- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Bydd y darpariaethau canlynol yn cael effaith at ddibenion asesu'r swm sydd i'w dalu o ran iawndal o dan adran 78G.
(2) Bydd y rheolau a nodir yn adran 5 o Ddeddf 1961 (rheolau ar gyfer asesu iawndal) yn cael effaith, i'r graddau y maent yn gymwysadwy ac yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol, at ddibenion asesu unrhyw iawndal o'r fath yn yr un modd ag y maent yn effeithiol at ddibenion asesu iawndal ar gyfer caffael buddiant mewn tir yn orfodol.
(3) Rhaid peidio â rhoi unrhyw ystyriaeth i unrhyw welliant yng ngwerth unrhyw fuddiant mewn tir, oherwydd unrhyw adeilad a godir, unrhyw waith a wneir neu unrhyw welliant neu newid a wneir ar unrhyw dir y mae'r grantwr, neu yr oedd adeg y gwaith codi neu adeg y gwneud, yn ymwneud ag ef yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, os yw'r Tribiwnlys Tiroedd wedi'i fodloni nad oedd codi'r adeilad, gwneud y gwaith, gwneud y gwelliant neu'r newid yn rhesymol angenrheidiol a'i fod wedi'i wneud gyda golwg ar gael iawndal neu fwy o iawndal.
(4) Wrth gyfrifo swm unrhyw golled o dan baragraff 4(d) uchod, cymerir gwariant a dynnwyd wrth baratoi planiau neu a dynnwyd oherwydd materion paratoi tebyg eraill i ystyriaeth.
(5) Pan fydd y buddiant y mae iawndal i'w asesu mewn perthynas ag ef yn ddarostyngedig i forgais—
(a)rhaid i'r iawndal gael ei asesu fel pe na bai'r buddiant yn ddarostyngedig i'r morgais; a
(b)ni fydd unrhyw iawndal yn daladwy mewn perthynas â buddiant y morgeisai (yn wahanol i'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais).
(6) Rhaid i iawndal o dan adran 78G gynnwys swm sy'n hafal i gostau prisio rhesymol y grantwr a'i gostau cyfreithiol rhesymol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: