- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
15.—(1) Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad i'w ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid, na defnyddio fel bwyd anifeiliaid, unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys—
(a)ysgarthion, wrin neu gynhwysion y llwybr traul wedi eu gwahanu yn sgil gwacáu neu dynnu'r llwybr traul, ni waeth a oes unrhyw fath o drin neu gymysgu wedi ei ddefnyddio;
(b)croen wedi ei drin â sylweddau barcio, gan gynnwys y gwastraff sy'n dod ohono;
(c)hadau neu ddeunyddiau eraill ar gyfer lluosogi planhigion sydd, ar ôl eu cynaeafu, wedi eu trin yn benodol â chynhyrchion amddiffyn planhigion gan fwriadu eu lluosogi, neu sgil-gynhyrchion sy'n deillio ohonynt;
(ch)pren, blawd llif neu ddeunyddiau eraill sy'n deillio o bren a driniwyd â chynhyrchion i gadw pren fel y'u diffinir yn Atodiad V i Gyfarwyddeb 98/8/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch rhoi cynhyrchion biwleiddiadol ar y farchnad(1);
(d)yn ddarostyngedig i baragraff (3), gwastraff (pa un a gafodd ei drin ymhellach, neu y bydd yn cael ei drin ymhellach neu beidio) a gafwyd drwy drin “dŵr gwastraff trefol” (“urban waste water”), “dŵr gwastraff domestig” (“domestic waste water”) neu “ddŵr gwastraff diwydiannol” (“industrial waste water”) (fel y diffinir y termau hynny yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/271/EEC yn ymwneud â thrin dŵr gwastraff trefol), beth bynnag fo ffynhonell y dŵr gwastraff dan sylw(2);
(dd)gwastraff trefol solet, megis gwastraff cartrefi, ond ac eithrio gwastraff arlwyo (“catering waste”) fel y'i diffinir gan Reoliad (EC) 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl(3)
(e)pecynnau a rhannau o becynnau a ddefnyddiwyd mewn amaethyddiaeth neu yn y diwydiant bwyd.
(2) At ddibenion paragraff (1) mae i “gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste” yn Erthygl 1 o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC(4).
(3) At ddibenion paragraff 1(d), diffinir y term “dŵr gwastraff” fel y diffinir “waste water” yn unol â'r troednodyn i bwynt 5 o'r Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC yn sefydlu rhestr o ddeunyddiau y gwaherddir eu cylchredeg neu eu defnyddio ar gyfer maethiad anifeiliaid(5).
OJ Rhif L123, 24.4.98, t.1, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad (EC) 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1).
OJ Rhif L135, 30.5.1991, t.40, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1).
OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) 808/2003 (OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.1).
OJ Rhif L194, 25.7.95, t.39, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1).
OJ Rhif L67, 5.3.2004, t.31.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: