- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Rhaid peidio â chaethiwo unrhyw lo mewn côr neu gorlan unigol ar ôl wyth wythnos oed oni fydd milfeddyg yn ardystio bod ei iechyd neu ei ymddygiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei ynysu er mwyn iddo gael triniaeth.
(2) Rhaid i led unrhyw gôr neu gorlan unigol ar gyfer llo fod o leiaf yn hafal i uchder y llo wrth ei war, wedi'i fesur wrth iddo sefyll, a rhaid i'r hyd fod o leiaf yn hafal i hyd corff y llo, wedi'i fesur o flaen y trwyn hyd at ben cynffonog y tuber ischii (asgwrn y llosgwrn), wedi'u lluosi â 1.1.
(3) Rhaid i gorau neu gorlannau unigol ar gyfer lloi (ac eithrio y rhai sy'n ynysu anifeiliaid sâl) gael waliau trydyllog sy'n caniatáu i'r lloi gael cysylltiad uniongyrchol trwy weld a thrwy gyffwrdd.
(4) Ar gyfer lloi a gedwir mewn grwpiau, dyma'r lwfans gofod di-rwystr y mae'n rhaid iddo fod ar gael ar gyfer pob llo —
(a)o leiaf 1.5 metr sgwâr ar gyfer pob llo gyda phwysau byw llai na 150kg;
(b)o leiaf 2 fetr sgwâr ar gyfer pob llo gyda phwysau byw o 150 kg neu fwy ond llai na 200 kg; ac
(c)o leiaf 3 metr sgwâr ar gyfer pob llo gyda phwysau byw o 200kg neu fwy.
(5) Rhaid i bob llo allu sefyll, troi o amgylch, gorwedd, gorffwyso a thacluso'i hun heb rwystr.
(6) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (7) ac (8), rhaid i bob llo a gedwir ar ddaliad y cedwir dau neu fwy o loi arno allu gweld o leiaf un llo arall.
(7) Nid yw is-baragraff (6) yn gymwys i unrhyw lo sy'n cael ei gadw wedi'i ynysu ar ddaliad ar gyngor milfeddyg.
(8) At ddibenion cyfrifo nifer y lloi a gedwir ar ddaliad er mwyn penderfynu a yw is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw lo a gedwir wedi'i ynysu ar y daliad hwnnw ar gyngor milfeddygol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: