mae Pennod 1 o Ran 6, ac eithrio adrannau 113, 114 a 115, yn gymwys i gyd-bwyllgor corfforedig gyda’r addasiadau a nodir yn yr Atodlen hon.

Addasiad cyffredinol i gyfeiriadau

2.  Ym Mhennod 1 o Ran 6—

(a)mae’r cyfeiriadau at brif gyngor i’w darllen fel cyfeiriadau at gyd-bwyllgor corfforedig ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraffau 3 i 17 o’r Atodlen hon (sy’n gwneud addasiadau ychwanegol i ddarpariaethau penodol ym Mhennod 1 o Ran 6);

(b)mae’r cyfeiriadau at bwyllgor llywodraethu ac archwilio prif gyngor i’w darllen fel cyfeiriadau at is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig;

(c)mae’r cyfeiriadau at ardal prif gyngor i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal a bennir yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig mewn rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig.

Cyd-bwyllgor corfforedig i ymgynghori â phobl leol etc. ar berfformiad

3.  Mae adran 90 i’w darllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff (a) “pobl leol” yn golygu pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn yr ardal a bennir yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig mewn rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c) (ac o flaen “a”)—

(ca)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

(cb)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,.

Adroddiad hunanasesu gan gyd-bwyllgor corfforedig

4.  Mae adran 91(10)(c) i’w darllen fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (ii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (ii) (ac o flaen “a”)—

(iia)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

(iib)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,.

Asesiadau panel o berfformiad

5.  Mae adran 92 i’w darllen fel pe bai—

(a)yn is-adran (1), “i brif gynghorau yng Nghymru (“y cyfnod rhyngetholiadol”)” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor”;

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (1)—

(1A) At ddibenion is-adran (1), y cyfnod rhyngetholiadol cyntaf yw’r cyfnod yn union ar ôl yr etholiad a grybwyllir yn is-adran (1B).

(1B) Yr etholiad a grybwyllir yn yr is-adran hon yw’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i brif gynghorau yng Nghymru sy’n dilyn yr etholiad a ddigwyddodd ar 5 Mai 2022.;

(c)yn is-adran (3)—

(i)ym mharagraff (a) “pobl leol” yn golygu pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn yr ardal a bennir yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig mewn rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c) (ac o flaen “a”)—

(ca)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

(cb)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,;

(d)yn is-adran (5)—

(i)ym mharagraff (c), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod;

(ii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c) (ac o flaen “a”)—

(ca)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

(cb)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,;

(e)yn is-adran (7), “i brif gynghorau yng Nghymru” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor”.

(f)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (7)—

(7A) Y cyntaf o’r etholiadau a grybwyllir yn is-adran (7) yw’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i brif gynghorau yng Nghymru sy’n dilyn yr etholiad a grybwyllir yn is-adran (1B).

Ymateb cyd-bwyllgor corfforedig i adroddiad gan banel

6.  Mae adran 93 i’w darllen fel pe bai—

(a)yn is-adran (6)(b)—

(i)yn is-baragraff (iii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod;

(ii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (iii) (ac o flaen “a”)—

(iiia)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

(iiib)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,;

(b)yn is-adran (7), “i brif gynghorau yng Nghymru” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor”.

(c)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (7)—

(7A) Y cyntaf o’r etholiadau a grybwyllir yn is-adran (7) yw’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i brif gynghorau yng Nghymru sy’n dilyn yr etholiad a grybwyllir yn adran 92(1B).

Arolygiad arbennig gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

7.  Mae adran 95 i’w darllen fel pe bai—

(a)yn is-adran (7)(b)—

(i)yn is-baragraff (ii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod;

(ii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (ii) (ac o flaen “a”)—

(iia)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

(iib)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,;

(b)is-adran (9) wedi ei hepgor.

Ymateb cyd-bwyllgor corfforedig i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol

8.  Mae adran 96(7)(b) i’w darllen fel pe bai—

(a)yn is-baragraff (i), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod,

(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (i) (ac o flaen “a”)—

(ia)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig,

(ib)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig,.

Ymateb Gweinidogion Cymru i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol

9.  Mae adran 97(2)(b) i’w darllen fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (ii) (ac o flaen “a”)—

(iia)pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,

(iib)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,;

(b)yn is-baragraff (iii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod.

Pwerau mynediad ac arolygu etc. yr Archwilydd Cyffredinol

10.  Mae adran 98 i’w darllen fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—

(1) Caiff arolygydd, ar unrhyw adeg resymol, fynd i unrhyw fangre—

(a)cyd-bwyllgor corfforedig;

(b)cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(c)awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o gyd-bwyllgor corfforedig,

a gwneud unrhyw beth y mae’r arolygydd yn ystyried ei fod yn angenrheidiol at ddibenion arolygiad arbennig o’r cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys arolygu dogfen a ddelir gan yr awdurdod y mae’r arolygydd wedi mynd i’w fangre.;

(b)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (2)—

(2) Caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o is-adran (1) ddarparu i’r arolygydd unrhyw un neu ragor o’r canlynol y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion arolygiad arbennig o’r cyd-bwyllgor corfforedig—

(a)dogfen y mae’r awdurdod yn ei dal;

(b)cyfleusterau a chymorth.;

(c)y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (b) o is-adran (4)—

(b)ei gwneud yn ofynnol i awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o is-adran (1) ddarparu i’r arolygydd gopi darllenadwy, gan gynnwys copi electronig darllenadwy, o ddogfen a arolygir yn ei fangre o dan is-adran (1) neu a ddarparwyd ganddo o dan is-adran (2)(a);.

Pwerau mynediad ac arolygu etc. yr Archwilydd Cyffredinol: rhybudd a thystiolaeth adnabod

11.  Mae adran 99 i’w darllen fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—

(1) Caiff arolygydd fynd i fangre awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o adran 98(1) wrth arfer y pwerau o dan yr is-adran honno o dan yr amgylchiadau a ganlyn yn unig —

(a)pan fo arolygydd wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r awdurdod, a

(b)pan fo o leiaf dri diwrnod gwaith rhwng y diwrnod y mae’r arolygydd yn rhoi’r rhybudd a’r diwrnod y mae’r arolygydd yn mynd i’r fangre.;

(b)yn is-adran (2), “awdurdod” wedi ei roi yn lle “cyngor”, yn y ddau le y mae’n digwydd;

(c)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (3)—

(3) Nid yw’r gofyniad yn is-adran (1) yn gymwys os yw arolygydd yn ystyried y byddai rhoi rhybudd i awdurdod o arfer pŵer o dan adran 98(1) yn ei erbyn yn niweidio, neu’n debygol o niweidio, arfer y pŵer hwnnw.

(3A) Nid yw’r gofyniad yn is-adran (2) yn gymwys os yw arolygydd yn ystyried y byddai rhoi rhybudd i awdurdod o arfer pŵer o dan adran 98(2) yn ei erbyn yn niweidio, neu’n debygol o niweidio, arfer y pŵer hwnnw.;

(d)yn is-adran (4)(b)(i), “aelod o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol neu’n aelod o staff prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol (pa un a yw’r person hwnnw hefyd yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig ai peidio)” wedi ei roi yn lle “aelod o brif gyngor neu’n aelod o staff prif gyngor”;

(e)yn is-adran (5)—

(i)“awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o adran 98(1)” wedi ei roi yn lle “brif gyngor”;

(ii)“awdurdod” wedi ei roi yn lle “cyngor”, ym mhob lle y mae’n digwydd ym mharagraffau (a), (b) ac (c);

(iii)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c)—

(d)os yw’r awdurdod y mae’r rhybudd i’w roi iddo yn gyd-bwyllgor corfforedig—

(i)gadael y rhybudd ym mhrif swyddfa cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(ii)anfon y rhybudd drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy wasanaeth arall sy’n darparu ar gyfer ei ddanfon yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf, i brif swyddfa cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig.;

(f)yn is-adran (6)—

(i)“aelod o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol neu aelod o staff prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol (pa un a yw’r person hwnnw hefyd yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig neu aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig ai peidio)” wedi ei roi yn lle “aelod o brif gyngor neu aelod o staff prif gyngor”;

(ii)ym mharagraffau (a) a (b), “prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol” wedi ei roi yn lle “cyngor”;

(g)yn is-adran (7), “aelod o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol neu aelod o staff prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol” wedi ei roi yn lle “aelod o brif gyngor neu aelod o staff prif gyngor”.

Ymgynghori ar ffioedd yr Archwilydd Cyffredinol

12.  Mae adran 101(5)(b) i’w darllen fel pe bai “cyd-bwyllgorau corfforedig” wedi ei roi yn lle “prif gynghorau”.

Cyfarwyddyd i ddarparu cefnogaeth a chymorth

13.  Mae adran 103 i’w darllen fel pe bai—

(a)y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—

(1) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod a grybwyllir yn is-adran (1A) i ddarparu i gyd-bwyllgor corfforedig (“y cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir”) unrhyw gefnogaeth a chymorth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn cynyddu’r graddau y mae’r cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir yn bodloni’r gofynion perfformiad.

(1A) Yr awdurdodau a grybwyllir yn yr is-adran hon yw—

(a)cyd-bwyllgor corfforedig;

(b)prif gyngor.;

(b)yn is-adran (3), “awdurdod y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi’r cyfarwyddyd iddo a’r cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir” wedi ei roi yn lle “ddau gyngor”;

(c)yn is-adran (4)—

(i)“awdurdod” wedi ei roi yn lle “prif gyngor”;

(ii)“cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir” wedi ei roi yn lle “cyngor a gefnogir”, ym mhob lle y mae’n digwydd.”

Pwerau Gweinidogion Cymru i ymyrryd

14.  Mae adran 104(2)(a) i’w darllen fel pe bai “awdurdod arall” wedi ei roi yn lle “cyngor arall”.

Cyfarwyddyd i gydweithredu â darparu cefnogaeth a chymorth

15.  Mae adran 105 i’w darllen fel pe bai—

(a)yn is-adran (1)—

(i)“cyd-bwyllgor corfforedig (“y cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir”)” wedi ei roi yn lle “prif gyngor (“y cyngor a gefnogir”)”;

(ii)ym mharagraff (b), “awdurdod” wedi ei roi yn lle “prif gyngor”;

(iii)“i’r cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor a gefnogir”;

(b)yn is-adrannau (2), (3) a (4), “cyd-bwyllgor corfforedig” wedi ei roi yn lle “cyngor”, ym mhob lle y mae’n digwydd;

(c)yn is-adran (5), “ac awdurdod” wedi ei roi yn lle “a phrif gyngor”.

Arfer swyddogaethau

16.  Mae adran 108 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adrannau (1) i (3)—

(1) Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i swyddogaethau cyd-bwyllgor corfforedig a grybwyllir yn is-adran (4).

Dehongli

17.  Mae adran 112 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod yn y lle priodol—

ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”), mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig penodol, yw cyngor cyfansoddol fel y nodir yn y rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig;.

6.—(1Yn nheitl Rhan 6 o Ddeddf 2021, ar ôl “PRIF GYNGHORAU” mewnosoder “A CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG”.

(2Yn nheitl Pennod 1 o’r Rhan honno, ar ôl “YMYRRAETH” mewnosoder “: PRIF GYNGHORAU”.

Diwygio adran 159 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

7.  Yn adran 159 o Ddeddf 2021 (rhannu gwybodaeth rhwng rheoleiddwyr, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion Cymru)—

(a)yn is-adran (1), ar ôl “phrif gyngor” mewnosoder “neu gyd-bwyllgor corfforedig”;

(b)yn is-adran (4), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru neu Weinidogion Cymru o dan Bennod 1A o Ran 6 (perfformiad cyd-bwyllgorau corfforedig);;

(c)yn is-adran (5), yn Nhabl 2 —

(i)ar ôl y trydydd cofnod yn yr ail golofn sy’n ymwneud ag Archwilydd Cyffredinol Cymru mewnosoder—

Swyddogaethau o dan Bennod 1A o Ran 6 o’r Ddeddf hon (arolygiadau arbennig o berfformiad cyd-bwyllgorau corfforedig)

(ii)yn yr ail golofn, yn yr ail gofnod sy’n ymwneud â Gweinidogion Cymru, ar ôl “(perfformiad prif gynghorau)” mewnosoder “, Pennod 1A o Ran 6 (perfformiad cyd-bwyllgorau corfforedig)”.

RHAN 3Trosolwg a chraffu

Dyletswyddau mewn perthynas â throsolwg a chraffu

Dyletswydd i gydweithredu o ran trosolwg a chraffu

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)pan fo pwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol (“y pwyllgor”) yn gwneud adroddiad neu argymhellion o dan adran 21(2)(e) o Ddeddf 2000, a

(b)pan fo’r adroddiad neu’r argymhellion yn ymwneud ag arfer swyddogaeth cyd-bwyllgor corfforedig.

(2Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig gydweithredu â’r pwyllgor a rhoi iddo’r cymorth rhesymol hwnnw y mae’n gofyn amdano mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau.

(3Caiff y cymorth a ddarperir o dan baragraff (2) gynnwys—

(a)trefnu i aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig fynychu cyfarfod o’r pwyllgor ac ateb cwestiynau yn y cyfarfod;

(b)trefnu i aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig fynychu cyfarfod o’r pwyllgor ac ateb cwestiynau yn y cyfarfod;

(c)darparu gwybodaeth;

(d)darparu copïau o ddogfennau sydd ym meddiant y cyd-bwyllgor corfforedig neu o dan ei reolaeth.

(4Pan fo’r pwyllgor yn gwneud cais i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddarparu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth esempt, neu gopi o unrhyw ddogfen neu ran o ddogfen sy’n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth esempt, nid yw paragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddarparu’r wybodaeth honno neu’r ddogfen honno i’r pwyllgor oni bai bod yr wybodaeth yn berthnasol.

(5At ddibenion paragraff (4) mae gwybodaeth yn berthnasol os yw swyddog priodol y cyd-bwyllgor corfforedig yn penderfynu bod yr wybodaeth—

(a)yn ymwneud â gweithred neu benderfyniad sy’n cael ei adolygu neu y creffir arno gan y pwyllgor, neu

(b)yn berthnasol i unrhyw adolygiad sydd wedi ei gynnwys yn unrhyw un o raglenni gwaith y pwyllgor.

(6Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn caniatáu datgelu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth esempt gan bwyllgor trosolwg a chraffu ac eithrio fel yr awdurdodir gan unrhyw ddeddfiad arall.

(7At ddibenion y rheoliad hwn “pwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol”, mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig yw—

(a)pwyllgor trosolwg a chraffu a benodwyd gan gyngor cyfansoddol o dan adran 21(2) o Ddeddf 2000;

(b)cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu a benodwyd o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013(5) pan fo’r awdurdodau sy’n penodi yn gynghorau cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig;

(c)is-bwyllgor i bwyllgor a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b).

Dyletswydd i roi sylw

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—

(a)rheoliad 8 yn gymwys, a

(b)y pwyllgor yn cyhoeddi yr adroddiad neu’r argymhelliad o dan—

(i)adran 21B(2) o Ddeddf 2000;

(ii)rheoliad 13(2) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013.

(2Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig—

(a)ystyried yr adroddiad neu’r argymhelliad, a

(b)cyhoeddi datganiad yn nodi’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd yng ngoleuni’r adroddiad neu’r argymhelliad wrth arfer ei swyddogaethau.

(3Rhaid i ddatganiad o dan baragraff (2)(b) gael ei gyhoeddi cyn diwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddir yr adroddiad gan y pwyllgor.

(4Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (cyflawni swyddogaethau gan bersonau eraill)(6) yn gymwys i’r ddyletswydd a osodir gan baragraff (2)(a).

Gwybodaeth esempt

10.—(1Y disgrifiadau o wybodaeth sydd, at ddibenion y Rhan hon, yn wybodaeth esempt yw’r rheini sydd am y tro wedi eu pennu yn Rhan 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i haddaswyd wrth ei chymhwyso i’r Rhan hon gan baragraffyn ddarostyngedig i unrhyw amodau a geir yn Rhan 5 o’r Atodlen honno fel y’i haddaswyd.

(2At ddibenion paragraff (1), mae Rhannau 4 i 6 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn gymwys fel pe mewnosodwyd yn lle paragraff 22(2) o’r Atodlen honno—

(2) Any reference in Parts 4 and 5 and this Part of this Schedule to “the authority” is a reference to the corporate joint committee or, as the case may be, the sub-committee of the corporate joint committee in relation to whose proceedings or documents the question whether information is exempt or not falls to be determined and includes a reference—

(a)in the case of a corporate joint committee, to any sub-committee of the corporate joint committee, and

(b)in the case of a sub-committee, to the corporate joint committee of which it is a sub-committee.

Is-bwyllgorau llywodraethu ac archwilio

Penodi cadeirydd a dirprwy

11.—(1Rhaid i is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig benodi—

(a)cadeirydd, a

(b)dirprwy gadeirydd.

(2Rhaid penodi’r cadeirydd a’r dirprwy gadeirydd o blith aelodau’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

(3Ni chaiff yr aelod a benodir yn gadeirydd hefyd fod yn aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

Trafodion etc.

12.—(1Mae cyfarfod is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig (“yr is-bwyllgor”) i’w gadeirio—

(a)gan y cadeirydd, neu

(b)os yw’r cadeirydd yn absennol, y dirprwy gadeirydd.

(2Os yw’r cadeirydd a’r dirprwy gadeirydd ill dau yn absennol caiff yr is-bwyllgor benodi un o’i aelodau eraill i gadeirio’r cyfarfod.

(3Caiff pob aelod o’r is-bwyllgor bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu gan yr is-bwyllgor.

(4Caiff yr is-bwyllgor—

(a)ei gwneud yn ofynnol i aelodau ac aelodau o staff y cyd-bwyllgor corfforedig fod yn bresennol ger ei fron i ateb cwestiynau, a

(b)gwahodd personau eraill i fynychu cyfarfodydd o’r is-bwyllgor.

(5Mae dyletswydd ar unrhyw aelod neu aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan baragraff (4)(a).

(6Ond nid oes rhwymedigaeth ar berson o dan baragraff (5) i ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person yr hawl i wrthod ei ateb mewn achos llys yng Nghymru a Lloegr, neu at ddibenion achos llys o’r fath.

Pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio

13.—(1Rhaid i is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig (“yr is-bwyllgor”) gyfarfod unwaith ym mhob blwyddyn galendr.

(2Rhaid i’r is-bwyllgor hefyd gyfarfod—

(a)os yw’r cyd-bwyllgor corfforedig yn penderfynu y dylai’r is-bwyllgor gyfarfod, neu

(b)os yw o leiaf un rhan o dair o aelodau’r is-bwyllgor yn hawlio cyfarfod drwy un neu ragor o hysbysiadau mewn ysgrifen a roddir i’r cadeirydd.

(3Mae dyletswydd ar y person sy’n cadeirio’r is-bwyllgor i sicrhau y cynhelir cyfarfodydd o’r is-bwyllgor fel sy’n ofynnol gan baragraffau (1) a (2).

(4Nid yw’r rheoliad hwn yn atal yr is-bwyllgor rhag cyfarfod yn ychwanegol at yr hyn sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn.

Dehongli etc.

Dehongli’r Rhan hon

14.  Yn y Rhan hon—

ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig yw cyngor cyfansoddol fel y’i nodir yn y rheoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw;

mae i “gwybodaeth esempt” (“exempt information”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10;

ystyr “gwybodaeth gyfrinachol” (“confidential information”) yw—

(a)

gwybodaeth a roddir i’r cyd-bwyllgor corfforedig gan Weinidogion Cymru o dan delerau (sut bynnag y’u mynegir) sy’n gwahardd datgelu’r wybodaeth i’r cyhoedd, a

(b)

gwybodaeth y mae ei datgelu i’r cyhoedd wedi ei wahardd drwy neu o dan unrhyw ddeddfiad neu drwy orchymyn llys,

ac yn y naill achos neu’r llall mae cyfeiriad at y rhwymedigaeth i gyfrinachedd i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio” (“governance and audit sub-committee”) mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig, yw’r is-bwyllgor o’r enw hwnnw a benodwyd gan y cyd-bwyllgor corfforedig o dan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig.

RHAN 4Rheolau Sefydlog

Rheolau sefydlog mewn cysylltiad â gweithdrefnau

15.  Yn adran 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(7) (dyletswydd awdurdodau perthnasol i fabwysiadu rheolau sefydlog gweithdrefnol penodol), yn is-adran (4)(a), ar ôl “below” mewnosoder “, a corporate joint committee”.

Rheolau sefydlog mewn cysylltiad â chontractau

16.—(1Rhaid i gyd-bwyllgor corfforedig wneud rheolau sefydlog mewn cysylltiad â gwneud contractau gan neu ar ran y cyd-bwyllgor corfforedig ar gyfer—

(a)cyflenwi nwyddau neu ddeunyddiau;

(b)cyflawni gwaith.

(2Rhaid i reolau sefydlog a wneir o dan baragraff (1) gynnwys darpariaeth i sicrhau cystadleuaeth am y contractau hynny ac ar gyfer rheoleiddio’r ffordd y gwahoddir tendrau.

(3Caiff rheolau sefydlog a wneir o dan baragraff (1) gynnwys darpariaeth—

(a)yn esemptio contractau am bris sy’n is na’r hyn a bennir yn y rheolau sefydlog o’r ddarpariaeth a grybwyllir ym mharagraff (2);

(b)yn awdurdodi’r cyd-bwyllgor corfforedig i esemptio unrhyw gontract o’r ddarpariaeth a grybwyllir ym mharagraff (2) os yw’r cyd-bwyllgor corfforedig wedi ei fodloni bod yr esemptiad wedi ei gyfiawnhau gan amgylchiadau arbennig.

(4Nid oes rhwymedigaeth ar berson sy’n ymrwymo i gontract gyda chyd-bwyllgor corfforedig i holi pa un a gydymffurfiwyd â rheolau sefydlog y cyd-bwyllgor corfforedig sy’n gymwys i’r contract, ac nid yw unrhyw gontract yr ymrwymwyd iddo gan y cyd-bwyllgor corfforedig neu ar ei ran wedi ei annilysu oherwydd diffyg cydymffurfiaeth â’r gorchmynion hynny.

RHAN 5Diwygiadau amrywiol a chanlyniadol

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021

17.—(1Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 16 o’r Atodlen—

(a)yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “rheolaeth fewnol” mewnosoder “, rheoli perfformiad”;

(b)ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—

(da)adolygu ac asesu gallu CBC y Canolbarth i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

(db)gwneud adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â gallu CBC y Canolbarth i ymdrin â chwynion yn effeithiol;;

(c)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu), fel y’i cymhwysir gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi, ar gyfer swyddogaethau pellach yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.;

(d)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod” rhodder “nad yw traean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn aelodau”;

(e)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth gan” rhodder “bod dau draean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn”;

(f)hepgorer is-baragraff (2)(c)(iv) a’r “neu” sy’n dod o’i flaen;

(g)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A) Os yw person a ddisgrifir yn is-baragraff (2)(b) (“P”) yn peidio â bod yn aelod o gyngor cyfansoddol, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021

18.—(1Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 16 o’r Atodlen—

(a)yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “rheolaeth fewnol” mewnosoder “, rheoli perfformiad”;

(b)ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—

(da)adolygu ac asesu gallu CBC y De-ddwyrain i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

(db)gwneud adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â gallu CBC y De-ddwyrain i ymdrin â chwynion yn effeithiol;;

(c)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu), fel y’i cymhwysir gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi, ar gyfer swyddogaethau pellach yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.;

(d)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod” rhodder “nad yw traean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn aelodau”;

(e)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth gan” rhodder “bod dau draean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn”;

(f)hepgorer is-baragraff (2)(c)(iv) a’r “neu” sy’n dod o’i flaen;

(g)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A) Os yw person a ddisgrifir yn is-baragraff (2)(b) (“P”) yn peidio â bod yn aelod o gyngor cyfansoddol, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021

19.—(1Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 16 o’r Atodlen—

(a)yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “rheolaeth fewnol” mewnosoder “, rheoli perfformiad”;

(b)ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—

(da)adolygu ac asesu gallu CBC y Gogledd i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

(db)gwneud adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â gallu CBC y Gogledd i ymdrin â chwynion yn effeithiol;;

(c)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu), fel y’i cymhwysir gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi, ar gyfer swyddogaethau pellach yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.;

(d)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod” rhodder “nad yw traean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn aelodau”;

(e)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth gan” rhodder “bod dau draean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn”;

(f)hepgorer is-baragraff (2)(c)(iv) a’r “neu” sy’n dod o’i flaen;

(g)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A) Os yw person a ddisgrifir yn is-baragraff (2)(b) (“P”) yn peidio â bod yn aelod o gyngor cyfansoddol, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021

20.—(1Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 16 o’r Atodlen—

(a)yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “rheolaeth fewnol” mewnosoder “, rheoli perfformiad”;

(b)ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—

(da)adolygu ac asesu gallu CBC y De-orllewin i ymdrin â chwynion yn effeithiol;

(db)gwneud adroddiadau ac argymhellion mewn perthynas â gallu CBC y De-orllewin i ymdrin â chwynion yn effeithiol;;

(c)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu), fel y’i cymhwysir gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi, ar gyfer swyddogaethau pellach yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.;

(d)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod” rhodder “nad yw traean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn aelodau”;

(e)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth gan” rhodder “bod dau draean o aelodau’r is-bwyllgor hefyd yn”;

(f)hepgorer is-baragraff (2)(c)(iv) a’r “neu” sy’n dod o’i flaen;

(g)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A) Os yw person a ddisgrifir yn is-baragraff (2)(b) (“P”) yn peidio â bod yn aelod o gyngor cyfansoddol, mae P hefyd yn peidio â bod yn aelod o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio.

Deddf Llywodraeth Leol 2003

21.—(1Mae Deddf Llywodraeth Leol 2003(12) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 101(7A) (materion trosglwyddo staff: cyffredinol) ar ôl paragraff (ac) mewnosoder—

(ad)a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021;

(3Yn adran 102, yn lle is-adran (7B) (materion trosglwyddo staff: pensiynau) rhodder—

(7B) In this section, in relation to Wales, “local authority” means—

(a)a county council, county borough council or community council in Wales;

(b)a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021.

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

22.  Yn adran 54 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (cyfyngiad ar ddatgelu gwybodaeth)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)ym mharagraff (aa), ar ôl “Chapter 1” mewnosoder “or 1A”;

(ii)ym mharagraff (b), ar ôl “Chapter 1” mewnosoder “or 1A”;

(b)yn is-adran (2)(b), ar ôl “Chapter 1” mewnosoder “or 1A”.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

23.  Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015(13) (adroddiadau gan gyrff cyhoeddus ar gynnydd tuag at gyflawni amcanion llesiant), ar ôl is-baragraff (2A) mewnosoder—

(2B) Mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol, caiff cyd-bwyllgor corfforedig gyhoeddi ei adroddiad o dan y paragraff hwn a’i adroddiad o dan adran 91(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (fel y’i cymhwysir i gyd-bwyllgorau corfforedig gan adran 115A o’r Ddeddf honno ac Atodlen 10A iddi) yn yr un ddogfen.

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

24.  Yn adran 174(5) o Ddeddf 2021 (rheoliadau o dan Ddeddf 2021)—

(a)ar ôl paragraff (m) mewnosoder—

(ma)adran 94 fel y’i cymhwysir i gyd-bwyllgorau corfforedig gan adran 115A ac Atodlen 10A;;

(b)ar ôl paragraff (n) mewnosoder—

(na)adran 107(3) fel y’i cymhwysir i gyd-bwyllgorau corfforedig gan adran 115A ac Atodlen 10A;;

(c)ar ôl paragraff (o) mewnosoder—

(oa)adran 110(1) neu (2) fel y’u cymhwysir i gyd-bwyllgorau corfforedig gan adran 115A ac Atodlen 10A;.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

13 Gorffennaf 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud fel rhan o gyfres o reoliadau sy’n gysylltiedig â sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig yng Nghymru drwy reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”).

Mae 5 Rhan i’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch cychwyn a dehongli’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 2 yn diwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 fel y bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gallu cyfarwyddo cyd-bwyllgorau corfforedig i gyhoeddi gwybodaeth sy’n ymwneud â’u perfformiad.

Mae Rhan 2 hefyd yn mewnosod adran 115A newydd ac Atodlen 10A newydd yn Neddf 2021. Effaith y darpariaethau newydd hyn yw cymhwyso’r rhan fwyaf o Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2021 (perfformiad cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru) i gyd-bwyllgorau corfforedig, gydag addasiadau sy’n gwneud y Bennod honno yn addas ar gyfer amgylchiadau cyd-bwyllgorau corfforedig.

Bydd Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2021, fel y’i cymhwysir i gyd-bwyllgorau corfforedig gan yr adran 115A newydd a’r Atodlen 10A newydd, yn darparu ar gyfer asesu perfformiad cyd-bwyllgorau corfforedig. Bydd hefyd yn rhoi pwerau i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiadau o gyd-bwyllgorau corfforedig, yn ogystal â darparu ar gyfer rhoi cefnogaeth a chymorth i gyd-bwyllgorau corfforedig, ac ar gyfer ymyriadau eraill gan Weinidogion Cymru.

Mae paragraff 2 o’r Atodlen 10A newydd yn gwneud rhai addasiadau cyffredinol i gyfeiriadau ym Mhennod 1 o Ran 6, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i gyfeiriadau at brif gynghorau gael eu darllen fel pe baent yn gyfeiriadau at gyd-bwyllgorau corfforedig. Fodd bynnag, rhaid darllen yr addasiadau cyffredinol hynny mewn cyfuniad â pharagraffau 3 i 17 o’r Atodlen 10A newydd sy’n gwneud addasiadau ychwanegol ac, mewn achosion penodol, addasiadau gwahanol i gyfeiriadau at brif gynghorau.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio adran 159 o Ddeddf 2021 i greu pwerau a dyletswyddau i rannu gwybodaeth at ddibenion swyddogaethau penodol y caniateir eu harfer mewn perthynas â chyd-bwyllgorau corfforedig.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyd-bwyllgorau corfforedig gydweithredu a rhoi cymorth pan fo pwyllgor trosolwg a chraffu un neu ragor o gynghorau cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig yn gwneud adroddiad neu argymhellion mewn perthynas ag arfer swyddogaeth gan y cyd-bwyllgor corfforedig. Gall hyn olygu sicrhau bod ei aelodau a’i staff yn mynychu cyfarfodydd o’r pwyllgor neu y darperir dogfennau (neu wybodaeth arall). Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig hefyd roi sylw i unrhyw adroddiad neu argymhellion o’r fath a gyhoeddir gan y pwyllgor trosolwg a chraffu hwnnw, ac ymateb i’r adroddiad hwnnw neu’r argymhellion hynny.

Mae Rhan 3 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio y mae rhaid i bob un o’r cyd-bwyllgorau corfforedig presennol ei benodi o dan y rheoliadau sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae’n darparu bod rhaid i’r is-bwyllgor benodi cadeirydd ac yn gwneud darpariaeth ynghylch pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd a’r weithdrefn bleidleisio.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â rheolau sefydlog cyd-bwyllgorau corfforedig drwy estyn pŵer presennol Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau penodol fabwysiadu rheolau sefydlog i reoleiddio eu trafodion a’u busnes i gynnwys cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae’r Rhan hefyd yn gwneud darpariaeth sy’n gosod dyletswydd ar gyd-bwyllgorau corfforedig i fabwysiadu rheolau sefydlog mewn perthynas â chontractau. Mae hyn yn cyfateb i adran 135 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 sy’n gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaethau amrywiol a chanlyniadol. Mae hyn yn cynnwys diwygio swyddogaethau is-bwyllgorau llywodraethu ac archwilio fel y’u nodir yn y rheoliadau sy’n sefydlu pob un o’r pedwar cyd-bwyllgor corfforedig presennol.

Gellir cael copi o’r asesiad effaith rheoleiddiol sy’n ymwneud â sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources