Search Legislation

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2023.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2023.

Cymhwyso

2.  Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac mewn perthynas â chontract—

(a)yr oedd Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004(1) yn gymwys iddo yn union cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, neu

(b)yr ymrwymir iddo rhwng contractwr a Bwrdd Iechyd Lleol ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “adnodd ar-lein” (“online resource”) yw gwefan practis neu broffil practis ar-lein;

ystyr “aelod o deulu agos” (“immediate family member”) yw—

(a)

priod neu bartner sifil,

(b)

person (pa un a yw o’r rhyw arall ai peidio) y mae i’w berthynas â’r claf cofrestredig nodweddion y berthynas rhwng gŵr a gwraig,

(c)

rhiant neu lys-riant,

(d)

mab,

(e)

merch,

(f)

plentyn y mae’r claf cofrestredig—

(i)

yn warcheidwad iddo, neu

(ii)

yn ofalwr iddo sydd wedi ei awdurdodi’n briodol gan awdurdod lleol y traddodwyd y plentyn i’w ofal o dan Ddeddf Plant 1989(2), neu

(g)

tad-cu/taid neu fam-gu/nain;

ystyr “agored” (“open”), mewn perthynas â rhestr contractwr o gleifion, yw agored i geisiadau gan gleifion yn unol â pharagraffau 23, 24 a 25 o Atodlen 3;

ystyr “anghymhwysiad cenedlaethol” (“nationaldisqualification”) yw—

(a)

penderfyniad a wneir gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 115 o’r Ddeddf (anghymhwysiad cenedlaethol) neu o dan reoliadau sy’n cyfateb i’r adran honno a wneir o dan—

(i)

adran 49 o’r Ddeddf (personau sy’n cyflawni gwasanaethau meddygol sylfaenol),

(ii)

adran 63 o’r Ddeddf (personau sy’n cyflawni gwasanaethau deintyddol sylfaenol),

(iii)

adran 72 o’r Ddeddf (rheoliadau o ran gwasanaethau offthalmig cyffredinol), a

(iv)

adrannau 83, 86, 103 neu 105 (cyflawnwyr gwasanaethau fferyllol a chynorthwywyr) o’r Ddeddf, neu

(b)

unrhyw benderfyniad yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon sy’n cyfateb i anghymhwysiad cenedlaethol o dan adran 115(2) a (3) o’r Ddeddf;

ystyr “ardal practis” (“practice area”) yw’r ardal y cyfeirir ati yn rheoliad18(1)(d);

mae “awdurdod trwyddedu” (“licensing authority”) i’w ddehongli yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(3);

ystyr “Bwrdd Iechyd” (“Health Board”) yw Bwrdd Iechyd a sefydlir o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(4) (Byrddau Iechyd);

ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”), oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw’r Bwrdd Iechyd Lleol sy’n barti, neu’n ddarpar barti, i gontract;

ystyr “Bwrdd Partneriaeth Integredig Ardal” (“Area Integrated Partnership Board”) yw Bwrdd Partneriaeth Integredig Ardal a sefydlir o dan adran 15B o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009(5);

ystyr “cartref gofal” (“care home”) yw man yng Nghymru lle y darperir llety, ynghyd â gwasanaeth nyrsio neu ofal, i bersonau oherwydd eu hyglwyfedd neu eu hangen ond yn eithrio man a grybwyllir ym mharagraff 1(2) o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(6);

ystyr “claf” (“patient”) yw—

(a)

claf cofrestredig,

(b)

preswylydd dros dro,

(c)

personau y mae’n ofynnol i’r contractwr ddarparu triniaeth sy’n angenrheidiol ar unwaith iddynt o dan reoliad 17(7) neu 17(9), a

(d)

unrhyw berson arall y mae’r contractwr wedi cytuno i ddarparu gwasanaethau iddo o dan y contract;

ystyr “claf cofrestredig” (“registered patient”) yw—

(a)

person y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei gofnodi fel un sydd ar restr y contractwr o gleifion, neu

(b)

person y mae’r contractwr wedi ei dderbyn i’w gynnwys yn ei restr o gleifion, pa un a yw’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cael ei hysbysu ei fod wedi cael ei dderbyn ai peidio, ac nad yw wedi cael ei hysbysu gan y Bwrdd Iechyd Lleol ei fod wedi peidio â bod ar y rhestr honno;

ystyr “clwstwr” (“cluster”) yw grŵp o ddarparwyr gwasanaethau lleol sy’n ymwneud ag iechyd a gofal ac sydd wedi cytuno i gydweithredu i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol ar draws ardal ddaearyddol benodedig;

ystyr “cofrestr berthnasol” (“relevant register”) yw—

(a)

mewn perthynas â nyrs, y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth,

(b)

mewn perthynas â fferyllydd, Ran 1 o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 19 (sefydlu a chynnal y Gofrestr a mynediad iddi) o Orchymyn Fferylliaeth 2010(7) neu’r gofrestr a gynhelir o dan Erthygl 6 (y Gofrestr) ac Erthygl 9 (y Cofrestrydd) o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976(8),

(c)

mewn perthynas ag optometrydd, y gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Optegol Cyffredinol yn unol ag adran 7(a) o Ddeddf Optegwyr 1989 (cofrestr optegwyr)(9), a

(d)

y rhan o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001(10) (sefydlu a chynnal cofrestr) sy’n ymwneud â’r canlynol—

(i)

ciropodyddion a phodiatryddion,

(ii)

parafeddygon,

(iii)

ffisiotherapyddion, neu

(iv)

radiograffwyr;

ystyr “Cofrestr Feddygol” (“Medical Register”) yw’r gofrestr a gedwir o dan adran 2 o Ddeddf Meddygaeth 1983(11) (cofrestru ymarferwyr meddygol);

ystyr “Cofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth” (“Nursing and Midwifery Register”) yw’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(12) (sefydlu a chynnal cofrestr);

ystyr “Cofrestrydd Arbenigol Ymarfer Cyffredinol” (“GP Specialty Registrar”) yw ymarferydd meddygol sy’n cael ei hyfforddi mewn ymarfer cyffredinol gan ymarferydd meddygol cyffredinol a gymeradwywyd o dan adran 34I o Ddeddf Meddygaeth 1983(13) at ddiben darparu hyfforddiant o dan yr adran honno, pa un ai fel rhan o hyfforddiant sy’n arwain at ddyfarnu TCH neu fel arall;

ystyr “contract” (“contract”) ac eithrio yn rheoliad 31 (darpariaeth drosiannol gyffredinol ac arbediad) yw contract gwasanaethau meddygol cyffredinol a wneir o dan adran 42 o’r Ddeddf (contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol: rhagarweiniol);

mae i “contract GIG” yr ystyr a roddir i “NHS contract” gan adran 7 o’r Ddeddf;

ystyr “contract GMC” (“GMS contract”) yw contract gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan adran 42 o’r Ddeddf (contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol: rhagarweiniol);

ystyr “contract GMDdA” (“APMS contract”) yw trefniant i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol a wneir gyda Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 41(2)(b) o’r Ddeddf (gwasanaethau meddygol sylfaenol);

mae i “contractwr”, ac eithrio yn rheoliad 6 (amod cyffredinol yn ymwneud â phob contract), yr ystyr a roddir i “contractor” yn adran 42(5) o’r Ddeddf (contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol: rhagarweiniol);

ystyr “contractwr cyfarpar GIG” (“NHS appliance contractor”) yw person sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol o dan reoliad 10 o’r Rheoliadau Fferyllol (llunio a chynnal rhestrau fferyllol) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig;

ystyr “contractwr GMC” (“GMS contractor”) yw parti i gontract GMC, heblaw’r Bwrdd Iechyd Lleol

ystyr “contractwr GMDdA” (“APMS contractor”) yw parti i gontract GMDdA, heblaw’r Bwrdd Iechyd Lleol;

mae i “corff gwasanaeth iechyd” yr ystyr a roddir i “health service body” yn adran 7(4)(14) o’r Ddeddf (contractau’r GIG);

ystyr “corff rheoleiddio neu oruchwylio” (“regulatory or supervisory body”) yw unrhyw gorff statudol neu gorff arall sydd ag awdurdod i ddyroddi canllawiau, safonau neu argymhellion y mae rhaid i’r contractwr, neu’r personau y mae’r contractwr wedi eu cyflogi neu wedi eu cymryd ymlaen, gydymffurfio â hwy neu roi sylw iddynt, gan gynnwys—

(a)

Gweinidogion Cymru,

(b)

yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol,

(c)

NICE,

(d)

Healthwatch England a Local Healthwatch,

(e)

Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU,

(f)

y Cyngor Fferyllol Cyffredinol,

(g)

Corff Ymchwilio Diogelwch Gwasanaethau Iechyd,

(h)

y Comisiynydd Gwybodaeth, ac

(i)

unrhyw gorff arall a restrir yn adran 25(2) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002;

ystyr “corff trwyddedu” (“licensing body”) yw corff sy’n trwyddedu neu’n rheoleiddio proffesiwn;

ystyr “cwrs a achredwyd” (“accredited course”) yw cwrs sydd wedi ei achredu gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;

ystyr “Cydweithredfa Ymarfer Cyffredinol” (“GP Collaborative”) yw grŵp o ddarparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol sy’n gweithio gyda’i gilydd, yn yr ardal y mae cleifion cofrestredig y darparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol hynny yn preswylio ynddi, er mwyn cyflenwi gwasanaethau meddygol sylfaenol wedi eu cydlynu yn yr ardal honno, ac i hybu llesiant cleifion ar draws yr ardal y mae cleifion cofrestredig y darparwyr gwasanaethau meddygol sylfaenol hynny yn preswylio ynddi;

ystyr “cyfarpar” (“appliance”) yw cyfarpar sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion adran 80 o’r Ddeddf (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol);

ystyr “cyfarpar argaeledd cyfyngedig” (“restricted availability appliance”) yw cyfarpar a gymeradwywyd ar gyfer categorïau penodol o bersonau neu at ddibenion penodol yn unig;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(15) (dehongli cyffredinol);

ystyr “cyflawnydd” (“performer”) yw cyflawnydd gwasanaethau meddygol o dan y contract y mae darpariaethau Rhan 6 o Atodlen 3 yn gymwys iddo;

ystyr “cyfnod y tu allan i oriau” (“out of hours period”) yw unrhyw ddiwrnodau neu amseroedd sydd y tu allan i’r oriau craidd;

ystyr “cyffur Atodlen” (“Scheduled drug”) yw cyffur neu sylwedd arall a bennir yn Atodlen 1 neu 2 i Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Rhagnodi Cyffuriau etc.) (Cymru) 2004(16) (sy’n ymwneud â chyffuriau, meddyginiaethau a sylweddau eraill nad ydynt i’w harchebu o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol neu y caniateir eu harchebu o dan amgylchiadau penodol yn unig);

mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr ystyr a roddir gan adran 3(1)(c) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(17);

ystyr “data creu llofnod electronig” (“electronic signature creation data”) yw data unigryw a ddefnyddir gan y llofnodwr i greu llofnod electronig;

ystyr “Datganiad ar Hawlogaethau Ariannol yr GMC” (“GMS Statement of Financial Entitlements” yw’r Cyfarwyddydau i’r Byrddau Iechyd Lleol ynghylch y Datganiad ar Hawlogaethau Ariannol a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 45 o’r Ddeddf (contractau GMC: taliadau);

ystyr “deintydd” (“dentist”) yw ymarferydd deintyddol sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o ddeintyddion o dan Ddeddf Deintyddion 1984(18);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn , yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc;

ystyr “dyfarnwr” (“adjudicator”) yw Gweinidogion Cymru neu berson a benodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 7(8) o’r Ddeddf (contractau’r GIG) neu baragraff 106(5) o Atodlen 3 iddi;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “fferyllydd cofrestredig” (“registered pharmacist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu yn y gofrestr a gynhelir o dan Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976;

ystyr “fferyllydd GIG” (“NHS pharmacist”) yw—

(a)

fferyllydd cofrestredig, neu

(b)

person sy’n cynnal busnes fferyllfa fanwerthu yn gyfreithlon yn unol ag adran 69 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(19),

y mae ei enw wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol o dan reoliad 10 o’r Rheoliadau Fferyllol (llunio a chynnal rhestrau fferyllol) ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol yn benodol drwy ddarparu cyffuriau;

ystyr “fferyllydd-ragnodydd annibynnol” (“pharmacist independent prescriber”) yw fferyllydd cofrestredig—

(a)

sydd naill ai wedi ei gymryd ymlaen neu wedi ei gyflogi gan y contractwr neu sy’n barti i’r contract, a

(b)

sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu yn y gofrestr a gynhelir o dan Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976(20(sy’n ymwneud â chofrestrau a’r cofrestrydd) sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel fferyllydd-ragnodydd annibynnol;

ystyr “ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol” (“physiotherapist independent prescriber”) yw person—

(a)

sydd naill ai wedi ei gymryd ymlaen neu wedi ei gyflogi gan y contractwr neu sy’n barti i’r contract, a

(b)

sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 9 o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2002(21sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol;

ystyr “Fframwaith Sicrwydd” (“Assurance Framework”) yw’r dull gweithredu cenedlaethol, gan ddefnyddio setiau data a phrosesau cenedlaethol, a bennir mewn canllawiau a ddyroddir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru i Fyrddau Iechyd Lleol i’w defnyddio ar gyfer llywodraethu a rheoli contractau;

ystyr “ffurflen archebu ocsigen cartref” (“home oxygen order form”) yw ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol ac a ddyroddir gan broffesiynolyn gofal iechyd i awdurdodi person i gyflenwi gwasanaethau ocsigen cartref i glaf y mae arno angen therapi ocsigen yn y cartref;

ystyr “ffurflen bresgripsiwn” (“prescription form”) yw—

(a)

ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu gorff cyfatebol ac a ddyroddir gan ragnodydd, neu

(b)

ffurflen bresgripsiwn electronig,

sy’n galluogi person i gael gwasanaethau fferyllol ac nad yw’n cynnwys presgripsiwn amlroddadwy;

ystyr “ffurflen bresgripsiwn anelectronig” (“non-electronic prescription form”) yw ffurflen bresgripsiwn sy’n dod o fewn paragraff (a) o’r diffiniad o “ffurflen bresgripsiwn”;

ystyr “ffurflen bresgripsiwn electronig” (“electronic prescription form”) yw data a grëir mewn ffurflen electronig at ddiben archebu cyffur neu gyfarpar—

(a)

sydd wedi ei llofnodi, neu sydd i’w llofnodi, â llofnod electronig uwch rhagnodydd,

(b)

sydd wedi ei thrawsyrru, neu sydd i’w thrawsyrru, fel cyfathrebiad electronig at weinyddydd enwebedig gan y gwasanaeth TPE, neu drwy gyfrwng hyb gwybodaeth gan y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig, ac

(c)

nad yw’n dangos y caniateir darparu’r cyffur neu’r cyfarpar a archebir fwy nag unwaith;

ystyr “Gorchymyn 2010” (“the 2010 Order”) yw Gorchymyn Addysg a Hyfforddiant Meddygol Ôl-raddedig y Cyngor 2010(22);

ystyr “Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig” (“Electronic Prescription Service”) yw’r gwasanaeth o’r enw hwnnw a reolir gan GIG Lloegr;

ystyr “gwasanaeth TPE” (“ETP service”) yw’r gwasanaeth presgripsiynau cod bar 2-ddimensiwn sy’n rhan o’r systemau technoleg gwybodaeth mewn systemau rhagnodi a gweinyddu yng Nghymru, ac a ddefnyddir gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i drosglwyddo a chadw gwybodaeth am bresgripsiynau sy’n ymwneud â chleifion;

ystyr “gwasanaethau amlragnodi” (“repeatable prescribing services”) yw gwasanaethau sy’n cynnwys rhagnodi cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar ar bresgripsiwn amlroddadwy;

ystyr “gwasanaethau amlweinyddu” (“repeat dispensing services”) yw gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol lleol sy’n cynnwys darparu cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy;

ystyr “gwasanaethau atal cenhedlu” (“contraceptive services”) yw’r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraff 4 o Atodlen 2;

gwasanaethau atodol” (“supplementary services”) yw—

(a)

gwasanaethau heblaw gwasanaethau unedig neu wasanaethau y tu allan i oriau, neu

(b)

gwasanaethau unedig neu elfen o wasanaeth o’r fath y mae contractwr yn cytuno o dan y contract i’w ddarparu neu i’w darparu yn unol â manylebau a nodir mewn cynllun, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r contractwr ddarparu lefel uwch o ddarpariaeth gwasanaeth o’i gymharu â’r hyn y mae rhaid iddo ei ddarparu yn gyffredinol mewn perthynas â’r gwasanaeth unedig hwnnw neu’r elfen honno o wasanaeth;

ystyr “gwasanaethau brechu ac imiwneiddio” (“vaccine and immunisation services”) yw’r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraff 7 o Atodlen 2;

ystyr “gwasanaethu brechu ac imiwneiddio i blant” (“childhood vaccinations and immunisations services”) yw’r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraff 3 o Atodlen 2;

ystyr “gwasanaethau clinigol” (“clinical services”) yw gwasanaethau meddygol o dan y contract sy’n ymwneud ag arsylwi ar gleifion a thrin cleifion mewn gwirionedd;

ystyr “gwasanaethau fferyllol” (“pharmaceutical services”) yw gwasanaethau fferyllol sy’n dod o fewn adrannau 80 ac 81 o’r Ddeddf ac mae’n cynnwys gwasanaethau cyfeiriedig;

mae i “gwasanaethau fferyllol lleol” (“local pharmaceutical services”) yr ystyr a roddir gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau Fferyllol;

ystyr “gwasanaethau gweinyddu” (“dispensing services”) yw darparu cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar y caniateir eu darparu fel gwasanaethau fferyllol gan ymarferydd meddygol yn unol â threfniadau o dan adran 80 (trefniant ar gyfer gwasanaethau fferyllol) ac adran 86 (personau a awdurdodwyd i ddarparu gwasanaethau fferyllol) o’r Ddeddf;

ystyr “gwasanaethau gwyliadwriaeth iechyd plant” (“child health surveillance services”) yw’r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraff 2 o Atodlen 2;

ystyr “Gwasanaethau Meddygol Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board Medical Services”) yw gwasanaethau meddygol sylfaenol a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol o dan adran 41(2)(a) o’r Ddeddf (gwasanaethau meddygol sylfaenol);

ystyr “gwasanaethau meddygol mamolaeth” (“maternity medical services”) yw’r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraff 5 o Atodlen 2;

ystyr “gwasanaethau meddygol sylfaenol” (“primary medical services”) yw gwasanaethau meddygol a ddarperir o dan gontract neu gytundeb y mae darpariaethau Rhan 4 o’r Ddeddf yn gymwys iddynt neu yn rhinwedd contract neu gytundeb o’r fath;

ystyr “gwasanaethau ocsigen cartref” (“home oxygen services”) yw unrhyw un neu ragor o’r mathau a ganlyn o therapi neu gyflenwad ocsigen—

(a)

cyflenwad ocsigen symudol,

(b)

cyflenwad brys,

(c)

cyflenwad rhyddhau o’r ysbyty,

(d)

therapi ocsigen hirdymor, ac

(e)

therapi ocsigen hwrdd byr;

ystyr “gwasanaethau preifat” (“private services”) yw darparu unrhyw driniaeth y telir amdani o fath a fyddai fel arfer yn gyfystyr â gwasanaethau meddygol sylfaenol pe câi ei darparu o dan gontract neu gytundeb y mae darpariaethau Rhan 4 o’r Ddeddf yn gymwys iddo neu yn rhinwedd contract neu gytundeb o’r fath;

ystyr “gwasanaethau sgrinio serfigol” (“cervical screening services”) yw’r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraff 1 o Atodlen 2;

ystyr “gwasanaethau unedig” (“unified services”) yw’r gwasanaethau y mae’n ofynnol eu darparu yn unol â rheoliad 17;

ystyr “gwasanaethau y tu allan i oriau” (“out of hours services”) yw gwasanaethau a ddarperir yn y cyfan neu ran o gyfnod y tu allan i oriau a fyddai’n wasanaethau unedig pe baent yn cael eu darparu gan gontractwr i’w gleifion cofrestredig yn yr oriau craidd;

ystyr “gwefan practis” (“practice website”) yw gwefan y mae’r contractwr yn hysbysebu’r gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’n eu darparu drwyddi;

ystyr “gweinyddydd” (“dispenser”) yw fferyllydd, ymarferydd meddygol neu gontractwr GIG y mae claf yn dymuno iddo weinyddu presgripsiynau electronig y claf;

ystyr “gweinyddydd enwebedig” (“nominated dispenser”) yw fferyllydd, ymarferydd meddygol neu gontractwr GIG sydd wedi ei enwebu mewn cysylltiad â chlaf pan fo manylion yr enwebiad hwnnw mewn cysylltiad â’r claf hwnnw wedi eu cadw yn y Gwasanaeth Demograffeg Personol sy’n cael ei reoli gan GIG Lloegr;

ystyr “gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG” (“NHS dispute resolutionprocedure”) yw’r weithdrefn ar gyfer datrys anghydfodau a bennir—

(a)

ym mharagraffau 106 a 107 o Atodlen 3, neu

(b)

mewn achos y mae paragraff 46 o Atodlen 3 yn gymwys iddo, yn y paragraff hwnnw;

ystyr “gweithred waharddedig” (“prohibited act”) yw cyflawni trosedd o dan Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010;

ystyr “Iechyd a Gofal Digidol Cymru” (“Digital Health and Care Wales”) yw’r sefydliad a sefydlwyd o dan Orchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020(23);

ystyr “Iechyd Cyhoeddus Cymru” (“Public Health Wales”) yw Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru fel y’i sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009(24);

ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw data ar ffurf electronig sydd wedi eu hatodi i ddata eraill ar ffurf electronig neu wedi eu cysylltu’n rhesymegol â data eraill ar ffurf electronig ac sy’n cael eu defnyddio gan y llofnodwr i lofnodi;

ystyr “llofnod electronig uwch” (“advancedelectronic signature”) yw llofnod electronig sy’n bodloni’r gofynion a ganlyn—

(a)

mae ganddo gysylltiad unigryw â’r llofnodwr,

(b)

gellir adnabod y llofnodwr oddi wrtho,

(c)

fe’i crëir drwy ddefnyddio data creu llofnod electronig y gall y llofnodwr, â lefel uchel o hyder, ei ddefnyddio o dan ei reolaeth ef ei hun yn unig, a

(d)

mae wedi ei gysylltu â’r data a lofnodwyd mewn modd sy’n gwneud unrhyw newid diweddarach yn y data yn ganfyddadwy;

ystyr “llofnodwr” (“signatory”) yw person naturiol sy’n creu llofnod electronig;

ystyr “lluoedd arfog y Goron” (“armed forces of the Crown”) yw’r lluoedd sy’n “lluoedd rheolaidd” neu’n “lluoedd wrth gefn” o fewn yr ystyr a roddir i “regular forces” neu “reserve forces” yn adran 374 o Ddeddf y Lluoedd Arfog 2006(25) (diffiniadau sy’n gymwys at ddibenion y Ddeddf gyfan);

ystyr “mân lawdriniaeth” (“minor surgery”) yw’r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2;

ystyr “mangre practis” (“practice premises”) yw cyfeiriad a bennir yn y contract fel un y mae gwasanaethau i’w darparu ynddo o dan y contract;

ystyr “meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig” (“prescription only medicine”) yw meddyginiaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 5(3) (dosbarthiad cynhyrchion meddyginiaethol) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;

ystyr “nyrs sy’n rhagnodi’n annibynnol” (“independent nurse prescriber”) yw person—

(a)

sydd wedi ei gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, a

(b)

sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn y gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau a chyfarpar fel nyrs sy’n rhagnodi fel ymarferydd cymunedol, nyrs-ragnodydd annibynnol neu nyrs-ragnodydd annibynnol/atodol;

ystyr “nyrs-ragnodydd annibynnol” (“nurse independent prescriber”) yw person—

(a)

sydd naill ai wedi ei gymryd ymlaen neu wedi ei gyflogi gan gontractwr neu sy’n barti i gontract,

(b)

y mae ei enw wedi ei gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth,

(c)

sydd â nodyn neu gofnod gyferbyn â’i enw yn y gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel—

(i)

nyrs-ragnodydd annibynnol, neu

(ii)

nyrs-ragnodydd annibynnol/atodol, ac

sydd, mewn cysylltiad â pherson sy’n ymarfer yng Nghymru ar neu ar ôl 19 Gorffennaf 2010, wedi llwyddo mewn cwrs a achredwyd i ymarfer fel nyrs-ragnodydd annibynnol;

ystyr “Offeryn Uwchgyfeirio Ymarfer Cyffredinol” (“General Practice Escalation Tool”) yw’r offeryn y cytunwyd arno gan Weinidogion Cymru, Byrddau Iechyd Lleol a Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru sy’n cynnwys fframwaith ar gyfer adrodd ar bwysau ar y gwaith o gyflenwi gwasanaethau o fewn practisau;

ystyr “optometrydd-ragnodydd annibynnol” (“optometrist independent prescriber”) yw person—

(a)

sy’n optometrydd sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o optometryddion a gynhelir o dan adran 7 o Ddeddf Optegwyr 1989(26(sy’n ymwneud â’r gofrestr o optometryddion a’r gofrestr o optegwyr fferyllol) neu’r gofrestr o optometryddion sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol a gynhelir o dan adran 8B(1)(a)(56) o’r Ddeddf honno, a

(b)

sydd â nodyn gyferbyn â’i enw sy’n dynodi bod yr optometrydd yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel optometrydd-ragnodydd annibynnol;

ystyr “oriau craidd” (“core hours”) yw’r cyfnod sy’n dechrau gydag 8.00am ac sy’n dod i ben gyda 6.30pm ar ddiwrnod gwaith;

ystyr “panel asesu” (“assessment panel”) yw pwyllgor neu is-bwyllgor i Fwrdd Iechyd Lleol (heblaw’r Bwrdd Iechyd Lleol sy’n barti i’r contract dan sylw) at ddiben gwneud penderfyniadau o dan baragraff 45(7) o Atodlen 3;

ystyr “parafeddyg cofrestredig” (“registered paramedic”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 8 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;

ystyr “parafeddyg-ragnodydd annibynnol” (“paramedic independent prescriber”) yw person—

(a)

sydd naill ai wedi ei gymryd ymlaen neu wedi ei gyflogi gan gontractwr neu sy’n barti i gontract,

(b)

sydd wedi ei gofrestru’n barafeddyg yn Rhan 8 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, ac

(c)

sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 8 o’r gofrestr honno sy’n dynodi bod y person yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel parafeddyg-ragnodydd annibynnol;

ystyr “partneriaeth gyfyngedig” (“limited partnership”) yw partneriaeth a gofrestrwyd yn unol ag adran 5 o Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907(27) (cofrestru partneriaethau cyfyngedig yn ofynnol);

ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 16 mlwydd oed;

ystyr “podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol” (“podiatrist or chiropodist independent prescriber”) yw person—

(a)

sydd wedi ei gymryd ymlaen neu wedi ei gyflogi gan y contractwr neu sy’n barti i’r contract,

(b)

sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 2 o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001(28) (sefydlu a chynnal cofrestr), ac

(c)

sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 2 o’r gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol;

ystyr “practis” (“practice”) yw’r busnes sy’n cael ei weithredu gan y contractwr at ddiben cyflenwi gwasanaethau o dan y contract;

ystyr “practis GMBILl” (“LHBMS practice”) yw practis sy’n darparu Gwasanaethau Meddygol Bwrdd Iechyd Lleol;

ystyr “presgripsiwn amlroddadwy” (“repeatableprescription”) yw presgripsiwn sydd wedi ei gynnwys mewn ffurflen a ddarparwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol at ddiben archebu cyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar a honno yn y fformat sy’n ofynnol gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG ac—

(a)

sydd naill ai—

(i)

wedi ei gynhyrchu drwy gyfrifiadur ond wedi ei lofnodi gan ragnodydd amlroddadwy, neu

(ii)

yn ffurflen a grëwyd mewn fformat electronig, a adwaenir drwy ddefnyddio cod rhagnodydd amlroddadwy, a drawsyrrir fel cyfathrebiad electronig gan y gwasanaeth TPE at fferyllydd GIG, contractwr cyfarpar GIG neu feddyg fferyllol enwebedig ac sydd wedi ei llofnodi â llofnod electronig uwch rhagnodydd amlroddadwy,

(b)

sydd wedi ei ddyroddi neu wedi ei greu i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol, ac

(c)

sy’n dangos y caniateir darparu’r cyffuriau neu’r cyfarpar a archebir ar y ffurflen honno fwy nag unwaith, ac sy’n pennu nifer y troeon y caniateir iddynt gael eu darparu;

ystyr “presgripsiwn amlroddadwy anelectronig” (“non-electronic repeatable prescription”) yw presgripsiwn sy’n dod o fewn paragraff (a)(i) o’r diffiniad o “presgripsiwn amlroddadwy”;

ystyr “presgripsiwn amlroddadwy electronig” (“electronic repeatable prescription”) yw presgripsiwn sy’n dod o fewn paragraff (a)(ii) o’r diffiniad o “presgripsiwn amlroddadwy”;

ystyr “presgripsiwn electronig” (“electronic prescription”) yw ffurflen bresgripsiwn electronig neu bresgripsiwn amlroddadwy electronig;

ystyr “preswylydd dros dro” (“temporary resident”) yw person a dderbyniwyd gan y contractwr fel preswylydd dros dro o dan baragraff 25 o Atodlen 3 ac nad yw cyfrifoldeb y contractwr amdano wedi ei derfynu yn unol â’r paragraff hwnnw;

ystyr “prif ofalwr” (“primary carer”), mewn perthynas ag oedolyn, yw’r oedolyn neu’r sefydliad sy’n gofalu’n bennaf am yr oedolyn hwnnw;

ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” (“health care professional”) yw person, heblaw gweithiwr cymdeithasol, sy’n aelod o broffesiwn a reoleiddir gan gorff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002(29);

ystyr “proffil practis ar-lein” (“online practice profile”) yw proffil—

(a)

sydd ar wefan (heblaw gwefan y GIG), neu blatfform ar-lein, a ddarperir gan berson arall i’r contractwr ei ddefnyddio, a

(b)

y mae’r contractwr yn hysbysebu’r gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’n eu darparu drwyddo;

ystyr “Pwyllgor Meddygol Lleol” (“Local Medical Committee”) yw pwyllgor sydd wedi ei gydnabod o dan adran 54 o’r Ddeddf (Pwyllgorau Meddygol Lleol);

ystyr “radiograffydd cofrestredig” (“registered radiographer”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;

ystyr “radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol” (“therapeutic radiographer independent prescriber”) yw person—

(a)

sy’n radiograffydd cofrestredig, a

(b)

y cofnodir gyferbyn â’i enw yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal—

(i)

hawlogaeth i ddefnyddio’r teitl “radiograffydd therapiwtig” neu “therapeutic radiographer”, a

(ii)

nodyn sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol;

ystyr “rhaglen ôl-gofrestru” (“post registration programme”) yw rhaglen sydd am y tro wedi ei chydnabod gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan reoliad 10A o Ddeddf Meddygaeth 1983 (rhaglenni i feddygon sydd wedi eu cofrestru dros dro) fel un sy’n rhoi i feddygon sydd wedi eu cofrestru dros dro sylfaen dderbyniol ar gyfer ymarfer yn y dyfodol fel ymarferydd meddygol sydd wedi ei gofrestru’n llawn;

ystyr “rhagnodydd” (“prescriber”) yw—

(a)

deintydd,

(b)

nyrs sy’n rhagnodi’n annibynnol,

(c)

ymarferydd meddygol,

(d)

nyrs-ragnodydd annibynnol,

(e)

optometrydd-ragnodydd annibynnol,

(f)

parafeddyg-ragnodydd annibynnol,

(g)

fferyllydd-ragnodydd annibynnol,

(h)

ffisiotherapydd-ragnodydd annibynnol,

(i)

podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol,

(j)

rhagnodydd atodol, neu

(k)

radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol,

sydd naill ai wedi ei gymryd ymlaen neu wedi ei gyflogi gan y contractwr neu sy’n barti i’r contract;

ystyr “rhagnodydd amlroddadwy” (“repeatableprescriber”) yw person—

(a)

sy’n gontractwr GMC sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi o dan y telerau yn ei gontract sy’n rhoi effaith i baragraff 52 (gwasanaethau amlragnodi) o Atodlen 3,

(b)

sy’n gontractwr GMDdA sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi o dan y telerau yn ei gytundeb sy’n rhoi effaith i ddarpariaeth mewn cyfarwyddydau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006 mewn perthynas â chontractau GMDdA, sy’n ddarpariaeth gyfatebol i baragraff 52 o Atodlen 3, neu

(c)

sydd wedi ei gyflogi neu wedi ei gymryd ymlaen—

(i)

gan gontractwr GMC sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi o dan y telerau mewn contract sy’n rhoi effaith i baragraff 52 o Atodlen 3,

(ii)

gan gontractwr GMDdA sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi o dan y telerau mewn cytundeb sy’n rhoi effaith i ddarpariaeth mewn cyfarwyddydau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006 mewn perthynas â chontractau GMDdA, sy’n ddarpariaeth gyfatebol i baragraff 52 o Atodlen 3, neu

(iii)

gan Fwrdd Iechyd Lleol at ddibenion darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol mewn practis GMBILl sy’n darparu gwasanaethau amlragnodi yn unol â darpariaeth mewn cyfarwyddydau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12(3) o Ddeddf 2006 mewn perthynas â Gwasanaethau Meddygol Bwrdd Iechyd Lleol, sy’n ddarpariaeth gyfatebol i baragraff 52(4) o Atodlen 3;

ystyr “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”) yw—

(a)

fferyllydd cofrestredig sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn Rhan 1 o Gofrestr y Cyngor Fferyllol Cyffredinol neu yn y gofrestr a gynhelir o dan Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976 sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol,

(b)

person y mae ei enw wedi ei gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn y Gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel nyrs-ragnodydd annibynnol/atodol,

(c)

person—

(i)

sydd wedi ei gofrestru mewn rhan o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 (sefydlu a chynnal cofrestr) sy’n ymwneud â chiropodyddion a phodiatryddion, deietegyddion, parafeddygon, ffisiotherapyddion neu radiograffwyr, a

(ii)

sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn y gofrestr honno sy’n dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol, neu

(d)

optometrydd sydd â nodyn gyferbyn â’i enw yn y gofrestr o optometryddion a gynhelir o dan adran 7 neu 8B(1)(a) o Ddeddf Optegwyr 1989 sy’n dynodi bod yr optometrydd yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol;

ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Mawrth) 2004;

ystyr “Rheoliadau Fferyllol” (“PharmaceuticalRegulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Mawrth) 2020(30);

ystyr “rhestr contractwr o gleifion” (“contractor’s list of patients”) yw’r rhestr a lunnir ac a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff 22 o Atodlen 3;

ystyr “rhestr cyflawnwyr meddygol” (“medical performers list”) yw rhestr o ymarferwyr meddygol a lunnir ac a gyhoeddir yn unol â rheoliad 3(1) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Cyflawnwyr) (Cymru) 2004(31);

ystyr “rhestr gofal sylfaenol” (“primary care list”) yw—

(a)

rhestr o bersonau sy’n cyflawni gwasanaethau meddygol neu ddeintyddol sylfaenol a lunnir yn unol â rheoliadau a wneir o dan adrannau 49 a 63 o’r Ddeddf,

(b)

rhestr o bersonau sy’n ymgymryd â darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau deintyddol sylfaenol, gwasanaethau offthalmig cyffredinol neu, yn ôl y digwydd, wasanaethau fferyllol a lunnir yn unol â rheoliadau a wneir o dan Ran 4, Rhan 5, Rhan 6, Rhan 7 a Rhan 8 o’r Ddeddf, neu sy’n cynorthwyo yn y gwasanaethau hynny, neu

(c)

rhestr sy’n cyfateb i unrhyw un neu ragor o’r uchod yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys, mewn perthynas ag unrhyw blentyn, unrhyw oedolyn sydd, ym marn y contractwr, am y tro yn cyflawni mewn cysylltiad â’r plentyn hwnnw y rhwymedigaethau sydd fel arfer yn perthyn i riant mewn cysylltiad â’i blentyn;

ystyr “Safonau Gwirio Cyn Cyflogaeth” (“Pre-employment Checks Standards”) yw’r gwiriadau cyn penodi y mae rhaid i gyflogwr ymgymryd â hwy fel rhan o’i broses recriwtio cyn recriwtio staff, y mae rhaid iddynt gynnwys o leiaf yr elfennau a ganlyn o Safonau Gwirio Cyflogaeth y GIG a gyhoeddir gan Gonffederasiwn y GIG—

(a)

y safon gwiriadau adnabod,

(b)

y safon gwiriadau hawl i weithio,

(c)

y safon gwiriadau cofrestru a chymwysterau proffesiynol,

(d)

y safon gwiriadau geirdaon, ac

(e)

y safon gwiriadau cofnodion troseddol;

mae “swm craidd” (“global sum”) i’w ddehongli yn unol â Rhan 2 o Ddatganiad ar Hawlogaethau Ariannol yr GMC;

ystyr “swpddyroddiad” (“batch issue”) yw ffurflen a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol ac a ddyroddir gan ragnodydd amlroddadwy ar yr un pryd â phresgripsiwn amlroddadwy anelectronig i alluogi fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG i gael taliad am ddarparu gwasanaethau amlweinyddu, sydd yn y fformat gofynnol, ac—

(a)

a gynhyrchir gan gyfrifiadur ac nas llofnodir gan ragnodydd amlroddadwy,

(b)

sy’n ymwneud â phresgripsiwn amlroddadwy anelectronig penodol ac sy’n cynnwys yr un dyddiad â’r presgripsiwn hwnnw,

(c)

a ddyroddir fel un o ddilyniant o ffurflenni, sydd â’u nifer yn hafal i nifer y troeon y caniateir darparu’r cyffuriau neu’r cyfarpar a archebir ar y presgripsiwn amlroddadwy anelectronig, a

(d)

sy’n pennu rhif i ddynodi ei safle yn y dilyniant y cyfeirir ato ym mharagraff (c);

ystyr “Tariff Cyffuriau” (“Drug Tariff”) yw’r cyhoeddiad a elwir y Tariff Cyffuriau y cyfeirir ato yn adran 81(4) o’r Ddeddf (trefniadau ar gyfer gwasanaethau fferyllol ychwanegol);

ystyr “TCH” (“CCT”) yw Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant a ddyfernir o dan adran 34L(1) o Ddeddf Meddygaeth 1983(32) (dyfarnu Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant a’i thynnu’n ôl);

ystyr “tocyn GPE” (“EPS token”) yw ffurflen (a all fod yn ffurflen electronig), a gymeradwywyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol—

(a)

y caniateir iddi gael ei dyroddi gan ragnodydd yr un pryd ag y mae presgripsiwn electronig yn cael ei greu, a

(b)

sydd â chod bar neu ddynodydd unigryw sy’n galluogi’r presgripsiwn i gael ei weinyddu gan ddarparwr gwasanaethau fferyllol a all ddefnyddio’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig at ddibenion gweinyddu presgripsiynau, o dan amgylchiadau pan na fo’r darparwr yn gweinyddu’r presgripsiwn fel gweinyddydd enwebedig;

ystyr “wedi ei chau” (“closed”), mewn perthynas â rhestr y contractwr o gleifion, yw wedi ei chau i geisiadau am gynnwys person yn y rhestr o gleifion, heblaw ceisiadau gan aelodau o deulu agos cleifion cofrestredig;

mae i “ymarferydd meddygol” yr ystyr a roddir i “medical practitioner” gan adran 206(1) o’r Ddeddf;

ystyr “ymarferydd meddygol cyffredinol” (“general medical practitioner”) yw ymarferydd meddygol y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol a gedwir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan adran 2 o Ddeddf Meddygaeth 1983(33) (cofrestru ymarferwyr meddygol);

ystyr “Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol” (“Health and Social Care Trust”) yw Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 10 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1991(34) (ymddiriedolaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol);

mae “ysgrifennu” (“writing”), ac eithrio ym mharagraff 109 o Atodlen 3 ac oni bai bod y cyd-destun yn gofyn fel arall, yn cynnwys post electronig ac mae “ysgrifenedig” i’w ddehongli yn unol â hynny.

(2Yn y Rheoliadau hyn, bernir bod defnyddio’r term “ef” mewn perthynas â’r contractwr yn cynnwys cyfeiriad at gontractwr sy’n ymarferydd meddygol unigol, dau neu ragor o unigolion yn ymarfer mewn partneriaeth neu gwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau ac mae ymadroddion cysylltiedig i’w dehongli yn unol â hynny.

(3Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Ddeddf yr un ystyr ag yn y Ddeddf honno.

RHAN 2Contractwyr: amodau a chymhwystra

Amodau: cyffredinol

4.  Dim ond os yw’r amodau a bennir yn rheoliadau 5 a 6 wedi eu bodloni y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ymrwymo i gontract.

Amodau sy’n ymwneud ag ymarferwyr meddygol yn unig

5.—(1Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ymrwymo i gontract, neu’n bwriadu ymrwymo i gontract—

(a)gydag ymarferydd meddygol, mae rhaid i’r ymarferydd meddygol hwnnw fod yn ymarferydd meddygol cyffredinol,

(b)gyda dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth—

(i)rhaid i un partner o leiaf (na chaiff fod yn bartner cyfyngedig) fod yn ymarferydd meddygol cyffredinol, a

(ii)rhaid i unrhyw bartner arall sy’n ymarferydd cyffredinol fod—

(aa)yn ymarferydd meddygol cyffredinol, neu

(bb)wedi ei gyflogi gan Fwrdd Iechyd Lleol, (yng Nghymru a Lloegr a’r Alban) Ymddiriedolaeth GIG, ymddiriedolaeth sefydledig y GIG, (yn yr Alban) Bwrdd Iechyd, neu (yng Ngogledd Iwerddon) Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu

(c)gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau—

(i)rhaid i un gyfran o leiaf yn y cwmni fod yn eiddo cyfreithiol a llesiannol i ymarferydd meddygol cyffredinol, a

(ii)rhaid i unrhyw gyfran arall neu unrhyw gyfrannau eraill yn y cwmni sy’n eiddo cyfreithiol a llesiannol i ymarferydd cyffredinol fod yn eiddo felly—

(aa)i ymarferydd meddygol cyffredinol, neu

(bb)i ymarferydd meddygol sydd wedi ei gyflogi gan Fwrdd Iechyd Lleol, (yng Nghymru a Lloegr a’r Alban) Ymddiriedolaeth GIG, ymddiriedolaeth sefydledig y GIG, (yn yr Alban) Bwrdd Iechyd neu, (yng Ngogledd Iwerddon) Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

(2Ym mharagraff (1)(a), (b)(i) ac (c)(i) nid yw “ymarferydd meddygol cyffredinol” yn cynnwys ymarferydd meddygol y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ymarferydd meddygol y mae paragraff (3), (4) neu (5) yn gymwys iddo.

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ymarferydd meddygol y cyfeirir ato yn erthygl 4(3) o Orchymyn 2010 (ymarferwyr cyffredinol sy’n gymwys i’w cofnodi yn y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol) a oedd wedi ei esemptio o’r gofyniad i fod â’r profiad rhagnodedig o dan—

(a)rheoliad 5(1)(d) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Hyfforddiant Galwedigaethol ar gyfer Ymarfer Meddygol Cyffredinol) 1997(35),

(b)rheoliad 5(1)(d) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Hyfforddiant Galwedigaethol ar gyfer Ymarfer Meddygol Cyffredinol) (Yr Alban) 1998(36), neu

(c)rheoliad 5(1)(d) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Hyfforddiant Galwedigaethol) (Gogledd Iwerddon) 1998(37).

(4Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ymarferydd meddygol sydd â hawl gaffaeledig at ddibenion erthygl 6(2) o Orchymyn 2010 (personau â hawliau caffaeledig) yn rhinwedd y ffaith—

(a)ei fod wedi bod yn brif ymarferydd gwasanaethau cyfyngedig, a

(b)bod enw’r ymarferydd meddygol hwnnw wedi ei gynnwys, fel yr oedd ar 31 Mawrth 1994—

(i)mewn rhestr feddygol a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn cael ei chadw gan Awdurdod Gwasanaethau Iechyd Teuluol(38), neu

(ii)mewn unrhyw restr gyfatebol a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn cael ei chadw gan Fwrdd Iechyd neu gan Asiantaeth Gwasanaethau Canolog Gogledd Iwerddon ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.

(5Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ymarferydd meddygol sydd â hawl gaffaeledig at ddibenion erthygl 6(6) o Orchymyn 2010 (sy’n ymwneud â phersonau sydd wedi eu cymryd ymlaen neu wedi eu darparu fel dirprwy neu wedi eu cyflogi fel cynorthwyydd) oherwydd bod yr ymarferydd meddygol hwnnw, ar o leiaf 10 diwrnod yn y 4 blynedd sy’n gorffen â 31 Mawrth 1994, neu ar o leiaf 40 diwrnod yn y 10 mlynedd sy’n gorffen â’r dyddiad hwnnw—

(a)wedi ei gymryd ymlaen fel dirprwy gan ymarferydd meddygol, neu wedi ei ddarparu fel dirprwy i ymarferydd meddygol, y cynhwyswyd ei enw—

(i)yn y rhestr feddygol a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn cael ei chadw gan Awdurdod Gwasanaethau Iechyd Teuluol, neu

(ii)mewn unrhyw restr gyfatebol a oedd, ar y dyddiad hwnnw, yn cael ei chadw gan Fwrdd Iechyd neu gan Asiantaeth Gwasanaethau Canolog Gogledd Iwerddon ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon, neu

(b)wedi ei gyflogi fel cynorthwyydd (heblaw fel ymarferydd cyffredinol o dan hyfforddiant) gan ymarferydd meddygol o’r fath.

(6Ym mharagraff (4)(a), ystyr “prif ymarferydd gwasanaethau cyfyngedig” yw ymarferydd meddygol a ddarparodd wasanaethau meddygol cyffredinol a oedd yn gyfyngedig i wyliadwriaeth iechyd plant, gwasanaethau atal cenhedlu, gwasanaethau meddygol mamolaeth neu fân lawdriniaeth.

Amod cyffredinol yn ymwneud â phob contract

6.—(1Ni chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ymrwymo i gontract—

(a)gydag ymarferydd meddygol y mae paragraff (2) yn gymwys iddo,

(b)gyda dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, pan fo paragraff (2) yn gymwys i unrhyw berson sy’n bartner yn y bartneriaeth, neu

(c)gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau pan fo paragraff (2) yn gymwys—

(i)i’r cwmni,

(ii)i unrhyw berson y mae cyfran yn y cwmni yn eiddo cyfreithiol neu lesiannol iddo, neu

(iii)i unrhyw gyfarwyddwr neu ysgrifennydd i’r cwmni.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)os yw’r person yn destun anghymhwysiad cenedlaethol;

(b)os yw’r person, yn ddarostyngedig i baragraff (3), wedi ei anghymhwyso neu wedi ei atal dros dro (heblaw drwy orchymyn atal dros dro interim neu gyfarwyddyd wrth aros am ymchwiliad) rhag ymarfer gan unrhyw gorff trwyddedu unrhyw le yn y byd;

(c)os yw’r person, o fewn y 5 mlynedd naill ai cyn llofnodi’r contract neu cyn cychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddiswyddo (heblaw oherwydd dileu swydd) o unrhyw gyflogaeth gan gorff gwasanaeth iechyd, oni bai—

(i)bod y person, os oedd yn cael ei gyflogi fel aelod o broffesiwn gofal iechyd adeg y diswyddo, wedi cael ei gyflogi wedyn gan y corff gwasanaeth iechyd hwnnw neu gan gorff gwasanaeth iechyd arall, a

(ii)bod unrhyw dribiwnlys neu lys cymwys wedi dyfarnu bod y diswyddiad yn ddiswyddiad annheg;

(d)os yw’r person, o fewn y 5 mlynedd naill ai cyn llofnodi’r contract neu cyn cychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddileu o restr gofal sylfaenol, neu os gwrthodwyd ei gynnwys ynddi, oherwydd aneffeithlonrwydd, twyll neu anaddasrwydd (o fewn ystyr adran 107(2), (3) neu (4) o’r Ddeddf (anghymhwyso ymarferwyr)), neu os yw wedi ei ddileu o restr cyflawnwyr a gedwir gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn rhinwedd rheoliad a wnaed o dan adran 49(3) (personau sy’n cyflawni gwasanaethau meddygol sylfaenol) o’r Ddeddf neu os gwrthodwyd ei gynnwys ynddi, oni bai bod enw’r person wedi ei gynnwys wedyn yn y rhestr honno;

(e)os yw’r person wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o lofruddiaeth;

(f)os yw’r person wedi ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig o drosedd heblaw llofruddiaeth a gyflawnwyd ar neu ar ôl 14 Mawrth 2001 a’i fod wedi ei ddedfrydu i gyfnod hwy na 6 mis o garchar;

(g)os yw’r person, yn ddarostyngedig i baragraff (3), wedi ei euogfarnu y tu allan i’r Deyrnas Unedig o drosedd a fyddai’n llofruddiaeth pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr, ac—

(i)bod y drosedd wedi ei chyflawni ar neu ar ôl 26 Mawrth 2002, a

(ii)bod y person wedi ei ddedfrydu i gyfnod hwy na 6 mis o garchar;

(h)os yw’r person wedi ei euogfarnu o drosedd, y cyfeirir ati yn Atodlen 1 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933(39) (troseddau yn erbyn plant a phobl ifanc y mae darpariaethau arbennig o’r Ddeddf hon yn gymwys iddynt), neu yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(40) (troseddau yn erbyn plant o dan 17 oed y mae darpariaethau arbennig yn gymwys iddynt), a gyflawnwyd ar neu ar ôl 1 Mawrth 2004;

(i)os yw’r person ar unrhyw adeg wedi ei gynnwys—

(i)mewn unrhyw restr wahardd o fewn ystyr adran 2 o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(41) (rhestrau gwahardd), neu

(ii)mewn unrhyw restr wahardd o fewn ystyr Erthygl 6 o Orchymyn Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2007(42) (rhestrau gwahardd),

oni bai bod y person wedi ei ddileu o’r rhestr naill ai ar y sail nad oedd yn briodol i’r person fod wedi ei gynnwys ynddi neu o ganlyniad i apêl lwyddiannus;

(j)os yw’r person, o fewn y cyfnod o 5 mlynedd naill ai cyn llofnodi’r contract neu cyn cychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddiswyddo o swydd ymddiriedolwr elusen neu ymddiriedolwr ar gyfer elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiwn Elusennau, Comisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon neu’r Uchel Lys, a bod y gorchymyn hwnnw wedi ei wneud ar sail camymddwyn neu gamreoli wrth weinyddu elusen y bu’r person yn gyfrifol amdano neu yr oedd y person yn ymwybodol ohono, neu y cyfrannodd ymddygiad y person hwnnw ato, neu a hwyluswyd gan ymddygiad y person;

(k)os yw’r person, o fewn y 5 mlynedd naill ai cyn dyddiad llofnodi’r contract neu cyn cychwyn y contract (pa un bynnag sydd gyntaf), wedi ei ddiswyddo rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff mewn achos pan fo’r diswyddo yn rhinwedd adran 34(5)(e) o Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005(43) (pwerau’r Llys Sesiwn);

(l)os —

(i)yw’r person wedi ei wneud yn fethdalwr ac nad yw wedi ei ryddhau o’r methdaliad neu nad yw’r gorchymyn methdaliad wedi ei ddirymu, neu

(ii)dyfarnwyd i ystad y person gael ei secwestru ac nad yw’r person wedi ei ryddhau o’r secwestru;

(m)os yw’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn cyfyngu methdaliad interim o dan Atodlen 4A i Ddeddf Ansolfedd 1986(44) (gorchymyn cyfyngu methdaliad ac ymgymeriad), Atodlen 2A i Orchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989(45) (gorchymyn cyfyngu methdaliad ac ymgymeriad), neu adrannau 56A i 56K o Ddeddf Methdaliad (Yr Alban) 1985(46) (gorchymyn cyfyngu methdaliad, gorchymyn cyfyngu methdaliad interim ac ymgymeriad cyfyngu methdaliad), oni bai bod y person wedi ei ryddhau o’r gorchymyn hwnnw neu fod y gorchymyn hwnnw wedi ei ddirymu;

(n)os yw’r person—

(i)yn ddarostyngedig i gyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled o dan Ran VIIA o Ddeddf Ansolfedd 1986(47) (gorchmynion rhyddhau o ddyled), neu

(ii)yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled neu orchymyn cyfyngu rhyddhau o ddyled interim o dan Atodlen 4ZB i Ddeddf Ansolfedd 1986(48) (gorchmynion cyfyngu rhyddhau o ddyled ac ymgymeriadau);

(o)os yw’r person wedi gwneud cytundeb neu drefniant cyfansoddi gyda chredydwyr y person, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedolaeth ar eu cyfer, ac nad yw’r person wedi ei ryddhau mewn perthynas â’r cytundeb neu â’r trefniant;

(p)os yw’r person yn ddarostyngedig—

(i)i orchymyn anghymhwyso o dan adran 1 o Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986(49) (gorchmynion anghymhwyso: cyffredinol) neu ymgymeriad anghymhwyso o dan adran 1A o’r Ddeddf honno(50) (ymgymeriadau anghymhwyso: cyffredinol),

(ii)i orchymyn anghymhwyso neu ymgymeriad anghymhwyso o dan Erthygl 3 (gorchmynion anghymhwyso: cyffredinol) neu Erthygl 4 (ymgymeriadau anghymhwyso: cyffredinol) o Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002(51), neu

(iii)gorchymyn anghymhwyso o dan adran 429(2) o Ddeddf Ansolfedd 1986(52) (anableddau pan ddirymir gorchymyn gweinyddu yn erbyn unigolyn);

(q)os oes gweinyddydd, derbynnydd gweinyddol neu dderbynnydd wedi ei benodi mewn cysylltiad â’r person;

(r)os yw’r person wedi peri i orchymyn gweinyddu gael ei wneud mewn perthynas â’r contractwr o dan Atodlen B1 i Ddeddf Ansolfedd 1986(53) (gweinyddu); neu

(s)os yw’r contractwr yn bartneriaeth ac—

(i)bod unrhyw lys, tribiwnlys neu gyflafareddwr cymwys yn gorchymyn diddymu’r bartneriaeth, neu

(ii)bod digwyddiad yn digwydd sy’n ei gwneud yn anghyfreithlon i fusnes y bartneriaeth barhau, neu i aelodau o’r bartneriaeth barhau mewn partneriaeth.

(3Nid yw paragraff (2)(b) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (2)(g), yn gymwys i berson—

(a)pan fo’r person hwnnw—

(i)wedi ei anghymhwyso neu wedi ei atal dros dro rhag ymarfer gan gorff trwyddedu y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu

(ii)wedi ei euogfarnu o drosedd y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a

(b)pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni nad yw’r anghymhwysiad, yr atal dros dro neu, yn ôl y digwydd, yr euogfarn yn gwneud y person hwnnw’n anaddas i fod—

(i)yn gontractwr,

(ii)yn bartner, yn achos contract â dau berson neu ragor yn ymarfer mewn partneriaeth, neu

(iii)yn achos cwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau—

(aa)yn berson y mae cyfran yn y cwmni yn eiddo iddo yn gyfreithiol neu’n llesiannol, neu

(bb)yn gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd i’r cwmni.

(4At ddibenion paragraff (2)(c), pan fo person wedi ei gyflogi fel aelod o broffesiwn gofal iechyd, rhaid i unrhyw gyflogaeth ddilynol hefyd fod fel aelod o’r proffesiwn hwnnw.

(5Yn y rheoliad hwn, mae “contractwr” yn cynnwys person y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol yn bwriadu ymrwymo i gontract gydag ef.

Hysbysiad bod amodau heb eu bodloni a rhesymau

7.—(1Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn ystyried nad yw’r amodau a bennir yn rheoliadau 5 a 6 ar gyfer ymrwymo i gontract wedi eu bodloni, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person neu’r personau sy’n bwriadu ymrwymo i’r contract am y canlynol—

(a)ei farn a’r rhesymau dros y farn honno, a

(b)yr hawl i apelio o dan reoliad 8.

(2Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hefyd roi hysbysiad ysgrifenedig o’i farn a’r rhesymau dros y farn honno i unrhyw berson sy’n berchen yn gyfreithiol ac yn llesiannol ar gyfran o gwmni, neu sy’n gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd i gwmni, sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (1) mewn unrhyw achos pan fo ei reswm dros y penderfyniad yn ymwneud â’r person hwnnw.

Hawl i apelio

8.  Caiff person sydd wedi cael hysbysiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 7(1) apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol nad yw’r amodau yn rheoliadau 5 neu 6 wedi eu bodloni.

RHAN 3Datrys anghydfodau cyn contract

Anghydfodau cyn contract

9.—(1Ac eithrio pan fo’r ddau barti i’r darpar gontract yn gyrff gwasanaeth iechyd (ac yn yr achos hwnnw mae adran 7 o’r Ddeddf (contractau’r GIG) yn gymwys), os na all y darpar bartïon i’r contract hwnnw, yn ystod y trafodaethau y bwriedir iddynt arwain at gontract, gytuno ar un o delerau penodol y contract, caiff y naill barti neu’r llall atgyfeirio’r anghydfod at Weinidogion Cymru i ystyried y mater a phenderfynu arno.

(2Rhaid i anghydfodau a atgyfeirir at Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (1) neu adran 7 o’r Ddeddf gael eu hystyried a’u penderfynu yn unol â darpariaethau paragraffau 106(3) i (14) a 107(1) o Atodlen 3, a pharagraff (3) (pan fo’n gymwys) o’r rheoliad hwn.

(3Yn achos anghydfod a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan baragraff (1), mae’r penderfyniad—

(a)yn cael pennu’r telerau sydd i’w cynnwys yn y contract arfaethedig,

(b)yn cael ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol fwrw ymlaen â’r contract arfaethedig, ond ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i’r contractwr arfaethedig fwrw ymlaen â’r contract arfaethedig, ac

(c)yn rhwymo darpar bartïon y contract.

RHAN 4Statws corff gwasanaeth iechyd

Statws corff gwasanaeth iechyd: dewis

10.—(1Caiff person sy’n bwriadu ymrwymo i gontract gyda Bwrdd Iechyd Lleol (“contractwr arfaethedig”), drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Bwrdd Iechyd Lleol cyn ymrwymo i’r contract, ddewis cael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion adran 7 o’r Ddeddf.

(2Mae dewis a wneir gan gontractwr arfaethedig o dan baragraff (1) yn cael effaith gan ddechrau â’r dyddiad yr ymrwymir i’r contract.

(3Os bydd contractwr arfaethedig, yn rhinwedd paragraff (1), yn dewis cael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd, mae natur unrhyw gontract arall yr ymrwymwyd iddo yn flaenorol gan y contractwr arfaethedig hwnnw gyda chorff gwasanaeth iechyd cyn dyddiad y dewis hwnnw, neu unrhyw hawliau neu rwymedigaethau sy’n codi odano, yn parhau heb eu heffeithio.

(4Mae paragraff (5) yn gymwys—

(a)pan fo contractwr sy’n ymarferydd meddygol unigol, neu pan fo dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, yn ymrwymo i gontract gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol, a

(b)pan fo’r contractwr hwnnw i’w ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd yn unol â pharagraff (1).

(5Yn ddarostyngedig i reoliad 11, mae’r contractwr i’w ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion adran 7 o’r Ddeddf (contractau’r GIG) cyhyd ag y mae’r contract hwnnw’n parhau ni waeth am unrhyw newid—

(a)yn y partneriaid sy’n ffurfio’r bartneriaeth,

(b)yn statws y contractwr o statws ymarferydd meddygol unigol i statws partneriaeth, neu

(c)yn statws y contractwr o statws partneriaeth i statws ymarferydd meddygol unigol.

Statws corff gwasanaeth iechyd: amrywio contractau

11.—(1Caiff contractwr ofyn yn ysgrifenedig unrhyw bryd am amrywio’r contract er mwyn cynnwys yn y contract, neu dynnu o’r contract, ddarpariaeth i’r perwyl bod y contract yn gontract GIG, ac os yw’n gwneud hynny—

(a)rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gytuno i’r amrywiad, a

(b)mae’r weithdrefn a bennir yn rheoliad 27 a Rhan 11 o Atodlen 3 ar gyfer amrywio contractau yn gymwys.

(2Os yw’r contractwr, yn rhinwedd cais o dan baragraff (1), i’w ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd, mae unrhyw hawliau neu rwymedigaethau o dan unrhyw gontract arall gyda chorff gwasanaeth iechyd yr ymrwymwyd iddo gan y contractwr cyn y dyddiad y caiff y contractwr ei ystyried felly, yn parhau heb eu heffeithio.

(3Pan fo’r Bwrdd Iechyd Lleol yn cytuno i’r amrywiad i’r contract, rhaid i’r contractwr—

(a)cael ei ystyried, neu

(b)yn ddarostyngedig i reoliad 12, beidio â chael ei ystyried mwyach,

yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion adran 7 o’r Ddeddf gan ddechrau â’r dyddiad y mae’r amrywiad i gymryd effaith yn unol â rheoliad 27 a Rhan 11 o Atodlen 3.

Rhoi’r gorau i statws corff gwasanaeth iechyd

12.—(1Mae contractwr yn peidio â bod yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion adran 7 o’r Ddeddf (contractau’r GIG) os bydd y contract yn terfynu.

(2Pan fo contractwr, yn rhinwedd paragraff (1), yn peidio â bod yn gorff gwasanaeth iechyd mewn perthynas â chontract (“y contract perthnasol”), mae’r contractwr i barhau i gael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion unrhyw gontract GIG arall y daeth yn barti iddo rhwng y dyddiad y daeth yn gorff gwasanaeth iechyd mewn perthynas â’r contract perthnasol a’r dyddiad y peidiwyd â’i ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion y contract hwnnw (ond mae’n peidio â bod yn gorff gwasanaeth iechyd at ddibenion unrhyw gontract GIG arall pan derfynir y contract hwnnw).

(3Pan—

(a)bo contractwr yn peidio â chael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd mewn perthynas â chontract naill ai oherwydd paragraff (1) neu oherwydd amrywiad i’r contract yn rhinwedd rheoliad 11(1), a

(b)bo’r contractwr neu’r Bwrdd Iechyd Lleol—

(i)wedi atgyfeirio unrhyw fater at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG cyn i’r contractwr beidio â bod yn gorff gwasanaeth iechyd, neu

(ii)yn atgyfeirio unrhyw fater a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod pan oedd y contractwr yn cael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG, yn unol â pharagraff 106 o Atodlen 3, ar ôl iddo beidio â bod yn gorff gwasanaeth iechyd,

mae’r contractwr i barhau i gael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd (ac yn unol â hynny mae’r contract i barhau i gael ei ystyried yn gontract GIG) at ddibenion ystyried yr anghydfod a phenderfynu arno.

(4Pan fo contractwr yn parhau i gael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd yn rhinwedd rheoliad 12(3) at ddibenion gweithdrefn datrys anghydfodau’r GIG, mae’r contractwr yn peidio â chael ei ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd at y dibenion hynny ar ddiwedd y weithdrefn honno.

RHAN 5Contractau: telerau gofynnol

Y partïon i’r contract

13.  Rhaid i gontract bennu—

(a)enwau’r partïon i’r contract,

(b)yn achos pob parti i’r contract, y cyfeiriad y dylid anfon gohebiaeth a hysbysiadau swyddogol iddo, ac

(c)yn achos parti i’r contract sy’n bartneriaeth—

(i)enwau’r partneriaid,

(ii)pa un a yw’r bartneriaeth yn bartneriaeth gyfyngedig ai peidio, a

(iii)yn achos partneriaeth gyfyngedig, statws pob partner fel partner cyffredinol neu bartner cyfyngedig.

Contract gwasanaeth iechyd

14.  Os yw contractwr, yn rhinwedd rheoliad 10 neu 11, i’w ystyried yn gorff gwasanaeth iechyd, rhaid i’r contract ddatgan mai contract GIG ydyw.

Contractau gydag unigolion sy’n ymarfer mewn partneriaeth

15.  Pan fo contract yn gontract gyda dau neu ragor o unigolion sy’n gweithio mewn partneriaeth—

(a)mae’r contract i’w drin fel pe bai wedi ei wneud gyda’r bartneriaeth fel y mae wedi ei chyfansoddi o bryd i’w gilydd, a rhaid i’r contract wneud darpariaeth benodol i’r perwyl hwn, a

(b)rhaid i delerau’r contract ei gwneud yn ofynnol i’r contractwr sicrhau bod unrhyw berson sy’n dod yn bartner yn y bartneriaeth ar ôl i’r contract ddod i rym yn cael ei rwymo’n awtomatig gan y contract, pa un ai yn rhinwedd cytundeb partneriaeth neu fel arall.

Hyd

16.—(1Ac eithrio o dan yr amgylchiadau a bennir ym mharagraff (2), rhaid i gontract ddarparu ei fod yn parhau nes iddo gael ei derfynu yn unol â thelerau’r contract neu yn rhinwedd y ffaith bod unrhyw ddarpariaeth gyfreithiol arall ar waith.

(2Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn dymuno ymrwymo i gontract dros dro am gyfnod nad yw’n hwy na 24 o fisoedd ar gyfer darparu gwasanaethau i gyn-gleifion contractwr, ar ôl i gontract y contractwr hwnnw derfynu.

(3Caiff y naill barti neu’r llall i ddarpar gontract y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, os yw’n dymuno gwneud hynny, wahodd y Pwyllgor Meddygol Lleol ar gyfer ardal y Bwrdd Iechyd Lleol i gymryd rhan yn y trafodaethau y bwriedir iddynt arwain at gontract o’r fath.

Gwasanaethau unedig

17.—(1At ddibenion adran 43(1) o’r Ddeddf (gofyniad i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol penodol), y gwasanaethau y mae rhaid eu darparu, ac eithrio o dan amgylchiadau pan fo rheoliad 18(7) neu baragraff 124 o Atodlen 3 yn gymwys, o dan gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol (“gwasanaethau unedig”) yw’r gwasanaethau a ddisgrifir ym mharagraffau (3), (5), (6), (7) a (9), ac Atodlen 2, yn ystod y cyfnod a bennir ym mharagraff (2).

(2Y cyfnod a bennir yn y paragraff hwn yw—

(a)yn achos paragraffau (3), (5) a (6), bob amser o fewn yr oriau craidd fel sy’n briodol i ddiwallu anghenion rhesymol cleifion y contractwr, a

(b)yn achos paragraffau (7) a (9), bob amser o fewn yr oriau craidd.

(3Y gwasanaethau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yw gwasanaethau sy’n ofynnol er mwyn rheoli cleifion cofrestredig contractwr a’i breswylwyr dros dro sydd, neu sy’n credu eu bod—

(a)yn sâl, gyda chyflyrau y disgwylir yn gyffredinol i rywun ymadfer ohonynt,

(b)â salwch angheuol, neu

(c)yn dioddef o glefyd cronig,

a’r gwasanaethau hynny’n cael eu cyflenwi yn y modd a benderfynir gan bractis y contractwr ar ôl ystyried canllawiau neu lwybrau clinigol perthnasol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol a thrwy drafod â’r claf.

(4At ddibenion paragraff (3)—

ystyr “clefyd” (“disease”) yw clefyd sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr o gategorïau tri chymeriad a geir yn y cyhoeddiad diweddaraf o Ddosbarthiad Ystadegol Rhyngwladol Clefydau a Phroblemau Iechyd Cysylltiedig, ac

mae “rheoli” (“management”) yn cynnwys—

(a)

cynnig ymgynghoriad a, pan fo’n briodol, archwiliad corfforol at ddiben nodi’r angen, os oes angen o gwbl, am driniaeth neu ymchwiliad pellach, a

(b)

rhoi ar gael unrhyw driniaeth neu ymchwiliad pellach sy’n angenrheidiol ac sy’n briodol, gan gynnwys atgyfeirio’r claf at wasanaethau eraill o dan y Ddeddf a chysylltu â phroffesiynolion gofal iechyd eraill sy’n ymwneud â thriniaeth a gofal y claf.

(5Y gwasanaethau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yw’r ddarpariaeth o driniaeth a gofal priodol parhaus i holl gleifion cofrestredig a phreswylwyr dros dro y contractwr gan ystyried eu hanghenion penodol sy’n cynnwys—

(a)cyngor mewn cysylltiad ag iechyd y claf a chyngor perthnasol ar hybu iechyd, a

(b)atgyfeirio claf at wasanaethau o dan y Ddeddf,

ynghyd â darparu’r gwasanaethau a bennir ym mharagraff (6).

(6Y gwasanaethau a grybwyllir ym mharagraff (5) yw—

(a)gwasanaethau sgrinio serfigol,

(b)gwasanaethau gwyliadwriaeth iechyd plant,

(c)gwasanaethau brechu ac imiwneiddio i blant,

(d)gwasanaethau atal cenhedlu,

(e)gwasanaethau meddygol mamolaeth,

(f)gwasanaethau mân lawdriniaeth, ac

(g)gwasanaethau brechu ac imiwneiddio.

(7Y gwasanaethau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yw gwasanaethau meddygol sylfaenol sy’n ofynnol er mwyn rhoi triniaeth angenrheidiol ar unwaith i unrhyw berson y gofynnwyd i’r contractwr ddarparu triniaeth iddo oherwydd damwain neu argyfwng mewn unrhyw le yn ardal practis y contractwr.

(8Ym mharagraff (7), mae “argyfwng” yn cynnwys unrhyw argyfwng meddygol pa un a yw’n gysylltiedig â gwasanaethau a ddarperir o dan y contract ai peidio.

(9Y gwasanaethau a ddisgrifir yn y paragraff hwn yw gwasanaethau meddygol sylfaenol sy’n ofynnol er mwyn rhoi triniaeth angenrheidiol ar unwaith i unrhyw berson sy’n dod o fewn paragraff (10) sy’n gofyn am driniaeth o’r fath am y cyfnod a bennir ym mharagraff (11).

(10Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson—

(a)os yw cais y person hwnnw i gael ei gynnwys yn rhestr y contractwr o gleifion wedi ei wrthod yn unol â pharagraff 26 o Atodlen 3 ac nad yw’r person hwnnw wedi ei gofrestru gyda darparwr arall gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol) yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol,

(b)os yw cais y person hwnnw i gael ei dderbyn fel preswylydd dros dro wedi ei wrthod yn unol â pharagraff 26 o Atodlen 3, neu

(c)os yw’r person hwnnw’n bresennol yn ardal practis y contractwr am lai na 24 awr.

(11Y cyfnod a bennir yn y paragraff hwn yw—

(a)yn achos person y mae paragraff (10)(a) yn gymwys iddo, 14 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y gwrthodwyd cais y person hwnnw neu hyd nes y bydd y person hwnnw wedi ei gofrestru wedyn mewn man arall ar gyfer darparu gwasanaethau unedig (neu wasanaethau cyfatebol), pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf,

(b)yn achos person y mae paragraff (10)(b) yn gymwys iddo, 14 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y gwrthodwyd cais y person hwnnw neu hyd nes y bydd y person hwnnw wedi ei dderbyn wedyn mewn man arall fel preswylydd dros dro, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf, ac

(c)yn achos person y mae paragraff (10)(c) yn gymwys iddo, 24 awr neu unrhyw gyfnod byrrach y mae’r person yn bresennol yn ardal practis y contractwr.

Gwasanaethau: cyffredinol

18.—(1Rhaid i gontract bennu—

(a)y gwasanaethau i’w darparu,

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (4), cyfeiriad pob mangre sydd i’w defnyddio gan y contractwr neu unrhyw is-gontractwr i ddarparu’r gwasanaethau hynny,

(c)y personau y mae’r gwasanaethau hynny i’w darparu iddynt,

(d)yr ardal (“ardal practis” y contractwr) y mae gan bersonau sy’n preswylio ynddi, yn ddarostyngedig i unrhyw delerau eraill yn y contract sy’n ymwneud â chofrestru cleifion, hawlogaeth mewn perthynas â hi—

(i)i gofrestru gyda’r contractwr, neu

(ii)i ofyn am gael eu derbyn gan y contractwr fel preswylydd dros dro, ac

(e)pa un a yw rhestr y contractwr o gleifion, gan ddechrau â’r dyddiad y daw’r contract i rym, yn agored ynteu wedi ei chau.

(2Rhaid i gontract hefyd—

(a)cynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r contractwr—

(i)rhoi apwyntiadau ar gyfer gwasanaethau unedig ar gael i’w gleifion am unrhyw gyfran o’r oriau craidd ar bob diwrnod gwaith fel sy’n briodol i ddiwallu anghenion rhesymol y cleifion hynny,

(ii)bod â threfniadau yn eu lle i’w gleifion gael mynediad at wasanaethau unedig drwy gydol yr oriau craidd os bydd argyfwng,

(iii)sicrhau bod pob mangre practis, heblaw unrhyw fangre practis a bennir ym mharagraff (3), yn agored ac yn gorfforol hygyrch i gleifion—

(aa)bob amser rhwng 8.30am a 6.00pm ar bob diwrnod gwaith, a

(bb)am unrhyw gyfnodau eraill o fewn yr oriau craidd sy’n ofynnol i alluogi’r contractwr i gydymffurfio â’r gofynion yn rheoliad 17, rheoliad 18 ac Atodlen 3, a

(b)nodi’r cyfnod (os oes cyfnod o gwbl) y darperir unrhyw wasanaethau heblaw gwasanaethau unedig.

(3Y fangre practis a bennir yn y paragraff hwn yw mangre practis y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi cytuno, yn ysgrifenedig â’r contractwr, ar oriau agor mwy cyfyngedig ar ei chyfer oherwydd nad yw’r fangre practis yn un o brif safleoedd y contractwr.

(4Nid yw’r mangreoedd y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yn cynnwys—

(a)cartrefi cleifion, na

(b)unrhyw fangre arall lle y darperir gwasanaethau ar sail argyfwng.

(5Pan nad yw’r Bwrdd Iechyd Lleol, ar y dyddiad y llofnodir y contract, wedi ei fodloni bod pob un neu unrhyw un neu ragor o’r mangreoedd a bennir yn unol â pharagraff (1)(b) yn bodloni’r gofynion a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 3, mae rhaid i’r contract gynnwys cynllun, wedi ei lunio ar y cyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr, sy’n pennu—

(a)y camau a gymerir gan y contractwr i ddod â’r fangre i’r safon berthnasol,

(b)unrhyw gymorth ariannol a all fod ar gael gan y Bwrdd Iechyd Lleol, ac

(c)yr amserlen y mae’r camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) i’w cymryd ynddi.

(6Pan fo’r contract, yn unol â pharagraff (1)(e), yn pennu bod rhestr y contractwr o gleifion wedi ei chau, rhaid i’r contract hefyd bennu mewn perthynas â’r cau hwnnw bob un o’r eitemau a restrir ym mharagraff 39(2) o Atodlen 3.

(7Caiff y Bwrdd Iechyd Lleol, o dan amgylchiadau eithriadol neu ar gyfer amser dysgu gwarchodedig, roi cytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw i gontractwyr i leihau dros dro yr oriau y maent yn darparu gwasanaethau unedig ar ddiwrnod gwaith, ar yr amod bod gan y contractwr drefniadau yn eu lle i’w gleifion barhau i gael mynediad at wasanaethau unedig drwy gydol yr oriau craidd ar y diwrnod gwaith hwnnw os bydd argyfwng.

Tystysgrifau

19.—(1Rhaid i gontract gynnwys teler sydd â’r effaith o’i gwneud yn ofynnol i’r contractwr ddyroddi, am ddim i glaf neu i gynrychiolydd claf, unrhyw dystysgrif feddygol o ddisgrifiad a ragnodir yng ngholofn 1 o Atodlen 1, sy’n rhesymol ofynnol o dan y deddfiadau, neu at ddibenion y deddfiadau a bennir mewn perthynas â’r dystysgrif yng ngholofn 2 o’r Atodlen honno, yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(2Ni chaniateir dyroddi tystysgrif, o ran y cyflwr y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef—

(a)pan fo’r claf yn cael sylw gan ymarferydd meddygol nad yw—

(i)wedi ei gyflogi nac wedi ei gymryd ymlaen gan y contractwr,

(ii)yn achos contract gyda dau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth, yn un o’r personau hynny, neu

(iii)yn achos contract gyda chwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau, yn un o’r personau y mae cyfrannau yn y cwmni hwnnw yn eiddo iddo yn gyfreithiol neu’n llesiannol, neu

(b)pan nad yw’r claf yn cael ei drin gan broffesiynolyn gofal iechyd neu o dan oruchwyliaeth proffesiynolyn gofal iechyd.

(3Nid yw’r eithriad ym mharagraff (2)(a) yn gymwys pan fo’r dystysgrif yn cael ei dyroddi—

(a)yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Tystiolaeth Feddygol) 1976(54) (tystiolaeth o analluogrwydd ar gyfer gwaith, gallu cyfyngedig ar gyfer gwaith a gwelyfod), neu

(b)yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Tâl Salwch Statudol (Tystiolaeth Feddygol) 1985(55) (gwybodaeth feddygol).

Cyllid

20.—(1Rhaid i’r contract gynnwys teler sydd â’r effaith o’i gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud o dan y contract yn brydlon ac yn unol â’r canlynol—

(a)telerau’r contract, a

(b)unrhyw amodau eraill yn ymwneud â thaliad a gynhwysir mewn cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 (arfer swyddogaethau) neu adran 45 o’r Ddeddf (contractau GMC: taliadau).

(2Rhaid i’r contract gynnwys teler i’r perwyl, pan fo’n ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol wneud taliad i gontractwr o dan gontract ond yn ddarostyngedig i amodau, yn unol â chyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 (arfer swyddogaethau) neu adran 45 (contractau GMC: taliadau) o’r Ddeddf, fod rhaid i’r amodau hynny fod yn un o delerau’r contract.

(3Mae’r rhwymedigaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn ddarostyngedig i unrhyw hawl a all fod gan y Bwrdd Iechyd Lleol i osod yn erbyn unrhyw swm sy’n daladwy i’r contractwr o dan y contract unrhyw swm—

(a)sy’n ddyledus gan y contractwr i’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan y contract, neu

(b)y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ei gadw’n ôl oddi wrth y contractwr yn unol â thelerau’r contract neu unrhyw ddarpariaethau cymwys a gynhwysir mewn cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 45 o’r Ddeddf.

Ffioedd, taliadau a buddiannau ariannol

21.—(1Rhaid i’r contract gynnwys telerau yn ymwneud â ffioedd, taliadau a buddiannau ariannol sydd â’r un effaith â’r rhai a nodir ym mharagraffau (2) i (9).

(2Ni chaiff y contractwr, naill ai drosto’i hun neu drwy unrhyw berson arall, fynnu oddi wrth unrhyw un neu ragor o’i gleifion ffi na thaliad cydnabyddiaeth arall er ei fudd ei hun nac er budd person arall, na derbyn ffi na thaliad cydnabyddiaeth o’r fath, mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)darparu unrhyw driniaeth, pa un ai o dan y contract neu fel arall, neu

(b)unrhyw bresgripsiwn neu bresgripsiwn amlroddadwy ar gyfer unrhyw gyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar,

ac eithrio o dan yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 22.

(3Ni chaiff y contractwr, naill ai drosto’i hun neu drwy unrhyw berson arall, fynnu oddi wrth unrhyw un neu ragor o’i gleifion ffi na thaliad cydnabyddiaeth arall er ei fudd ei hun nac er budd person arall, na derbyn ffi na thaliad cydnabyddiaeth o’r fath, am gwblhau’r canlynol mewn perthynas ag iechyd meddwl y claf—

(a)y ffurflen tystiolaeth dyled ac iechyd meddwl, neu

(b)unrhyw archwiliad o’r claf neu o gofnod meddygol y claf er mwyn cwblhau’r ffurflen, at ddiben cynorthwyo credydwyr i benderfynu pa gamau i’w cymryd pan fo gan y dyledwr broblem iechyd meddwl.

(4Ni chaiff y contractwr, naill ai drosto’i hun neu drwy unrhyw berson arall, fynnu oddi wrth unrhyw un neu ragor o’i gleifion ffi na thaliad cydnabyddiaeth arall er ei fudd ei hun nac er budd person arall, na derbyn ffi na thaliad cydnabyddiaeth o’r fath, am baratoi neu ddarparu—

(a)tystiolaeth bod yr unigolyn yn ddioddefwr cam-drin domestig, neu’n wynebu risg o fod yn ddioddefwr cam-drin domestig, y bwriedir iddi ategu cais gan yr unigolyn am wasanaethau cyfreithiol sifil, neu

(b)unrhyw dystiolaeth arall bod yr unigolyn yn ddioddefwr cam-drin domestig, neu’n wynebu risg o fod yn ddioddefwr cam-drin domestig, sydd o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6)—

(a)pan fo person—

(i)yn gwneud cais i gontractwr am ddarpariaeth gwasanaethau unedig, a

(ii)yn honni ei fod ar restr y contractwr hwnnw o gleifion, a

(b)bod gan y contractwr amheuon rhesymol ynglŷn â honiad y person hwnnw,

rhaid i’r contractwr roi unrhyw driniaeth angenrheidiol i’r person hwnnw a chaiff fynnu a derbyn gan y person hwnnw ffi resymol yn unol â rheoliad 22(e).

(6Pan fo—

(a)person y mae’r contractwr wedi cael ffi ganddo o dan reoliad 22(e) yn gwneud cais i’r Bwrdd Iechyd Lleol am ad-daliad o fewn 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad talu’r ffi (neu o fewn unrhyw gyfnod hwy nad yw’n fwy na 4 wythnos fel y gall y Bwrdd Iechyd Lleol ei ganiatáu os yw wedi ei fodloni bod y methiant i wneud cais o fewn 14 o ddiwrnodau yn rhesymol), a

(b)y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod y person hwnnw ar restr y contractwr o gleifion pan gafodd y driniaeth ei rhoi,

caiff y Bwrdd Iechyd Lleol adennill swm y ffi oddi wrth y contractwr, drwy ddidyniad o daliad cydnabyddiaeth y contractwr neu fel arall, a rhaid iddo dalu’r swm a adenillir i’r person a dalodd y ffi.

(7Wrth ddarparu gwasanaethau i gleifion o dan y contract, rhaid i’r contractwr—

(a)darparu gwybodaeth ynghylch gwasanaethau y mae’n eu darparu heblaw o dan y contract, dim ond pan fo hynny’n briodol ac yn unol â’r cyfyngiad ar hysbysebu gwasanaethau preifat ym mharagraff 134 o Atodlen 3,

(b)pan fo’n darparu gwybodaeth o’r fath, sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn deg ac yn gywir, ac

(c)pan fo’r gwasanaethau eraill ar gael i’r claf fel rhan o’r gwasanaeth iechyd a sefydlwyd o dan adran 1(1) o’r Ddeddf (dyletswydd Gweinidogion Cymru i hybu gwasanaeth iechyd), roi gwybod i’r claf—

(i)bod y gwasanaethau ar gael felly,

(ii)am unrhyw dâl sy’n gymwys i’r gwasanaeth iechyd hwnnw ac, os nad oes tâl o’r fath yn gymwys, bod y gwasanaeth ar gael am ddim, a

(iii)sut i gael mynediad at y gwasanaeth iechyd hwnnw.

(8Wrth wneud penderfyniad—

(a)i atgyfeirio claf at wasanaethau eraill o dan y Ddeddf, neu

(b)i ragnodi unrhyw gyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar i glaf,

rhaid i’r contractwr wneud y penderfyniad hwnnw heb ystyried ei fuddiannau ariannol ei hun.

(9Ni chaiff y contractwr roi gwybod i gleifion fod rhaid i unrhyw bresgripsiwn ar gyfer unrhyw gyffur, meddyginiaeth neu gyfarpar gael ei weinyddu gan y contractwr neu gan berson y mae’r contractwr yn gysylltiedig ag ef yn unig.

Amgylchiadau lle y caniateir codi ffioedd a thaliadau

22.  Caiff y contractwr fynnu neu dderbyn (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) ffi neu daliad cydnabyddiaeth arall—

(a)gan unrhyw gorff statudol am wasanaethau a ddarperir at ddibenion swyddogaethau statudol y corff hwnnw;

(b)gan unrhyw gorff, cyflogwr neu ysgol—

(i)am archwiliad meddygol arferol o bersonau y mae’r corff, y cyflogwr neu’r ysgol yn gyfrifol am eu lles, neu

(ii)am archwilio personau o’r fath at y diben o gynghori’r corff, y cyflogwr neu’r ysgol am unrhyw gamau gweinyddol y gallent eu cymryd;

(c)am driniaeth nad yw’n wasanaethau meddygol sylfaenol neu’n ofynnol fel arall o dan y contract ac sy’n cael ei rhoi—

(i)mewn lle sy’n cael ei roi ar gael yn unol â darpariaethau paragraff 11 o Atodlen 5 i’r Ddeddf (lle a gwasanaethau i gleifion preifat), neu

(ii)mewn cartref nyrsio cofrestredig nad yw’n darparu gwasanaethau o dan y Ddeddf,

os yw’r person sy’n rhoi’r driniaeth, yn y naill achos neu’r llall, yn gwasanaethu ar staff ysbyty sy’n darparu gwasanaethau o dan y Ddeddf fel arbenigwr sy’n darparu triniaeth o’r math y mae ar y claf ei angen ac os yw’r contractwr neu’r person sy’n darparu’r driniaeth, o fewn 7 niwrnod ar ôl rhoi’r driniaeth, yn rhoi i’r Bwrdd Iechyd Lleol, ar ffurflen a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol at y diben hwnnw, unrhyw wybodaeth a all fod yn ofynnol gan y Bwrdd Iechyd Lleol;

(d)o dan adran 158 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 (tâl am driniaeth frys ar gyfer anafiadau traffig);

(e)pan fo’r contractwr yn trin claf o dan reoliad 21(5), ac yn yr achos hwnnw mae gan y contractwr hawlogaeth i fynnu a derbyn ffi resymol (y gellir ei hadennill o dan amgylchiadau penodol o dan reoliad 21(6) am unrhyw driniaeth a roddir, os yw’r contractwr yn rhoi derbynneb i’r claf;

(f)am roi sylw i glaf ac archwilio claf (ond nid ei drin fel arall)—

(i)mewn gorsaf heddlu, ar gais y claf, mewn cysylltiad ag achos troseddol posibl yn erbyn y claf,

(ii)at ddiben llunio adroddiad neu dystysgrif feddygol, ar gais sefydliad masnachol, addysgol neu nid-er-elw,

(iii)at ddiben creu adroddiad meddygol sy’n ofynnol mewn cysylltiad â hawliad gwirioneddol neu hawliad posibl am ddigollediad gan y claf;

(g)am driniaeth sy’n cynnwys imiwneiddiad nad oes tâl cydnabyddiaeth yn daladwy amdano gan y Bwrdd Iechyd Lleol ac y gofynnir amdano mewn cysylltiad â theithio dramor;

(h)am archwiliad meddygol—

(i)i alluogi penderfyniad i gael ei wneud ynghylch pa un a yw’n annoeth ai peidio ar sail feddygol i berson wisgo gwregys diogelwch, neu

(ii)at ddiben creu adroddiad—

(aa)ynghylch damwain traffig ar y ffordd neu ymosodiad troseddol, neu

(bb)sy’n cynnig barn pa un a yw claf yn ffit i deithio;

(i)am brofi golwg person nad yw’r un o baragraffau (a), (b) nac (c) o adran 71(2) o’r Ddeddf (trefniadau ar gyfer gwasanaethau offthalmig cyffredinol) yn gymwys iddo (gan gynnwys oherwydd rheoliadau o dan adrannau 71(8) a (9) o’r Ddeddf).

Data Gweithgareddau ac Apwyntiadau

23.—(1Rhaid i gontract gynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr—

(a)cynnal eu hapwyntiadau wedi eu mapio yn yr adran berthnasol yn y Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol,

(b)adolygu eu data cyflwyno o leiaf unwaith y mis,

(c)sicrhau bod y categorïau wedi eu mapio yn gyfoes, a

(d)sicrhau bod eu gweinydd bob amser wedi ei droi ymlaen, yn cael ei gynnal ac ar gael i alluogi’r feddalwedd berthnasol i echdynnu’r data.

(2Rhaid i’r data ar weithgareddau ac apwyntiadau ar draws y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol gael eu trafod yng nghyfarfodydd y Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol gan y cynrychiolwyr awdurdodedig o’r practisau sy’n aelodau o’r Gydweithredfa Ymarfer Cyffredinol, gyda’r nod o ddatblygu mesurau ar draws y practisau hynny sy’n aelodau i reoli’r galw a safoni arfer da, a phan fo’n briodol, ansawdd data.

Rheolau ar Setiau Data a Busnes

24.  Rhaid i gontract gynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr ddarparu data, pan fo hynny’n gymwys, yn unol â rheolau’r busnes a ddefnyddir o fewn y Fframwaith Sicrwydd.

Sicrhau’r contract

25.—(1Rhaid i gontract gynnwys, yn ychwanegol at y gofynion yn Atodlen 3, deler sy’n ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr ymgysylltu â’r Bwrdd Iechyd Lleol yn y prosesau a amlinellir yn y Fframwaith Sicrwydd cyhoeddedig diweddaraf—

(a)drwy ddarparu datganiadau a data, neu hwyluso cyflenwi data, fel sy’n ofynnol er mwyn rheoli’r contract ac er mwyn bodloni gofynion sicrwydd y contract,

(b)fel y bo’n ofynnol gan y Fframwaith Sicrwydd, drwy ymgysylltu â’r Bwrdd Iechyd Lleol ym mhrosesau adolygu ffurfiol y practis o’r contract a’r llywodraethu,

(c)yn dilyn pob adolygiad practis ffurfiol o’r contract a’r llywodraethu, drwy lunio Cynllun Ymateb Practis i’r Contract a’r Fframwaith Llywodraethu i fynd i’r afael, o fewn cyfnod y cytunir arno, ag unrhyw bryderon a godwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a

(d)os oes angen mynd i’r afael â phryderon drwy lefelau ysgol uwchgyfeirio’r Fframwaith Sicrwydd, drwy weithio’n gadarnhaol gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol i ddatrys pryderon.

(2Rhaid i gontract gynnwys teler sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r Bwrdd Iechyd Lleol ddilyn y prosesau ac ystyried yr egwyddorion a amlinellir yn y Fframwaith Sicrhau cyhoeddedig diweddaraf—

(a)drwy ddefnyddio’r dangosyddion y cytunwyd arnynt yn genedlaethol yn y Fframwaith Sicrwydd ynghyd â’r asesiad hunan-adroddedig gan y contractwr, i nodi’r blaenoriaethau yn y broses sicrwydd contract a llywodraethu,

(b)drwy bennu natur a dyfnder adolygiad ffurfiol y practis o’r contract a’r llywodraethu gan ystyried y blaenoriaethau a nodwyd yn y broses sicrwydd contract a llywodraethu,

(c)drwy ymgysylltu a gweithio’n gadarnhaol â’r contractwr i ddatrys pryderon,

(d)drwy roi adborth ar lafar i’r contractwr yn ystod yr ymweliad, gan gynnwys unrhyw ofynion i’r contractwr fynd i’r afael ag unrhyw bryderon sy’n codi ar unwaith,

(e)drwy anfon adborth ysgrifenedig mewn Adroddiad ar Ymweliad Contract a Llywodraethu at y contractwr o fewn 20 o ddiwrnodau gwaith ar ôl yr ymweliad,

(f)drwy werthuso Cynllun Ymateb Practis i’r Contract a’r Fframwaith Llywodraethu o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl ei gael,

(g)drwy gytuno ar unrhyw ddyddiad ar gyfer gwaith dilynol gyda’r contractwr, gan gynnwys adolygu pa un a gafodd unrhyw bryderon uniongyrchol sylw boddhaol, ac

(h)drwy hysbysu’r contractwr os oes angen mynd i’r afael â phryderon drwy ddefnyddio lefelau ysgol uwchgyfeirio’r Fframwaith Sicrwydd.

Is-gontractio

26.  Rhaid i gontract gynnwys telerau sy’n atal contractwr rhag is-gontractio unrhyw un neu ragor o’i rwymedigaethau o dan y contract mewn perthynas â materion clinigol, neu faterion nad ydynt yn glinigol sy’n effeithio’n uniongyrchol ar gleifion, ac eithrio o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer gan baragraff 76 o Atodlen 3.

Amrywio contractau

27.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dim ond o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer yn Rhan 11 o Atodlen 3 y caniateir gwneud amrywiad neu ddiwygiad i’r contract.

(2Nid yw paragraff (1) yn atal amrywio neu ddiwygio contract o dan yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer ym mharagraffau 76(8), 109, 110, 111 a 124 o Atodlen 3.

Terfynu contract

28.—(1Dim ond fel y darperir ar ei gyfer gan Ran 11 o Atodlen 3 y caniateir terfynu contract.

(2Rhaid i gontract wneud darpariaeth addas ar gyfer y trefniadau sydd i gael effaith pan derfynir y contract, gan gynnwys canlyniadau dod â’r contract i ben (pa un ai’n ariannol neu fel arall).

(3Rhaid i’r darpariaethau sy’n ymdrin â’r canlyniadau ariannol o derfynu gynnwys o leiaf ddarpariaethau sy’n cael yr effaith a bennir ym mharagraffau (4), (5), (6), (7) ac (8) a rhaid iddynt ddarparu bod y darpariaethau hynny i barhau ar ôl i’r contract gael ei derfynu.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5), (6), (7) ac (8), mae rhwymedigaeth y Bwrdd Iechyd Lleol i wneud taliadau i’r contractwr yn unol â’r contract yn dod i ben ar ddyddiad terfynu’r contract.

(5Ar derfyn y contract neu pan y’i terfynir am unrhyw reswm, rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gysoni’r taliadau a wnaed gan y Bwrdd Iechyd Lleol i’r contractwr a nodi i ba raddau y mae’r contractwr wedi cyflawni’r rhwymedigaethau o dan y contract y mae’r taliadau hynny yn ymwneud â hwy (a rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol hefyd, os yw’r contractwr wedi terfynu’r contract yn unol â pharagraff 114 o Ran 11 o Atodlen 3 ond heb gyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract drwy gydol y cyfnod hysbysu (neu unrhyw gyfnod byrrach y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r contractwr wedi cytuno arno yn ysgrifenedig), fod â hawlogaeth i adlewyrchu yn y cysoniad unrhyw gostau ychwanegol y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi mynd iddynt wrth sicrhau gwasanaethau eraill drwy gydol y cyfnod hysbysu hwnnw).

(6Rhaid i’r Bwrdd Iechyd Lleol gyflwyno i’r contractwr fanylion ysgrifenedig y cysoniad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, a pha un bynnag, heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl terfynu’r contract.

(7Os yw’r contractwr yn dadlau cywirdeb y cysoniad, caiff y contractwr atgyfeirio’r anghydfod at weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y dyddiad y cyflwynodd y Bwrdd Iechyd Lleol fanylion ysgrifenedig y cysoniad i’r contractwr. Bydd y penderfyniad hwnnw ar yr anghydfod yn rhwymo’r partïon.

(8Rhaid i bob parti dalu i’r parti arall unrhyw arian sy’n ddyledus o fewn 3 mis i’r dyddiad y cyflwynodd y Bwrdd Iechyd Lleol fanylion ysgrifenedig y cysoniad i’r contractwr, neu’r dyddiad y mae’r weithdrefn datrys anghydfodau’r GIG yn dod i ben, yn ôl y digwydd.

(9Rhaid i’r darpariaethau sy’n ymdrin â chanlyniadau anariannol terfynu gynnwys o leiaf y darpariaethau ym mharagraffau (10) ac (11) a rhaid iddynt ddarparu bod y darpariaethau hynny i barhau ar ôl i’r contract gael ei derfynu.

(10Rhaid i’r contract ddarparu nad yw terfynu’r contract, am ba reswm bynnag, yn rhagfarnu hawliau cronedig y naill barti na’r llall o dan y contract.

(11Rhaid i’r contract ddarparu, pan derfynir y contract am unrhyw reswm, fod rhaid i’r contractwr—

(a)yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff (11) hwn, beidio â chyflawni unrhyw waith nac unrhyw rwymedigaethau o dan y contract,

(b)cydweithredu â’r Bwrdd Iechyd Lleol i hwyluso’r gwaith o ymdrin ag unrhyw faterion sy’n weddill o dan y contract, neu o ddod â materion o’r fath i ben yn foddhaol,

(c)cydweithredu â’r Bwrdd Iechyd Lleol i hwyluso’r broses o drosglwyddo cleifion y contractwr i un neu ragor o gontractwyr eraill neu ddarparwyr gwasanaethau unedig (neu ddarparwyr cyfatebol), y mae rhaid i hynny gynnwys—

(i)darparu gwybodaeth resymol am gleifion unigol, a

(ii)rhoi cofnodion cleifion, a

(d)rhoi popeth sy’n eiddo i’r Bwrdd Iechyd Lleol i’r Bwrdd Iechyd Lleol gan gynnwys yr holl ddogfennau, ffurflenni, caledwedd a meddalwedd gyfrifiadurol, cyffuriau, cyfarpar neu offer meddygol a all fod ym meddiant neu o dan reolaeth y contractwr.

Telerau eraill yn y contract

29.—(1Oni bai ei fod o fath neu natur nad yw darpariaeth benodol yn gymwys iddo neu iddi, rhaid i gontract gynnwys telerau eraill sydd â’r un effaith â’r rhai a bennir yn Atodlen 3 ac eithrio paragraffau 45(5) i (9), 46(5) i (17), 106(5) i (14) a 107.

(2Mae’r paragraffau a bennir ym mharagraff (1) yn cael effaith mewn perthynas â’r materion a nodir yn y paragraffau hynny.

RHAN 6Swyddogaethau Pwyllgorau Meddygol Lleol

30.—(1Swyddogaethau Pwyllgor Meddygol Lleol a ragnodir at ddibenion adran 54(7) o’r Ddeddf (Pwyllgorau Meddygol Lleol) yw—

(a)ystyried unrhyw gŵyn a wneir iddo gan unrhyw ymarferydd meddygol yn erbyn ymarferydd meddygol a bennir ym mharagraff (2) sy’n darparu gwasanaethau o dan gontract yn yr ardal berthnasol sy’n cynnwys unrhyw gwestiwn ynglŷn ag effeithlonrwydd y gwasanaethau hynny,

(b)adrodd ar ganlyniad yr ystyriaeth ar unrhyw gŵyn o’r fath i’r Bwrdd Iechyd Lleol y delir y contract gydag ef mewn achosion pan fo’r ystyriaeth honno’n arwain at unrhyw bryderon ynglŷn ag effeithlonrwydd y gwasanaethau a ddarperir o dan gontract,

(c)gwneud trefniadau ar gyfer archwiliad meddygol i ymarferydd meddygol a bennir ym mharagraff (2), pan fo’r contractwr neu’r Bwrdd Iechyd Lleol yn pryderu bod yr ymarferydd meddygol yn methu darparu gwasanaethau o dan y contract yn ddigonol a’i fod yn gofyn am hyn gyda chytundeb yr ymarferydd meddygol dan sylw, a

(d)ystyried yr adroddiad ar unrhyw archwiliad meddygol a drefnir yn unol ag is-baragraff (c) a llunio adroddiad ysgrifenedig ynghylch gallu’r ymarferydd meddygol i ddarparu gwasanaethau yn ddigonol o dan y contract i’r ymarferydd meddygol dan sylw, i’r contractwr ac i’r Bwrdd Iechyd Lleol y mae’r contractwr yn dal contract gydag ef.

(2Mae’r ymarferydd meddygol y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) ac (c) yn ymarferydd meddygol sydd—

(a)yn gontractwr,

(b)yn un o ddau neu ragor o bersonau yn ymarfer mewn partneriaeth sy’n dal contract, neu

(c)yn gyfranddaliwr cyfreithiol a llesiannol mewn cwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfrannau ac sy’n dal contract.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “yr ardal berthnasol” yw’r ardal y mae’r Pwyllgor Meddygol Lleol wedi ei ffurfio ar ei chyfer.

RHAN 7Darpariaeth drosiannol gyffredinol ac arbediad, diwygiadau canlyniadol a dirymiadau

Darpariaeth drosiannol gyffredinol ac arbediad

31.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i’r canlynol—

(a)arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan Reoliadau 2004 cyn y dyddiad cychwyn, a

(b)unrhyw hawliau neu atebolrwyddau sydd gan y Bwrdd Iechyd Lleol mewn cysylltiad ag arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan Reoliadau 2004.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae unrhyw weithred neu anweithred ynglŷn â chontract yr oedd Rheoliadau 2004 yn gymwys iddo yn union cyn y dyddiad cychwyn mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion a bennir ym mharagraff (1), i’w thrin fel gweithred neu anweithred ynglŷn â chontract y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae unrhyw beth sydd, cyn y dyddiad cychwyn, wedi ei wneud neu wrthi’n cael ei wneud o dan Reoliadau 2004 ynglŷn â chontract yr oedd Rheoliadau 2004 yn gymwys iddo yn union cyn y dyddiad hwnnw mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r materion a bennir ym mharagraff (1), i’w drin fel pe bai wedi ei wneud neu wrthi’n cael ei wneud o dan y Rheoliadau hyn.

(4Er gwaethaf paragraffau (2) a (3) a’r dirymiadau y darperir ar eu cyfer yn Atodlen 6, pan fo Rheoliadau 2004 yn cynnwys darpariaeth nad oes darpariaeth gyfatebol ar ei chyfer yn y Rheoliadau hyn (“y ddarpariaeth berthnasol”), mae Rheoliadau 2004, fel yr oeddent mewn grym yn union cyn y dyddiad cychwyn, i barhau i fod yn gymwys i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddibenion—

(a)cadw unrhyw hawliau a roddwyd neu atebolrwyddau a gronnwyd gan neu o dan y ddarpariaeth berthnasol, neu

(b)asesu neu benderfynu ar unrhyw hawliau neu atebolrwyddau sy’n codi o dan y ddarpariaeth berthnasol neu yn unol â’r ddarpariaeth berthnasol.

(5Yn y rheoliad hwn—

mae “contract” (“contract”) yn cynnwys unrhyw gontract yr oedd Rheoliadau 2004 yn gymwys iddo yn union cyn y dyddiad cychwyn y darparwyd gwasanaethau meddygol odano cyn y dyddiad cychwyn (pa un a oedd y gwasanaethau hynny’n parhau i gael eu darparu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio);

ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

Diwygiadau canlyniadol

32.  Mae Atodlen 5 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r diwygiadau i is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i’r Rheoliadau hyn yn dod i rym.

Dirymu

33.  Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â dirymu’r deddfiadau a bennir.

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

1 Medi 2023

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources