Search Legislation

Rheoliadau Tir Halogedig(Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 3(c)

ATODLEN 1SAFLEOEDD ARBENNIG

1.  Rhestrir y teuluoedd a'r grwpiau canlynol o sylweddau at ddibenion rheoliad 3(c)(i)—

  • Cyfansoddion organohalogen a sylweddau a all ffurfio cyfansoddion o'r fath yn yr amgylchedd dyfrol;

  • Cyfansoddion organoffosfforws;

  • Cyfansoddion organotun;

  • Sylweddau â phriodweddau carsinogenig, mwtagenig neu teratogenig yn yr amgylchedd dyfrol neu drwyddo;

  • mercwri a'i gyfansoddion;

  • cadmiwm a'i gyfansoddion;

  • olew mwynol a hydrocarbonau eraill;syanidau.

2.  Rhestrir y ffurfiadau creigiau canlynol at ddibenion rheoliad 3(c)(ii)—

  • Crag Norwich Pleistosenaidd;

  • Sialc Cretasaidd Uchaf;

  • Tywodfeini Cretasaidd Isaf;

  • Calchfeini Cwrelaidd Jurasig Uchaf;

  • Calchfeini Jurasig Canol;

  • Tywodydd Cotteswold Jurasig Isaf:

  • Grŵp Tywodfeini Sherwood Permo-Driasig;

  • Calchfaen Magnesaidd Permaidd Uchaf;

  • Tywodfaen Penrith Permaidd Isaf;

  • Tywodfaen Collyhurst Permaidd Isaf;

  • Brecias, Clymfeini a Thywodfeini Gwaelodol Permaidd Isaf;

  • Calchfeini Carbonifferaidd Isaf.

Rheoliad 6

ATODLEN 2IAWNDAL AM HAWLIAU MYNEDIAD ETC.

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “buddiant perthnasol” (“relevant interest”) yw buddiant mewn tir y rhoddwyd hawliau allan ohono yn unol ag adran 78G(2);

  • ystyr “Deddf 1961” (“the 1961 Act”) yw Deddf Iawndal Tir 1961(1);

  • ystyr “grantwr” (“grantor”) yw person sydd wedi rhoi, neu wedi ymuno i roi, unrhyw hawliau yn unol ag adran 78G(2).

Y cyfnod ar gyfer gwneud cais

2.  Rhaid gwneud cais am iawndal o fewn y cyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad rhoi'r hawliau yr hawlir iawndal mewn perthynas â hwy ac sy'n dod i ben ar ba un bynnag yw'r diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—

(a)deuddeng mis ar ôl dyddiad rhoi'r hawliau hynny;

(b)pan wneir apêl yn erbyn hysbysiad adfer y rhoddwyd yr hawliau o dan sylw mewn perthynas ag ef, ac nad oes effaith i'r hysbysiad yn rhinwedd rheoliad 14, deuddeng mis ar ôl dyddiad penderfyniad terfynol neu ar ôl rhoi'r gorau iddi; neu

(c)chwe mis ar ôl y dyddiad yr arferwyd yr hawliau gyntaf.

Dull gwneud cais

3.—(1Rhaid gwneud cais yn ysgrifenedig a'i gyflwyno neu ei anfon drwy bost rhag-daledig i gyfeiriad gohebu hysbys diwethaf y person priodol y rhoddwyd yr hawliau iddo.

(2Rhaid i'r cais gynnwys, neu rhaid anfon gyda'r cais—

(a)copi o'r grant hawliau y mae'r grantwr yn gwneud cais am iawndal ar ei gyfer, ac o unrhyw blaniau sydd ynghlwm wrth y grant hwnnw;

(b)disgrifiad o union natur unrhyw fuddiant mewn tir y gwneir cais am iawndal ar ei gyfer; ac

(c)datganiad o swm yr iawndal y gwneir cais amdano, gan wahaniaethu rhwng y symiau y gwneir cais amdanynt o dan bob un o is-baragraffau (a) i (d) o baragraff 4 isod, a chan ddangos sut y cyfrifwyd y swm y gwneir cais amdano o dan bob is-baragraff.

Colled a difrod y mae iawndal yn daladwy ar eu cyfer

4.  Yn ddarostyngedig i baragraff 5(3) a 5(b) isod, mae iawndal yn daladwy o dan adran 78G am golled a difrod o'r disgrifiadau canlynol—

(a)dibrisiant yng ngwerth unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawl i'w gael ac sy'n deillio o'r grant hawliau;

(b)dibrisiant yng ngwerth unrhyw fuddiant arall mewn tir y mae gan y grantwr hawl i'w gael ac sy'n deillio o arfer yr hawliau;

(c)colled neu ddifrod, mewn perthynas ag unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawl iddo, ac—

(i)y gellir ei briodoli i'r grant hawliau neu i arfer yr hawliau hynny;

(ii)nad yw'n cynnwys dibrisiant yng ngwerth y buddiant hwnnw; a

(iii)sy'n golled neu'n ddifrod y buasai ganddo hawl i gael iawndal amdanynt ar ffurf iawndal am aflonyddwch, pe buasai'r buddiant hwnnw wedi'i gaffael yn orfodol o dan Ddeddf Caffael Tir 1981(2) yn unol â hysbysiad i drafod telerau a gyflwynid ar y dyddiad y rhoddwyd yr hawliau;

(ch)difrod i unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawl iddo ac nad yw'n fuddiant perthnasol, ac sy'n deillio o roi'r hawliau neu eu harfer, neu effaith niweidiol ar y buddiant hwnnw; a

(d)colled mewn perthynas â gwaith a gyflawnwyd gan neu ar ran y grantwr ac sy'n cael ei wneud yn ofer drwy roi'r hawliau neu drwy eu harfer.

Y sail ar gyfer asesu'r iawndal

5.—(1Bydd y darpariaethau canlynol yn cael effaith at ddibenion asesu'r swm sydd i'w dalu o ran iawndal o dan adran 78G.

(2Bydd y rheolau a nodir yn adran 5 o Ddeddf 1961 (rheolau ar gyfer asesu iawndal) yn cael effaith, i'r graddau y maent yn gymwysadwy ac yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol, at ddibenion asesu unrhyw iawndal o'r fath yn yr un modd ag y maent yn effeithiol at ddibenion asesu iawndal ar gyfer caffael buddiant mewn tir yn orfodol.

(3Rhaid peidio â rhoi unrhyw ystyriaeth i unrhyw welliant yng ngwerth unrhyw fuddiant mewn tir, oherwydd unrhyw adeilad a godir, unrhyw waith a wneir neu unrhyw welliant neu newid a wneir ar unrhyw dir y mae'r grantwr, neu yr oedd adeg y gwaith codi neu adeg y gwneud, yn ymwneud ag ef yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, os yw'r Tribiwnlys Tiroedd wedi'i fodloni nad oedd codi'r adeilad, gwneud y gwaith, gwneud y gwelliant neu'r newid yn rhesymol angenrheidiol a'i fod wedi'i wneud gyda golwg ar gael iawndal neu fwy o iawndal.

(4Wrth gyfrifo swm unrhyw golled o dan baragraff 4(d) uchod, cymerir gwariant a dynnwyd wrth baratoi planiau neu a dynnwyd oherwydd materion paratoi tebyg eraill i ystyriaeth.

(5Pan fydd y buddiant y mae iawndal i'w asesu mewn perthynas ag ef yn ddarostyngedig i forgais—

(a)rhaid i'r iawndal gael ei asesu fel pe na bai'r buddiant yn ddarostyngedig i'r morgais; a

(b)ni fydd unrhyw iawndal yn daladwy mewn perthynas â buddiant y morgeisai (yn wahanol i'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais).

(6Rhaid i iawndal o dan adran 78G gynnwys swm sy'n hafal i gostau prisio rhesymol y grantwr a'i gostau cyfreithiol rhesymol.

Talu iawndal a phenderfynu dadleuon

6.—(1Telir iawndal sy'n daladwy o dan adran 78G mewn perthynas â buddiant sy'n ddarostyngedig i forgais i'r morgeisai neu, os oes mwy nag un morgeisai, i'r morgeisai cyntaf ac yn y naill achos neu'r llall, caiff ei gymhwyso ganddo fel petai'n enillion ar werthiant.

(2Bydd symiau iawndal a benderfynir o dan yr Atodlen hon yn daladwy—

(a)pan fydd y person priodol a'r grantwr neu'r morgeisai yn cytuno bod taliad unigol i'w wneud ar ddyddiad penodedig, ar y dyddiad hwnnw;

(b)pan fydd y person priodol a'r grantwr neu'r morgeisai yn cytuno bod taliad i'w wneud mewn rhandaliadau ar ddyddiadau gwahanol, ar y dyddiad y cytunir arno o ran pob rhandaliad; ac

(c)ym mhob achos arall, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd gan y Tribiwnlys Tiroedd neu'r llys, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i swm yr iawndal gael ei benderfynu'n derfynol.

(3Rhaid cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch cymhwyso paragraff 5(3) uchod neu iawndal sy'n destun dadl at y Tribiwnlys Tiroedd er mwyn iddynt hwy benderfynu arno.

(4Mewn perthynas â phenderfynu ar unrhyw gwestiwn o'r fath, bydd adrannau 2 a 4 o Ddeddf 1961 (y weithdrefn ynglyn â chyfeirio at y Tribiwnlys Tiroedd a'r costau) yn gymwys—

(a)fel petai'r cyfeiriad yn adran 2(1) o'r Ddeddf honno at adran 1 o'r Ddeddf honno yn gyfeiriad at is-baragraff (3) o'r paragraff hwn; a

(b)fel petai'r cyfeiriadau yn adran 4 o'r Ddeddf honno at yr awdurdod caffael yn gyfeiriadau at y person priodol.

Rheoliad 15

ATODLEN 3COFRESTRAU

Rhaid i gofrestr a gedwir gan awdurdod gorfodi o dan adran 78R gynnwys manylion llawn y materion canlynol—

Hysbysiadau adfer

1.  Mewn perthynas â hysbysiad adfer a gyflwynir gan yr awdurdod—

(a)enw a chyfeiriad y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo;

(b)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef (y cyfeirir ato yn y paragraff hwn fel y “tir halogedig o dan sylw”), yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;

(c)y niwed neu'r llygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'i herwydd;

(ch)y sylweddau y mae'r tir halogedig o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd ac, os oes unrhyw un o'r sylweddau wedi dianc o dir arall, lleoliad y tir arall hwnnw;

(d)defnydd cyfredol y tir halogedig o dan sylw;

(dd)yr hyn y mae pob person priodol i'w wneud o ran gwaith adfer a'r cyfnodau y mae'n ofynnol iddynt wneud pob un o'r pethau ynddynt; ac

(e)dyddiad yr hysbysiad.

Apelau yn erbyn hysbysiadau adfer

2.  Unrhyw apêl yn erbyn hysbysiad adfer a gyflwynir gan yr awdurdod.

3.  Unrhyw benderfyniad ar apêl o'r fath.

Datganiadau adfer

4.  Unrhyw ddatganiad adfer a baratoir ac a gyhoeddir gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(6).

5.  Mewn perthynas ag unrhyw ddatganiad adfer o'r fath—

(a)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; a

(b)y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1 uchod.

Datganiadau adfer

6.  Unrhyw ddatganiad adfer a baratoir ac a gyhoeddir gan y person cyfrifol o dan adran 78H(7) neu gan yr awdurdod gorfodi o dan adran 78H(9).

7.  Mewn perthynas ag unrhyw ddatganiad adfer o'r fath—

(a)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; a

(b)y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1 uchod.

Apelau yn erbyn hysbysiadau codi tâl

8.  Yn achos awdurdod gorfodi, unrhyw apêl o dan adran 78P(8) yn erbyn hysbysiad codi tâl a gyflwynwyd gan yr awdurdod.

9.  Unrhyw benderfyniad ar apêl o'r fath.

Dynodi safleoedd arbennig

10.  Yn achos Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn perthynas ag unrhyw dir y mae'n awdurdod gorfodi mewn perthynas ag ef, ac yn achos awdurdod lleol, mewn perthynas ag unrhyw dir yn ei ardal,—

(a)unrhyw hysbysiad a roddwyd gan awdurdod lleol o dan is-adran (1)(b) neu (5)(a) o adran 78C, neu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 78D(4)(b), sy'n cael effaith o ran dynodi unrhyw dir yn safle arbennig, yn rhinwedd adran 78C(7) neu adran 78D(6);

(b)y darpariaethau yn rheoliad 2 neu 3 y mae'n ofynnol dynodi'r tir yn safle arbennig o'u herwydd;

(c)unrhyw hysbysiad a roddwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan adran 78Q(1)(a) o'i phenderfyniad i fabwysiadu hysbysiad adfer; ac

(ch)unrhyw hysbysiad a roddwyd gan yr awdurdod gorfodi neu iddo o dan adran 78Q(4) yn terfynu dynodiad unrhyw dir yn safle arbennig.

Hysbysu adferiad honedig

11.  Unrhyw hysbysiad a roddir i'r awdurdod at ddibenion adran 78R(1)(h) neu(j).

Collfarnau am dramgwyddau o dan adran 78M

12.  Unrhyw gollfarniad a gafodd person am unrhyw dramgwyddau o dan adran 78M mewn perthynas â hysbysiad adfer a gyflwynwyd gan yr awdurdod, gan gynnwys enw'r tramgwyddwr, dyddiad y gollfarn, y gosb a osodwyd ac enw'r Llys.

Canllawiau a roddir o dan adran 78V(1)

13.  Yn achos Asiantaeth yr Amgylchedd, dyddiad unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd ganddi o dan is-adran (1) o adran 78V ac, yn achos awdurdod lleol, dyddiad unrhyw ganllawiau a roddwyd iddo gan yr Asiantaeth o dan yr is-adran honno.

Rheolaethau amgylcheddol eraill

14.  Pan fydd yr awdurdod yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(1) rhag cyflwyno hysbysiad adfer—

(a)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;

(b)y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1 uchod; ac

(c)unrhyw gamau y mae'r awdurdod yn gwybod amdanynt, ac a gyflawnwyd o dan adran 27, tuag at adfer unrhyw niwed neu lygredd sylweddol i ddyfroedd a reolir y mae'r tir o dan sylw yn dir halogedig o'u herwydd.

15.  Pan fydd yr awdurdod yn cael ei wahardd yn rhinwedd adran 78YB(3) rhag cyflwyno hysbysiad adfer mewn perthynas â thir sy'n dir halogedig oherwydd gollwng gwastraff a reolir neu unrhyw ganlyniadau i ollwng y gwastraff hwnnw—

(a)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall;

(b)y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1 uchod; ac

(c)unrhyw gamau y mae'r awdurdod yn gwybod amdanynt, ac a gyflawnwyd o dan adran 59, mewn perthynas â'r gwastraff hwnnw neu â chanlyniadau ei ollwng, gan gynnwys mewn achos lle cymerodd awdurdod casglu gwastraff (o fewn ystyr adran 30(3)) y camau hynny neu ei gwneud yn ofynnol i'r camau gael eu cymryd, enw'r awdurdod hwnnw.

16.  Pan fydd yr awdurdod, o ganlyniad i gydsyniad a roddwyd o dan Bennod II o Ran III o Ddeddf Adnoddau Dŵ r 1991 (troseddau llygru)(3), yn rhinwedd adran 78YB(4) yn cael ei wahardd rhag pennu mewn hysbysiad adfer unrhyw beth penodol o ran gwaith adfer y byddai wedi'i bennu fel arall mewn hysbysiad o'r fath,—

(a)y cydsyniad;

(b)lleoliad a hyd a lled y tir halogedig o dan sylw, yn ddigon manwl i ganiatáu dod o hyd iddo naill ai drwy gyfeirio at blan neu fel arall; ac

(c)y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c), (ch) a (d) o baragraff 1 uchod.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources