Search Legislation

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 681 (Cy.69)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

9 Mawrth 2004

Yn dod i rym

31 Mawrth 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddo gan adran 35(5) o Ddeddf Landlord a Thenant(1) ac Atodlen 12 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002(2) ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Tribiwnlysoedd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2004.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gais a wneir, neu achos a drosglwyddir o lys, i dribiwnlys prisio lesddaliadau(3) mewn perthynas â thir ac adeiladau yng Nghymru ar 31 Mawrth 2004 neu ar ôl hynny.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “atebydd” (“respondent”) yw

(a)

y person y mae ceisydd yn ceisio gorchymyn neu benderfyniad oddi wrth dribiwnlys yn ei erbyn; neu

(b)

y person sy'n ddiffynnydd neu'n atebydd mewn achos gerbron llys ac a drosglwyddir gan orchymyn y llys i dribiwnlys;

ystyr “cais” (“application”) yw, heblaw at ddibenion rheoliadau 1, 20 a 25 —

(a)

cais i dribiwnlys o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1, neu

(b)

cais a drosglwyddwyd;

ystyr “cais a drosglwyddwyd” (“transferred application”) yw'r rhannau hynny o achos gerbron llys ac sy'n ymwneud â chwestiwn sy'n dod o fewn awdurdodaeth tribiwnlys ac a drosglwyddwyd i'r tribiwnlys i'w penderfynu gan orchymyn y llys;

mae i “cais cynrychioladol” (“representative application”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 8;

ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw

(a)

y person sy'n gwneud cais i dribiwnlys, neu

(b)

y person sy'n hawlydd neu'n geisydd mewn achos gerbron llys ac a drosglwyddir drwy orchymyn y llys i dribiwnlys;

mae i “cymdeithas tenantiaid cydnabyddedig” yr un ystyr ag sydd i “recognized tenants' association” yn adran 29 o Ddeddf 1985(4);

ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Landlord a Thenant 1985;(5);

ystyr “Deddf 1987” (“the 1987 Act”) yw Deddf Landlord a Thenant 1987;

ystyr “Deddf 1993” (“the 1993 Act”) yw Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliadau, Tai a Datblygu Trefol 1993(6);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002; ac

ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”) yw tribiwnlys prisio lesddaliadau.

Manylion ceisiadau

3.—(1Dyma'r manylion y mae'n rhaid eu cynnwys ynghyd â chais —

(a)enw a chyfeiriad y ceisydd;

(b)enw a chyfeiriad yr atebydd;

(c)enw a chyfeiriad unrhyw landlord neu denant y tir a'r adeiladau y mae'r cais yn ymwneud â hwy;

(ch)cyfeiriad y tir a'r adeiladau y mae'r cais yn ymwneud â hwy; a

(d)datganiad bod y ceisydd yn credu bod y ffeithiau a ddatgenir yn y cais yn wir.

(2Pan fydd cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 1 (rhyddfreinio a lesoedd estynedig) rhaid cynnwys y manylion a'r dogfennau a restrir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 ynghyd â'r cais.

(3Pan fydd cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 (taliadau gwasanaeth, taliadau gweinyddol a thaliadau ystad) rhaid cynnwys y manylion a'r dogfennau a restrir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ynghyd â'r cais.

(4Pan fydd cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 3 o Atodlen 1 (cynlluniau rheoli ystadau) rhaid cynnwys y manylion a'r dogfennau a restrir ym mharagraff 3 o Atodlen 2 ynghyd â'r cais.

(5Pan fydd cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 4 o Atodlen 1 (hawl i reoli) rhaid cynnwys y manylion a'r dogfennau a restrir ym mharagraff 4 o Atodlen 2 ynghyd â'r cais.

(6Pan fydd cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 5 o Atodlen 1 (penodi rheolwr) rhaid cynnwys y manylion a'r dogfennau a restrir ym mharagraff 5 o Atodlen 2 ynghyd â'r cais.

(7Pan fydd cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 6 o Atodlen 1 (amrywio lesoedd) rhaid cynnwys y manylion a'r dogfennau a restrir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 ynghyd â'r cais.

(8Mae caniatâd i hepgor unrhyw un o'r gofynion yn y paragraffau uchod neu eu llacio os yw'r tribiwnlys yn fodlon bod —

(a)y manylion a'r dogfennau a gynhwysir ynghyd â chais yn ddigonol i alluogi i'r cais gael ei benderfynu; a

(b)na fydd unrhyw ragfarn yn cael ei hachosi, neu'n debygol o gael ei hachosi, i unrhyw barti i'r cais.

Hysbysu cais o dan Ran 4 o Ddeddf 1987

4.—(1Rhaid i'r ceisydd roi hysbysiad o gais o dan Ran 4 o Ddeddf 1987 (amrywio lesddaliadau) i'r atebydd ac i unrhyw berson y mae'r ceisydd yn gwybod, neu sydd â rheswm dros gredu, ei bod yn debygol o gael ei effeithio gan unrhyw amrywiad a bennir yn y cais.

(2Wrth gael hysbysiad o dan baragraff (1) rhaid i'r atebydd roi hysbysiad o'r cais i unrhyw berson nad yw eisoes wedi'i hysbysu o dan y paragraff hwnnw, y mae'r atebydd yn gwybod, neu y mae ganddo reswm dros gredu, ei fod yn debygol o gael ei effeithio gan unrhyw amrywiad a bennir yn y cais.

Hysbysu cais gan dribiwnlys

5.—(1Wrth dderbyn cais, heblaw cais a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf 1987, rhaid i'r tribiwnlys anfon copi o'r cais a phob un o'r dogfennau sy'n mynd gydag ef at bob person a enwir ynddo yn atebydd.

(2Wrth dderbyn cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 1 (taliadau gwasanaeth, taliadau gweinyddol a thaliadau ystad), rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad o'r cais at —

(a)ysgrifennydd unrhyw gymdeithas denantiaid gydnabyddedig a grybwyllir yn y manylion a gynhwysir yn y cais; a

(b)unrhyw berson, y mae ei enw a'i gyfeiriad gan y tribiwnlys, ac y mae'r tribiwnlys o'r farn ei bod yn debygol y bydd yn cael ei effeithio'n sylweddol gan y cais.

(3Wrth dderbyn cais caiff y tribiwnlys roi hysbysiad i unrhyw berson arall y mae o'r farn ei fod yn briodol.

(4Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir o dan baragraff (2) neu (3) gynnwys datganiad bod caniatâd i unrhyw berson wneud cais i'r tribiwnlys o dan reoliad 6 i gael ymuno fel parti â'r achos ynghyd â manylion am sut y gellir gofyn am hynny.

(5Mae caniatâd i roi unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2) neu (3) drwy hysbyseb leol.

(6Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbyseb leol” yw hysbysiad a gyhoeddir mewn dau bapur newydd (dylai o leiaf un ohonynt fod yn bapur newydd a ddosberthir yn rhad ac am ddim) sy'n cylchredeg yn yr ardal lle mae'r tir a'r adeiladau y mae'r cais yn ymwneud â hwy.

Cais i gael ei drin fel ceisydd neu atebydd

6.—(1Caiff unrhyw berson ofyn i'r tribiwnlys am gael ymuno fel parti â'r achos.

(2Os gofynir am rhywbeth o dan baragraff (1) —

(a)mae caniatâd i'w wneud heb hysbysiad. a

(b)rhaid iddo bennu a yw'r person sy'n gofyn am hynny yn dymuno cael ei drin fel —

(i)ceisydd; neu

(ii)atebydd

i'r cais.

(3Caiff y tribiwnlys ganiatáu neu wrthod i berson ymuno fel parti â'r achos o dan baragraff (1).

(4Cyn gynted â phosibl wedi iddo ddod i benderfyniad ar ganiatáu i berson ymuno fel parti â'r achos o dan baragraff (1), rhaid i'r tribiwnlys —

(a)hysbysu'r person sy'n gofyn am gael ymuno fel parti â'r achos o'r penderfyniad a'r rhesymau amdano; a

(b)anfon copi o'r hysbysiad at y ceisydd a'r atebydd.

(5Rhaid trin unrhyw berson y caniateir iddo ymuno fel parti â'r achos o dan baragraff (1) fel ceisydd neu atebydd at ddibenion rheoliadau 8 i 18, 20 a 24.

(6Yn y rheoliadau a grybwyllir ym mharagraff (5) rhaid i unrhyw gyfeiriad at —

(a)ceisydd, neu

(b)atebydd

gael eu dehongli fel petaent yn cynnwys person a drinnir felly o dan y rheoliad hwn a rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at barti fel petai'n cynnwys person o'r fath.

Peidio â thalu ffioedd

7.—(1Mewn unrhyw achos pan na thelir ffi sy'n daladwy o dan reoliad 4 neu 5 o Reoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliad (Ffioedd) (Cymru) 2004(7) yn unol â'r Rheoliadau hynny, rhaid i'r tribiwnlys beidio â mynd ymhellach â'r cais y mae'r ffi yn ymwneud ag ef hyd nes telir y ffi.

(2Pan fydd ffi heb ei thalu am gyfnod o fis ar ôl y dyddiad pryd y mae'n ddyledus, rhaid trin y cais fel petai wedi'i dynnu yn ôl oni bai bod y tribiwnlys yn fodlon bod sail resymol dros beidio â gwneud hynny.

Ceisiadau cynrychioladol a darpariaethau eraill i sicrhau cysondeb.

8.—(1Pan ymddengys i dribiwnlys fod nifer o geisiadau —

(a)wedi'u gwneud mewn perthynas â'r un materion, neu faterion sy'n sylweddol yr un peth; neu

(b)yn cynnwys rhai materion sydd yr un peth neu sy'n sylweddol yr un peth.

caiff y tribiwnlys gynnig penderfynu ar ddim ond un o'r ceisiadau hynny (“y cais cynrychioladol”) i gynrychioli'r holl geisiadau am y materion hynny sydd yr yn peth neu'n sylweddol yr yn peth (“y materion cyffredin”), a rhaid iddo roi hysbysiad o'r cynnig i bartïon pob un o'r ceisiadau hynny.

(2Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) —

(a)pennu'r materion cyffredin;

(b)pennu'r cais y mae'r tribiwnlys yn bwriadu penderfynu arno fel y cais cynrychioliadol;

(c)esbonio y bydd penderfyniad y tribiwnlys ar y materion cyffredin yn y cais cynrychioliadol yn gymwys i'r materion cyffredin mewn unrhyw gais a wneir gan berson y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan y paragraff hwnnw;

(ch)gwahodd gwrthwynebiadau i fwriad y tribiwnlys i benderfynu ar y cais cynrychioliadol; a

(d)pennu'r cyfeiriad y gellir anfon gwrthwynebiadau iddo a'r dyddiad (sef nid llai na 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad pan anfonwyd yr hysbysiad) erbyn pryd y mae'n rhaid i'r tribiwnlys gael y gwrthwynebiadau.

(3Os na ddaw gwrthwynebiad i law ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw —

(a)rhaid i'r tribiwnlys benderfynu ar y cais cynrychioladol yn unol â'r Rheoliadau hyn;

(b)nid oes angen i'r tribiwnlys benderfynu ar y materion a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) mewn unrhyw gais arall a wneir gan berson y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan baragraff (1); a

(c)rhaid cofnodi penderfyniad y tribiwnlys mewn perthynas â'r cais cynrychioliadol fel penderfyniad y tribiwnlys mewn perthynas â'r materion cyffredin mewn unrhyw gais arall o'r fath.

(4Pan ddaw gwrthwynebiad i law ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw —

(a)nid yw is-baragraffau (a) i (c) o baragraff (3) yn gymwys ond i'r ceisiadau hynny nas gwrthwynebwyd, a

(b)mae caniatâd i benderfynu ar gais a wrthwynebwyd ynghyd â'r cais cynrychioladol.

Ceisiadau dilynol pan roddir hysbysiad o'r cais cynrychioladol

9.—(1Os, ar ôl penderfynu ar gais cynrychioliadol, y mae cais dilynol yn cael ei wneud sy'n cynnwys unrhyw un o'r materion cyffredin y penderfynodd y tribiwnlys arno wrth benderfynu ar y cais cynrychioliadol, ac os yw'r ceisydd yn berson y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 8(1), rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad i'r partïon i'r cais dilynol o —

(a)y materion sydd, ym marn y tribiwnlys, yn faterion cyffredin yn y cais dilynol a'r cais cynrychioladol;

(b)y penderfyniad a gofnodwyd mewn perthynas â'r materion cyffredin yn y cais cynrychioladol;

(c)y dyddiad pan roddwyd hysbysiad o dan reoliad 8(1) i'r ceisydd;

(ch)bwriad y tribiwnlys i gofnodi penderfyniad y tribiwnlys ar y materion cyffredin yn y cais dilynol mewn termau sydd yn union yr un fath â'r penderfyniad yn y cais cynrychioliadol;

(d)y cyfeiriad y gellir anfon gwrthwynebiadau i gynnig y tribiwnlys a'r dyddiad (sef nid llai na 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad pan anfonwyd yr hysbysiad) erbyn pryd y mae'n rhaid i'r tribiwnlys gael y gwrthwynebiadau; ac

(dd)datganiad bod rhaid i unrhyw wrthwynebiad gynnwys y sail dros ei wneud ac, yn benodol, a honnir na chafwyd yr hysbysiad o dan reoliad 8(1) gan y person sy'n gwrthwynebu.

(2Os na ddaw gwrthwynebiad i law ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw —

(a)nid oes angen i'r tribiwnlys benderfynu ar y materion a grybwyllir ym mharagraff 1(a); a

(b)rhaid i benderfyniad y tribiwnlys mewn perthynas â'r materion cyffredin yn y cais cynrychioladol gael ei gofnodi fel penderfyniad y tribiwnlys mewn perthynas â'r materion cyffredin yn y cais dilynol.

(3Pan ddaw gwrthwynebiad i gynnig y tribiwnlys ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw —

(a)rhaid i'r tribiwnlys ystyried y gwrthwynebiad wrth benderfynu ar y cais dilynol; a

(b)os yw'r tribiwnlys yn gwrthod gwrthwynebiad, caiff y tribiwnlys gofnodi'r penderfyniad ym mharagraff (1)(b) fel penderfyniad y tribiwnlys yn y cais dilynol.

Ceisiadau dilynol pan na roddir hysbysiad o gais cynrychioladol

10.—(1Os, ar ôl penderfynu ar gais cynrychioliadol, y mae cais dilynol yn cael ei wneud sy'n cynnwys unrhyw un o'r materion cyffredin y mae'r tribiwnlys wedi penderfynu arno wrth benderfynu ar y cais cynrychioliadol, ac os nad yw'r ceisydd yn berson y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 8(1), rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad i'r partïon i'r cais dilynol o —

(a)y materion sydd, ym marn y tribiwnlys, yn faterion cyffredin yn y cais dilynol a'r cais cynrychioladol;

(b)y penderfyniad a gofnodwyd mewn perthynas â'r materion cyffredinol hynny yn y cais cynrychioliadol;

(c)bwriad y tribiwnlys i gofnodi'i benderfyniad ar y materion cyffredin yn y cais dilynol mewn termau sydd yn union yr un fath â'r penderfyniad yn y cais cynrychioladol; a

(ch)y cyfeiriad y gellir anfon gwrthwynebiadau i gynnig y tribiwnlys a'r dyddiad (sef nid llai na 21 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad pan anfonwyd yr hysbysiad) erbyn pryd y mae'n rhaid i'r tribiwnlys gael y gwrthwynebiadau.

(2Os na ddaw gwrthwynebiad i law ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu cyn y dyddiad hwnnw —

(a)nid oes angen i'r tribiwnlys benderfynu ar y materion a grybwyllir ym mharagraff 1(a); a

(b)rhaid i benderfyniad y tribiwnlys mewn perthynas â'r materion cyffredin yn y cais cynrychioladol gael ei gofnodi fel penderfyniad y tribiwnlys mewn perthynas â'r materion cyffredin yn y cais dilynol.

(3Pan ddaw gwrthwynebiad i law ar y dyddiad a bennir yn yr hysbyseb neu cyn y dyddiad hwnnw rhaid i'r tribiwnlys benderfynu ar y cais yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

Gwrthod ceisiadau gwacsaw etc.

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), —

(a)pan ymddengys i dribiwnlys bod cais naill ai'n wacsaw neu'n flinderus neu'n gamddefnydd o broses y tribiwnlys fel arall; neu

(b)pan fydd atebydd cais yn gofyn i'r tribiwnlys wrthod cais fel cais gwacsaw neu gais blinderus neu gais sydd fel arall yn gamddefnydd o broses y tribiwnlys.

caiff y tribiwnlys wrthod y cais, yn gyfan neu'n rhannol.

(2Cyn gwrthod cais o dan baragraff (1) rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad i'r ceisydd yn unol â pharagraff (3).

(3Rhaid i unrhyw hysbysiad o dan baragraff (2) ddatgan —

(a)bod y tribiwnlys â'i fryd ar wrthod y cais;

(b)y sail sydd ganddo dros fod â'i fryd ar wrthod y cais;

(c)y dyddiad (nid llai na 21 o ddiwnrodau ar ôl y dyddiad pan anfonwyd yr hysbysiad) erbyn pryd y caiff y ceisydd ofyn am gael ymddangos gerbron y tribiwnlys a chael ei wrando ganddo ynghylch y cwestiwn a ddylid gwrthod y cais.

(4Ni chaniateir gwrthod cais —

(a)onid yw'r ceisydd yn methu â gofyn i'r tribiwnlys cyn y dyddiad a grybwyllir ym mharagraff (3)(c); neu

(b)pan fydd ceisydd yn methu â gofyn am hynny, oni bai bod y tribiwnlys wedi clywed y ceisydd a'r atebydd, neu unrhyw un ohonynt a fu yn y gwrandawiad, ar gwestiwn gwrthod y cais.

Adolygiad cyn treial

12.—(1Caiff tribiwnlys, naill ai o'i ben a'i bastwn ei hun neu os yw parti yn gofyn am hynny, gynnal adolygiad cyn treial mewn perthynas â chais.

(2Rhaid i'r tribiwnlys roi i'r partïon nid llai na 14 o ddiwrnodau o hysbysiad (neu hysbysiad llai os yw'r partïon yn gytûn ar hynny) o ddyddiad, amser a lle'r adolygiad cyn treial.

(3Yn yr adolygiad cyn treial rhaid i'r tribiwnlys —

(a)rhoi unrhyw gyfarwyddyd sydd ym marn y tribiwnlys yn angenrheidiol neu'n ddymunol er mwyn sicrhau bod yr achos yn cael ei gynnal yn gyfiawn, yn hwylus ac yn ddarbodus;

(b)ymdrechu i sicrhau bod y partïon yn gwneud pob addefiad a chytundeb y dylasent yn rhesymol eu gwneud mewn perthynas â'r achos; a

(c)cofnodi mewn unrhyw orchymyn a wneir yn yr adolygiad cyn treial unrhyw addefiad neu gytundeb neu unrhyw wrthodiad i wneud yr addefiadau neu'r cytundebau hynny.

(4Mae caniatâd i unrhyw aelod unigol o'r panel y darperir ar ei gyfer yn Atodlen 10 o Ddeddf Renti 1977(8) arfer swyddogaethau'r tribiwnlys mewn perthynas ag adolygiad cyn treial neu yn ystod adolygiad cyn treial sy'n gymwys i'w harfer(9).

Penderfynu heb wrandawiad

13.—(1Caiff tribiwnlys benderfynu ar gais heb wrandawiad llafar, yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn —

(a)os yw'r atebydd yn datgan yn ysgrifenedig nad yw'n gwrthwynebu'r cais;

(b)os yw'r atebydd yn tynnu unrhyw wrthwynebiad i'r cais yn ôl; neu

(c)os yw'r ceisydd a'r atebydd yn cytuno i hynny yn ysgrifenedig.

(2Rhaid i'r tribiwnlys —

(a)hysbysu'r partïon bod y cais i'w benderfynu heb wrandawiad llafar;

(b)gwahodd sylwadau ysgrifenedig ar y cais;

(c)gosod terfynau amser ar gyfer anfon unrhyw sylwadau ysgrifenedig i'r tribiwnlys; a

(ch)manylu ar sut mae'r tribiwnlys yn bwriadu penderfynu ar y mater heb wrandawiad llafar.

(3Ar unryw adeg cyn penderfynu ar y cais —

(a)caiff y ceisydd neu'r atebydd ofyn i'r tribiwnlys am gael ei glywed; neu

(b)caiff y tribiwnlys roi hysbysiad i'r partïon ei fod yn bwriadu penderfynu ar y cais mewn gwrandawiad yn unol â rheoliad 14.

(4Pan ofynnir am rhywbeth o dan baragraff (3) neu pan roddir hysbysiad o dano, rhaid penderfynu ar y cais yn unol â rheoliad 14.

(5Mae caniatâd i arfer swyddogaethau'r tribiwnlys mewn perthynas â chais sydd i'w benderfynu heb wrandawiad llafar gan aelod unigol o'r panel y darperir ar ei gyfer yn Atodlen 10 i Ddeddf Renti 1977, os penodwyd ef i'r panel hwnnw gan yr Arglwydd Ganghellor.

Gwrandawiadau

14.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 8(3), 9(2) a 10(2), rhaid i wrandawiad gael ei gynnal ar y dyddiad ac ar yr amser ac yn y lle a benodwyd gan y tribiwnlys.

(2Rhaid i'r tribiwnlys hysbysu'r partïon am y dyddiad, yr amser a'r lle a benodwyd ar gyfer y gwrandawiad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4) rhaid hysbysu o dan baragraff (2) nid llai na 21 o ddiwrnodau (neu gyfnod llai y mae'r partïon yn gytûn arno) cyn y dyddiad a benodwyd.

(4O dan amgylchiadau eithriadol caiff y tribiwnlys, heb gytundeb y partïon, hysbysu dyddiad, amser a lle'r gwrandawiad nid llai na 21 o ddiwrnodau cyn y dyddiad benodwyd; ond rhaid i'r hysbysiad hwnnw gael ei roi cyn gynted â phosibl a benodwyd a rhaid i'r hysbysiad bennu beth yw'r amgylchiadau eithriadol.

(5Caiff y tribiwnlys drefnu i gais gael ei wrando ynghyd ag un neu ragor o geisiadau eraill.

(6Rhaid i wrandawiad fod yn gyhoeddus oni bai, o dan amgylchiadau arbennig yr achos, bod y tribiwnlys yn penderfynu bod rhaid i wrandawiad neu ran o wrandawiad gael ei gynnal yn breifat.

(7Yn ystod y gwrandawiad —

(a)rhaid i'r tribiwnlys benderfynu ar y weithdrefn (yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn) a'r drefn y mae'n rhaid gwrando ar y personau sy'n ymddangos ger ei fron ynddi;

(b)caiff person sy'n ymddangos gerbron tribiwnlys wneud hynny naill ai ei hun neu drwy gynrychiolydd a awdurdodwyd gan y person hwnnw, boed y cynrychiolydd yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr ai peidio; ac

(c)caiff person sy'n ymddangos gerbron y tribiwnlys roi tystiolaeth drosto'i hun, galw tystion, a chroesholi unrhyw dystion a elwir gan unrhyw berson arall sy'n ymddangos.

(8Os nad yw parti yn ymddangos mewn gwrandawiad, caiff y tribiwnlys fynd â'r gwrandawiad yn ei flaen os yw'n fodlon bod hysbysiad wedi'i roi i'r parti hwnnw yn unol â'r Rheoliadau hynny.

Gohirio

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) caiff y tribiwnlys ohirio (boed cyn, neu ar ôl iddo gychwyn) gwrandawiad neu adolygiad cyn-treial o'i ben a'i bastwn ei hun neu os yw parti yn gofyn am hynny.

(2Pan ofynnir am ohirio (boed cyn, neu ar ôl iddo gychwyn) gwrandawiad rhaid i'r tribiwnlys beidio â'i ohirio ac eithrio pan fydd o'r farn ei bod yn rhesymol gwneud hynny gan ystyried —

(a)y sail dros ofyn amdano;

(b)yr amser y gofynnwyd amdano; a

(c)cyfleuster y partïon eraill.

(3Rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad rhesymol o unrhyw wrandawiad sydd wedi'i ohirio naill ai cyn iddo ddechrau neu ar ôl iddo ddechrau i'r partïon.

Dogfennau

16.—(1Cyn dyddiad y gwrandawiad, rhaid i'r tribiwnlys gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y rhoddir i bob un o'r partïon —

(a)copi o unrhyw ddogfen sy'n berthnasol i'r achos (neu ddigon o ddarnau o'r ddogfen neu fanylion amdani) ac y mae wedi'i chael gan unrhyw barti arall wedi'i chael (heblaw dogfen sydd eisoes ym meddiant y person hwnnw neu un y darparwyd copi ohono i'r person hwnnw o'r blaen); a

(b)copi o unrhyw ddogfen sy'n ymgorffori canlyniadau unrhyw ymholiadau perthnasol a wnaethpwyd gan y tribiwnlys, neu ar ei gyfer, at ddibenion yr achos.

(2Mewn gwrandawiad, os nad yw parti eisoes wedi cael dogfen berthnasol neu gopi o ddogfen berthnasol, neu ddigon o ddarnau ohono neu ddigon o fanylion amdani, yna oni bai —

(a)bod y person hwnnw yn cytuno i'r gwrandawiad barhau; neu

(b)bod y tribiwnlys yn barnu bod gan y person hwnnw ddigon o gyfle i drin y materion y mae'r ddogfen yn ymwneud â hwy heb ohirio'r gwrandawiad,

rhaid i'r tribiwnlys ohirio'r gwrandawiad am gyfnod y mae'n ei farnu y bydd yn rhoi digon o gyfle i'r person drin y materion hynny.

Archwilio

17.—(1Caiff triwbiwnlys archwilio —

(a)y tŷ, y tir a'r adeiladau neu'r ardal sy'n destun y cais; neu

(b)unrhyw dŷ, tir ac adeiladau neu ardal sy'n debyg ac y tynnir ei sylw ato neu ati.

(2Yn ddarostyngedig i baragarff (3), rhaid i'r tribiwnlys roi cyfle i'r partïon fod yn bresennol mewn archwiliad.

(3Er mwyn cynnal archwiliad, neu fod yn bresennol mewn archwiliad, rhaid cael unrhyw gydsyniad sy'n angenrheidiol.

(4Pan fydd archwiliad i'w gynnal yn achos cais sydd i'w benderfynu o dan reoliad 13, rhaid i'r tribiwynlys roi hysbysiad i'r partïon.

(5Pan fydd archwiliad i'w gynnal cyn gwrandawiad, rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad i'r partïon.

(6Pan fydd archwiliad i'w gynnal yn ystod gwrandawiad neu ar ôl diwedd gwrandawiad, rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad i'r partïon yn ystod y gwrandawiad.

(7Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (4), (5) neu (6) —

(a)datgan dyddiad, amser a lle'r archwiliad.

(b)cael ei roi nid llai na 14 o ddiwrnodau cyn y dyddiad hwnnw.

(8Pan gynhelir archwiliad ar ôl diwedd gwrandawiad, caiff y tribiwnlys ailagor y gwrandawiad ar sail unrhyw fater sy'n codi o'r archwiliad.

(9Rhaid i'r tribiwnlys roi hysbysiad rhesymol o ddyddiad, amser a lle'r gwrandawiad a ailagorir i'r partïon.

(10Mae caniatâd i hepgor neu lacio unrhyw un o'r gofynion hysbysu yn y paragraffau uchod —

(a)os yw'r partïon yn cydsynio; neu

(b)os yw'r tribiwnlys yn fodlon bod y partïon wedi cael digon o hysbysiad.

Penderfyniadau

18.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniad ar gais gan —

(a)tribiwnlys; neu

(b)aelod unigol, fel a grybwyllwyd yn rheoliad 13(5).

(2Os cynhaliwyd gwrandawiad, mae caniatâd i roi'r penderfyniad yn llafar ar ddiwedd y gwrandawiad.

(3Ym mhob achos, rhaid i benderfyniad gael ei gofnodi mewn dogfen cyn gynted â phosibl ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud.

(4Nid oes angen i benderfyniad a roddwyd neu a gofnodwyd yn unol â pharagraff (2) neu (3) gofnodi'r rhesymau dros y penderfyniad.

(5Pan na fydd y ddogfen a grybwyllir ym mharagraff (3) yn cofnodi'r rheysmau dros y penderfyniad, rhaid eu cofnodi mewn dogfen ar wahân ar ôl i'r penderfyniad gael ei gofnodi.

(6Rhaid i ddogfen sy'n cofnodi penderfyniad, neu'r rhesymau dros benderfyniad, gael ei llofnodi a'i dyddio gan berson priodol.

(7Caiff person priodol, drwy gyfrwng tystysgrif a lofnodwyd ac a ddyddiwyd gan y person hwnnw, gywiro unrhyw gamgymeriadau clerigol mewn dogfen neu unrhyw wallau ynddi a achoswyd gan lithriad neu esgeulustod.

(8Yn y rheoliad hwn, ystyr “person priodol” yw —

(a)pan benderfynwyd ar gais gan aelod unigol fel a grybwyllir yn rheoliad 13(5) —

(i)yr aelod unigol; neu

(ii)os bydd y person yn absennol neu yn anghymwys, aelod arall o'r tribiwnlys a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor;

(b)ym mhob achos arall —

(i)cadeirydd y tribiwnlys; neu

(ii)os bydd y person yn absennol neu yn anghymwys, aelod arall o'r tribiwnlys.

(9Rhaid anfon copi o unrhyw ddogfen sy'n cofnodi penderfyniad, neu'r rhesymau dros benderfyniad, a chopi o unrhyw gywiriad a ardystir o dan baragraff (7) at bob parti.

Gorfodi

19.  Caniateir i unrhyw un o benderfyniadau'r tribiwnlys, gyda chaniatâd y llys sirol, gael ei orfodi yn yr un ffordd â gorchmynion llys sirol.

Caniatâd i apelio

20.  Pan fydd parti yn gwneud cais i dribiwnlys ar gyfer caniatâd i apelio i'r Tribiwnlys Tiroedd —

(a)rhaid gwneud y cais i'r triwbiwnlys cyn pen cyfnod o 21 diwrnod sy'n dechrau ar y dyddiad pan anfonwyd y ddogfen sy'n cofnodi'r rhesymau dros y penderfyniad o dan reoliad 18 at y parti hwnnw; a

(b)rhaid i'r tribiwnlys gyflwyno copi o'r cais i bob parti arall.

Presenoldeb aelod ar Gyngor Tribiwnlysoedd

21.  Caiff aelod o'r Cyngor Tribiwnlysoedd sy'n gweithio yn rhinwedd y swydd honno —

(a)bod yn bresennol mewn unrhyw wrandawiad a gynhelir, boed yn gyhoeddus neu'n breifat, yn unol â'r Rheoliadau hyn;

(b)bod yn bresennol mewn unrhyw archwiliad y cafwyd unrhyw gydsyniad angenrheidiol ar ei gyfer;

(c)bod yn bresennol yn ystod trafodion tribiwnlys mewn perthynas â chais, ond ni chaiff gymryd rhan ynddynt.

Gwybodaeth sy'n ofynnol gan dribiwnlys

22.  Pan fydd tribiwnlys yn cyflwyno hysbysiad sy'n gwneud rhoi gwybodaeth yn ofynnol o dan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf 2002, rhaid i'r hysbysiad gynnwys datganiad i'r perwyl bod unrhyw berson sy'n methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â'r hysbysiad, yn cyflawni tramgwydd ac bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddiryw nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Hysbysiadau

23.  Pan fydd yn ofynnol i'r tribiwnlys roi neu anfon unrhyw hysbysiad neu unrhyw ddogfen arall o dan y Rheoliadau hyn at berson, cydymffurfir â'r gofyniad yn ddigonol —

(a)os yw'n cael ei ddosbarthu neu ei anfon drwy bost wedi ei dalu ymlaen llaw at y person hwnnw yng nghyfeiriad arferol y person hwnnw neu ei gyfeiriad hysbys diwethaf;

(b)os yw'n cael ei anfon at y person hwnnw drwy gyfrwng ffacs neu unrhyw gyfrwng cyfathrebu electronig arall sy'n cynhyrchu testun o'r ddogfen;

(c)pan fydd y person hwnnw wedi penodi asiant neu gynrychioloydd i weithredu ar ran y person hwnnw—

(i)os yw'n cael ei ddosbarthu neu ei anfon drwy bost wedi'i dalu ymlaen llaw at yr asiant neu'r cynrychiolydd yng ngyhyfeiriad yr asiant neu'r cynrychiolydd ac a roddir i'r tribiwnlys; neu

(ii)os yw'n cael ei anfon at yr asiant neu'r cynrychiolydd drwy ffacs neu unrhyw gyfrwng cyfathrebu arall sy'n cynhyrchu testun o'r ddogfen.

(2Mae caniatâd i anfon hysbysiad neu ddogfen arall fel a grybwyllir ym mharagraffau (1) (b) neu (c)(ii) dim ond os yw'r person hwnnw neu asiant y person hwnnw wedi cydsynio i hynny.

(3Rhaid ystyried hysbysiad neu unrhyw ddogfen arall a grybwyllir ym mharagraffau (1)(b) neu (c)(ii) fel petai wedi'i anfon pan fydd ei destun yn dod i law mewn ffurf ddarllenadwy.

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fydd y canlynol yn wir am dderbynnydd arfaethedig —

(i)ar ôl holi'n ddiwyd, nid oes modd dod o hyd iddo;

(ii)bu farw ac nid oes ganddo gynrychiolydd presennol; neu

(iii)y mae y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu

(b)os am unrhyw reswm arall nid yw'n rhwydd rhoi neu anfon hysbysiad neu ddogfen arall yn unol â'r Rheoliadau hyn.

(5Pan fydd paragraff (4) yn gymwys, caiff y tribiwnlys —

(a)peidio â rhoi nac anfon yr hysbysiad neu'r ddogfen arall; neu

(b)caiff roi cyfarwyddiadau ar gyfer cyflwyniad dirprwyol ar y fath ffurf arall (boed drwy hysbyseb mewn papur newydd neu fel arall) neu'r fath dull arall y mae'r tribiwnlys yn ei farnu'n briodol.

Caniatáu rhagor o amser

24.—(1Mewn achos penodol, caiff y tribiwnlys estyn unrhyw gyfnod a ragnodir gan y Rheoliadau hyn, neu a ragnodir gan hysbysiad a roddir o dan y Rheoliadau hyn, y mae'n ofynnol gwneud unrhyw beth ynddo neu yr awdurdodir gwneud unrhywbeth ynddo.

(2Caiff parti ofyn i'r tribiwnlys estyn unrhyw un o'r cyfnodau hynny ond rhaid iddo wneud hynny cyn i'r cyfnod ddod i ben.

Dirymu ac arbed

25.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) dirymir Rheoliadau'r Pwyllgor Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau) 1993(10)(“Rheoliadau 1993”) mewn perthynas â Chymru.

(2Nid yw'r dirymiad ym mharagraff (1) yn effeithiol mewn perthynas ag unrhyw gais a wneir, neu achos a drosglwyddir o lys, i dribiwnlys cyn 31 Mawrth 2004.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Mawrth 2004

Rheoliad 3

ATODLEN 1Disgrifiad o'r Ceisiadau

Rhyddfreinio ac estyn lesoedd

1.  Ceisiadau o dan —

(a)adran 21 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967(12) ;

(b)adran 13 o Ddeddf 1987;

(c)adran 31 o'r Ddeddf honno;

(ch)adran 24 o Ddeddf 1993;

(d)adran 25 o'r Ddeddf honno;

(dd)adran 27 o'r Ddeddf honno;

(e)adran 48 o'r Ddeddf honno;

(f)adran 51 o'r Ddeddf honno;

(ff)adran 88 o'r Dddeddf honno;

(g)adran 91 o'r Ddeddf honno;

(ng)adran 94 o'r Ddeddf honno; a

(h)paragraff 2 o Atodlen 14 i'r Ddeddf honno.

Taliadau gwasanaeth, taliadau gweinyddol a thaliadau ystad

2.  Ceisiadau o dan —

(a)adran 20ZA o Ddeddf 1985(13);

(b)adran 27A o'r Ddeddf honno(14);

(c)paragraff 8 o'r Atodlen i'r Ddeddf honno(15));

(ch)adran 159 o Ddeddf 2002;

(d)paragraff 3 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno; a

(dd)paragraff 5 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

Cynlluniau rheoli ystadau

3.  Ceisiadau o dan Bennod 4 o Ran 1 i Ddeddf 1993.

Hawl i reoli

4.  Ceisiadau o dan —

(a)adran 84 o Ddeddf 2002;

(b)adran 85 o'r Ddeddf honno;

(c)adran 88 o'r Ddeddf honno;

(ch)adran 94 o'r Ddeddf honno;

(d)adran 99 o'r Ddeddf honno; a

(dd)paragraff 5 o Atodlen 6 i'r Ddeddf honno.

Penodi rheolwr

5.  Ceisiadau o dan —

(a)adran 22 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987; a

(b)adran 24 o'r Ddeddf honno.

Amrywio lesoedd

6.  Ceisiadau o dan Ran 4 o Ddeddf 1987.

Cost achosion

7.  Ceisiadau o dan adran 20C o Ddeddf 1985.

Rheoliad 3

ATODLEN 2Manylion Ceisiadau

Rhyddfreinio ac estyn lesoedd

1.—(1Copi o unrhyw hysbysiad a gyflwynir mewn perthynas â'r rhyddfraint.

(2Enw a chyfeiriad y rhydd-ddeiliad ac unrhyw landlord canol.

(3Enw a chyfeiriad unrhyw berson sydd â morgais neu unrhyw arwystl arall dros fuddiant yn y tir a'r adeiladau sy'n destun y cais ac a ddelir gan y rhydd-ddeiliad neu unrhyw landlord arall.

(4Pan wneir cais o dan adran 21(2) o'r Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad 1967(16), enw a chyfeiriad yr is-denant, a chopi o unrhyw gytundeb ar gyfer yr is-denantiaeth.

(5Pan wneir cais o dan adran 13 o Ddeddf 1987(17), y dyddiad pryd cafodd y landlord yr eiddo a thelerau'r caffael gan gynnwys unrhyw symiau a dalwyd.

Taliadau gwasanaeth, taliadau gweinyddol a thaliadau ystad

2.—(1Pan wneir cais o dan adran 27A o Ddeddf 1985, enw a chyfeiriad ysgrifennydd unrhyw gymdeithas tenantiaid gydnabyddedig.

(2Pan wneir cais o dan baragraff 3 o Atodlen 11 i Ddeddf 2002, drafft o'r amrywiad arfaethedig.

(3Copi o'r les neu, pan fydd yn briodol, copi o'r cynllun rheoli ystad.

Taliadau o dan gynlluniau rheoli ystadau

3.—(1Copi o unrhyw gytundeb rheoli ystâd neu'r cynllun rheoli ystad arfaethedig.

(2Datganiad bod y ceisydd naill ai —

(a)yn fod dynol;

(b)yn gorff cynrychioladol o fewn ystyr adran 71(3) o Ddeddf 1993; neu

(c)yn awdurdod perthnasol o fewn ystyr adran 73(5) o'r Ddeddf honno.

(3Pan wneir cais o dan adran 70 o Ddeddf 1993, copi o'r hysbysiad a roddir gan y ceisydd o dan adran 70(4) o'r Ddeddf honno.

(4Os digwydd y canlynol—

(a)bod cais i gymeradwyo'r cynllun;

(b)bod cais i gymeradwyo addasu ardal cynllun sydd eisoes yn bodoli; neu

(c)bod cais i gymeradwyo amrywio cynllun sydd eisoes yn bodoli,

disgrifiad o ardal —

(i)y cynllun arfaethedig;

(ii)yr addasiad arfaethedig; neu

(iii)yr amrywiad arfaethedig,

gan gynnwys dull o adnabod yr ardal drwy gyfrwng map neu blan.

(5Pan wneir cais o dan adran 70 o Ddeddf 1993, copi o unrhyw gydsyniad a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 72(1) o'r Ddeddf honno.

Hawl i reoli

4.—(1Enw a chyfeiriad ar gyfer cyflwyno i'r cwmni Hawl i Reoli (o fewn ystyr Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf 2002)(18).

(2Enw a chyfeiriad y rhydd-ddeiliad, unrhyw landlord canol ac unrhyw reolwr.

(3Copi o femoradwm ac erthyglau cymdeithasiad y cwmni Hawl i Reoli.

(4Pan wneir cais o dan adran 84(3) o Ddeddf 2002, copi o'r hysbysiad hawlio a chopi o'r gwrth-hysbysiad sy'n dod i law.

(5Pan wneir cais o dan adran 85(2) o Ddeddf 2002 —

(a)datganiad bod gofynion adrannau 78 a 79 o Ddeddf 2002 wedi cael eu cyflawni;

(b)copi o'r hysbysiad a roddir o dan adran 85(3) o Ddeddf 2002 ynghyd â datganiad bod yr hysbysiad hwnnw wedi cael ei gyflywno i bob un o'r tenantiaid cymwys;

(c)datganiad sy'n disgrifio'r amgylchiadau pan na ellir cadarnhau pwy yw'r landlord neu pan na ellir dod o hyd iddo.

(6Pan wneir cais o dan adran 94(3) o Ddeddf 2002, amcangyfrif o swm y taliadau gwasanaeth sydd heb eu neilltuo sydd wedi cronni.

(7Pan wneir cais o dan adran 99(1) o Ddeddf 2002, disgrifiad o'r gymeradwyaeth a chopi o'r les berthnasol.

(8Pan fydd cais o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff 5 o Atodlen 6 i Ddeddf 2002, y dyddiad a'r amgylchiadau pryd peidiodd yr hawl i arfer yr hawl i reoli o fewn y pedair blynedd ddiwethaf.

Penodi rheolwr

5.—(1Ac eithrio pan wneir cais o dan adran 22(3) o Ddeddf 1987, copi o'r hysbysiad a gyflwynir o dan adran 22 o'r Ddeddf honno.

(2Pan wneir cais o dan adran 24(9) o'r Ddeddf honno, copi o'r gorchymyn rheoli.

Amrywio lesoedd

6.—(1Enwau a chyfeiriadau unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo yn unol â Rheoliad 4 o'r rheoliadau hyn.

(2Drafft o'r amrywiad a geisir.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rheoleiddio'r drefn y mae'n rhaid ei dilyn o ran ceisiadau sy'n cael eu gwneud i dribiwnlys prisio lesddaliadau . Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Maent yn disodli, gyda diwygiadau, Reoliadau Pwyllgor Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Tribiwnlys Prisio Lesddaliad) 1993, (i'r graddau y maent yn perthyn i Gymru) a ddirymir, yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth arbed yn rheoliad 25.

Mae rheoliad 3 yn darparu i fanylion cyffredinol gael eu cynnwys gyda phob cais ac i fanylion penodedig gael eu cynnwys gyda cheisiadau penodedig fel a nodir yn yr Atodlenni.

Mae rheoliad 4 yn darparu i hysbysiad gael ei roi gan geisydd ac atebydd pan wneir cais o dan Ran 4 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987, tra mae rheoliad 5 yn darparu i hysbysiad gael ei roi gan y tribiwnlys yn achos ceisiadau eraill.

Mae rheoliad 5 yn rhoi disgresiwn i'r tribiwnlys roi hysbysiad drwy hysbysebu'n lleol hefyd.

Mae rheoliad 6 yn darparu'r weithdrefn sydd i gael ei dilyn pan fydd person yn gofyn am gael ymuno fel parti â'r achos.

Mae rheoliad 7 yn darparu bod caniatâd i drin cais fel cais sydd wedi'i dynnu yn ôl os nad oes ffi wedi'i thalu am gyfnod o fis wedi iddi fod yn daladwy.

Mae rheoliadau 8-10 yn darparu ar gyfer sicrhau cysondeb pan fydd ceisiadau niferus yn cael eu gwneud neu o bosibl yn cael eu gwneud o ran yr un materion neu faterion sydd yr un peth yn y bôn.

Mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer gwrthod ceisiadau sy'n wacsaw, blinderus neu'n gamddefnydd arall o broses y tribiwnlys.

Mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer adolygiadau cyn treial ac sy'n caniatáu i'r tribiwnlys roi unrhyw gyfarwyddiadau sy'n angenrheidiol er mwyn cynnal yr achos yn hwylus ac yn ddarbodus.

Mae rheoliad 13 yn darparu ar gyfer penderfynu ar gais heb wrandawiad llafar ac mae'n caniatáu i aelod unigol o'r panel a ddarperir ar ei gyfer yn Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977, ac a benodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor, wneud hynny.

Mae rheoliad 14 yn darparu ar gyfer gwrandawiadau, mae'n caniatáu i'r tribiwnlys benderfynu'r weithdrefn ac yn rhoi i'r triwbiwnlys y disgresiwn i roi llai na 21 o ddiwrnodau o hysbysiad o'r gwrandawiad o dan amgylchiadau eithriadol.

Mae rheoliad 15 yn darparu i wrandawiad nad yw wedi dechrau neu wrandawiad sydd ar ei ganol gael ei ohirio.

Mae rheoliad 16 yn sicrhau bod y partïon yn cael copïau o'r dogfennau angenrheidiol.

Mae rheoliad 17 yn darparu ar gyfer archwilio tŷ, tir ac adeiladau neu ardal sy'n destun cais neu unrhyw dŷ, tir ac adeiladau neu ardal debyg.

Mae rheoliad 18 yn darparu ar gyfer cofnodi penderfyniadau sy'n gysylltiedig â cheisiadau ac mae'n galluogi cofnodi'r rhesymau dros benderfyniad mewn dogfen ar wahân ar ôl i'r penderfyniad gael ei gofnodi. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer cywiro dogfen sy'n cofnodi penderfyniad neu resymau.

Mae rheoliad 19 yn darparu bod caniatâd i benderfyniad gan y tribiwnlys, gyda chaniatâd y llys sirol, gael ei orfodi yn yr un ffordd â gorchmynion llys sirol.

Mae rheoliad 20 yn darparu ar gyfer ceisio caniatâd i apelio i'r Tribiwnlys Tiroedd.

Mae rheoliad 21 yn darparu i aelod o'r Cyngor Tribiwnlysoedd fod yn bresennol mewn unrhyw wrandawiad neu archwiliad.

Mae rheoliad 22 yn darparu bod rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir gan y tribiwnlys o dan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (“Deddf 2002”), gynnwys datganiad bod unrhyw berson sy'n methu, heb esgus rhesymol, â chydymffurfio â'r hysbysiad, yn cyflawni tramgwydd ac mae'n agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Mae rheoliad 23 yn darparu ar gyfer rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill. Mae'n caniatáu rhoi'r hysbysiadau a dogfennau o'r fath yn electronig gyda chydsyniad y derbynnydd.

Mae rheoliad 24 yn rhoi disgresiwn i dribiwnlys estyn unrhyw gyfnod o amser a osodir yn y Rheoliadau neu a osodir mewn hysbysiad a anfonir o dan y Rheoliadau.

Mae Atodlen 1 yn disgrifio'r ceisiadau sydd dan lywodraeth y rheoliadau hyn. Mae'n cynnwys ceisiadau o dan adran 20ZA sy'n ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ymgynghori â thenantiaid ynghylch gwaith o fath arbennig, ceisiadau sy'n ymwneud â thaliadau gweinyddol a cheisiadau sy'n ymwneud â'r hawl i reoli. Cyflwynwyd y ceisiadau hyn gan Ddeddf 2002.

Mae Atodlen 2 yn rhestru'r manylion a'r dogfennau y mae'n ofynnol eu cynnwys ynghyd â chais.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r Gyfarwyddiaeth Dai, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 029 20 823025).

(1)

1987 p.31; adran 35(5) a ddiwygiwyd gan adran 163(2) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15) (“Deddf 2002”). Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 35(5) i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). O dan adran 177 o Ddeddf 2002, mae cyfeiriadau yn Neddf 1987 yn O.S. 1999/672 i'w trin fel cyfeiriadau at y Ddeddf honno fel y'i diwygiwyd gan ran 2 o Ddeddf 2002.

(2)

2002 p.15; gweler adran 179(1) am y diffiniad o “the appropriate national authority” o ran Cymru.

(3)

Gweler adran 173 o Ddeddf 2002.

(4)

Diwygiwyd gan baragraff 10 o Atodlen 2 i Ddeddf Landlord a Thenant 1987.

(8)

1977 p.42; y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn gymwys i'r rheoliadau hyn.

(9)

I gael gwybod pwy sy'n gymwys, gweler paragraff 5(3) o Atodlen 12 i Ddeddf 2002.

(11)

1998 p.38.

(13)

Mewnosodwyd gan adran 151 o Ddeddf 2002 o 30 Mawrth 2004 (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).

(14)

Mewnosodwyd gan adran 155 o Ddeddf 2002 o 30 Mawrth 2004 (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).

(15)

Diwygiwyd gan adran 180 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 14 iddi o 30 Mawrth 2004 (O.S. 2004/669 (Cy.62) (C.25)).

(16)

Diwygiwyd gan adran 142 o Ddeddf Tai 1980 ac Atodlen 22 iddi.

(17)

Mewnosodwyd gan adran 92(1) ac Atodlen 6 i Ddeddf Tai 1996 (p. 52).

(18)

Gweler adran 73 o Ddeddf 2002.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources