Search Legislation

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023 a daw i rym ar 1 Ebrill 2023.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “absenoldeb salwch” (“sickness absence”) yw absenoldeb gweithiwr amaethyddol o’r gwaith oherwydd analluedd yn sgil—

(a)

unrhyw salwch a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol,

(b)

salwch neu analluedd a achosir am fod y gweithiwr amaethyddol yn feichiog neu a ddioddefir o ganlyniad i eni plentyn,

(c)

anaf sy’n digwydd i’r gweithiwr amaethyddol yn ei le gwaith,

(d)

anaf sy’n digwydd i’r gweithiwr amaethyddol wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith,

(e)

amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth a achoswyd gan salwch, neu

(f)

amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth o ganlyniad i anaf a ddioddefwyd yn ei le gwaith neu anaf a ddioddefwyd wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith,

ond nid yw’n cynnwys unrhyw anaf a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol pan na fo yn ei le gwaith nac unrhyw anaf a ddioddefir pan na fo’r gweithiwr amaethyddol yn teithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith;

mae “amaethyddiaeth” (“agriculture”) yn cynnwys—

(a)

ffermio gwartheg godro;

(b)

cynhyrchu unrhyw gynnyrch defnyddiadwy at ddibenion masnach neu fusnes neu unrhyw fenter arall (pa un a wneir hynny i wneud elw ai peidio);

(c)

defnyddio tir fel tir pori, gweirglodd neu ddoldir;

(d)

defnyddio tir ar gyfer perllannau, tir helyg gwiail neu goetir;

(e)

defnyddio tir ar gyfer gerddi marchnad neu blanhigfeydd;

ystyr “amser gweithio” (“workingtime”) yw unrhyw gyfnod pryd y mae gweithiwr amaethyddol yn gweithio yng ngwasanaeth ei gyflogwr ac yn cyflawni ei weithgareddau neu ei ddyletswyddau yn unol â naill ai ei gontract neu ei brentisiaeth ac mae’n cynnwys—

(a)

unrhyw gyfnod pryd y mae gweithiwr amaethyddol yn derbyn hyfforddiant perthnasol,

(b)

unrhyw gyfnod a dreulir gan weithiwr amaethyddol yn teithio at ddibenion ei gyflogaeth ond nad yw’n cynnwys amser a dreulir yn teithio rhwng ei gartref a’i le gwaith,

(c)

unrhyw gyfnod y mae gweithiwr amaethyddol yn cael ei rwystro rhag cyflawni gweithgareddau neu ddyletswyddau yn unol â’i gontract neu ei brentisiaeth oherwydd tywydd drwg, a

(d)

unrhyw gyfnod ychwanegol y mae’r cyflogwr a’r gweithiwr amaethyddol yn cytuno ei fod i’w drin fel amser gweithio,

ac mae cyfeiriadau at “gwaith” (“work”) i’w dehongli yn unol â hyn;

ystyr “ar alwad” (“on-call”) yw trefniant ffurfiol rhwng y gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr pan fo gweithiwr amaethyddol nad yw yn y gwaith yn cytuno â’i gyflogwr y bydd modd cysylltu ag ef drwy gyfrwng y cytunir arno ac y gall gyrraedd y fan lle y gall fod yn ofynnol iddo weithio o fewn amser y cytunir arno;

ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw unigolion sydd wedi eu cymryd ymlaen fel cyflogeion, gweithwyr, gweithwyr asiantaeth a gweithwyr a gyflogir gan feistri gangiau ac mae “a gyflogir” (“employed”) a “cyflogwr” (“employer”) i’w dehongli yn unol â hynny;

ystyr “cynnyrch defnyddiadwy” (“consumable produce”) yw cynnyrch a dyfir i’w fwyta ac i’w yfed neu i’w ddefnyddio fel arall ar ôl iddo adael y tir lle cafodd ei dyfu;

ystyr “diwrnodau cymwys” (“qualifyingdays) yw diwrnodau pan fyddai’n ofynnol fel arfer i’r gweithiwr amaethyddol fod ar gael i weithio gan gynnwys diwrnodau pan oedd y gweithiwr amaethyddol—

(a)

yn cymryd gwyliau blynyddol,

(b)

yn cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth,

(c)

yn cymryd absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, rhiant a rennir neu fabwysiadu statudol, neu

(d)

ar gyfnod o absenoldeb salwch;

ystyr “fframwaith prentisiaethau” (“apprenticeship framework”) yw unrhyw un neu ragor o’r Fframweithiau Prentisiaethau cyfredol ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lantra(1) ar y dyddiad neu cyn y dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym, neu fersiynau blaenorol o’r Fframweithiau Prentisiaethau ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lantra;

ystyr “goramser” (“overtime”) yw—

(a)

mewn perthynas â gweithiwr amaethyddol a ddechreuodd ei gyflogaeth cyn 1 Hydref 2006, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—

(i)

yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr,

(ii)

yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yn ei gontract,

(iii)

ar ŵyl gyhoeddus,

(iv)

ar ddydd Sul, neu

(v)

mewn unrhyw gyfnod sy’n cychwyn ar ddydd Sul ac yn parhau hyd y dydd Llun canlynol hyd at yr amser y byddai’r gweithiwr hwnnw yn cychwyn ei ddiwrnod gwaith fel arfer;

(b)

mewn perthynas â phob gweithiwr amaethyddol arall, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—

(i)

yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr,

(ii)

yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yn ei gontract, neu

(iii)

ar ŵyl gyhoeddus;

ystyr “goramser gwarantedig” (“guaranteed overtime”) yw goramser y mae’n ofynnol i weithiwr amaethyddol ei weithio o dan naill ai ei gontract neu ei brentisiaeth ac y mae cyflogwr y gweithiwr amaethyddol yn gwarantu taliad ar ei gyfer, pa un a oes gwaith i’r gweithiwr amaethyddol ei wneud ai peidio;

ystyr “grant geni a mabwysiadu” (“birth and adoption grant”) yw taliad y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael oddi wrth ei gyflogwr pan enir plentyn iddo neu pan fydd yn mabwysiadu plentyn ac mae’n daladwy—

(a)

pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi rhoi copi i’w gyflogwr o Dystysgrif Geni’r plentyn neu ei Orchymyn Mabwysiadu (sy’n enwi’r gweithiwr fel rhiant y plentyn neu ei riant mabwysiadol) o fewn 3 mis ar ôl geni neu fabwysiadu’r plentyn, a

(b)

o dan amgylchiadau pan fo’r ddau riant neu’r ddau riant mabwysiadol yn weithwyr amaethyddol gyda’r un cyflogwr, i’r ddau weithiwr amaethyddol;

ystyr “gwaith allbwn” (“outputwork”) yw gwaith sydd, at ddibenion tâl, yn cael ei fesur yn ôl nifer y darnau a wneir neu a brosesir neu nifer y tasgau a gyflawnir gan weithiwr amaethyddol;

ystyr “gwaith nos” (“night work”) yw gwaith (heblaw oriau goramser) a wneir gan weithiwr amaethyddol rhwng 7 p.m. un noson a 6 a.m. fore trannoeth, ond heb gynnwys y ddwy awr gyntaf o waith y mae gweithiwr amaethyddol yn ei wneud yn y cyfnod hwnnw;

ystyr “gweithiwr amaethyddol” (“agricultural worker”) yw person a gyflogir ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru, pa un a yw’r holl waith yr ymgymerir ag ef yn rhinwedd y gyflogaeth honno yn cael ei wneud yng Nghymru ai peidio;

mae i’r “isafswm cyflog cenedlaethol” (“the national minimum wage”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 10 o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014(2);

mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsoryschoolage” yn adran 8 o Ddeddf Addysg 1996(3);

mae “oriau” (“hours”) yn cynnwys ffracsiwn o awr;

ystyr “oriau sylfaenol” (“basichours”) yw 39 awr o waith yr wythnos, heb gynnwys goramser, a weithir yn unol â naill ai contract gweithiwr amaethyddol neu brentisiaeth;

ystyr “panel” (“panel”) yw Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru;

ystyr “plentyn” (“child”) yw unigolyn o dan 18 oed (gan gynnwys baban sy’n farw-anedig ar ôl 24 o wythnosau o feichiogrwydd). Bydd plentyn yn blentyn i weithiwr amaethyddol:

(a)

os y gweithiwr amaethyddol yw rhiant (gan gynnwys rhiant mabwysiadol) neu riant maeth y plentyn;

(b)

os lleolwyd y plentyn ar gyfer ei fabwysiadu gyda’r gweithiwr amaethyddol (pa un ai gan asiantaeth fabwysiadu yn y DU, neu o dramor);

(c)

os y gweithiwr amaethyddol yw ei riant bwriadedig o dan drefniant benthyg croth;

(d)

os y gweithiwr amaethyddol yw rhiant naturiol plentyn sydd wedi ei fabwysiadu ers hynny gan rywun arall, a bod gorchymyn llys sy’n caniatáu i’r gweithiwr amaethyddol neu bartner y gweithiwr amaethyddol ddod i gysylltiad â’r plentyn;

(e)

os yw’r gweithiwr amaethyddol yn gofalu am y plentyn yn ei gartref ei hun, ac eithrio fel gofalwr a delir, a’i fod wedi gwneud hynny am o leiaf bedair wythnos;

(f)

os yw’r gweithiwr amaethyddol yn bartner i unigolyn yn unrhyw un neu ragor o’r categorïau a nodir yn (a) i (e) uchod. Ystyr “partner” yw person sy’n byw gyda pherson arall a’r plentyn mewn perthynas deuluol barhaus, ac nad yw’n rhiant (gan gynnwys rhieni mabwysiadol), nain neu daid, brawd neu chwaer (gan gynnwys hanner brawd a hanner chwaer), modryb neu ewythr (gan gynnwys hanner modrybedd a hanner ewythrod) i’r unigolyn;

ystyr “teithio” (“travelling”) yw siwrnai drwy gyfrwng dull teithio neu siwrnai ar droed yn cynnwys—

(a)

aros wrth fan ymadael i gychwyn siwrnai drwy gyfrwng dull teithio,

(b)

aros wrth fan ymadael i siwrnai ailgychwyn naill ai drwy gyfrwng yr un dull teithio neu drwy gyfrwng un arall, ac eithrio unrhyw amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn cymryd seibiant gorffwys, ac

(c)

aros ar ddiwedd siwrnai i gyflawni dyletswyddau, neu i dderbyn hyfforddiant, ac eithrio unrhyw amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn cymryd seibiant gorffwys.

(2Yn yr erthygl hon mae’r cyfeiriad at weithwyr amaethyddol a ddechreuodd eu cyflogaeth cyn 1 Hydref 2006 yn cynnwys gweithwyr amaethyddol—

(a)y mae telerau eu contract wedi bod yn destun unrhyw amrywiad ers hynny; neu

(b)sydd wedi eu cyflogi gan gyflogwr newydd ers hynny yn unol â Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006(4).

(3Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at gyfnod o gyflogaeth ddi-dor i’w dehongli fel cyfnod o gyflogaeth ddi-dor a gyfrifir yn unol ag adrannau 210 i 219 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(5).

RHAN 2Gweithwyr amaethyddol

Telerau ac amodau cyflogaeth

3.  Mae cyflogaeth gweithiwr amaethyddol yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a nodir yn y Rhan hon ac yn Rhannau 3, 4 a 5 o’r Gorchymyn hwn.

Graddau a chategorïau gweithiwr amaethyddol

4.  Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei gyflogi fel gweithiwr ar un o’r Graddau a bennir yn erthyglau 5 i 9 neu fel prentis yn unol â’r darpariaethau yn erthygl 10.

Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A

5.  Rhaid i weithiwr amaethyddol—

(a)sydd â llai na 3 blynedd o brofiad ymarferol sy’n berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, a

(b)na all ddarparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 2 sy’n berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 2 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Atodlen 4, sy’n berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth,

gael ei gyflogi fel Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A.

Gweithiwr Amaethyddol Gradd B

6.  Rhaid i weithiwr amaethyddol—

(a)sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 2, y mae rhaid iddynt fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 2 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Atodlen 4, y mae rhaid iddi fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, neu

(b)sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad ymarferol mewn amaethyddiaeth fel Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A,

gael ei gyflogi fel Gweithiwr Amaethyddol Gradd B.

Gweithiwr Amaethyddol Uwch Gradd C

7.—(1Rhaid i weithiwr amaethyddol—

(a)sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 3, y mae rhaid iddynt fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 3 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Atodlen 4, y mae rhaid iddi fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth,

(b)sydd ag o leiaf 2 flynedd o brofiad ymarferol mewn amaethyddiaeth fel Gweithiwr Amaethyddol Gradd B, neu

(c)sydd wedi ei gyflogi fel arweinydd tîm,

gael ei gyflogi fel Gweithiwr Amaethyddol Uwch Gradd C.

(2At ddibenion yr erthygl hon, mae “arweinydd tîm” yn gyfrifol am arwain tîm o weithwyr amaethyddol ac am fonitro sut mae’r tîm yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan neu ar ran eu cyflogwr ond nid yw’n gyfrifol am faterion disgyblu.

Uwch-weithiwr Amaethyddol Gradd D

8.  Rhaid i weithiwr amaethyddol—

(a)sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 4, y mae rhaid iddynt fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 4 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Atodlen 4, y mae rhaid iddi fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, neu

(b)sydd â chyfrifoldebau sy’n cynnwys gweithredu penderfyniadau rheoli yn annibynnol neu oruchwylio staff,

gael ei gyflogi fel Uwch-weithiwr Amaethyddol Gradd D.

Rheolwr Amaethyddol Gradd E

9.  Rhaid i weithiwr amaethyddol y mae’n ofynnol iddo ysgwyddo cyfrifoldeb o ddydd i ddydd, gan gynnwys hurio a rheoli staff pan fo’n berthnasol—

(a)dros ddaliad cyfan y cyflogwr, neu

(b)dros ran o ddaliad y cyflogwr a redir fel gweithrediad neu fusnes ar wahân,

gael ei gyflogi fel Rheolwr Amaethyddol Gradd E.

Prentisiaid

10.—(1Mae gweithiwr amaethyddol yn brentis sydd wedi ei gyflogi o dan brentisiaeth os yw’n cael ei gyflogi o dan naill ai contract prentisiaeth neu gytundeb prentisiaeth o fewn ystyr “apprenticeship agreement” yn adran 32 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(6), neu’n cael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth.

(2Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth os yw wedi ei gymryd ymlaen yng Nghymru o dan drefniadau Llywodraeth o’r enw Prentisiaethau Sylfaen, Prentisiaethau neu Brentisiaethau Uwch.

(3Yn yr erthygl hon ystyr “trefniadau Llywodraeth” yw trefniadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(7) neu o dan adran 17B o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(8).

RHAN 3Yr isafswm cyflog amaethyddol

Cyfraddau tâl isaf

11.—(1Yn ddarostyngedig i weithrediad adran 1 o Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998(9), rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â’u gwaith yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol.

(2Yr isafswm cyflog amaethyddol yw’r gyfradd isaf fesul awr a bennir yn y Tabl yn Atodlen 1 fel y gyfradd sy’n gymwys i bob gradd o weithiwr amaethyddol ac i brentisiaid.

Cyfraddau tâl isaf am oramser

12.  Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â goramser a weithir yn ôl cyfradd sy’n cyfateb i o leiaf 1.5 gwaith y gyfradd tâl isaf fesul awr a ragnodir yn erthygl 11 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 1 iddo fel y gyfradd sy’n gymwys i’r radd honno neu i’r categori hwnnw o weithiwr amaethyddol.

Cyfraddau tâl isaf am waith allbwn

13.  Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â gwaith allbwn yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol a bennir yn erthygl 11 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 1 iddo sy’n gymwys i’w radd neu i’w gategori.

Diogelu tâl

14.  Rhaid i dâl gweithwyr amaethyddol a gyflogwyd cyn 22 Ebrill 2022 a ddioddefodd ostyngiad yn eu cyfradd isaf fesul awr o ganlyniad i’w cymathu i radd neu gategori is neu gyfradd tâl isaf is fel y’u pennir yn y Tabl yn Atodlen 1 i Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022 barhau i gael ei ddiogelu fel bod eu cyfradd tâl o leiaf yn gyfwerth â’r gyfradd tâl yr oeddent yn ei chael ar 21 Ebrill 2022.

Lwfans gwrthbwyso llety

15.—(1Pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu tŷ i weithiwr amaethyddol am y cyfan o’r wythnos honno, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £1.65 yr wythnos oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy ar gyfer yr wythnos honno.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu llety arall i weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £5.29 y dydd oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy am bob diwrnod yn yr wythnos y darperir y llety arall i’r gweithiwr.

(3At ddibenion paragraffau (1) a (4), ystyr “tŷ” yw tŷ annedd cyfan neu lety hunangynhwysol (gan gynnwys unrhyw ardd o fewn cwrtil y tŷ annedd neu’r llety hunangynhwysol hwnnw) y mae’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol fyw ynddo yn rhinwedd contract y gweithiwr amaethyddol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau mewn modd priodol neu well.

(4At ddibenion paragraff (2) ystyr “llety arall” yw unrhyw lety byw heblaw tŷ—

(a)sy’n addas i bobl fyw ynddo,

(b)sy’n ddiogel ac yn ddiddos,

(c)sy’n darparu gwely i’w ddefnyddio gan bob gweithiwr amaethyddol unigol yn unig, a

(d)sy’n darparu dŵr yfed glân, cyfleusterau glanweithdra addas a digonol a chyfleusterau ymolchi i weithwyr amaethyddol yn unol â rheoliadau 20 i 22 o Reoliadau Gweithleoedd (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992(10) fel pe bai’r llety’n weithle yr oedd rheoliadau 20 i 22 o’r Rheoliadau hynny’n gymwys iddo.

(5Dim ond pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi gweithio o leiaf 15 awr yn ystod yr wythnos honno y caniateir i’r didyniad ym mharagraff (2) gael ei wneud.

(6Rhaid i unrhyw amser yn ystod yr wythnos honno pan fo’r gweithiwr amaethyddol ar wyliau blynyddol neu absenoldeb oherwydd profedigaeth gyfrif tuag at y 15 awr hynny.

Taliadau nad ydynt yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol

16.  Nid yw’r lwfansau a’r taliadau a ganlyn yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol—

(a)lwfans cŵn o £9.36 y ci i’w dalu’n wythnosol pan fo’i gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i weithiwr amaethyddol gadw un neu ragor o gŵn,

(b)lwfans ar alwad o swm sy’n cyfateb i dair gwaith cyfradd fesul awr y gweithiwr amaethyddol yn ôl ei radd. Mae’r lwfans ar alwad yn daladwy mewn cysylltiad â phob cyfnod y mae’r gweithiwr amaethyddol ar alwad. Ni chaiff cyfnod trefniant ar alwad fod yn hwy na 24 awr,

(c)lwfans gwaith nos o £1.78 am bob awr o waith nos, a

(d)grant geni a mabwysiadu o £73.60 am bob plentyn.

Costau hyfforddi

17.—(1Pan fo gweithiwr amaethyddol yn mynd ar gwrs hyfforddi gyda chytundeb ei gyflogwr ymlaen llaw, rhaid i’r cyflogwr dalu—

(a)unrhyw ffioedd am y cwrs, a

(b)unrhyw gostau teithio a llety a ysgwyddir gan y gweithiwr amaethyddol wrth fynd ar y cwrs.

(2Bernir bod gweithiwr amaethyddol sydd wedi ei gyflogi’n ddi-dor ar Radd A gan yr un cyflogwr am ddim llai na 30 wythnos wedi cael cymeradwyaeth ei gyflogwr i ymgymryd â hyfforddiant gyda golwg ar sicrhau’r cymwysterau angenrheidiol y mae’n ofynnol i weithiwr Radd B feddu arnynt.

(3Y cyflogwr sydd i dalu am unrhyw hyfforddiant y mae gweithiwr amaethyddol yn ymgymryd ag ef yn unol â pharagraff (2).

RHAN 4Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol

Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol

18.  Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau yn y Rhan hon, mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol gan ei gyflogwr mewn cysylltiad â’i absenoldeb salwch.

Amodau cymhwyso ar gyfer tâl salwch amaethyddol

19.  Mae gweithiwr amaethyddol yn cymhwyso ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn ar yr amod bod y gweithiwr amaethyddol—

(a)wedi cael ei gyflogi’n ddi-dor gan ei gyflogwr am gyfnod o 52 o wythnosau o leiaf cyn yr absenoldeb salwch;

(b)wedi hysbysu ei gyflogwr am yr absenoldeb salwch mewn ffordd a gytunwyd yn flaenorol gyda’i gyflogwr neu, yn niffyg unrhyw gytundeb o’r fath, drwy unrhyw ddull rhesymol;

(c)o dan amgylchiadau pan fo’r absenoldeb salwch wedi parhau am gyfnod o 8 diwrnod yn olynol neu ragor, wedi darparu tystysgrif i’w gyflogwr gan ymarferydd meddygol cofrestredig sy’n datgelu’r diagnosis ynghylch anhwylder meddygol y gweithiwr ac sy’n datgan mai’r anhwylder sydd wedi achosi absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol.

Cyfnodau absenoldeb salwch

20.  Rhaid i unrhyw 2 gyfnod o salwch sydd â chyfnod o ddim mwy na 14 o ddiwrnodau rhyngddynt gael eu trin fel un cyfnod o absenoldeb salwch.

Cyfyngiadau ar yr hawl i dâl salwch amaethyddol

21.—(1Ni fydd tâl salwch amaethyddol yn daladwy am y 3 diwrnod cyntaf o absenoldeb salwch o dan amgylchiadau pan fo hyd yr absenoldeb salwch yn llai na 14 o ddiwrnodau.

(2Yn ystod pob cyfnod hawl, uchafswm nifer yr wythnosau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol ar eu cyfer yw—

(a)13 o wythnosau yn ail flwyddyn y gyflogaeth;

(b)16 o wythnosau yn nhrydedd flwyddyn y gyflogaeth;

(c)19 o wythnosau ym mhedwaredd flwyddyn y gyflogaeth;

(d)22 o wythnosau ym mhumed flwyddyn y gyflogaeth;

(e)26 o wythnosau yn chweched flwyddyn a phob blwyddyn olynol y gyflogaeth.

(3Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer penodedig o ddiwrnodau bob wythnos, cyfrifir uchafswm nifer y diwrnodau o dâl salwch amaethyddol y mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w cael drwy luosi uchafswm nifer yr wythnosau sy’n berthnasol i’r gweithiwr amaethyddol â nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos.

(4Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer amrywiol o ddiwrnodau bob wythnos, cyfrifir uchafswm nifer y diwrnodau o dâl salwch amaethyddol y mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w cael drwy luosi uchafswm nifer yr wythnosau sy’n berthnasol i’r gweithiwr hwnnw â nifer y diwrnodau perthnasol.

(5Cyfrifir nifer y diwrnodau perthnasol drwy rannu nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd yn ystod y cyfnod o 12 mis yn arwain at gyfnod yr absenoldeb salwch â 52.

(6Mae uchafswm hawl gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol yn gymwys pa faint bynnag o gyfnodau o absenoldeb salwch a geir yn ystod unrhyw gyfnod hawl.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), yn yr erthygl hon, “cyfnod hawl” yw cyfnod sy’n dechrau â chychwyn absenoldeb salwch ac sy’n dod i ben 12 mis yn ddiweddarach.

(8Os yw’r gweithiwr amaethyddol yn cael cyfnod o absenoldeb salwch sy’n cychwyn unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hawl a ddisgrifir ym mharagraff (7), ond sy’n parhau y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod hawl hwnnw, rhaid estyn y cyfnod hawl fel y bo’n dod i ben â pha un bynnag o’r canlynol sy’n digwydd gyntaf—

(a)y dyddiad y mae absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol yn dod i ben ac y mae’r gweithiwr amaethyddol yn dychwelyd i’r gwaith, neu

(b)y diwrnod y mae’r gweithiwr amaethyddol yn cyrraedd uchafswm yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol sy’n gymwys i’r cyfnod o 12 mis y cyfeirir ato ym mharagraff (7) (pe na bai hwnnw wedi ei estyn).

Pennu swm tâl salwch amaethyddol

22.—(1Mae tâl salwch amaethyddol yn daladwy yn ôl cyfradd sy’n cyfateb i o leiaf y gyfradd tâl isaf fesul awr a ragnodir yn erthygl 11 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 1 iddo fel y gyfradd sy’n gymwys i’r radd honno neu’r categori hwnnw o weithiwr amaethyddol.

(2Pennir swm y tâl salwch amaethyddol sy’n daladwy i weithiwr amaethyddol drwy gyfrifo nifer yr oriau contract dyddiol a fyddai wedi cael eu gweithio yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch.

(3Pennir nifer yr oriau contract dyddiol—

(a)o dan amgylchiadau pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio nifer penodedig o oriau bob wythnos drwy rannu cyfanswm nifer yr oriau a weithiwyd yn ystod unrhyw wythnos â nifer y diwrnodau a weithiwyd yn yr wythnos honno;

(b)o dan amgylchiadau pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio nifer amrywiol o oriau bob wythnos, drwy ddefnyddio’r fformwla—

fformiwla

pan fo, at ddibenion yr erthygl hon—

  • QH yn gyfanswm nifer yr oriau cymwys yn y cyfnod, a

  • DWEW yn nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol o’u cymryd ar gyfartaledd yn ystod cyfnod o 8 wythnos yn union cyn i’r absenoldeb salwch gychwyn.

(4Yn yr erthygl hon “oriau cymwys” yw oriau—

(a)pan fu’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu oramser gwarantedig,

(b)pan gymerodd y gweithiwr amaethyddol wyliau blynyddol neu absenoldeb oherwydd profedigaeth,

(c)pan gafodd y gweithiwr amaethyddol absenoldeb salwch a oedd yn gymwys ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn, neu

(d)pan gafodd y gweithiwr amaethyddol absenoldeb salwch nad oedd yn gymwys ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn, a

“diwrnodau cymwys” yw unrhyw ddiwrnodau o fewn y cyfnod y cafwyd ynddynt oriau cymwys mewn perthynas â’r gweithiwr amaethyddol.

(5At ddibenion cyfrifiadau o dan yr erthygl hon, pan fo gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan ei gyflogwr am lai nag 8 wythnos, rhaid ystyried yr oriau cymwys a’r diwrnodau cymwys yn ystod y gwir nifer o wythnosau y mae’r gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan ei gyflogwr.

Tâl salwch amaethyddol i gymryd tâl salwch statudol i ystyriaeth

23.  Caniateir i swm sy’n hafal i unrhyw daliad tâl salwch statudol a wneir yn unol â Rhan XI o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(11) mewn cysylltiad â chyfnod absenoldeb salwch gweithiwr amaethyddol gael ei dynnu oddi ar dâl salwch amaethyddol y gweithiwr hwnnw.

Talu tâl salwch amaethyddol

24.  Rhaid i dâl salwch amaethyddol gael ei dalu i’r gweithiwr amaethyddol ar ei ddiwrnod cyflog arferol yn unol â naill ai ei gontract neu ei brentisiaeth.

Cyflogaeth yn dod i ben yn ystod absenoldeb salwch

25.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os terfynir naill ai contract gweithiwr amaethyddol neu ei brentisiaeth yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch neu os rhoddir hysbysiad i’r gweithiwr amaethyddol fod naill ai ei gontract neu ei brentisiaeth i gael ei derfynu neu ei therfynu, mae unrhyw hawl sydd gan y gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol yn parhau ar ôl i’r contract hwnnw ddod i ben fel pe bai’r gweithiwr amaethyddol yn dal yn cael ei gyflogi gan ei gyflogwr, hyd nes i un o’r canlynol ddigwydd—

(a)bod absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol yn dod i ben,

(b)bod y gweithiwr amaethyddol yn dechrau gweithio i gyflogwr arall, neu

(c)bod uchafswm yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol yn unol ag erthygl 21 yn cael ei ddihysbyddu.

(2Nid oes gan weithiwr amaethyddol y terfynwyd ei gontract hawl i gael unrhyw dâl salwch amaethyddol ar ôl diwedd ei gyflogaeth yn unol â pharagraff (1) os rhoddwyd hysbysiad i’r gweithiwr amaethyddol fod ei gyflogwr yn bwriadu terfynu ei gontract neu ei brentisiaeth cyn i’r cyfnod o absenoldeb salwch gychwyn.

Gordalu tâl salwch amaethyddol

26.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (2), os caiff gweithiwr amaethyddol sydd â hawl i gael tâl salwch amaethyddol o dan y Rhan hon daliad am fwy o dâl salwch amaethyddol na’i hawl, gall ei gyflogwr adennill gordaliad y tâl salwch amaethyddol hwnnw drwy ei dynnu oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol hwnnw.

(2Os tynnir gordaliad tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn fel y’i crybwyllir ym mharagraff (1), ni chaiff y cyflogwr dynnu mwy nag 20% o gyflog gros y gweithiwr amaethyddol oni bai bod hysbysiad wedi ei roi i derfynu’r gyflogaeth neu fod y gyflogaeth eisoes wedi ei therfynu pryd y caniateir i fwy nag 20% o gyflog gros y gweithiwr amaethyddol gael ei dynnu gan y cyflogwr oddi ar daliad cyflog olaf y gweithiwr.

Iawndal a adenillir yn sgil colli enillion

27.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i weithiwr amaethyddol y mae ei hawl i gael tâl salwch amaethyddol yn codi oherwydd gweithred neu anweithred person heblaw ei gyflogwr ac mae’r iawndal yn cael ei adennill gan y gweithiwr amaethyddol mewn cysylltiad â cholled enillion a ddioddefir yn ystod y cyfnod y cafodd y gweithiwr amaethyddol dâl salwch amaethyddol gan ei gyflogwr ar ei gyfer.

(2Pan fo paragraff (1) yn gymwys—

(a)rhaid i’r gweithiwr amaethyddol roi gwybod ar unwaith i’w gyflogwr am yr holl amgylchiadau perthnasol ac am unrhyw hawliad ac am unrhyw iawndal a adenillwyd o dan unrhyw gyfaddawd, setliad neu ddyfarniad,

(b)rhaid i’r holl dâl salwch amaethyddol a dalwyd gan y cyflogwr i’r gweithiwr amaethyddol hwnnw mewn cysylltiad â’r absenoldeb salwch yr adenillir iawndal am golli enillion ar ei gyfer fod yn gyfystyr â benthyciad i’r gweithiwr, ac

(c)rhaid i’r gweithiwr amaethyddol ad-dalu i’w gyflogwr swm nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(i)swm yr iawndal a adenillwyd am golli enillion yn y cyfnod y talwyd tâl salwch amaethyddol ar ei gyfer, a

(ii)y symiau a roddwyd i’r gweithiwr amaethyddol gan ei gyflogwr o dan y Rhan hon ar ffurf tâl salwch amaethyddol.

RHAN 5Yr hawl i gael amser i ffwrdd

Seibiannau gorffwys

28.—(1Mae gan weithiwr amaethyddol sy’n 18 oed neu’n hŷn ac sydd â’i amser gweithio dyddiol yn fwy na 5 awr a hanner hawl i gael seibiant gorffwys.

(2Mae gan weithiwr amaethyddol sydd o dan 18 oed ac sydd â’i amser gweithio dyddiol yn fwy na 4 awr a hanner hawl i gael seibiant gorffwys.

(3Mae’r seibiant gorffwys y darperir ar ei gyfer ym mharagraffau (1) a (2) yn gyfnod di-dor o ddim llai na 30 munud ac mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w dreulio i ffwrdd o’i weithfan (os oes ganddo un) neu ei le gwaith arall.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), nid yw’r darpariaethau ynglŷn â seibiannau gorffwys a bennir ym mharagraffau (1), (2) a (3) yn gymwys i weithiwr amaethyddol—

(a)pan nad yw cyfnod ei amser gweithio yn cael ei fesur neu ei bennu ymlaen llaw oherwydd nodweddion penodol y gweithgaredd y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei gyflawni,

(b)pan fo gweithgareddau’r gweithiwr amaethyddol yn golygu bod angen parhad mewn gwasanaeth neu mewn cynhyrchu,

(c)pan geir ymchwydd gweithgarwch rhagweladwy,

(d)pan effeithir ar weithgareddau’r gweithiwr amaethyddol—

(i)gan ddigwyddiad oherwydd amgylchiadau anarferol nad ydynt yn rhagweladwy, y tu hwnt i reolaeth ei gyflogwr,

(ii)gan ddigwyddiadau eithriadol, nad oedd modd osgoi eu canlyniadau er i’r cyflogwr arfer pob gofal dyladwy, neu

(iii)gan ddamwain neu’r risg bod damwain ar fin digwydd, neu

(e)pan fo’r cyflogwr a’r gweithiwr amaethyddol yn cytuno i addasu paragraffau (1), (2) a (3) neu i’w hatal rhag bod yn gymwys yn y modd ac i’r graddau a ganiateir gan neu o dan Reoliadau Amser Gwaith 1998(12).

(5Pan fo paragraff (4) yn gymwys a bod ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio yn unol â hynny yn ystod cyfnod a fyddai fel arall yn seibiant gorffwys—

(a)rhaid i’r cyflogwr, oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, ganiatáu i’r gweithiwr amaethyddol gymryd cyfnod cyfatebol o seibiant yn ei le, a

(b)mewn achosion eithriadol pan nad yw, am resymau gwrthrychol, yn bosibl caniatáu cyfnod gorffwys o’r fath, rhaid i gyflogwr y gweithiwr amaethyddol gynnig iddo unrhyw amddiffyniad sy’n briodol i warchod iechyd a diogelwch y gweithiwr amaethyddol.

(6Os cyflogir gweithiwr amaethyddol sydd o dan 18 oed, ar unrhyw ddiwrnod, gan fwy nag un cyflogwr, pennir ei amser gweithio dyddiol at ddibenion paragraff (2) drwy gyfuno nifer yr oriau a weithir ganddo i bob cyflogwr.

Gorffwys dyddiol

29.—(1Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gyfnod gorffwys o ddim llai nag un ar ddeg o oriau yn olynol ym mhob cyfnod o 24 awr pan fo’n gweithio i’w gyflogwr.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae gan weithiwr amaethyddol sydd o dan 18 oed hawl i gyfnod gorffwys o ddim llai na deuddeng awr yn olynol ym mhob cyfnod o 24 awr pan fo’n gweithio i’w gyflogwr.

(3Caniateir torri ar draws yr isafswm cyfnod gorffwys y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (8) yn achos gweithgareddau sy’n ymwneud â chyfnodau gwaith sydd wedi eu rhannu dros y diwrnod neu sy’n para am gyfnod byr.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), nid yw’r darpariaethau sy’n ymwneud â gorffwys dyddiol a bennir ym mharagraffau (1), (2) a (3) yn gymwys i weithiwr amaethyddol—

(a)pan nad yw cyfnod ei amser gweithio yn cael ei fesur neu ei bennu ymlaen llaw oherwydd nodweddion penodol y gweithgaredd y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei gyflawni,

(b)pan fo gweithgareddau’r gweithiwr amaethyddol yn golygu bod angen parhad mewn gwasanaeth neu mewn cynhyrchu,

(c)pan geir ymchwydd gweithgarwch rhagweladwy,

(d)pan effeithir ar weithgareddau’r gweithiwr amaethyddol—

(i)gan ddigwyddiad oherwydd amgylchiadau anarferol nad ydynt yn rhagweladwy, y tu hwnt i reolaeth ei gyflogwr,

(ii)gan ddigwyddiadau eithriadol, nad oedd modd osgoi eu canlyniadau er i’r cyflogwr arfer pob gofal dyladwy, neu

(iii)gan ddamwain neu’r risg bod damwain ar fin digwydd, neu

(e)pan fo’r cyflogwr a’r gweithiwr amaethyddol yn cytuno i addasu paragraffau (1), (2) a (3) neu i’w hatal rhag bod yn gymwys yn y modd ac i’r graddau a ganiateir gan neu o dan Reoliadau Amser Gwaith 1998(13).

(5Pan fo paragraff (4) yn gymwys a bod ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio yn unol â hynny yn ystod cyfnod a fyddai fel arall yn seibiant gorffwys dyddiol—

(a)rhaid i’r cyflogwr, oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, ganiatáu i’r gweithiwr amaethyddol gymryd cyfnod cyfatebol o seibiant yn ei le, a

(b)mewn achosion eithriadol pan nad yw, am resymau gwrthrychol, yn bosibl caniatáu cyfnod gorffwys o’r fath, rhaid i gyflogwr y gweithiwr amaethyddol gynnig iddo unrhyw amddiffyniad sy’n briodol i warchod iechyd a diogelwch y gweithiwr amaethyddol.

Cyfnod gorffwys wythnosol

30.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gyfnod gorffwys di-dor o ddim llai na 24 awr ym mhob cyfnod o saith niwrnod pan fo’n gweithio i’w gyflogwr.

(2Os yw ei gyflogwr yn penderfynu hynny, bydd gan y gweithiwr amaethyddol hawl i naill ai—

(a)dau gyfnod gorffwys di-dor o ddim llai na 24 awr yr un ym mhob cyfnod o 14 o ddiwrnodau pan fo’n gweithio i’w gyflogwr, neu

(b)un cyfnod gorffwys di-dor o ddim llai na 48 awr ym mhob cyfnod o 14 o ddiwrnodau o’r fath, yn lle’r hawlogaeth y darperir ar ei chyfer ym mharagraff (10).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae gan weithiwr amaethyddol sydd o dan 18 oed hawl i gyfnod gorffwys o ddim llai na 48 awr ym mhob cyfnod o saith niwrnod pan fo’n gweithio i’w gyflogwr.

(4At ddibenion paragraffau (1) i (3), cymerir bod cyfnod o saith niwrnod neu (yn ôl y digwydd) gyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dechrau—

(a)ar ddechrau pob wythnos neu (yn ôl y digwydd) bob yn ail wythnos;

(b)ar yr adegau hynny ar y diwrnodau hynny y darperir ar eu cyfer drwy gytundeb rhwng y gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr.

(5Mewn achos pan gymerir, yn unol â pharagraff (4), bod cyfnodau o 14 o ddiwrnodau yn dechrau ar ddechrau pob yn ail wythnos, cymerir bod y cyfnod cyntaf o’r fath sy’n gymwys yn achos gweithiwr amaethyddol penodol yn dechrau ar ddechrau’r wythnos y mae’r gyflogaeth honno’n dechrau.

(6At ddibenion paragraffau (4) a (5), mae wythnos yn dechrau am hanner nos rhwng dydd Sul a dydd Llun.

(7Ni chaiff yr isafswm cyfnod gorffwys y mae gan weithiwr amaethyddol hawl iddo o dan baragraff (1) neu (2) gynnwys unrhyw ran o gyfnod gorffwys y mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl iddo o dan erthygl 29(1), ac eithrio pan fo cyfiawnhad dros hynny am resymau technegol neu wrthrychol neu am resymau sy’n ymwneud â threfnu gwaith.

(8O ran yr isafswm cyfnod gorffwys y mae gan weithiwr amaethyddol sydd o dan 18 oed hawl iddo o dan baragraff (3)—

(a)caniateir torri ar ei draws yn achos gweithgareddau sy’n ymwneud â chyfnodau gwaith sydd wedi eu rhannu dros y diwrnod neu sy’n para am gyfnod byr, a

(b)caniateir ei leihau pan ellir cyfiawnhau hynny am resymau technegol neu drefniadol, ond nid i lai na 36 awr yn olynol.

(9Yn ddarostyngedig i baragraff (10), nid yw’r darpariaethau sy’n ymwneud â gorffwys dyddiol a bennir ym mharagraffau (1), (2), a (3) yn gymwys i weithiwr amaethyddol—

(a)pan nad yw cyfnod ei amser gweithio yn cael ei fesur neu ei bennu ymlaen llaw oherwydd nodweddion penodol y gweithgaredd y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei gyflawni,

(b)pan fo gweithgareddau’r gweithiwr amaethyddol yn golygu bod angen parhad mewn gwasanaeth neu mewn cynhyrchu,

(c)pan geir ymchwydd gweithgarwch rhagweladwy,

(d)pan effeithir ar weithgareddau’r gweithiwr amaethyddol—

(i)gan ddigwyddiad oherwydd amgylchiadau anarferol nad ydynt yn rhagweladwy, y tu hwnt i reolaeth ei gyflogwr,

(ii)gan ddigwyddiadau eithriadol, nad oedd modd osgoi eu canlyniadau er i’r cyflogwr arfer pob gofal dyladwy, neu

(iii)gan ddamwain neu’r risg bod damwain ar fin digwydd, neu

(e)pan fo’r cyflogwr a’r gweithiwr amaethyddol yn cytuno i addasu paragraffau (1), (2) a (3) neu i’w hatal rhag bod yn gymwys yn y modd ac i’r graddau a ganiateir gan neu o dan Reoliadau Amser Gwaith 1998(14).

(10Pan fo paragraff (9) yn gymwys a bod ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio yn unol â hynny yn ystod cyfnod a fyddai fel arall yn seibiant gorffwys wythnosol—

(a)rhaid i’r cyflogwr, oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, ganiatáu i’r gweithiwr amaethyddol gymryd cyfnod cyfatebol o seibiant yn ei le, a

(b)mewn achosion eithriadol pan nad yw, am resymau gwrthrychol, yn bosibl caniatáu cyfnod gorffwys o’r fath, rhaid i gyflogwr y gweithiwr amaethyddol gynnig iddo unrhyw amddiffyniad sy’n briodol i warchod iechyd a diogelwch y gweithiwr amaethyddol.

Y flwyddyn gwyliau blynyddol

31.  Y flwyddyn gwyliau blynyddol i bob gweithiwr amaethyddol yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Hydref ac sy’n dod i ben ar 30 Medi, oni bai bod y gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr yn cytuno rhyngddynt ar flwyddyn gwyliau wahanol.

Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a chanddynt ddiwrnodau gweithio penodedig a gyflogir drwy gydol y flwyddyn gwyliau

32.—(1Mae gan weithiwr amaethyddol a gyflogir gan yr un cyflogwr drwy gydol y flwyddyn gwyliau blynyddol hawl i gael y swm gwyliau blynyddol a ragnodir yn y Tabl yn Atodlen 2.

(2Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ac unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer penodedig o ddiwrnodau cymwys bob wythnos, nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos at ddibenion y Tabl yn Atodlen 2 yw’r nifer penodedig hwnnw o ddiwrnodau.

Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a chanddynt ddiwrnodau gweithio amrywiol a gyflogir drwy gydol y flwyddyn gwyliau

33.—(1Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar nifer amrywiol o ddiwrnodau bob wythnos, cymerir mai nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos at ddibenion y Tabl yn Atodlen 2, yw cyfartaledd nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 o wythnosau yn union cyn i wyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol gychwyn a rhaid i’r nifer cyfartalog hwnnw o ddiwrnodau cymwys gael ei dalgrynnu i’r diwrnod cyfan agosaf, pan fo hynny’n briodol.

(2Ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol rhaid i’r cyflogwr gyfrifo hawl wirioneddol y gweithiwr amaethyddol at ddibenion y Tabl yn Atodlen 2, ar sail nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos, wedi ei gymryd fel cyfartaledd nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos yn ystod y flwyddyn gwyliau blynyddol (h.y. dros gyfnod o 52 o wythnosau) a rhaid i nifer cyfartalog y diwrnodau cymwys gael ei dalgrynnu i’r diwrnod cyfan agosaf, pan fo hynny’n briodol.

(3Os yw’r gweithiwr amaethyddol, ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol, wedi cronni hawl i wyliau ond heb eu cymryd, mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i ddwyn ymlaen unrhyw wyliau a gronnwyd ond nas cymerwyd i’r flwyddyn gwyliau blynyddol ganlynol yn unol ag erthygl 35(3) o’r Gorchymyn hwn neu caiff y gweithiwr amaethyddol a’r cyflogwr gytuno i daliad yn lle unrhyw wyliau a gronnwyd ond nas cymerwyd yn unol ag erthygl 38 o’r Gorchymyn hwn.

(4Os yw’r gweithiwr amaethyddol, ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol, wedi cymryd mwy o ddiwrnodau gwyliau nag yr oedd ganddo hawl iddynt o dan y Gorchymyn hwn, ar sail nifer cyfartalog y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos (wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (2)), mae gan y cyflogwr hawl i ddidynnu unrhyw dâl am ddiwrnodau gwyliau a gymerwyd uwchlaw hawl y gweithiwr amaethyddol neu, fel arall, ddidynnu’r diwrnodau gwyliau a gymerwyd uwchlaw hawl y gweithiwr amaethyddol o’i hawl ar gyfer y flwyddyn gwyliau blynyddol ganlynol (ar yr amod nad yw didyniad o’r fath yn arwain at fod y gweithiwr amaethyddol yn cael llai na’i hawl gwyliau blynyddol statudol o dan reoliadau 13 a 13A o Reoliadau Amser Gwaith 1998).

Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a gyflogir am ran o’r flwyddyn gwyliau

34.—(1Mae gan weithiwr amaethyddol a gyflogir gan yr un cyflogwr am ran o’r flwyddyn gwyliau blynyddol hawl i gronni gwyliau blynyddol yn ôl cyfradd o 1/52 o’r hawl i gael gwyliau blynyddol a bennir yn y Tabl yn Atodlen 2 am bob wythnos orffenedig o wasanaeth gyda’r un cyflogwr.

(2Pan fo swm y gwyliau blynyddol a gronnwyd mewn achos penodol yn cynnwys ffracsiwn o ddiwrnod heblaw hanner diwrnod, mae’r ffracsiwn hwnnw—

(a)i’w dalgrynnu i lawr i’r diwrnod cyfan nesaf os yw’n llai na hanner diwrnod, a

(b)i’w dalgrynnu i fyny i’r diwrnod cyfan nesaf os yw’n fwy na hanner diwrnod.

Amseru gwyliau blynyddol

35.—(1Caiff gweithiwr amaethyddol gymryd gwyliau blynyddol y mae ganddo hawl i’w cymryd o dan y Gorchymyn hwn unrhyw bryd o fewn y flwyddyn gwyliau blynyddol yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ei gyflogwr.

(2Nid oes gan weithiwr amaethyddol hawl i gario unrhyw hawl gwyliau blynyddol nas cymerwyd ymlaen o’r naill flwyddyn gwyliau i’r flwyddyn gwyliau nesaf heb gymeradwyaeth ei gyflogwr.

(3Pan fo cyflogwr wedi cytuno y caiff gweithiwr amaethyddol gario unrhyw hawl gwyliau blynyddol nas defnyddiwyd ymlaen, dim ond yn ystod y flwyddyn gwyliau y mae’n cael ei gario ymlaen iddi y caniateir i’r balans gael ei gymryd.

(4Yn ystod y 6 mis cyntaf mewn unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol caiff cyflogwr ei gwneud yn ofynnol i weithiwr amaethyddol gymryd hyd at 2 wythnos o’i hawl gwyliau blynyddol o dan y Gorchymyn hwn a chaiff gyfarwyddo i’r gweithiwr gymryd un o’r 2 wythnos hynny o wyliau blynyddol ar ddiwrnodau yn yr un wythnos.

(5Yn ystod yr ail 6 mis mewn unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol, rhaid i gyflogwr ganiatáu i weithiwr amaethyddol gymryd 2 wythnos o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr o dan y Gorchymyn hwn mewn wythnosau olynol.

(6At ddibenion yr erthygl hon, mae 1 wythnos o wyliau blynyddol gweithiwr amaethyddol yn cyfateb i nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol fel y’i pennir yn unol ag erthyglau 32 a 33.

Tâl gwyliau

36.—(1Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael ei dalu mewn cysylltiad â phob diwrnod o wyliau blynyddol y mae’n ei gymryd.

(2Mae swm y tâl gwyliau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael o dan baragraff (1) i’w bennu drwy rannu cyflog wythnosol y gweithiwr amaethyddol fel y’i pennir yn unol â pharagraff (3) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (4), â nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol hwnnw.

(3Pan nad yw oriau gwaith arferol y gweithiwr amaethyddol o dan naill ai ei gontract neu ei brentisiaeth yn amrywio (yn ddarostyngedig i baragraff (4)), swm cyflog wythnosol y gweithiwr amaethyddol at ddibenion paragraff (2) yw tâl wythnosol arferol y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy gan y cyflogwr.

(4Pan fo oriau gwaith arferol y gweithiwr amaethyddol yn amrywio o wythnos i wythnos, neu pan fo gweithiwr amaethyddol sydd ag oriau gwaith arferol (fel ym mharagraff (3)) yn gweithio goramser yn ogystal â’r oriau hynny, cyfrifir swm tâl wythnosol arferol y gweithiwr amaethyddol at ddibenion paragraff (2) drwy adio swm tâl wythnosol arferol y gweithiwr amaethyddol ym mhob un o’r 52 o wythnosau yn union cyn cychwyn gwyliau blynyddol y gweithiwr a rhannu’r cyfanswm â 52. Dylid eithrio o’r cyfnod cyfeirio o 52 o wythnosau unrhyw wythnosau pan nad oedd unrhyw dâl yn daladwy i’r gweithiwr amaethyddol ac ystyried wythnosau cynharach, hyd at uchafswm o 104 o wythnosau.

(5At ddibenion yr erthygl hon ystyr “tâl wythnosol arferol” yw—

(a)tâl sylfaenol y gweithiwr amaethyddol o dan ei gontract neu ei brentisiaeth, a

(b)unrhyw dâl goramser ac unrhyw lwfans a delir yn gyson i’r gweithiwr amaethyddol.

(6Pan fo gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan ei gyflogwr am lai na 52 o wythnosau, rhaid ystyried wythnosau pan oedd tâl yn ddyledus i’r gweithiwr amaethyddol yn unig.

(7At ddibenion paragraff (2), mae nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd yn cael ei bennu yn unol â’r darpariaethau yn erthyglau 32 a 33 o’r Gorchymyn hwn.

(8Rhaid i unrhyw dâl sy’n ddyledus i weithiwr amaethyddol o dan yr erthygl hon gael ei dalu heb fod yn hwyrach na diwrnod gwaith olaf y gweithiwr amaethyddol cyn i’r cyfnod o wyliau blynyddol y mae’r taliad yn ymwneud ag ef gychwyn.

Gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc

37.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo gŵyl gyhoeddus neu ŵyl banc yng Nghymru yn syrthio ar ddiwrnod pan fo’n ofynnol fel arfer i weithiwr amaethyddol weithio o dan naill ai ei gontract neu ei brentisiaeth.

(2Mae gan weithiwr amaethyddol y mae ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo weithio ar yr ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc hawl i gael tâl nad yw’n llai na’r gyfradd goramser a bennir yn erthygl 12.

(3Mae balans y gwyliau blynyddol sydd wedi eu cronni ar gyfer y flwyddyn gwyliau honno o dan y Gorchymyn hwn gan weithiwr amaethyddol nad yw ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo weithio ar yr ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc i gael ei leihau o 1 diwrnod mewn cysylltiad â’r ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc nad yw’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio arni.

Taliad yn lle gwyliau blynyddol

38.—(1Yn ddarostyngedig i’r amodau ym mharagraff (2), caiff gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr gytuno bod y gweithiwr amaethyddol i gael taliad yn lle diwrnod o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol.

(2Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)bod uchafswm nifer y diwrnodau y caiff gweithiwr amaethyddol gael taliad yn lle gwyliau blynyddol ar eu cyfer yn ystod unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol wedi ei ragnodi yn y Tabl yn Atodlen 3;

(b)bod cofnod ysgrifenedig i’w gadw gan y cyflogwr ynglŷn ag unrhyw gytundeb y caiff gweithiwr amaethyddol daliad yn lle diwrnod o wyliau blynyddol am o leiaf 3 blynedd gan gychwyn ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau honno;

(c)o dan amgylchiadau pan nad yw’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ar ddiwrnod fel y cytunir yn unol â pharagraff (1), bod y diwrnod hwnnw i barhau’n rhan o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol;

(d)bod taliad yn lle gwyliau blynyddol i’w dalu ar gyfradd sy’n cynnwys y gyfradd goramser a bennir yn erthygl 12 yn ogystal â thâl gwyliau a gyfrifir yn unol ag erthygl 36 fel pe bai’r diwrnod y gwneir taliad yn lle gwyliau blynyddol ar ei gyfer yn ddiwrnod y mae’r gweithiwr amaethyddol yn cymryd gwyliau blynyddol.

Talu tâl gwyliau wrth derfynu cyflogaeth

39.—(1Pan derfynir cyflogaeth gweithiwr amaethyddol ac nad yw’r gweithiwr amaethyddol wedi cymryd yr holl hawl gwyliau blynyddol sydd wedi cronni iddo ar ddyddiad terfynu’r gyflogaeth, mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl yn unol â pharagraff (2) i gael taliad yn lle’r gwyliau blynyddol a gronnwyd ond nas cymerwyd.

(2Mae swm y taliad sydd i’w dalu i’r gweithiwr amaethyddol yn lle pob diwrnod o’i wyliau blynyddol a gronnwyd ond nas cymerwyd ar ddyddiad terfynu’r gyflogaeth i’w gyfrifo yn unol ag erthygl 36 fel pe bai dyddiad terfynu’r gyflogaeth yn ddiwrnod cyntaf cyfnod o wyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol.

Adennill tâl gwyliau

40.—(1Os terfynir cyflogaeth gweithiwr amaethyddol cyn diwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol a bod y gweithiwr amaethyddol wedi cymryd mwy o wyliau blynyddol nag yr oedd ganddo hawl i’w cael o dan ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn neu fel arall, mae gan ei gyflogwr hawl i adennill swm y tâl gwyliau a dalwyd i’r gweithiwr amaethyddol mewn cysylltiad â gwyliau blynyddol a gymerwyd uwchlaw ei hawl.

(2Pan fo gan gyflogwr hawl o dan baragraff (1) i adennill tâl gwyliau oddi ar weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr wneud hynny drwy ei dynnu oddi ar daliad cyflog olaf y gweithiwr amaethyddol.

Absenoldeb oherwydd profedigaeth

41.—(1Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth â thâl, a thâl profedigaeth amaethyddol yn unol ag erthygl 43, o dan amgylchiadau pan fo’r brofedigaeth yn ymwneud â pherson yng Nghategori A, Categori B neu Gategori C.

(2At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori A yw

(a)plentyn.

(3At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori B yw—

(a)rhiant i’r gweithiwr amaethyddol,

(b)priod neu bartner sifil y gweithiwr amaethyddol, neu

(c)rhywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel pe baent yn briod (heb fod yn gyfreithiol briod) neu rywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel pe baent mewn partneriaeth sifil (heb fod mewn partneriaeth sifil yn gyfreithiol).

(4At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori C yw—

(a)brawd neu chwaer i’r gweithiwr amaethyddol,

(b)nain neu daid i’r gweithiwr amaethyddol, neu

(c)ŵyr neu wyres i’r gweithiwr amaethyddol.

(5At ddibenion paragraff (1) mae absenoldeb oherwydd profedigaeth yn ychwanegol at unrhyw hawliau eraill i gael absenoldeb o dan y Gorchymyn hwn.

Pennu swm absenoldeb oherwydd profedigaeth

42.—(1Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori A yw 2 wythnos.

(2Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B yw—

(a)4 diwrnod pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 5 niwrnod neu fwy bob wythnos i’r un cyflogwr, neu

(b)pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai i’r un cyflogwr, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol â pharagraff (3).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—

fformiwla

(4Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori C yw—

(a)2 ddiwrnod pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 5 niwrnod neu fwy bob wythnos i’r un cyflogwr, neu

(b)pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai i’r un cyflogwr, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol â pharagraff (5).

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo’r erthygl hon yn gymwys mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori C i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—

fformiwla

(6At ddibenion y fformwla ym mharagraffau (3) a (5), DWEW yw nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol wedi ei gyfrifo yn unol ag erthygl 32 neu 33 (fel y bo’n briodol).

(7Pan fo’r cyfrifiad ym mharagraff (3) neu (5) yn arwain at hawl i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth o lai nag 1 diwrnod, mae’r hawl i’w thalgrynnu i fyny i un diwrnod cyfan.

(8O dan amgylchiadau pan fo mwy nag un gyflogaeth gan weithiwr amaethyddol (boed gyda’r un cyflogwr neu gyda chyflogwyr gwahanol), caniateir cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth â thâl mewn cysylltiad â mwy nag un gyflogaeth ond ni chaiff, mewn cysylltiad ag unrhyw un brofedigaeth, fod yn fwy nag uchafswm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth a bennir ar gyfer un gyflogaeth yn yr erthygl hon.

Tâl absenoldeb profedigaeth amaethyddol

43.—(1Mae swm y tâl mewn cysylltiad ag absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori A, am y pedwar diwrnod cyntaf neu, pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol ag erthygl 42(3), i’w bennu yn unol â darpariaethau erthygl 36 fel pe bai diwrnod cyntaf absenoldeb y gweithiwr amaethyddol oherwydd profedigaeth yn ddiwrnod cyntaf gwyliau blynyddol y gweithiwr hwnnw. Ar gyfer gweddill unrhyw gyfnod o absenoldeb oherwydd profedigaeth, bydd gan y gweithiwr amaethyddol hawl i gael swm sy’n cyfateb i dâl absenoldeb profedigaeth rhiant statudol sy’n gymwys o bryd i’w gilydd.

(2Mae unrhyw dâl absenoldeb profedigaeth amaethyddol a delir i’r gweithiwr amaethyddol yn unol ag erthygl 43(1) yn cynnwys unrhyw dâl absenoldeb profedigaeth rhiant statudol y gall y gweithiwr fod â hawl i’w gael ar gyfer yr un cyfnod.

(3Mae swm y tâl absenoldeb profedigaeth amaethyddol y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B neu C i’w bennu yn unol â darpariaethau erthygl 36 fel pe bai diwrnod cyntaf absenoldeb y gweithiwr amaethyddol oherwydd profedigaeth yn ddiwrnod cyntaf gwyliau blynyddol y gweithiwr hwnnw.

Absenoldeb di-dâl

44.  Caiff gweithiwr amaethyddol gymryd cyfnod o absenoldeb di-dâl, gyda chydsyniad ei gyflogwr.

RHAN 6Dirymu a darpariaeth drosiannol

Dirymu a darpariaeth drosiannol

45.—(1Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022(15) wedi ei ddirymu.

(2Mae gweithiwr amaethyddol a gyflogir fel gweithiwr ar Radd neu fel prentis, ac sy’n ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a ragnodwyd yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022 neu unrhyw Orchmynion blaenorol, yn ddarostyngedig, o’r dyddiad y mae’r Gorchymyn hwn yn cymryd effaith, i’r telerau a’r amodau a nodir yn Rhannau 2 i 5 o’r Gorchymyn hwn.

(3Yn yr erthygl hon ystyr “Gorchmynion blaenorol” yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022(16), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022(17), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020(18), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2019(19), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2018(20), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017(21), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016(22), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 a phob gorchymyn a ddirymwyd gan erthygl 70 o’r Gorchymyn hwnnw.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

2 Mawrth 2023

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources