Search Legislation

Rheoliadau Tir Halogedig(Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

(3Yn y Rheoliadau hyn, oni nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at adran â rhif yn gyfeiriad at yr adran o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 sy'n dwyn y rhif hwnnw.

Tir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig

2.—(1Rhagnodir tir halogedig o'r disgrifiadau canlynol at ddibenion adran 78C(8) yn dir y mae'n ofynnol ei ddynodi'n safle arbennig—

(a)tir y mae rheoliad 3 yn gymwys iddo;

(b)tir sy'n dir halogedig oherwydd tarau asid gwastraff yn y tir, arno neu odano;

(c)tir y cynhaliwyd unrhyw un o'r gweithgareddau canlynol arno ar unrhyw adeg—

(i)puro (gan gynnwys coethi) petroliwm crai neu olew a echdynnwyd o betroliwm, siâl neu unrhyw sylwedd bitwminaidd arall ac eithrio glo; neu

(ii)gweithgynhyrchu neu brosesu ffrwydron;

(ch)tir y mae proses ragnodedig a ddynodwyd i'w rheoli'n ganolog wedi'i chyflawni arno neu wrthi'n cael ei chyflawni arno o dan awdurdodiad os nad yw'r broses yn cynnwys dim ond pethau sy'n cael eu gwneud ac y mae'n ofynnol eu gwneud o ran gwaith adfer;

(d)tir o fewn safle niwclear;

(dd)tir a berchenogir neu a feddiennir gan neu ar ran—

(i)yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn;

(ii)y Cyngor Amddiffyn;

(iii)pencadlys rhyngwladol neu gorff amddiffyn; neu

(iv)awdurdod lluoedd arfog llu sydd ar ymweliad;

sef tir sy'n cael ei defnyddio at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu;

(e)tir y gwnaed gwaith arno i weithgynhyrchu, cynhyrchu neu waredu—

(i)arfau cemegol;

(ii)unrhyw gyfrwng neu docsin biolegol sy'n dod o fewn adran 1(1)(a) o Ddeddf Arfau Biolegol 1974 (cyfyngiad ar ddatblygu cyfryngau a thocsinau biolegol)(1); neu

(iii)unrhyw arf, offer neu fodd danfon sy'n dod o fewn adran 1(1)(b) o'r Ddeddf honno (cyfyngiad ar ddatblygu arfau biolegol),

ar unrhyw adeg;

(f)tir sy'n cynnwys tir ac adeiladau a ddynodir neu a ddynodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy orchymyn a wnaed o dan adran 1(1) o Ddeddf y Sefydliad Arfau Niwclear 1991 (trefniadau ar gyfer datblygu etc dyfeisiau niwclear)(2); ac

(i)tir—

(i)sy'n gyffiniol neu'n gyfagos â thir o ddisgrifiad a bennir yn is-baragraffau (b) i (f) uchod; a

(ii)sy'n dir halogedig yn rhinwedd sylweddau y mae'n ymddangos eu bod wedi dianc o dir o'r disgrifiad hwnnw.

(2At ddibenion paragraff (1)(b) uchod, mae “tarau asid gwastraff” yn darau—

(a)sy'n cynnwys asid sylffwrig;

(b)a gynhyrchwyd o ganlyniad i goethi bensol, ireidiau a ddefnyddiwyd neu betroliwm; ac

(c)sydd neu a oedd yn cael eu storio ar dir a ddefnyddiwyd fel basn cadw ar gyfer gwaredu tarau o'r fath.

(3Ym mharagraff (1)(ch) uchod, mae i “awdurdodiad” a “proses ragnodedig” yr un ystyr ag “authorisation” a “prescribed process” yn Rhan I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (rheoli integredig ar lygredd a rheoli llygredd aer gan awdurdodau lleol)(3) ac mae'r cyfeiriad at ddynodi i'w rheoli'n ganolog yn gyfeiriad at ddynodi o dan adran 2(4) (sy'n darparu i brosesau gael eu dynodi i'w rheoli yn ganolog neu yn lleol).

(4Ym mharagraff (1)(d) uchod, ystyr “safle niwclear” yw—

(a)unrhyw safle y mae trwydded safle niwclear mewn grym am y tro ar ei gyfer, neu ar gyfer rhan ohono; neu

(b)unrhyw safle nad yw cyfnod cyfrifoldeb y trwyddedai wedi dod i ben, ar ôl diddymu neu ildio trwydded safle niwclear ar ei gyfer neu ar gyfer rhan ohono;

ac mae i “trwydded safle niwclear” , “trwyddedai” a “cyfnod cyfrifoldeb” yr ystyr a roddir i “nuclear site licence”, “licensee” a “period of responsibility” gan Ddeddf Sefydliadau Niwclear 1965(4).

(5At ddibenion paragraff (1)(dd) uchod, dim ond os yw'r tir yn rhan o ganolfan a feddiennir at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu y mae'n rhaid i dir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion preswyl neu gan Sefydliadau'r Llynges, y Fyddin a'r Awyrlu gael ei drin fel tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion llynges, byddin neu awyrlu.

(6Ym mharagraff (1)(dd) uchod—

  • ystyr “pencadlys rhyngwladol” a “corff amddiffyn” yw, yn eu tro, unrhyw bencadlys rhyngwladol neu gorff amddiffyn a ddynodwyd at ddibenion Deddf Pencadlysoedd Rhyngwladol a Chyrff Amddiffyn 1964(5);

  • mae i “awdurdod lluoedd arfog” a “llu ar ymweliad” yr un ystyr â “service authority” a “visiting force” yn Rhan I o Ddeddf Lluoedd ar Ymweliad 1952(6).

(7Ym mharagraff (1)(e) uchod, mae i “arf cemegol” yr un ystyr â “chemical weapon” yn is-adran (1) o adran 1 o Ddeddf Arfau Cemegol 1996(7)) gan anwybyddu is-adran (2) o'r adran honno.

Llygru dyfroedd a reolir

3.  At ddibenion rheoliad 2(1)(a), mae'r rheoliad hwn yn gymwys i dir—

(a)pan fydd y tir(8) yn effeithio ar ddyfroedd a reolir sy'n cael eu defnyddio, neu y bwriedir eu defnyddio, i gyflenwi dŵ r i bobl ei yfed a phan fydd angen defnyddio proses, o'r herwydd, i'w trin neu newid y broses honno cyn i'r dyfroedd gael eu defnyddio, er mwyn iddynt gael eu hystyried yn ddyfroedd iachusol o fewn ystyr Rhan III o Ddeddf y Diwydiant Dŵ r 1991 (y cyflenwad dŵ r)(9));

(b)pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir ac, o'r herwydd, nad yw'r dyfroedd hynny yn bodloni neu nad ydynt yn debygol o fodloni'r maen prawf ar gyfer y dosbarthiad sy'n gymwys i'r disgrifiad perthnasol o ddyfroedd a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 82 o Ddeddf Adnoddau Dŵ r 1991 (dosbarthu ansawdd dyfroedd)(10); neu

(c)pan fydd y tir yn effeithio ar ddyfroedd a reolir ac—

(i)pan fydd unrhyw un o'r sylweddau y mae llygru'r dyfroedd yn cael ei achosi ganddynt neu'n debygol o gael ei achosi ganddynt yn dod o fewn unrhyw un o'r teuluoedd neu'r grwpiau o sylweddau a restrir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn; a

(ii)pan fydd y dyfroedd, neu unrhyw ran o'r dyfroedd, yn cael eu cynnwys o fewn strata tanddaearol sy'n cynnwys, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, unrhyw un o'r ffurfiadau creigiau a restrir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Cynnwys hysbysiadau adfer

4.—(1Rhaid i hysbysiad adfer ddweud (yn ychwanegol at y materion sy'n ofynnol o dan adran 78E(1) a (3))—

(a)enw a chyfeiriad y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo;

(b)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel y “tir halogedig o dan sylw”), yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;

(c)dyddiad unrhyw hysbysiad a roddwyd o dan adran 78B i'r person y cyflwynir yr hysbysiad adfer iddo yn pennu'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig;

(ch)a yw'r awdurdod gorfodi o'r farn bod y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo yn berson priodol trwy—

(i)fod wedi achosi neu'n fwriadol wedi caniatáu i'r sylweddau, neu unrhyw un o'r sylweddau, y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd, fod yn y tir, arno, neu odano;

(ii)fod yn berchennog y tir halogedig o dan sylw; neu

(iii)fod yn feddiannydd y tir halogedig o dan sylw;

(d)manylion y niwed neu'r llygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd;

(dd)y sylweddau y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd ac, os oes unrhyw un o'r sylweddau wedi dianc o dir arall, lleoliad y tir arall hwnnw;

(e)rhesymau'r awdurdod gorfodi dros ei benderfyniadau ynglŷn â'r pethau y mae'n ofynnol i'r person priodol eu gwneud o ran gwaith adfer, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78E(5) wedi'u cymhwyso;

(f)pan fydd dau neu ragor o bersonau yn bersonau priodol mewn perthynas â'r tir halogedig o dan sylw—

(i)mai felly y mae hi;

(ii)enw a chyfeiriad pob un person o'r fath; a

(iii)y peth y mae pob person o'r fath yn gyfrifol amdano o ran gwaith adfer;

(ff)pan fyddai dau neu ragor o bersonau, ar wahân i adran 78F(6), yn bersonau priodol mewn perthynas ag unrhyw beth penodol sydd i'w gwneud o ran gwaith adfer, rhesymau'r awdurdod gorfodi dros ei benderfyniad ynghylch a ddylid trin unrhyw un neu fwy ohonynt, ac os felly, pa rai, fel person nad yw'n berson priodol mewn perthynas â'r peth hwnnw, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78F(6) wedi'u cynhwyso;

(g)pan fydd adran 78E(3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r hysbysiad adfer ddweud pa gyfran o gost peth sydd i'w wneud o ran gwaith adfer y mae pob un o'r personau priodol yn atebol i'w thalu mewn perthynas â'r peth hwnnw, rhesymau'r awdurdod gorfodi am y gyfran y mae wedi penderfynu arni, sef rhesymau y mae'n rhaid iddynt ddangos sut y mae unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78F(7) wedi'u cymhwyso;

(ng)pan fydd yn hysbys i'r awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad—

(i)perchennog y tir halogedig o dan sylw; a

(ii)unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod gorfodi ei fod yn meddiannu'r cyfan neu unrhyw ran o'r tir halogedig o dan sylw;

(h)pan fydd yn hysbys i'r awdurdod gorfodi, enw a chyfeiriad unrhyw berson y mae'n ofynnol cael ei gydsyniad o dan adran 78G(2) cyn y gellir gwneud unrhyw beth sy'n ofynnol o dan yr hysbysiad adfer;

(i)pan fwriedir cyflwyno'r hysbysiad drwy ddibynnu ar adran 78H(4), ei bod yn ymddangos i'r awdurdod gorfodi bod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr, oherwydd y sylweddau sydd yn y tir, arno neu odano, nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir;

(j)y gall person y cyflwynwyd hysbysiad adfer iddo fod yn euog o drosedd(11) am fethu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion yr hysbysiad;

(l)y cosbau y gellir eu cymhwyso ar ôl collfarn am drosedd o'r fath(12);

(ll)enw a chyfeiriad yr awdurdod gorfodi sy'n cyflwyno'r hysbysiad; ac

(m)dyddiad yr hysbysiad.

(2Rhaid i hysbysiad adfer esbonio—

(a)bod gan berson y'i cyflwynir iddo hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad o dan adran 78L;

(b)sut, o fewn pa gyfnod ac ar ba sail, y gellir apelio; ac

(c)bod hysbysiad yn cael ei atal, pan fydd apêl yn cael ei gwneud yn briodol, nes penderfynu'n derfynol ar yr apêl neu roi'r gorau iddi.

Cyflwyno copïau o hysbysiadau adfer

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, rhaid i'r awdurdod gorfodi, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno hysbysiad adfer, anfon copi ohono at bob un o'r personau canlynol, nad yw'n berson y mae'r hysbysiad i fod i gael ei gyflwyno iddo—

(a)unrhyw berson yr oedd yn ofynnol ymgynghori ag ef o dan adran 78G(3) cyn cyflwyno'r hysbysiad;

(b)unrhyw berson yr oedd yn ofynnol ymgynghori ag ef o dan adran 78H(1) cyn cyflwyno'r hysbysiad;

(c)os yr awdurdod lleol yw'r awdurdod gorfodi, Asiantaeth yr Amgylchedd; ac

(ch)os Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r awdurdod gorfodi, yr awdurdod lleol y mae'r tir halogedig o dan sylw wedi'i leoli yn ei ardal.

(2Pan fydd yn ymddangos i'r awdurdod gorfodi fod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr oherwydd y sylweddau sydd ynddo, arno neu odano nes bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol i neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir, rhaid i'r awdurdod gorfodi anfon unrhyw gopïau o'r hysbysiad yn unol â pharagraff (1) uchod cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.

Iawndal am hawliau mynediad etc.

6.  Bydd Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn cael effaith—

(a)ar gyfer rhagnodi'r cyfnod pryd y caiff person sy'n rhoi, neu'n ymuno i roi, unrhyw hawliau yn unol ag adran 78G(2) wneud cais am iawndal am roi'r hawliau hynny;

(b)ar gyfer rhagnodi dull gwneud cais o'r fath, a'r person y gellir gwneud y cais iddo: ac

(c)ar gyfer rhagnodi drwy ba ddull y mae'n rhaid penderfynu swm yr iawndal hwnnw ac ar gyfer gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â'r iawndal hwnnw.

Seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer

7.—(1Mae unrhyw un neu fwy o'r canlynol yn seiliau apêl yn erbyn hysbysiad adfer o dan adran 78L(1)—

(a)bod yr awdurdod lleol, wrth benderfynu a yw'n ymddangos bod unrhyw dir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo yn dir halogedig—

(i)wedi methu â gweithredu yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78A(2), (5) neu (6); neu

(ii)p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi bod yn afresymol wrth enwi'r holl dir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo yn dir halogedig neu unrhyw ran ohono;

(b)bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu ar un o ofynion yr hysbysiad—

(i)wedi methu â rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78E(5); neu

(ii)p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi bod yn afresymol wrth ei gwneud yn ofynnol i'r apelydd wneud unrhyw beth o ran gwaith adfer;

(c)bod yr awdurdod gorfodi wedi bod yn afresymol wrth benderfynu mai'r apelydd yw'r person priodol sydd i ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer o dan yr hysbysiad;

(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, bod yr awdurdod gorfodi wedi bod yn afresymol wrth fethu â phenderfynu bod rhyw berson yn ychwanegol at yr apelydd yn berson priodol mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'n ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer o dan yr hysbysiad;

(d)bod yr awdurdod gorfodi, mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer, wedi methu â gweithredu yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78F(6);

(dd)pan fydd dau neu ragor o bersonau priodol mewn perthynas ag unrhyw beth y mae'r hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ei wneud o ran gwaith adfer, bod yr awdurdod gorfodi—

(i)wedi methu â phenderfynu pa gyfran o'r gost y datganwyd yn yr hysbysiad fod yr apelydd yn atebol i'w thalu yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78F(7); neu

(ii)p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi bod yn afresymol wrth benderfynu pa gyfran o'r gost y mae'r apelydd i'w thalu;

(e)bod cyflwyno'r hysbysiad wedi torri un o ddarpariaethau is-adran (1) neu (3) o adran 78H (cyfyngiadau a gwaharddiadau ar gyflwyno hysbysiadau adfer) heblaw o dan amgylchiadau pan fydd adran 78H(4) yn gymwys;

(f)pan gyflwynwyd yr hysbysiad drwy ddibynnu ar adran 78H(4) heb gydymffurfio ag adran 78H(1) neu (3), na fuasai'n rhesymol i'r awdurdod gorfodi farnu bod y tir halogedig o dan sylw yn y fath gyflwr oherwydd sylweddau yn y tir, arno, neu odano, bod perygl ar fin digwydd o beri niwed difrifol, neu lygredd difrifol i ddyfroedd a reolir;

(ff)bod yr awdurdod gorfodi wedi methu'n afresymol â chael ei fodloni, yn unol ag adran 78H(5)(b), fod pethau priodol yn cael eu gwneud, neu y byddant yn cael eu gwneud, o ran gwaith adfer heb gyflwyno hysbysiad;

(g)bod unrhyw beth yr oedd yn ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad o ran gwaith adfer wedi'i wneud yn ofynnol drwy dorri darpariaeth yn adran 78J (cyfyngiadau ar atebolrwydd ynglŷn â llygru dyfroedd a reolir);

(ng)bod unrhyw beth yr oedd yn ofynnol ei wneud o dan yr hysbysiad o ran gwaith adfer wedi'i wneud yn ofynnol drwy dorri darpariaeth yn adran 78K (atebolrwydd mewn perthynas â sylweddau halogi sy'n dianc i dir arall);

(h)bod gan yr awdurdod gorfodi ei hun bŵ er, mewn achos sy'n dod o fewn adran 78N(3)(b), i wneud yr hyn sy'n briodol o ran gwaith adfer;

(i)bod gan yr awdurdod gorfodi ei hun bŵ er, mewn achos sy'n dod o fewn adran 78N(3)(e), i wneud yr hyn sy'n briodol o ran gwaith adfer;

(j)bod yr awdurdod gorfodi, wrth bwyso a mesur at ddibenion adran 78N(3)(e), a fyddai'n ceisio adennill y cyfan neu gyfran o'r gost a dynnwyd ganddo wrth wneud rhyw beth penodol o ran gwaith adfer—

(i)wedi methu â rhoi sylw i unrhyw galedi y gallai'r adennill ei achosi i'r person y gellid adennill y gost oddi wrtho neu i unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion adran 78P(2); neu

(ii)p'un ai oherwydd y methiant hwnnw neu fel arall, wedi bod yn afresymol wrth benderfynu y byddai'n penderfynu ceisio adennill y cyfan o'r gost;

(l)bod yr awdurdod gorfodi, wrth benderfynu un o ofynion yr hysbysiad, wedi methu â rhoi sylw i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 78V(1);

(ll)nad yw cyfnod a bennwyd yn yr hysbysiad fel cyfnod pryd y mae'n ofynnol i'r apelydd wneud unrhyw beth yn rhesymol ddigonol at y diben;

(m)bod yr hysbysiad yn darparu i berson sy'n gweithredu yn rhinwedd swydd berthnasol(13) fod yn atebol yn bersonol i dalu'r cyfan neu ran o gost gwneud unrhyw beth o ran gwaith adfer, yn groes i ddarpariaethau adran 78X(3)(a);

(n)bod cyflwyno'r hysbysiad wedi torri un o ddarpariaethau adran 78YB (cydadwaith Rhan IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 â deddfiadau eraill), ac—

(i)mewn achos lle dibynnir ar is-adran (1) o'r adran honno, y dylai yn rhesymol fod wedi ymddangos i'r awdurdod gorfodi y gallai pwerau Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 27 gael eu harfer;

(ii)mewn achos lle dibynnir ar is-adran (3) o adran 78YB, y dylai yn rhesymol fod wedi ymddangos i'r awdurdod gorfodi y gallai pwerau awdurdod rheoli gwastraff neu awdurdod casglu gwastraff o dan adran 59 gael eu harfer; neu

(o)y cafwyd rhyw anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, nad oes unrhyw hawl i apelio mewn perthynas ag ef o dan y seiliau a nodir yn is-baragraffau (a) i (n) uchod.

(2Caiff person apelio ar y sail a bennir ym mharagraff (1)(ch) uchod dim ond mewn achos—

(a)pan fydd yr awdurdod gorfodi wedi penderfynu ei fod yn berson priodol yn rhinwedd is-adran (2) o adran 78F a'i fod yn honni ei fod wedi dod o hyd i ryw berson arall sy'n berson priodol yn rhinwedd yr is-adran honno;

(b)pan yw'r hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo fel perchennog neu feddiannydd y tir halogedig o dan sylw am y tro a'i fod yn honni ei fod wedi dod o hyd i ryw berson arall sy'n berson priodol yn rhinwedd yr is-adran honno; neu

(c)pan yw'r hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo fel perchennog neu feddiannydd y tir halogedig o dan sylw am y tro, a'i fod yn honni bod rhyw berson arall hefyd yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu ran o'r tir hwnnw am y tro.

(3Os yw apêl yn erbyn hysbysiad adfer wedi'i seilio ar ryw anffurfioldeb, diffyg neu gamgymeriad yn yr hysbysiad, neu mewn cysylltiad ag ef, ac i'r graddau bod apêl wedi'i seilio ar y sail honno, rhaid i'r awdurdod apeliadol wrthod yr apêl os yw wedi'i fodloni nad oedd yr anffurfioldeb, y diffyg na'r camgymeriad yn un o sylwedd.

Apelau i lys ynadon

8.—(1Rhaid i apêl o dan adran 78L(1) i lys ynadon yn erbyn hysbysiad adfer fod ar ffurf cŵ yn ar gyfer gorchymyn ac, yn ddarostyngedig i adran 78L(2) a (3) a rheoliadau 7(3), 12 a 13, bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(14) yn gymwys i'r achos.

(2Rhaid i apelydd, yr un pryd ag y mae'n gwneud cŵ yn,—

(a)adneuo hysbysiad (“hysbysiad apêl”) a chyflwyno copi ohono—

(i)i'r awdurdod gorfodi;

(ii)i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berson priodol;

(iii)i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol;

(iv)i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu unrhyw ran o'r tir y mae'r hysbysiad yn berthnasol iddo;

(b)adneuo copi o'r hysbysiad adfer y mae'r apêl yn ymwneud ag ef a chyflwyno copi ohono i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol na chafodd ei enwi felly yn yr hysbysiad adfer; ac

(c)adneuo datganiad o enwau a chyfeiriadau unrhyw bersonau sy'n dod o fewn paragraff (ii), (iii) neu (iv) o is-baragraff (a) uchod.

(3Rhaid i'r hysbysiad apêl nodi enw a chyfeiriad yr apelydd ac ar ba seiliau y mae'r apêl yn cael ei gwneud.

(4Ar apêl o dan adran 78L(1) i lys ynadon—

(a)caiff clerc yr ynadon neu'r llys roi, amrywio neu ddiddymu cyfarwyddiadau ar gyfer cynnal yr achos, gan gynnwys—

(i)yr amserlen ar gyfer yr achos;

(ii)cyflwyno dogfennau;

(iii)cyflwyno tystiolaeth; a

(iv)trefn yr areithiau;

(b)rhaid i unrhyw berson sy'n dod o fewn paragraff (2)(a)(ii), (iii) neu (iv) uchod gael ei hysbysu ynghylch gwrandawiad y gŵ yn ac unrhyw wrandawiad ar gyfer cyfarwyddiadau, a chyfle i gael ei wrando yn y gwrandawiadau hynny, yn ychwanegol at yr apelydd a'r awdurdod gorfodi; ac

(c)caiff y llys wrthod caniatáu cais gan yr apelydd i roi'r gorau i'w apêl yn erbyn hysbysiad adfer, pan fydd y cais yn cael ei wneud ar ôl i'r llys hysbysu'r apelydd yn unol â rheoliad 12(1) o addasiad arfaethedig i'r hysbysiad hwnnw.

(5Bydd Rheol 15 o Reolau Llysoedd Achosion Teuluol (Achosion Priodasol etc.) 1991(15) (dirprwyo gan glerc ynadon) yn gymwys at ddibenion apêl o dan adran 78L(1) i lys ynadon fel y mae'n gymwys at ddibenion Rhan II o'r Rheolau hynny.

(6Yn y rheoliad hwn, ystyr “adneuo” yw adneuo gyda chlerc yr ynadon.

Apelau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

9.—(1Rhaid i apêl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn erbyn hysbysiad adfer gael ei wneud drwy hysbysiad iddo (“hysbysiad apêl”), sef hysbysiad y mae'n rhaid iddo ddweud—

(a)enw a chyfeiriad yr apelydd;

(b)ar ba seiliau y gwneir yr apêl; ac

(c)a yw'r apelydd yn dymuno i'r apêl fod ar ffurf gwrandawiad neu gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(2Rhaid i'r apelydd, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno hysbysiad apêl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru,—

(a)cyflwyno copi ohono i'r canlynol—

(i)Asiantaeth yr Amgylchedd;

(ii)unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berson priodol;

(iii)unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol; a

(iv)unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad adfer yn berchennog neu'n feddiannydd y cyfan neu unrhyw ran o'r tir y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef;

a chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddatganiad o enwau a chyfeiriadau unrhyw bersonau sy'n dod o fewn paragraff (ii), (iii) neu (iv) uchod; a

(b)cyflwyno copi o'r hysbysiad adfer y mae'r apêl yn ymwneud ag ef i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i unrhyw berson a enwir yn yr hysbysiad apêl yn berson priodol nad yw wedi'i enwi felly yn yr hysbysiad adfer.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5) isod, os yw'r apelydd yn dymuno rhoi'r gorau i apêl, rhaid iddo wneud hynny drwy hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ysgrifenedig ac ymdrinnir â'r apêl fel un y rhoddwyd y gorau iddi ar y dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael yr hysbysiad hwnnw.

(4Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrthod caniatáu i apelydd roi'r gorau i'w apêl yn erbyn hysbysiad adfer pan ddaw'r hysbysiad gan yr apelydd yn unol â pharagraff (3) uchod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar unrhyw adeg ar ôl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r apelydd yn unol â rheoliad 12(1) o addasiad arfaethedig i'r hysbysiad hwnnw.

(5Pan roir y gorau i apêl, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi hysbysiad y rhoddwyd y gorau iddi i unrhyw berson yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.

Gwrandawiadau ac ymchwiliadau lleol

10.—(1Cyn penderfynu apêl, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, os yw'n credu ei bod yn briodol,—

(a)peri bod yr apêl yn cael ei chynnal neu ei pharhau ar ffurf gwrandawiad (a gall y gwrandawiad hwnnw gael ei gynnal, neu gael ei gynnal i unrhyw raddau, yn breifat, os yw'r person sy'n gwrando'r apêl yn penderfynu felly), neu

(b)peri bod ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal,

a rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru weithredu fel y crybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) uchod os gwneir cais gan naill ai'r apelydd neu Asiantaeth yr Amgylchedd am gael eu gwrando mewn perthynas â'r apêl.

(2Dyma'r personau y mae ganddynt hawl i gael eu gwrando mewn gwrandawiad—

(a)yr apelydd;

(b)Asiantaeth yr Amgylchedd; ac

(c)unrhyw berson (heblaw'r Asiantaeth) yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.

(3Ni fydd dim ym mharagraff (2) uchod yn atal y person a benodir i gynnal gwrandawiad yr apêl rhag caniatáu i unrhyw berson arall gael ei wrando yn y gwrandawiad a rhaid peidio â gwrthod caniatâd o'r fath yn afresymol.

(4Ar ôl i wrandawiad ddod i ben, rhaid i'r person a benodir i gynnal y gwrandawiad, oni bai ei fod wedi'i benodi o dan adran 114(1)(a) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (pŵer Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddirprwyo ei swyddogaethau penderfynu apelau) i benderfynu'r apêl, gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd yn cynnwys ei gasgliadau a'i argymhellion neu ei resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion.

Hysbysu ynghylch penderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar apêl

11.—(1Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r apelydd yn ysgrifenedig o'i benderfyniad ar apêl a darparu copi o unrhyw adroddiad a grybwyllir yn rheoliad 10(4).

(2Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yr un pryd ag y mae'n hysbysu'r apelydd, anfon copi o'r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1) uchod i Asiantaeth yr Amgylchedd ac at unrhyw berson arall yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddo.

Addasu hysbysiad adfer

12.—(1Cyn addasu hysbysiad adfer o dan adran 78L(2)(b) mewn unrhyw ffordd a fyddai'n llai ffafriol i'r apelydd neu i unrhyw berson arall y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, rhaid i'r awdurdod apeliadol—

(a)hysbysu'r apelydd ac unrhyw bersonau yr oedd yn ofynnol i'r apelydd gyflwyno copi o'r hysbysiad apêl iddynt o'r addasiad arfaethedig;

(b)caniatáu i unrhyw bersonau a hysbyswyd felly gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r addasiad arfaethedig; ac

(c)caniatáu i'r apelydd neu unrhyw berson arall y cyflwynwyd yr hysbysiad adfer iddo gael ei wrando os bydd unrhyw berson o'r fath yn gofyn am hynny.

(2Pan fydd yr apelydd neu unrhyw berson arall yn cael ei wrando, yn unol â pharagraff (1) uchod, bydd gan yr awdurdod gorfodi hawl i gael ei wrando hefyd.

Apelau i'r Uchel Lys

13.  Gall apêl yn erbyn unrhyw benderfyniad gan lys ynadon yn unol ag apêl o dan adran 78L(1) gael ei chyflwyno gerbron yr Uchel Lys ar gais unrhyw barti i'r achos y rhoddwyd y penderfyniad ynddo (gan gynnwys unrhyw berson a arferodd ei hawl o dan reoliad 8(4)(b) i gael ei wrando yn ngwrandawiad y gŵyn).

Atal hysbysiad adfer

14.—(1Pan wneir apêl yn briodol yn erbyn hysbysiad adfer, ni fydd unrhyw effaith i'r hysbysiad tra disgwylir am y penderfyniad terfynol ar yr apêl neu nes y rhoddir y gorau iddi.

(2Mae apêl yn erbyn hysbysiad adfer yn cael ei gwneud yn briodol at ddibenion y rheoliad hwn os yw'n cael ei gwneud o fewn y cyfnod a bennir yn adran 78L(1)(16) ac os cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 8(2) a (3) (yn achos apêl i lys ynadon) neu reoliad 9(1) a (2) (yn achos apêl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru).

Cofrestrau

15.—(1Bydd Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn yn cael effaith ar gyfer rhagnodi—

(a)manylion y materion, neu'r manylion mewn perthynas â'r materion, sydd i'w cynnwys mewn cofrestr a gedwir o dan yr adran honno, at ddibenion is-adran (1) o adran 78R; a

(b)materion eraill y bydd y gofrestr honno yn cynnwys manylion a ragnodir mewn perthynas â hwy yn unol ag adran 78R(1)(l).

(2Rhagnodir y disgrifiadau canlynol o wybodaeth at ddibenion adran 78R(2) fel gwybodaeth sydd i'w chynnwys mewn hysbysiadau at ddibenion adran 78R(1)(h) a (j)—

(a)lleoliad a hyd a lled y tir yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo;

(b)enw a chyfeiriad y person yr honnir ei fod wedi gwneud pob un o'r pethau o ran gwaith adfer;

(c)disgrifiad o unrhyw beth yr honnir ei fod wedi'i wneud o ran gwaith adfer; ac

(ch)y cyfnod yr honnwyd bod popeth o'r fath wedi'i wneud ynddo.

(3Rhagnodir y lleoedd canlynol at ddibenion is-adran (8) o adran 78R fel lleoedd y bydd unrhyw gofrestrau neu gyfleusterau ar gyfer cael copïau ohonynt ar gael neu wedi'u darparu i'r cyhoedd yn unol â pharagraff (a) neu (b) o'r is-adran honno—

(a)os yr awdurdod lleol yw'r awdurdod gorfodi, ei brif swyddfa; a

(b)os Asiantaeth yr Amgylchedd yw'r awdurdod gorfodi, ei swyddfa ar gyfer yr ardal y mae'r tir halogedig o dan sylw wedi'i leoli ynddi.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(17).

D. Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Mehefin 2001

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources